Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Grŵp Llywio Buddsoddiad Rhanbarthol yng Nghymru a sut y bydd yn gweithio.

Y Cefndir

  1. Mae buddsoddi rhanbarthol wedi cael ei ddatganoli ac mae'r dirwedd ar gyfer buddsoddi cyllid ar ôl 2026 yn rhoi cyfleoedd newydd i ddysgu gwersi o'r gorffennol ac i wneud pethau mewn ffordd fwy strategol, gydgysylltiedig i sicrhau canlyniadau economaidd gwell a chyfleoedd gwell i bobl, busnesau a chymunedau Cymru. 
     
  2. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru o feysydd llywodraeth leol, addysg uwch, addysg bellach, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd newydd yn dilyn cau Cronfa Ffyniant Gyffredin etifeddol Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2026 a’r symudiad tuag at raglenni Twf Lleol a Rhanbarthol newydd o ddiwedd mis Mawrth 2026.
     
  3. Bydd dull newydd ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl 2026, yn dilyn gadael yr UE, yn cael ei gynhyrchu a'i gyflwyno ar y cyd gyda phartneriaid i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) a blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer swyddi a thwf, lleihau anghydraddoldeb a rhannu cyfoeth ledled Cymru.
     
  4. Yn rhan o'r ymrwymiad hwnnw, bydd y broses o gyd-gynhyrchu’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu, i helpu i lywio dulliau yn y dyfodol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys defnyddio, trwy gyfarfodydd gwleidyddol a ffrydiau gwaith eraill (e.e. llywodraethu aml-lefel, grŵp CJC), profiad llywodraeth leol wrth gyflwyno a rheoli'r Gronfa Ffyniant a Rennir ac wrth fwrw ymlaen â swyddogaeth Lles Economaidd y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Bydd y broses gyd-gynhyrchu yn cael ei ategu gan ddatblygu'r Fforwm Strategol ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn Grŵp Llywio newydd ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru gyda chylch gorchwyl ac aelodaeth newydd. Y Grŵp Llywio hwn fydd y prif blatfform i bartneriaid a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd i fanteisio i'r eithaf ar gyllid ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ar ôl 2026 yng Nghymru.

Diben y Grŵp Llywio

  1. Mae'r Grŵp Llywio yn blatfform i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid wneud y canlynol:
  • Cynghori a herio Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE ar ôl 2026.
  • Rhannu barn a chyngor i helpu i lywio safbwyntiau Gweinidogion Cymru a sicrhau bod cynigion yn adlewyrchu barn partneriaid ledled Cymru yn llawn.
  • Llywio'r gwaith o gyd-gynhyrchu rhaglen fuddsoddi ranbarthol newydd a helpu i nodi'r cwmpas, y ffocws, yr amcanion a strwythur y model ar gyfer ein dull ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cyflawni yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol.
  • Rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ac Arweinwyr Awdurdodau Lleol, gan gynnwys drwy gyfarfodydd gwleidyddol rheolaidd, yn uniongyrchol, i helpu i arwain ymateb strategol Llywodraeth Cymru wrth i faterion ddod i'r amlwg.
  • Helpwch i bennu'r cyfeiriad ar gyfer gwaith mwy manwl a thechnegol.
  • Helpu i ddatblygu strategaeth ymgysylltu â rhanddeiliaid, grwpiau neu is-grwpiau gorchwyl a gorffen ychwanegol, ac opsiynau i ymgysylltu'n well â grwpiau o randdeiliaid sy'n anodd eu cyrraedd.
  1. Ni fydd y Grŵp Llywio yn atebol am brosesau a phrosiectau ar ôl 2026, nac yn gyfrifol am fonitro'r prosesau a'r prosiectau hyn nac am gynnal gwerthusiadau technegol.
     
  2. Mae'r Grŵp Llywio yn gyfle i Aelodau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wneud y canlynol:
  • Adeiladu ar y Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru a gafodd ei ddatblygu ar y cyd, gan gael ein harwain gan ddatblygiadau ers hynny a'r dirwedd ariannu wrth iddi ddatblygu, i ddylunio a chyflwyno ffordd fwy strategol o fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl 2026.
  • Rhannu arbenigedd, deallusrwydd, gwersi a ddysgwyd, arferion gorau (gan gynnwys arferion gorau rhyngwladol megis gwaith yr OECD ar lywodraethu rhanbarthol a buddsoddi cyhoeddus yng Nghymru), a datblygiadau newydd (gan gynnwys swyddogaethau'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig sy'n dod i'r amlwg) i sicrhau bod y buddsoddiadau sydd ar gael yn rhoi'r manteision gorau posibl i Gymru.
  • Defnyddio'r gwersi a ddysgwyd o ddatblygu a defnyddio cyllid yr UE gyda partneriaid.
  • Ystyried y gwersi a’r arfer gorau o’r broses gyflawni a rheoli gan lywodraeth leol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (2021–2025/26) yng Nghymru, wedi'i lywio gan gyfarfodydd gwleidyddol a ffrydiau gwaith eraill (e.e. y rhai sy'n ymwneud â materion aml-lywodraethu) gyda llywodraeth leol.
  • Ystyried cyfleoedd i integreiddio neu ategu ffordd newydd o ymdrin â chyllid yn dilyn gadael yr UE â rhaglenni buddsoddi a datblygu rhanbarthol presennol neu raglenni sy'n dod i'r amlwg ar lefel Cymru, y DU, yr UE ac yn rhyngwladol, gan gynnwys, er enghraifft Cymru Ystwyth, Strategaeth Ddiwydiannol y DU, UKRI, Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi, Horizon Ewrop, a cyllid adrannol polisi perthnasol Llywodraeth Cymru e.e. Economi, Adfywio, Cyflogadwyedd a Sgiliau.
  • Archwilio cyfleoedd i gyfuno buddsoddiadau i sicrhau gwerth am arian gwell a chanlyniadau gwell.
  • Defnyddio rhwydweithiau i gyfrannu at nodau'r Grŵp Llywio a helpu i ysgogi buddsoddi rhanbarthol effeithiol yng Nghymru.
  • Gyda chytundeb y Cadeirydd, gwahodd cyfraniadau a chyflwyniadau gan lywodraeth a sefydliadau allanol ar gyfleoedd buddsoddi sy'n berthnasol i Gymru.
  1. Bydd yr agenda'n cynnwys tirwedd cyfleoedd buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, y DU, yr UE ac yn rhyngwladol – tirwedd sy'n datblygu – gan gynnwys bwriad Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill.
     
  2. Ni fydd yn ofynnol i'r Grŵp Llywio sicrhau cytundeb llwyr rhwng yr aelodau o ganlyniad i'r trafodaethau. Yn hytrach bydd yn llwyfan i aelodau brofi, datblygu a rhannu safbwyntiau a syniadau i helpu i gydgynhyrchu dull newydd ar gyfer 2026 ymlaen. Caiff Gweinidogion Cymru ac Arweinwyr Awdurdodau Lleol hefyd gyfranogi yn y dull cydweithredol hwn, fel y bo'n briodol. 
     
  3. Bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd ar gynnydd ym mhob maes sy'n cael ei drafod, gan esbonio lle mae cyngor gan y Grŵp Llywio yn cael ei adlewyrchu yn safbwyntiau Llywodraeth Cymru, a thrafod ac adrodd ar resymau dros beidio â chynnwys unrhyw safbwyntiau clir a nodir gan y grŵp. 
     
  4. Caiff y Grŵp Llywio gytuno i sefydlu gweithgorau llai i archwilio, dylunio ac ymchwilio i brosesau penodol a threfniadau ymarferol i helpu i ddylunio, cyflawni, monitro a gwerthuso dull ar gyfer 2026 ymlaen.

Aelodau sy'n gynrychiolwyr enwebedig

  1. Disgwylir i aelodau a benodir i'r Grŵp Llywio fel cynrychiolwyr cyrff neu sefydliadau ambarél drafod safbwyntiau a chanlyniadau â'u hetholwyr, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau posibl ar rannu rhai papurau (gweler isod). 
     
  2. Disgwylir i aelodau hefyd ddefnyddio rhwydweithiau presennol i sicrhau bod amrediad eang o safbwyntiau a syniadau'n cael eu cyflwyno ym mhob cyfarfod i lywio trafodaethau, ac i helpu i gyflawni pwrpas y Grŵp Llywio.
     
  3. Disgwylir y bydd yr un cynrychiolwyr yn mynychu ac yn cyfrannu at gyfarfodydd yn ystod y broses gydgynhyrchu, er mwyn sicrhau parhad, sicrhau bod cyn lleied o ddyblygu ag y bo modd a sicrhau arbenigedd a chynnydd amserol.  
     
  4. Er mwyn sicrhau amrediad priodol o gyfleoedd, mae'r aelodaeth barhaol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r canlynol:
  • Y pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Y trydydd sector
  • Y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach
  • Adnoddau naturiol a'r amgylchedd
  • Buddiannau gwledig a datblygu dan arweiniad y gymuned
  • Busnesau preifat
  • Strategaeth cyllid economaidd
  • Yr economi llesiant
  • Yr Undebau Llafur
  • Gwasanaethau cyngor, hyrwyddo ac amddiffyn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol annibynnol

Arbenigwyr ychwanegol a Llywodraeth y DU

  1. Mae nifer fach o leoedd wedi'u neilltuo ar gyfer aelodau 'Arbenigol'. Caiff y Cadeirydd wahodd arbenigwyr neu grwpiau ychwanegol i gyfarfodydd penodol i gyflwyno papurau ac i gymryd rhan mewn trafodaethau am feysydd penodol.
     
  2. Pan fo hynny'n briodol, bydd cynrychiolwyr o Lywodraeth y DU yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd y Grŵp Llywio wrth i'r gwaith i gydgynhyrchu'r rhaglen fuddsoddi ranbarthol newydd ar gyfer 2026 ymlaen fynd rhagddo.

Hyd, cyfarfodydd a phapurau

  1. Bydd y Grŵp Llywio yn cwrdd i helpu aelodau i gydgynhyrchu dull newydd yng Nghymru ar gyfer 2026 ymlaen. Er nad oes dyddiad gorffen penodol ar hyn o bryd, bydd terfyn amser i'r Grŵp Llywio a bydd yn dod i ben unwaith y bydd y dull newydd i Gymru ar gyfer 2026 ymlaen yn dechrau yn 2026.  
     
  2. Cynhelir cyfarfodydd rhithwir o leiaf unwaith bob 2 i 3 mis, ond mae'n bosibl y cynhelir cyfarfodydd ychwanegol ar gais y Cadeirydd. Efallai y bydd rhai achosion hefyd pan fydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ar yr amod bod hefyd yr opsiwn i fynychu'r cyfarfod yn rhithwir.
     
  3. Bydd papurau trafod yn cael eu paratoi gan swyddogion Llywodraeth Cymru neu gan aelodau, pan fo hynny'n briodol. Bydd pob papur yn nodi'r prif faterion, gan geisio trafodaeth ar sut y gall aelodau gydweithio orau i gyflawni'r canlyniadau gorau i Gymru. Anogir yr aelodau i herio ac i ddod â safbwyntiau newydd a syniadau arloesol i'r ddadl. 
     
  4. Bydd papurau ar gyfer y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi saith diwrnod cyn y cyfarfod pan fydd gwneud hyn yn cyd-fynd ag amseriad datblygiadau, a thrwy gyfryngau electronig. Disgwylir i aelodau fod wedi darllen y papurau cyn y cyfarfod, fel bod y drafodaeth yn un ar sail gwybodaeth heb fod angen mynd drwy fanylion y papurau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cyfarfod yn gwbl gynhyrchiol. 
     
  5. Caiff papurau eu marcio'n glir er mwyn nodi'r lefel briodol ar gyfer rhannu papurau. Mae'n debygol y bydd yn briodol rhannu papurau'n rhydd, ond bydd adegau pan na fydd papurau'n cael eu cyhoeddi na'u rhannu y tu allan i'r Grŵp Llywio, oherwydd eu sensitifrwydd posibl ac i ganiatáu dadl rydd ac agored am yr opsiynau sy'n cael eu trafod. Yn yr achosion hyn bydd crynodeb yn cael ei gynnwys i'w ddefnyddio i ganiatáu i'r aelodau ymgynghori â'u hetholwyr ar faterion cysylltiedig. 
     
  6. Bydd cofnodion y cyfarfod yn cael eu hanfon at yr aelodau o fewn deg diwrnod gwaith ar gyfer sylwadau cyn iddyn nhw gael eu clirio gan yr aelodau yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Llywio. Bydd fersiwn o'r nodyn hwn yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru i hyrwyddo tryloywder, ochr yn ochr ag unrhyw bapurau nad ydynt yn gyfyngedig.

Tâl

  1. Ni fydd aelodau'n cael eu talu am eu hamser yn gwasanaethu ar y Grŵp Llywio. Gan y bydd pob cyfarfod yn cynnig yr opsiwn i fynychu'n rhithwir, ni fydd unrhyw daliadau teithio a chynhaliaeth ar gael.

Gwrthdaro buddiannau

  1. Mae'n ofynnol i'r aelodau ddatgan i'r Cadeirydd, ar ddechrau'r cyfarfod neu yn ystod y cyfarfod, unrhyw sefyllfa lle bo gwrthdaro gwirioneddol neu ganfyddedig rhwng buddiannau. Gallai hynny arwain at wahardd yr aelod rhag y drafodaeth ar y pwnc penodol. Mae’r Cadeirydd yn cadw’r hawl i ofyn i’r aelod adael yr ystafell gyfarfod nes bod penderfyniad wedi’i wneud ar y mater.

Is-grwpiau cynghori, arbenigol a/neu is-grwpiau gorchwyl a gorffen

  1. Caiff y Grŵp Llywio, ar gais y Cadeirydd, sefydlu is-grwpiau cynghori, is-grwpiau arbenigol a/neu is-grwpiau gorchwyl a gorffen Oni nodir yn wahanol, mae'r grwpiau hynny'n cael eu rhwymo gan yr un rheolau â'r Grŵp Llywio.

Y Gymraeg

  1. Bydd gwaith yn cael ei gynnal yn unol â darpariaethau Deddf yr Iaith Gymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer holl gyfarfodydd y Grŵp Llywio felly mae croeso i aelodau gyfrannu yn Gymraeg neu Saesneg.

Diwygio

  1. Gall y Cadeirydd adolygu'r Cylch Gorchwyl yn dilyn trafodaeth gan y Grŵp Llywio pan fydd hynny'n briodol. 

Ysgrifenyddiaeth
Ebrill 2025