Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae coetiroedd hynafol Cymru o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, gyda llawer o goedwigoedd glaw tymherus Cymru yn cael eu cydnabod drwy eu dynodiad statudol. Mae ganddynt le pwysig yn nhirwedd a hanes Cymru, gan ddiogelu'r priddoedd llawn carbon a'r banciau hadau oddi tanynt. Maent yn cymryd canrifoedd i ffurfio ac maent yn adnodd unigryw.
Mae coetiroedd a choed hynafol yn wynebu llawer o wahanol fygythiadau. Mae rhai o'r rhain yn golledion uniongyrchol, megis at ddibenion datblygu ond gall eraill fod yn anuniongyrchol fel llygredd aer sy'n effeithio ar eu cyflwr. Nid oes un ateb ar gyfer eu diogelu: mae angen gweithredu ar draws ystod o feysydd polisi. Heddiw, rwy'n nodi sut y byddwn yn mynd ati i gryfhau'r mesurau i ddiogelu coetiroedd a choed hynafol yn unol â'n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae hyn yn cynnwys gwaith sy'n angenrheidiol i wella gwytnwch ein coedwigoedd glaw tymherus, fel y tynnwyd sylw ato yn ddiweddar gan Gynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru. Rydym yn mynd i'r afael â'r bygythiadau hyn mewn sawl ffordd:
Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi'i gryfhau i ddarparu fframwaith cryfach i awdurdodau cynllunio lleol er mwyn sicrhau bod coed a choetiroedd hynafol yn cael eu diogelu. Rydym yn adolygu ein rheoliadau ar gyfer Gorchmynion Cadw Coed fel rhan o'r gwaith ar y Bil Cynllunio (Cymru) sy'n ceisio cydgrynhoi cyfraith gynllunio. Ar y cyd, bydd y gwaith hwn yn cynyddu mesurau diogelu o fewn y system gynllunio ar gyfer coed a choetiroedd, gan gynnwys coetiroedd hynafol.
Mae Llwybr Newydd i Natur - Cynllun Gweithredu Adfer Natur Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru yn cryfhau ein dull o ddiogelu coetiroedd hynafol yng nghamau cynllunio gwelliannau ar gyfer seilwaith ffyrdd. Mae hyn yn sicrhau bod effeithiau negyddol posibl yn cael eu nodi'n gynnar ac yn cael eu hosgoi lle bynnag y bo modd.
Mae diwygiadau diweddar a wnaed i'n deddfwriaeth coedwigaeth bellach yn caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru amddiffyn coed hynod a choetiroedd hynafol yn well yn ystod gwaith cwympo coed.
Bydd gweithredu argymhellion yr adolygiad 4 blynedd o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn cynnwys cyflwyno mesurau sydd wedi’u llunio’n benodol i gyfrannu at gyflawni ymrwymiadau statudol o ran lleihau allyriadau. Bydd hyn yn allweddol er mwyn lleihau effeithiau o ran ansawdd aer ar goetiroedd hynafol.
Mae cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys Gweithredoedd Opsiynol i leihau effaith amgylcheddol allyriadau amonia sy'n cael eu rhyddhau i'r amgylchedd gan weithgareddau amaethyddol. Mae cynigion y cynllun hefyd yn cynnwys Gweithredoedd Opsiynol i annog gwaith rheoli coetiroedd presennol, gan gynnwys coetiroedd hynafol, gan wella eu cyflwr a'u gwytnwch. Bydd y Gweithredoedd Opsiynol hyn yn destun gwaith ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid ac yn dibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.
Mae ein strategaeth, Cynllun Aer Glân i Gymru, yn nodi camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer. Mae hyn yn cynnwys deddfu eleni o ran Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024. Bydd lleihau llygredd aer yn lleihau ei effaith negyddol ar gyflwr safleoedd coetir hynafol.
Mae ein rhaglen Coedwig Genedlaethol Cymru wedi darparu cymorth i adfer a chynnal a chadw coetiroedd hynafol drwy'r Grant Buddsoddi mewn Coetir a Chynllun Statws y Goedwig Genedlaethol. Mae ein Cynllun Creu Coetir yn rhoi cyfle i blannu clustogfeydd a gwella cysylltedd rhwng cynefinoedd coetiroedd hynafol. Mae ein Cynllun Adfer Coetir yn darparu taliadau i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) wedi'u clirio o goed llarwydd yn sgil clefyd Phytopthora ramorum. Mae ein Rhaglen Rhwydwaith Natur yn darparu cymorth lle mae coetiroedd hynafol yn rhan o'n rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig neu'n eu cefnogi.
Mae cyfanswm o £19.8 miliwn ar gael yn 2025-26 ar gyfer mesurau a all helpu i wella cyflwr a gwydnwch coetiroedd, gan gynnwys coetiroedd hynafol. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer plannu coetiroedd a all greu lleiniau clustogi sy’n diogelu a chysylltedd ar gyfer coetiroedd hynafol, a chymorth drwy Raglen Coedwig Genedlaethol Cymru a’r Gronfa Rhydwaith Natur fel y bo’n briodol. Bydd rhagor o fanylion ynghylch pob mesur yn cael eu cyhoeddi’n unigol.
Rydym wedi comisiynu Forest Research i ddatblygu set newydd o Ddangosyddion Strategaeth Coetiroedd i Gymru. Bydd y gwaith hwn yn darparu llinell sylfaen ar gyfer monitro effaith gwahanol fesurau i wella gwaith diogelu coetiroedd a choed hynafol yn y tymor hir.
Nid yw ein dull gweithredu yn bwriadu bod yn rhestr gynhwysfawr o'r holl fygythiadau ac ymyriadau posibl, ond mae'n canolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol. Mae'n dwyn gwaith ynghyd ar draws adrannau'r llywodraeth a'u rhanddeiliaid sy'n cryfhau'r mesurau i ddiogelu ein coetiroedd hynafol nad oes modd eu hefelychu.
