Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o wybodaeth am Fwndeli Babi a sut mae cael un.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw Bwndel Babi?

Mae Bwndel Babi yn cynnwys eitemau hanfodol i gefnogi rhieni newydd a'u babanod. Mae Bwndeli Babi hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynghylch rhaglenni cymorth a magu plant.

Mae Bwndeli Babi yn cael eu darparu am ddim i rieni beichiog cymwys. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cymhwystra

Mae'r rhaglen Bwndeli Babi yn rhaglen wedi'i thargedu. Bydd eich bydwraig yn gwirio a ydych yn gymwys yn eich apwyntiad cynenedigol pan fyddwch tua 16 wythnos yn feichiog.

Sut mae cael Bwndel Babi?

Bydd eich bydwraig yn mynd drwy ffurflen gofrestru gyda chi yn eich apwyntiad cynenedigol pan fyddwch tua 25 wythnos yn feichiog.

Yna bydd eich bydwraig yn postio'r ffurflen a fydd yn eich cofrestru ar gyfer eich Bwndel Babi. Felly ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth arall.

Os ydych yn rhiant newydd sy'n byw mewn ardal gymwys yng Nghymru ac wedi colli'r cyfle i gofrestru yn yr apwyntiad cynenedigol 25 wythnos am reswm dilys, bydd eich bydwraig yn dal i allu eich cofrestru ar gyfer bwndel nes bod y babi yn pedwar mis oed. Cysylltwch â'ch bydwraig i drafod hyn. Mae'r Bwndeli Babi cyntaf yn debygol o gael eu dosbarthu ym mis Chwefror 2026.

Os ydych yn ofalwr maeth, yn mabwysiadu babi neu'n cael babi o dan drefniant benthyg croth, a bod eich babi'n iau na pedwar mis oed, mae gennych hawl i Fwndel Babi. Gall eich bydwraig eich helpu i gofrestru os ydych yn byw mewn ardal gymwys.

Cynnwys y bwndel

Bydd eich Bwndel Babi cyntaf yn cynnwys yr eitemau hyn:

0 i 3 mis

  • het gotwm
  • 2 drowsus jyrsi
  • 2 bâr o sanau
  • 2 siwt llewys hir
  • 2 siwt llewys byr
  • siwt gysgu llewys hir

3 i 6 mis

  • siwt ddydd
  • 2 drowsus jyrsi
  • 2 bâr o sanau
  • 2 siwt llewys byr
  • siwt gysgu llewys hir

Eitemau ychwanegol

  • padiau mamolaeth
  • padiau bwydo y gellir eu hailddefnyddio
  • 2 flanced fân-dyllog
  • tywel bath gyda hwd
  • tegan cnoi
  • 2 bib
  • 3 lliain mwslin
  • llyfr*
  • thermomedr*
  • thermomedr bath ac ystafell*
  • mat chwarae*

*ni fydd yr eitemau hyn yn cael eu cynnwys yn y bwndeli llai o faint.

Os ydych chi'n cael genedigaeth luosog neu efeilliaid, tripledi, yna byddwch yn cael 1 Bwndel Babi llawn a Bwndeli Babi llai o faint ar gyfer y babi neu'r babanod eraill rydych chi'n eu disgwyl.

Os ydych chi'n cael babi arall o fewn 3 blynedd o gael eich Bwndel Babi cyntaf, byddwch yn cael Bwndel Babi llai o faint.

Canslo bwndel babi

Os oes angen ichi ei ganslo am unrhyw reswm, cysylltwch â’r ganolfan gyswllt Bwndeli Babi (Ffôn: 08002545324) neu, os byddai'n well gennych i'ch bydwraig ganslo'r bwndel ichi, cysylltwch â'ch bydwraig i drefnu hyn.

Danfon

Os ydych chi'n cofrestru pan fyddwch chi'n 25 wythnos yn feichiog, yna bydd eich Bwndel Babi yn cael ei ddanfon yn uniongyrchol i'r cyfeiriad a gafodd ei roi ar y ffurflen gofrestru gennych rhwng wythnos 32 ac wythnos 34 o'ch beichiogrwydd. 

Oni bai bod eich babi yn cyrraedd yn gynnar, ni ellir danfon y Bwndel Babi yn gynharach gan fod y dyddiad danfon yn gysylltiedig â dyddiad disgwyliedig yr enedigaeth.

Byddwch yn cael hysbysiad gan y contractwr â’r ganolfan gyswllt Bwndeli Babi cyn iddo gael ei ddanfon i'ch atgoffa o'r amser a'r dyddiad danfon.

Os bydd eich cyfeiriad yn newid, dylech gysylltu â’r ganolfan gyswllt Bwndeli Babi (Ffôn: 08002545324).

Os yw'ch babi yn cyrraedd yn gynnar a'ch Bwndel Babi heb gyrraedd, cysylltwch â’r ganolfan gyswllt Bwndeli Babi (Ffôn: 08002545324) i ofyn am eich bwndel yn gynnar.

Os na fydd eich Bwndel Babi wedi cael ei ddanfon ar y dyddiad a'r amser a roddwyd ichi, neu os yw wedi'i ddifrodi yn cyrraedd, neu fod eitem(au) ar goll - sy'n annhebygol o ddigwydd - cysylltwch â’r ganolfan gyswllt Bwndeli Babi (Ffôn: 08002545324).