Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg o'r safon

Mae'r safon Gwybodaeth Hygyrch yn cyfarwyddo ac yn diffinio dull penodol a chyson ar gyfer nodi, cofnodi, amlygu, rhannu a diwallu anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a rhieni.

Defnyddir y term "pobl ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol" i gyfeirio at y canlynol:

  • pobl sy'n F/fyddar, wedi colli eu clyw neu'n drwm eu clyw, ac arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (mae'n bwysig nodi hefyd y gwahaniaethau ieithyddol rhwng y gymuned arwyddo BSL fyddar, a phobl sy'n F/fyddar, wedi colli eu clyw neu'n drwm eu clyw)
  • pobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall
  • pobl sy'n ddall F/fyddar
  • pobl sydd â rhwystrau o ran mynediad at iaith a chyfathrebu sy'n deillio o anabledd (gan gynnwys dementia, anawsterau dysgu a chyflyrau iechyd meddwl)
  • pobl sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o niwrowahaniaeth
  • pobl sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o lefelau llythrennedd isel
  • rhieni a gofalwyr sy'n wynebu rhwystrau iaith neu gyfathrebu
  • pobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu dewis iaith (gan gynnwys pobl sy'n ceisio noddfa, ffoaduriaid ac ymfudwyr)

Mae'r safon yn sicrhau bod rhaid i gleifion ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol gael mynediad at wybodaeth y gallant ei deall. Er enghraifft, gall hyn fod ar ffurf:

  • hawdd ei deall
  • print bras
  • Braille
  • e-bost
  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Gall hefyd gynnwys unrhyw gymorth cyfathrebu y gallai fod arnynt ei angen, er enghraifft drwy ddarparu cymorth dehongli gan ddehonglydd BSL cofrestredig, neu unrhyw ddehonglydd iaith gymunedol arall.

Mae'r safon yn gymwys i bob darparwr ar draws GIG Cymru y mae ei systemau ar hyn o bryd yn cefnogi'r broses o gasglu'r wybodaeth hon ac yn benodol i feddygfeydd meddygon teulu ym maes gofal sylfaenol.

Mae'r safon gwybodaeth hygyrch yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • gofyn: nodi cleifion neu aelodau o'u teulu neu gofalwyr sydd ag anghenion cyfathrebu neu wybodaeth ychwanegol ac, os felly, beth yw'r anghenion hynny
  • cofnodi: cofnodi'r anghenion hynny mewn modd safonol
  • rhybuddio: sicrhau bod anghenion claf yn gwbl amlwg pan edrychir ar ei gofnod a, lle bo hynny'n ofynnol, rhoi awgrymiadau ar sut i weithredu
  • rhannu: cynnwys gwybodaeth am anghenion claf â sefydliadau eraill y GIG lle bo systemau yn gallu gwneud hynny (sy'n cynnwys dilyn fframweithiau llywodraethu gwybodaeth presennol)
  • gweithredu: sicrhau bod cleifion yn cael gwybodaeth sy'n hygyrch ac yn ddealladwy a'u bod yn cael cymorth cyfathrebu priodol os oes arnynt ei angen

Nod y safon

Nod y safon yw sefydlu fframwaith a phennu cyfeiriad clir fel bod cleifion a defnyddwyr gwasanaethau (a lle bo'n briodol gofalwyr a rhieni) sydd ag anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol yn cael:

  • gwybodaeth hygyrch: gwybodaeth y mae'r unigolyn neu'r grŵp y'i bwriedir ar ei gyfer yn gallu ei darllen neu ei chael a'i deall
  • cymorth cyfathrebu: cymorth sydd ei angen i sicrhau bod modd cynnal deialog effeithiol a chywir rhwng gweithiwr proffesiynol a defnyddiwr gwasanaethau

Gwneir hyn er mwyn iddynt gael mynediad at wasanaethau GIG Cymru yn briodol ac yn annibynnol a gwneud penderfyniadau deallus am eu hiechyd, eu llesiant, eu gofal a'u triniaeth.

Mae hwn yn adolygiad o'r safon wreiddiol, felly dylid disgwyl bod practisau meddygon teulu eisoes yn ymgymryd â'r gwaith hwn ar gyfer cleifion â cholled synhwyraidd. Disgwylir erbyn hyn fod pob practis yn ehangu cwmpas y safon i gynnwys pawb sydd wedi'i gynnwys yn y diffiniad o anghenion cyfathrebu a gwybodaeth ychwanegol.