Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad interim yn ymdrin â rhan gyntaf y gwaith maes gwerthuso sy'n archwilio effeithiau cymdeithasol y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Damcaniaeth Newid y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Nododd model rhesymeg damcaniaeth newid ar gyfer y rhaglen nod y rhaglen i gyflawni dwy brif effaith:

  • mwy o gefnogaeth i adfer natur
  • gwella llesiant cymunedol

Data allbwn

Mae'r data allbwn sydd ar gael yn wahanol yn ôl cynllun ond mae'n disgrifio:

  • nifer y safleoedd gwyrdd newydd a grëwyd, gan gynnwys gerddi cymunedol a phlannu coed
  • nifer y gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan

Canlyniadau

Mae data'r cynllun sydd ar gael ar ganlyniadau'n awgrymu:

  • adborth cadarnhaol ar ymgysylltu â'r gymuned a manteision llesiant, megis gwell iechyd meddwl a chydlyniant cymdeithasol
  • mae cyllid wedi cefnogi prosiectau i bartneru â sefydliadau neu randdeiliaid eraill

Nododd dadansoddiad o'r adroddiadau prosiect sydd ar gael yn ogystal â chyfweliadau â staff y cynllun fod perchnogaeth a chydweithrediad cymunedol cryf yn ganolog i lwyddiant y prosiect.

Casgliadau interim

Gan fod hwn yn adroddiad interim, gall y casgliadau a wnaed newid yn dilyn ymchwil sylfaenol pellach gyda phrosiectau.

Cyswllt

Aimee Krishan

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.