Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heddiw, mae'n bleser gennyf lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllawiau diwygiedig ar gyfer Gweithredu'r Cynllun Teithio gan Ddysgwyr.
Mae'r Canllawiau ar gyfer y Cynllun Teithio gan Ddysgwyr yn cael eu gwneud o dan adran 15 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n rhoi'r grym i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddiadau a chanllawiau statudol. Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer darparu trafnidiaeth i ddysgwyr sy'n teithio i ysgolion yng Nghymru.
Cyhoeddwyd y fersiwn ddiwethaf o'r Cod yn 2014. Ers hynny, mae'r Cynllun Teithio gan Ddysgwyr yng Nghymru wedi cael ei adolygu ddwywaith a nodwyd bod angen newid sawl agwedd ar y canllawiau. Mae angen y rhan fwyaf o'r newidiadau hyn oherwydd newidiadau i ddeddf a pholisi ers i'r Canllawiau ddod i rym neu am fod angen egluro gofynion deddfwriaeth a oedd ar waith bryd hynny.
Ein prif nodau wrth adolygu'r canllawiau hyn yw sicrhau bod y canllawiau:
- yn gyson â'r datblygiadau deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers i'r canllawiau gael eu cyhoeddi'n wreiddiol yn 2014.
- yn esbonio'r cludiant a ddarperir i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
- yn gwneud y canllawiau ar gyfer Adran 10 (hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg) ac Adran 11 (hyrwyddo teithio cynaliadwy) o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) yn gliriach,
- adlewyrchu rhai o'r arferion da sydd wedi'u gweld ledled Cymru i annog cydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng partneriaid cyflawni.
Hoffwn ddiolch i’r Gymdeithas Swyddogion Cydlynu Trafnidiaeth (ATCO Cymru) am eu cefnogaeth wrth ddatblygu'r canllawiau diwygiedig hyn a sicrhau eu bod yn bragmatig ac yn bwrpasol.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle gwerthfawr i randdeiliaid, gan gynnwys rhieni, ysgolion, gweithredwyr trafnidiaeth, a'r gymuned ehangach, gan gynnwys plant a phobl ifanc, gyfrannu at ddatblygu polisïau sy'n sicrhau teithio diogel, effeithlon ac effeithiol yn unol â gofyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Rydym yn eich gwahodd i adolygu'r canllawiau ddiwygiedig a rhannu'ch barn ac ymateb.
Bydd yr ymgynghoriad yn para o 11 Mehefin tan 3 Medi 2025 ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Edrychwn ymlaen at weld eich cyfraniad a'ch cydweithrediad yn y fenter bwysig hon.
