Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn 2024-2025, parhaodd rhaglen Cymru ac Affrica i ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyfrifoldeb byd-eang drwy feithrin cydweithrediad rhyngwladol rhwng cymunedau yng Nghymru ac Affrica. Ers ei lansio yn 2006, mae'r rhaglen wedi hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, cydraddoldeb rhywedd, iechyd, addysg a bywoliaethau yn ogystal â darparu cymorth dyngarol.

Mae 2024-2025 wedi bod yn flwyddyn anodd i'r rhai sy'n ymwneud â Datblygu Rhyngwladol a chydsefyll yn fyd-eang. Mae cau Asiantaeth Datblygu Rhyngwladol yr Unol Daleithiau (USAID) a thoriadau mawr a gyhoeddwyd i gyllideb cymorth y DU ynghyd â dinistr Gaza a thrychinebau cynyddol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd heb os wedi digalonni'r sector. Er gwaethaf y materion hyn, mae'r sector yng Nghymru yn parhau i wneud cynnydd.

Gostyngwyd cyllideb Cymru ac Affrica 17.5% ar ddiwedd 2023-2024 i £1,050,000 ac arweiniodd at atal y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol tan ddiwedd 2024 a gostyngiad yn y gronfa o arian sydd ar gael ar gyfer grantiau bach.

Mae'r tîm sy'n gyfrifol am Gymru ac Affrica wedi ehangu ei gylch gwaith i gwmpasu Cyfrifoldeb Byd-eang, gan adlewyrchu'n well y gwaith gyda rhwydweithiau fel Rhanbarthau dros Ddatblygu Cynaliadwy a'r Rhwydwaith Datblygu Cynaliadwy Ewropeaidd.

Ymweliad gwladol Lesotho

Ym mis Mai, gwnaeth Brenin Letsie III o Lesotho ymweliad gwladol â Chymru, lle gwnaethom rannu'r hyn a ddysgwyd am ffordd Cymru o weithio o ran ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cyflwyno technoleg werdd.

Rhaglen Plannu Coed Mbale

Un o gyflawniadau amlwg rhaglen Cymru ac Affrica oedd y gwaith plannu coed gyda Maint Cymru a Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE) a ddathlodd ym mis Mawrth bod 25 miliwn o goed wedi cael eu dosbarthu. Ymwelodd Deborah Nabulobi a Hellen Alupo o METGE â Chymru, gan fynychu digwyddiadau - gan gynnwys un yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - cwrdd ag ASau a siarad â phlant ysgol.

Ym mis Tachwedd tynnwyd sylw at frys yr Argyfwng Hinsawdd gyda newyddion am dirlithriad yn ardal Bulambuli, a laddodd dros gant o bobl a dadleoli cannoedd yn rhagor o bobl. Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gyflym a rhoddodd £11,000 (50m o Sylltau Uganda) tuag at yr ymdrechion cymorth. Roedd ein partneriaid yn METGE yn gallu prynu a dosbarthu bwyd, sebon, dillad gwely a phebyll yr oedd mawr eu hangen yn uniongyrchol i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt o fewn dyddiau.

Y Cynllun Grantiau Bach

Mae Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau drwy gydol y flwyddyn:

  • Partneriaeth Panzi Prifysgol Abertawe

    Wedi'i ariannu gan grant ymchwil gwerth £1.7m a grant bach Cymru ac Affrica o £20,000, mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio deunydd genetig i dyfu croen a chartilag i atgyweirio creithiau ar wynebau. Arweiniodd yr Athro Ian Whitaker y fenter hon mewn partneriaeth â Dr. Denis Mukwege yn Ysbyty Panzi, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

  • Sefydliad Elusennol ResponsABLE Assistance

    Cefnogwyd pobl anabl a'u teuluoedd yn Kenya gyda thwll turio sy'n cael ei bweru gan yr haul, hyfforddiant rheoli dŵr, a diogelu pridd.

  • Partneriaeth Kick 4 Life

    Y nod yw rhannu'r hyn a ddysgwyd am ddatblygu cymunedol rhwng Clwb Pêl-droed Wrecsam a Kick 4 Life o Lesotho.

  • Rhaglen Tyfu Coed Mbale

    Hyfforddiant rhywedd ar gyfer 70 o aelodau o'r gymuned, hyrwyddo cyfiawnder hinsawdd.

  • Prosiect Optometreg Prifysgol Caerdydd

    Mewn partneriaeth â Phrifysgol Cape Coast, darparodd y prosiect hwn hyfforddiant arbenigol ac allgymorth cymunedol i hyrwyddo optometreg ac arferion gofal llygaid.

  • Partneriaeth Dolen Ffermio a FARLU

    Darparwyd seilwaith dŵr a thrydan yn Uganda, sydd o fudd i dros 420 o aelwydydd a 1,000 o bobl.

  • Prosiect Treeflights

    Ariannwyd costau teithio ar gyfer gwirfoddolwyr o siopau Treeflights yng Nghymru i Kenya, gan gefnogi lluosogi coed a siopa natur-bositif.

  • Prosiect Cymunedol The Potter's House

    Cefnogwyd plant ag anableddau yn Kenya drwy ddyfeisiau cymorth osgo wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, gan hyrwyddo hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth.

  • Menter Gydweithredol Menywod Chomuzangari

    Mewn partneriaeth â'r Hope Foundation Trust Zimbabwe, aeth y prosiect hwn i'r afael â thlodi mislif a grymuso menywod a merched drwy ddosbarthu deunyddiau misglwyf y gellir eu hailddefnyddio.

Mae'r prosiectau hyn yn enghraifft o effaith amrywiol a sylweddol Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica, gan gyfrannu at rymuso cymunedau, cynaliadwyedd amgylcheddol, gwelliannau iechyd, cydraddoldeb rhywedd a mentrau addysgol ledled Affrica.

Cydraddoldeb rhywedd a grymuso menywod

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhaglen Cymru ac Affrica wedi cefnogi nifer o brosiectau effeithiol i rymuso menywod rhwng sefydliadau o Gymru a'u partneriaid yn Uganda. Gan gydweithio'n agos â'u partneriaid Affricanaidd, mae sefydliadau o Gymru wedi dylunio prosiectau sy'n rhoi cipolwg a dealltwriaeth newydd i'r gymuned gydsefyll fyd-eang yng Nghymru, gan sicrhau effeithiau sy'n newid bywydau, darparu gwell bywoliaethau ac ymreolaeth ariannol i fenywod, hyrwyddo integreiddio rhywedd i frwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, lleihau'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), mynd i'r afael ag urddas a stigma mislif a helpu merched i gwblhau eu haddysg.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Ail-lansiwyd y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol (ILO) yn hwyr yn 2025 ar ôl saib o bron i flwyddyn. Mae'r rhaglen bellach yn canolbwyntio'n fwy ar fodloni gofynion partneriaid Affricanaidd, gan recriwtio cyfranogwyr sydd â'r sgiliau a'r profiad y tynnwyd sylw atynt gan bartneriaid. Dechreuwyd un cynllun lleoli o fewn y flwyddyn ariannol gyda llawer mwy wedi'i gynllunio ar gyfer 2025-2026.

Y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC)

Mae Rhaglen Cymru ac Affrica yn parhau i ariannu Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru i gefnogi ei waith cydlynu a chodi arian yng Nghymru. Gwnaed dau rodd i Apêl y Dwyrain Canol – gyda'r ail rodd yn ystod y cadoediad byrhoedlog. Cyfarfu swyddogion â chyrff anllywodraethol drwy gydol y flwyddyn i drafod cymorth posibl tuag at ailadeiladu Gaza yn y dyfodol.

Ymweliad gan Jenipher Sambazi

Ym mis Medi, ymwelodd Jenipher Sambazi, o Jenipher's Coffi, â Chymru o Uganda, gan fynychu 24 o ddigwyddiadau yn amrywio o ymweliadau â Senedd Cymru a Senedd y DU i ymweliadau ag ysgolion a chymunedau.

Biobotiau

Dyfarnwyd grant o £50,000 i Brifysgol Bangor i fireinio ei menter biobotiau, gan ddatblygu datrysiad i'r defnydd o blastigau untro mewn prosiectau plannu coed yn Nwyrain Affrica – a fydd o bosibl yn cymryd lle'r biliynau o fagiau plastig untro sy'n mynd i mewn i'r amgylchedd bob blwyddyn ar hyn o bryd, gyda llawes botio sy'n diraddio yn y pridd heb achosi perygl.

Diogelu

Mae diogelu yn flaenoriaeth i raglen Cymru ac Affrica. Trwy gydol y flwyddyn, rhoddwyd hyfforddiant gorfodol ar ddiogelu i bawb a oedd yn derbyn grantiau, cyfranogwyr a staff sy'n ymwneud â'r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol.

Hub Cymru Affrica (HCA)

Trefnodd ein partner, Hub Cymru Affrica, Ddigwyddiad Dysgu a Rennir ym mis Mehefin ar y thema "Symud y Pŵer i Bartneriaid Affricanaidd," yn arddangos y gwaith a wnaed gan Dolen Cymru i ddad-drefedigaethu'r sector a grymuso partneriaid lleol.