Adroddiad blynyddol cysylltiadau rhyngwladol 2024 i 2025 - 4. Ymgysylltu rhyngwladol
Adroddiad blynyddol yn nodi gweithgarwch yng Nghymru a thramor i gyflawni'r dyheadau yn y Strategaeth Ryngwladol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Roedd digwyddiadau ymgysylltu rhyngwladol yng Nghymru, gyda’r nod o wella canlyniadau i Gymru, yn ffocws parhaus eleni. Roedd ein gweithgareddau yng Nghymru yn cynnwys ymweliadau a digwyddiadau effeithiol i gefnogi'r gwaith o gyflawni uchelgeisiau'r Strategaeth Ryngwladol, sef codi ein proffil, tyfu'r economi a sefydlu Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Ymweliadau a digwyddiadau wedi'u targedu
Gwnaethon ni gynnal ymweliadau pwrpasol â Chymru ar gyfer dirprwyaethau rhyngwladol, sydd wedi arwain at ganlyniadau sylweddol. Er enghraifft, arweiniodd ymweliad gan Brif Weinidog Nagaland at Gymru yn dod yn wlad bartner yng Ngŵyl yr Hornbill, gan arddangos y gorau o ddiwylliant Cymru i gynulleidfa ryngwladol.
Ymwelodd dirprwyaethau rhyngwladol ar gyfer Wythnos Dechnoleg Cymru, gan godi proffil sector technoleg Cymru, sector o'r radd flaenaf, a meithrin trafodaethau ynghylch cydweithio rhyngwladol.
Gwnaethon ni groesawu amrywiaeth o ymwelwyr diplomyddol a masnachol rhyngwladol, gan dynnu sylw at ein presenoldeb cynyddol a'n pwysigrwydd strategol. Roedd gwesteion nodedig yn cynnwys Llysgenhadon, Uchel Gomisiynwyr, uwch ddirprwyaethau llywodraethau, a sefydliadau rhyngwladol. Uchafbwynt arbennig oedd ymweliad y Brenin Letsie III o Lesotho, a oedd eisiau archwilio ein mentrau ynni adnewyddadwy a chadarnhau cysylltiadau sydd wedi para 40 mlynedd.
Nid yn unig mae'r digwyddiadau hyn wedi atgyfnerthu cysylltiadau diplomyddol ond maen nhw hefyd wedi agor llwybrau newydd ar gyfer masnach, buddsoddi a rhannu diwylliannol.
Yn dilyn ymweliad canfod ffeithiau llwyddiannus, gan gynrychiolwyr o Gynulliad Deddfwriaethol Maharashtra, a oedd yn ysbrydoli pawb, cyflwynwyd bil aelodau preifat – Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Maharashtra – i sicrhau bod adrannau'r Llywodraeth yn dilyn nodau cynaliadwy.
Digwyddiadau dathlu
Yn 2024, fe wnaethon ni ddathlu 50 mlynedd ers i Panasonic fuddsoddi yng Nghymru, gyda rhaglen o ddigwyddiadau. Yn bresennol oedd y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a Llysgennad Japan i'r Deyrnas Unedig. Roedd hyn yn atgyfnerthu'r cysylltiadau diplomyddol cyn ymgyrch Cymru a Japan 2025.
Atgyfnerthu cysylltiadau hirdymor
Fe wnaethon ni weithio i atgyfnerthu cysylltiadau tymor hirach, megis y Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol gyda Birmingham Alabama, sy'n estyn yn ôl 60 mlynedd. Croesawodd y Prif Weinidog ddirprwyaeth ddinesig a ymwelodd â Chymru i atgyfnerthu cysylltiadau economaidd ar draws y celfyddydau, diwylliant, gwyddorau bywyd, gofal iechyd ac addysg. Arweiniodd y Prif Weinidog ddathliadau i nodi 20 mlynedd o gydweithio â Llydaw, gan gynnwys ymweliad gan Loïg Chesnais-Girard, Llywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw.
Diplomyddiaeth ddiwylliannol
Mae sector diwylliant Cymru yn parhau i adeiladu cysylltiadau. Ym mis Hydref 2024, dychwelodd Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi – gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac Iwerddon – am ei phumed flwyddyn, gan gyflwyno penwythnos o gerddoriaeth a rhaglenni diwylliannol o'r radd flaenaf. Yn ogystal â pherfformiadau, roedd Sesiynau Clebran yn cynnig llwyfan ar gyfer trafod materion cyfoes sy'n wynebu Cymru ac Iwerddon, ac roedden nhw'n cynnwys lleisiau amlwg o fywyd cyhoeddus Cymru, gan gynnwys yr Athro Laura McAllister, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, a'r Prif Weinidog.
Mae cefnogi'r Ŵyl yn dangos ein hymrwymiad i'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon. Cafodd yr ŵyl sylw helaeth yn y cyfryngau, gyda mwy na 40 o erthyglau'n cael eu cyhoeddi ar draws cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol, a denodd 15,000+ o fynychwyr, gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr a oedd wedi dod o'r tu allan i Gymru. Arweiniodd yr ŵyl hefyd at gynnydd mewn gwariant lleol ychwanegol net, gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd.
Cymru – arloeswr byd-eang
Rydyn ni'n parhau i weld rhagor o ddirprwyaethau rhyngwladol yn ymweld â Chymru i ddysgu o'n dulliau polisi – o gynllunio iaith i ddatgarboneiddio diwydiannol. Y llynedd, fe wnaethon ni gynnal Hotspot Economi Gylchol Ewrop 2024, digwyddiad uchel ei broffil sy'n cydnabod gwledydd sy'n arwain y ffordd ym maes arloesi economi gylchol. Dros dridiau, croesawon ni fwy na 400 o gynrychiolwyr rhyngwladol, a glywodd am ein taith drawsnewidiol mewn meysydd fel ailgylchu.
Tîm Cymru – Ein dull unigryw ar gyfer diplomyddiaeth ac ymgysylltu rhyngwladol
Rydyn ni'n pwysleisio cydweithio i gyflawni nodau'r Strategaeth Ryngwladol, gan weithio gyda'n partneriaid strategol a ariennir ac amrediad ehangach o randdeiliaid yng Nghymru.
Mae enghreifftiau'n cynnwys y canlynol:
On the Move – Fforwm Symudedd Diwylliannol
Yn archwilio sut y gall datblygu proffesiynol rhyngwladol ym maes y celfyddydau fynd y tu hwnt i amcanion masnachol i hyrwyddo dealltwriaeth, cydweithredu a chysylltiadau cymunedol cryfach. Gan ddod â chynrychiolwyr o bob cwr o Ewrop a'r tu hwnt at ei gilydd, archwiliodd rôl diwylliant ac iaith wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang fel gwarchod ieithoedd brodorol, newid yn yr hinsawdd a mynediad cyfartal i gyfleoedd rhyngwladol.
Galwad ar y Cyd am gynigion gan Gymru a Québec
Drwy ein Datganiad o Fwriad, mae'r alwad ar y cyd am gynigion wedi ariannu prosiectau sy'n annog partneriaethau hirdymor rhwng sefydliadau Cymru a Québecois. Enghraifft o'r cydweithredu hwn yw'r gwaith rhwng CULTVR Lab a'r Gymdeithas Celfyddydau a Thechnoleg ym Montréal sydd wedi arwain at gyfleoedd datblygu proffesiynol a chyd-gynyrchiadau. Arweiniodd cyllid sbarduno, wedi'i ddarparu gan y ddwy lywodraeth, at ffurfioli'r bartneriaeth drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Canlyniad amlwg o'r cydweithredu hwn yw'r cynhyrchiad Arka Kinari: Artivism at Sea, a enillodd y wobr am y Perfformiad Byw Gorau yng Ngwobrau Best of Earth 2025.
Urdd Gobaith Cymru
Mae'r Urdd wedi defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sylweddol o weithgarwch rhyngwladol. Er enghraifft, hyrwyddodd Llysgenhadon Ieuenctid yr Urdd eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn Washington DC ac Efrog Newydd, gan nodi canmlwyddiant deisebau heddwch Menywod Cymru. Arweiniodd eu gwaith at chwe phartneriaeth newydd gyda sefydliadau yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys JP Morgan, y Rhwydwaith Byd-eang o Adeiladwyr Heddwch Menywod, a chynrychiolwyr y Cenhedloedd Unedig. Yn India, ymunodd yr Urdd â choalisiwn Her Future i gynnal gweithdai i hyrwyddo gwerthoedd Cymru yn Kolkata. Roedd y prosiect hwn yn cynnwys 12 o ferched ifanc o Gymru a chyrhaeddodd dros 1,000 o bobl.
Hyrwyddo Cymru: Ymgysylltu rhyngwladol yn y DU
Mae ein swyddfa yn Llundain yn rhoi ffenest i Gymru i weddill y byd, gan ddyfnhau cysylltiadau diplomyddol Cymru ac atgyfnerthu cysylltiadau llywodraeth-i-lywodraeth. Mae'n cynnig cyfle ar gyfer ymgysylltu rheolaidd â'r rhwydwaith diplomyddol ac yn darparu platfform i ddatblygu cysylltiadau masnach a buddsoddi, gan ddarparu manteision economaidd i Gymru. Mae hefyd yn gweithredu fel pwynt ar gyfer ymgysylltu rheolaidd ag adrannau Llywodraeth y DU sy'n canolbwyntio ar faterion rhyngwladol, gan gynnwys adrannau Uned Ddatganoli, Strategaeth a Phrotocol Swyddfa'r Gymanwlad a Datblygu Tramor (FCDO).
Mae'r swyddfa wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau diplomyddol er mwyn sicrhau canlyniadau domestig. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys:
Derbyniad y Corfflu Diplomyddol yn Somerset House, Llundain
Mynychodd mwy na 120 o Lysgenhadon, Uchel Gomisiynwyr a gwesteion diplomyddol, a oedd yn cynrychioli dros 80 o wledydd gwahanol, ddigwyddiad gyda'r Prif Weinidog. Cynhaliwyd cyfarfodydd dwyochrog hefyd gydag Uchel Gomisiynydd Canada, Uchel Gomisiynydd Awstralia a Llysgennad Japan, gan osod sylfeini ar gyfer ymgyrch Cymru a Japan 2025.
Comisiwn Diwylliannol y DU-Yr Almaen a gynhelir gan yr FCDO yn Llundain
Roedd cyfranogiad Cymru yn canolbwyntio ar gryfhau gweithgareddau addysgol, ymchwil a diwylliannol rhwng y DU a'r Almaen.
Gweithgareddau Wythnos Cymru yn Llundain/Dydd Gŵyl Dewi
Rhaglen helaeth o ddigwyddiadau a oedd yn arddangos Cymru i Lundain a chynulleidfaoedd rhyngwladol. Roedd y digwyddiadau'n cynnwys digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi ar thema chwaraeon a gynhaliwyd gan Lysgenhadaeth y Swistir, cyn Pencampwriaeth Menywod UEFA 2025, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi yn siarad ochr yn ochr â Llysgennad y Swistir.
