Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Rydym wedi cydnabod gwerth cydweithio mewn partneriaeth ddibynadwy erioed. Er enghraifft, drwy gydol yr argyfwng costau byw, y sefyllfa yn Wcráin a phandemig COVID 19, rydym wedi gweithio gyda’n gilydd, gan ganolbwyntio ar y cyd ar ddiogelu a gwasanaethu ein cymunedau fel un, ni waeth beth fo’n safbwyntiau gwleidyddol.

Mae Cymru’n wynebu nifer o heriau, gan gynnwys ansicrwydd economaidd, argyfyngau hinsawdd a natur, straen ar gyllid cyhoeddus a llawer mwy. Felly, mae’n bwysicach nag erioed inni gryfhau ein partneriaeth, gan weithio mewn cytgord, heb ddyblygu na biwrocratiaeth ddiangen i gyflawni dros bobl Cymru. 

Rydym ni, ar ran Gweinidogion Cymru ac Arweinwyr y 22 o gynghorau, yn cytuno bod codeiddio’r egwyddorion a’r ffyrdd hyn o weithio yn y Cytundeb Partneriaeth Strategol hwn (y Cytundeb hwn) yn dangos ein hymrwymiad cyffredin i roi pobl yn gyntaf ac i’r pŵer sydd gan ddemocratiaeth i gyflawni dros bawb.

Mae’r Cytundeb hwn yn deillio o drafodaethau rhwng Gweinidogion Cymru, Arweinwyr pob cyngor, Llefarwyr ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyngor CLlLC. 

Mae’n diffinio, yn egluro ac yn ffurfioli ein rolau a’n cyfrifoldebau. Mae’n nodi nad ydym am wastraffu amser, ymdrech nac adnoddau yn dadlau’n ofer ond yn hytrach rydym am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Rydym yn glir bod rhaid i’r ffyrdd o weithio, a’r egwyddorion a nodir yn y Cytundeb, gael eu hadlewyrchu yn ein perthynas unigol ac ar y cyd â’r holl sefydliadau partner, gan gynnwys y GIG a chynghorau cymuned a thref, ac y dylent adeiladu ar fframweithiau presennol fel cynllun y Trydydd Sector.

Ni fyddwn bob amser yn cytuno, ond bydd llwyddiant y Cytundeb hwn yn cael ei farnu drwy drafod y materion mewn ffordd agored a chytbwys ar sail gwybodaeth, a thrwy ddeall safbwyntiau a chyfyngiadau ein gilydd. Nid dewis hawdd na meddal yw gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy, ond credwn ei fod yn werth y buddsoddiad. 

Cafwyd cytundebau blaenorol nad ydynt bob amser wedi para cyhyd ag yr oeddem wedi’i obeithio. Fodd bynnag, mae’r berthynas gadarnhaol rydym wedi’i meithrin dros y pum mlynedd diwethaf yn rhoi sylfaen gref inni gyflawni mwy gyda’n gilydd. 

Rydym eisiau i’n hymrwymiad i bartneriaeth ddibynadwy barhau drwy newidiadau gwleidyddol a phersonol, gan greu sefydlogrwydd newydd o ran llywodraethiant Cymru. Bydd codeiddio ein perthynas yn sicrhau ei bod yn darparu fframwaith cryf i gynnal gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Llofnodwyd ar ran Llywodraeth Cymru

Y Gwir Anrh Eluned Morgan AS
Prif Weinidog Cymru

Jayne Bryant AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Llofnodwyd ar ran llywodraeth leol

Y Cyng Andrew Morgan OBE
Arweinydd CLIC / Arweinydd Grŵp: Llafur

Y Cyng Lis Burnett
Aelod Llywyddol CLlLC

Rhan 1: Cytundeb Partneriaeth Strategol Drafft rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol

Pennod 1: cyflwyniad

Y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sylfaen ein partneriaeth a sylfaen holl wasanaeth cyhoeddus Cymru. Cymru yw’r unig wlad yn y byd i ddangos ei hymrwymiad i gynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn y gyfraith. Rhaid i wasanaethau cyhoeddus sicrhau bod y pum ffordd o weithio yn rhan ganolog o bopeth a wnawn – cydweithio, integreiddio, cynnwys, hirdymor ac atal. 

Mae’r Cytundeb hwn wedi’i lunio’n seiliedig ar y pum ffordd hynny o weithio ac mae’n tanlinellu pwysigrwydd perthynas waith effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. 

Mae’r Cytundeb yn garreg filltir bwysig i wasanaeth cyhoeddus Cymru. Mae’n effeithio ar bron pob perthynas waith ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn ehangach. Yn ôl profiad, pan fydd llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yn gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy, mae sylfaen gref i holl wasanaeth cyhoeddus Cymru ddod yn unedig a dod yn ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru’.

Nid yw’r Cytundeb hwn yn cynnwys y gymuned llywodraeth leol ehangach, cynghorau tref a chymuned, yr Awdurdodau Tân ac Achub, na’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Mae cytundebau ar wahân ar waith gyda hwy, a gellir eu hadolygu yng ngoleuni'r Cytundeb hwn.

Felly, bydd y Cytundeb hwn yn:

  • diffinio ein rolau a’n cyfrifoldebau
  • nodi egwyddorion y cytunwyd arnynt ar gyfer partneriaeth ddibynadwy
  • nodi ein cydymrwymiadau
  • nodi egwyddorion ar gyfer cyllido, lleihau biwrocratiaeth a gwella
  • nodi’r fframwaith ar gyfer cydweithio mewn partneriaeth ddibynadwy
  • esbonio sut y bydd y Cytundeb hwn yn gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru

Pennod 2: gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy

Rolau a chyfrifoldebau

Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi mandad democrataidd ein gilydd. Mae aelodau Llywodraeth Cymru ac aelodau cynghorau yn cael eu hethol gan bobl Cymru i weithio er budd y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Fodd bynnag, mae cyfrifoldebau’r ddau fandad yn wahanol ac ar wahân.

Rydym yn parchu’r cyfrifoldebau ar wahân sydd gan lywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yng Nghymru ynghyd â threfniadau llywodraethu rhanbarthol. Y llywodraeth genedlaethol yng Nghymru yw Llywodraeth Cymru, ystyr rhanbarthol yw cyd-bwyllgorau corfforedig, ystyr lleol yw’r 22 o gynghorau sir a bwrdeistref sirol. Credwn mewn sybsidiaredd ac atebolrwydd, felly gwneir penderfyniadau gan y cynrychiolwyr etholedig sydd yn y sefyllfa orau i’w gwneud.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gosod y fframwaith deddfwriaethol a’r amgylchedd polisi cenedlaethol ar draws yr ystod o feysydd datganoledig er mwyn galluogi llywodraeth leol i benderfynu ar y ffordd orau o wasanaethu ei chymunedau. Mae’n gyfrifol drwy etholiadau cenedlaethol i bobl Cymru.

Mae llywodraeth leol yn gyfrifol am ddatblygu, cynllunio a darparu ystod eang o wasanaethau statudol a dewisol. Mae’n arwain partneriaethau lleol a rhanbarthol, gan weithio gyda chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r trydydd sector (yn cynnwys Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus), ac mae’n darparu arweinyddiaeth ddemocrataidd strategol gref i’w chymunedau drwy’r mecanweithiau hyn. Mae’n atebol i’w hetholwyr lleol am y penderfyniadau y mae’n eu gwneud.

Fodd bynnag, mae llywodraethiant yn fater cymhleth ac nid yw’r ddwy lefel hon o atebolrwydd yn annibynnol ar ei gilydd, yn hytrach gallant atgyfnerthu a chryfhau ei gilydd os ydynt yn gweithredu’n effeithiol. Cylchoedd ydynt, yn hytrach na haenau, o lywodraethiant democrataidd yng Nghymru.

Yn ogystal â pharchu rolau a chyfrifoldebau ein gilydd, bydd gennym hefyd uchelgeisiau cyffredin. Rydym hefyd yn cydnabod y bydd daearyddiaeth ranbarthol weithiau’n darparu’r mecanwaith gorau i gyflawni’r uchelgeisiau hynny. Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi cael eu sefydlu fel y cyrff gwneud penderfyniadau democrataidd ar gyfer gweithio’n rhanbarthol mewn meysydd penodol.

Mae’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio datblygiadau strategol a chynllunio trafnidiaeth rhanbarthol. Maent hefyd yn gallu hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd.

Mae’r dull o ddatblygu’r model Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn parhau i fod yn un o gydweithio rhwng llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol. Gan gydnabod nad oes un ateb sy’n addas i bawb, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu prosbectws ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig i nodi ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer gweithio’n rhanbarthol.

Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Genedlaethol, Llywodraeth Leol a Llywodraethiant Rhanbarthol yng Nghymru

Cenedlaethol

Rôl Llywodraeth Cymru yw:

  • pennu ac egluro ei gweledigaeth genedlaethol ar gyfer Cymru, a darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwireddu’r weledigaeth
  • datblygu rhaglenni a pholisïau i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r weledigaeth
  • darparu’r amgylchiadau iawn er mwyn i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus allu gwella ansawdd, effeithiolrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn barhaus
  • ymgysylltu ac ymgynghori â phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus i sicrhau bod rhaglenni a pholisïau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno’n effeithiol
  • hyrwyddo arferion da ac arloesedd
  • cydnabod yr amgylchiadau economaidd ac ariannol presennol, a rhoi arweiniad ariannol i bartneriaid i’w helpu gyda dewisiadau anodd y bydd yn rhaid eu gwneud
Lleol

Rôl llywodraeth leol yw:

  • darparu arweinyddiaeth gymunedol a democrataidd
  • gweithio gyda’r llywodraeth genedlaethol i helpu i gyflawni blaenoriaethau a rhaglenni cenedlaethol ac i bennu’r blaenoriaethau ar gyfer cymunedau lleol
  • cyflawni’r ystod o ddyletswyddau a swyddogaethau statudol sydd gan lywodraeth leol
  • ymrwymo i welliannau sy’n cael eu harwain gan y sector a chyflawni ei dyletswyddau statudol ar gyfer hunanasesu ac asesu cymheiriaid o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, er mwyn gwella ansawdd ac effeithiolrwydd ei gwasanaethau’n barhaus
  • ymgynghori â phartneriaid a gweithio gyda dinasyddion lleol ac eraill yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod rhaglenni cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn cael eu cynllunio’n dda a’u cyflwyno’n effeithiol
  • ffurfio ac arwain Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel mecanwaith ar gyfer cydweithio a chyflawni rhanbarthol
  • cydweithio ag eraill i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu gan y sefydliad cywir ac ar y raddfa fwyaf darbodus
Llywodraethiant rhanbarthol

Rôl Cyd-bwyllgorau Corfforedig yw:

  • ymgymryd â’r ddyletswydd i baratoi Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
  • arfer pŵer llesiant economaidd, gan roi'r pŵer i Gyd-bwyllgor Corfforedig wneud unrhyw beth i wella neu hyrwyddo llesiant economaidd ei ardal
  • darparu fframwaith cyson a ffurfiol i gefnogi cydweithio rhanbarthol

Gwella darpariaeth strategol ar draws meysydd annibynnol hanfodol fel llesiant economaidd, cynllunio trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir.

Rydym hefyd yn cydnabod ein bod yn gweithredu o fewn cyd-destun y DU gyfan. Byddwn yn defnyddio ein partneriaeth i hyrwyddo’r berthynas deirochrog ar faterion y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt, gan gydweithio i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar Gymru.

Pennod 3: egwyddorion partneriaeth ddibynadwy 

Mae rhyngweithio dyddiol dirifedi’n digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, o drafodaethau ynghylch materion strategol a gweithredol i drafodaethau ynghylch materion polisi ac ariannol. Mae’r egwyddorion yn y Cytundeb hwn yn creu’r fframwaith ar gyfer yr holl ryngweithio hwnnw a phopeth a wnawn gyda’n gilydd, boed hynny’n ymgynghori a gwneud penderfyniadau gan gynrychiolwyr etholedig neu’n ymgysylltu mwy ymarferol gan ein swyddogion.

Egwyddorion

Cydymddiriedaeth a pharch
  • Cydymddiriedaeth yw sylfaen y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Rydym yn cydnabod ac yn parchu mandad democrataidd, rolau, cyfrifoldebau a chyfraniadau ein gilydd at lywodraethu democrataidd yng Nghymru. Dangosir yr egwyddor hon drwy ddeialog barchus a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd ymreolaeth y naill a’r llall.          
Tryloywder a bod yn agored
  • Mae tryloywder a bod yn agored yn hanfodol ar gyfer atebolrwydd a meithrin ymddiriedaeth. Rydym yn ymrwymo i gyfathrebu’n agored a sicrhau bod gwybodaeth a data yn hygyrch er mwyn helpu i wneud penderfyniadau effeithiol. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddeall a datblygu’r dystiolaeth sydd ei hangen i asesu effaith a gwneud gwelliannau cadarnhaol. Byddwn yn ymdrechu i ddilyn canllawiau Data Agored cenedlaethol.
Gweithio gyda’n gilydd ar gyllid teg 
  • Rydym yn cydnabod yr angen i wasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu’n deg a’u darparu’n effeithiol ac yn effeithlon.
  • Byddwn yn parhau i gydweithio i fireinio, diwygio a gwella’r fformiwlâu cyllido a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid refeniw craidd, gan ddefnyddio sianeli gwleidyddol llwyddiannus Cyngor Partneriaeth Cymru a’r Is-grŵp Cyllid.
  • Byddwn yn cyflwyno’r achos ar y cyd i Lywodraeth y DU lle bo hynny’n briodol dros gyllid teg i Gymru.
  • Mae gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i esblygu. Wrth i gynlluniau a chyfrifoldebau newydd ddod i’r amlwg yn y dyfodol, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i nodi bwriad y polisi a’r blaenoriaethau allweddol i’w cyflawni, yn ogystal â sicrhau bod y goblygiadau ariannol (ac o ran gwasanaethau) yn cael eu deall ar y cyd.
  • Os yw creu cyfrifoldeb newydd yn dibynnu ar basio deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth, bydd yr asesiad o’r goblygiadau ariannol newydd yn cael ei gynnwys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol perthnasol a fydd yn cael ei ddatblygu ar y cyd cyn belled ag y bo modd.
  • Dylai’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol adlewyrchu costau a chanlyniadau gweithredu, gan gynnwys goblygiadau cyllido a newid gwasanaethau. Mae Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yn canolbwyntio ar ychwanegedd y ddeddfwriaeth neu’r polisi, nid ar faterion darparu gwasanaethau sy’n bodoli eisoes.
  • Bydd llywodraeth leol yn cael ei chynnwys yn gynnar yn y gwaith o baratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a bydd yn cymryd rhan mewn trafodaethau drwy CLlLC a rhwydweithiau proffesiynol perthnasol.
  • Bydd CLlLC yn gweithio gydag awdurdodau i ddarparu data i lywio’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ôl yr angen. Drwy wneud hyn, bydd llywodraeth leol yn gyfrifol am ddarparu ei hamcangyfrif gorau o’r goblygiadau ariannol mewn ffordd amserol er mwyn cyfrannu at y broses ddeddfwriaethol a chyllidebol.
  • Pan fydd costau ychwanegol ynghlwm wrth gyfrifoldebau newydd, efallai nad chwilio am arian ychwanegol fydd y nod bob amser, ond dod o hyd i gyllid y gellid ei ailgyfeirio o rywle arall er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl. Y tu hwnt i hynny, byddai unrhyw gyfrifoldebau newydd yn cael eu hariannu.
Atebolrwydd a chyfrifoldeb
  • Mae cyfrifoldebau penodol i bob cylch o lywodraeth. Rydym yn atebol am ein gweithredoedd a’n penderfyniadau ein hunain. Mae gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy yn golygu dangos yn glir ein cyfraniadau at ganlyniadau cyffredin, gan barchu ein hatebolrwydd gwahanol i’r cyhoedd.
Arloesi a hyblygrwydd
  • Mae angen arloesi a hyblygrwydd i fynd i’r afael â heriau cymhleth ac i addasu i amgylchiadau sy’n newid. Rydym yn ymrwymo i wella’n barhaus a chroesawu datrysiadau arloesol.
  • Bydd cofleidio ffyrdd digidol o weithio gyda’n gilydd yn ein helpu i sicrhau mwy o gyfleoedd economaidd a chymdeithas fwy ffyniannus a gwydn. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu dylunio ar gyfer ein cymunedau a chyda hwy, a hynny ar gyfer y tymor hir mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ariannol.

Pennod 4: ein cydymrwymiadau

Yn ogystal â’r egwyddorion uchod, hoffem ailddatgan ein cydymrwymiad i rai meysydd o bwys ac o werth cyffredin:

Cymraeg 2050

  • Byddwn yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn gyfartal drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a byddwn yn hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle; Cymraeg a thechnoleg; a Chymraeg bob dydd, wrth ddarparu gwasanaethau.

Tegwch, cynhwysiant a chyfranogiad

  • Mae cynhwysiant a chyfranogiad y cyhoedd yn hanfodol ar gyfer llywodraethiant democrataidd. Mae Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn ymdrechu i gynnwys ac adlewyrchu amrywiaeth lawn ein cymunedau wrth wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod lleisiau amrywiol yn cael eu clywed a’u hystyried.
  • Mae gennym gyd-ymrwymiad ers tro i hyrwyddo cydlyniant cymunedol, ac mae gennym hanes da o wneud hynny. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i feithrin cysylltiadau da o fewn cymunedau yng Nghymru a rhyngddynt.
  • Rydym yn ymrwymo i arfogi pobl â’r sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt ac i ddylunio gwasanaethau o amgylch pobl er mwyn gwella cydlyniant cymdeithasol, creu cymdeithas fwy iach a chyfartal gyda chymunedau sydd â chysylltiadau da, a chyfrannu at sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
  • Byddwn yn sicrhau bod mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn rhan ganolog o’n penderfyniadau a’n darpariaeth gwasanaethau, ac yn gwreiddio dull gwrth-hiliol o weithredu fel sefydliadau.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd

  • Rydym yn ymrwymo i gydweithio i ddatblygu dull gweithredu Cymru gyfan i fynd ymhellach ac yn gyflymach o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a’r materion cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd a llesiant. Gyda’n gilydd, byddwn yn cefnogi arweinwyr a chymunedau lleol i wella cyfleoedd i unigolion a chymunedau fod yn annibynnol a grymus, er mwyn sicrhau canlyniadau gwell.

Trechu tlodi

  • Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wella bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi ac i leihau tlodi yn y tymor hir, gan ddefnyddio ein pwerau i ddod â phartneriaid at ei gilydd ar lefel genedlaethol a lleol a chanolbwyntio camau gweithredu lle mae eu hangen fwyaf. 

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

  • Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd a rhyngddibyniaeth yr holl sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n gweithio gyda’i gilydd, a chyda’r trydydd sector a phartneriaid eraill, i ddarparu gwasanaethau effeithiol a di-dor i bobl ledled Cymru.

Gweithlu a sgiliau

  • Mae’r gweithlu llywodraeth leol yn darparu arweinyddiaeth a gwasanaethau hanfodol. Fodd bynnag, mae llawer o alwedigaethau'n wynebu heriau o ran recriwtio a chadw staff, fel gofal cymdeithasol, cynllunio, ac arbenigeddau amgylcheddol. Rhaid inni hefyd recriwtio a datblygu sgiliau newydd, gan amrywio ein sylfaen sgiliau i ddiwallu anghenion a chyfleoedd yn y dyfodol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo llywodraeth leol fel cyflogwr o ddewis ac i ddenu unigolion amrywiol a medrus. Byddwn yn cefnogi mentrau recriwtio a chadw staff, ac yn croesawu cyfleoedd digidol i ddatblygu sgiliau ac arweinyddiaeth ddigidol. Byddwn hefyd yn hyrwyddo rhaglenni datblygu proffesiynol, yn cynyddu amrywiaeth y gweithlu, gan gynnwys mewn rolau arwain, ac yn gweithio i roi terfyn ar ymddygiad difrïol tuag at y gweithlu llywodraeth leol.

Partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg

  • Mae partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg yn egwyddorion hanfodol yn y berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a chryfhau trefniadau cydweithio effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’n hundebau llafur cydnabyddedig er mwyn gwella llesiant a’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys arwain drwy esiampl drwy hyrwyddo ymddygiadau a ffyrdd o weithio sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ein gilydd, er mwyn adeiladu ar y dyletswyddau a’r egwyddorion sylfaenol a amlinellir yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Mynd i'r afael â difrïo mewn gwleidyddiaeth

  • Mae bygwth a difrïo cynghorwyr, boed hynny wyneb yn wyneb neu drwy ddulliau eraill, yn peryglu democratiaeth. Gall rwystro swyddogion etholedig rhag gwasanaethu eu cymunedau, annog unigolion i beidio â sefyll i gael eu hethol, ac erydu hyder y cyhoedd mewn systemau democrataidd.
  • Mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi ymrwymo i gydweithio i fynd i’r afael â difrïo ar bob lefel. Gall y rhai sy’n cael eu hethol ar lefel genedlaethol neu leol wynebu difrïo wyneb yn wyneb neu ar-lein a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gael gwared ar ymddygiad gwael ac annerbyniol o fywyd democrataidd.
  • Gall ymddygiad difrïol gael ei dargedu at y gweithlu llywodraeth leol hefyd, a gallai’r bygythiad o hynny atal ymgeiswyr da rhag gwneud cais i ymuno. Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i roi terfyn ar ymddygiad difrïol ac annerbyniol ar bob lefel o lywodraeth leol.

Datblygu cynaliadwy

  • Mae ein gwaith partneriaeth yn cwmpasu ystyriaethau o ran diogelu’r amgylchedd, tegwch cymdeithasol, ffyniant economaidd a llesiant diwylliannol, yn unol â’r nodau llesiant a’r ffyrdd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae sicrhau ‘pontio teg’ a meithrin gwydnwch cymunedol yn wyneb newid hinsawdd yn ystyriaethau allweddol yn yr ymgyrch dros weithgareddau a chanlyniadau mwy cynaliadwy.

Pennod 5: cyllid, lleihau biwrocratiaeth, a gwelliannau sy’n cael eu harwain gan y sector

Cyllid

  • Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol, gan gynnwys eu heffeithiau ehangach. Rydym hefyd yn cydnabod bod angen i Lywodraeth Cymru gydbwyso cyllid ar gyfer llywodraeth leol o fewn yr amlen ariannol sydd ar gael i gefnogi ehangder ei chyfrifoldebau a’i blaenoriaethau.
  • Mae gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy yn golygu y bydd llywodraeth leol yn cael cyfleoedd i ymgysylltu’n gynnar â phroses gyllidebol Llywodraeth Cymru. Bydd y prosesau ymgysylltu a nodir ym Mhennod Chwech yn hwyluso hyn ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn deall y pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol, eu goblygiadau a phopeth a ofynnir o lywodraeth leol ar draws ystod lawn o bortffolios y Llywodraeth.
  • Cytunir ar setliadau ariannol aml-flwyddyn lle bynnag y bo modd, yn unol â chyllid Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru a chylchoedd ariannol a gwleidyddol.
  • Bydd gwaith ar y cyd hefyd yn cael ei wneud i ddatblygu dull newydd o ymdrin â chyllid digidol, gan gynnwys modelau newydd a fydd yn hybu’r canlyniadau cywir, mwy o werth, mwy o ystwythder a llai o risg.

Dulliau o neilltuo cyllid

  • Mae’r Grant Cynnal Refeniw yn rhoi hyblygrwydd i gynghorau gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, gan flaenoriaethu cyllid i ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion cymunedau lleol. Bydd lefelau’r cyllid a gaiff ei neilltuo o dan y setliad llywodraeth leol yn cael eu hadolygu ar y cyd, a bydd grantiau’n cael eu neilltuo neu eu cyfuno ymhellach lle bo hynny’n bosibl. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i gynghorau gael yr hyblygrwydd i reoli eu hadnoddau’n effeithiol.
  • Mae’r Protocol ar Grantiau wedi’u Neilltuo, sydd wrthi'n cael ei ddatblygu ar y cyd fel rhan o’r gyfres hon o gytundebau, yn nodi’r dull gweithredu y cytunir arno gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar gyfer pennu, gweithredu, ac adolygu cynlluniau grantiau wedi’u neilltuo.
  • Bydd y protocol yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cymaint o sicrwydd ariannol â phosibl mewn perthynas â chyllid wedi’i neilltuo ac i gael strategaeth tymor hir wedi’i datgan a’i chytuno’n glir ar gyfer pob un. 

Trethi lleol

  • Mae cynghorau lleol yn atebol i’w hetholwyr. Credwn y dylid rheoli’r pwysau o ran y dreth gyngor ar aelwydydd gymaint ag y bo modd o fewn yr amlen wariant eang sydd ar gael a’r dewisiadau sydd i’w gwneud ynghylch gwasanaethau. Mae penderfyniadau ynghylch pennu lefelau’r Dreth Gyngor yn lleol yn rhan bwysig o fandadau democrataidd lleol, a dylid defnyddio pwerau Gweinidogion Cymru i gapio’r dreth gyngor fel dewis olaf ar ôl ymgysylltu’n llawn â llywodraeth leol drwy’r Is-grŵp Cyllid a CLlLC. Bydd awdurdodau lleol yn ystyried cynlluniau tymor canolig ar gyfer cynnydd yn y Dreth Gyngor, a bydd ymgysylltiad cynnar rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn helpu i liniaru’r pwysau tymor byr ar drethdalwyr.
  • Pan fydd diwygiadau wedi’u cynllunio ar gyfer y Dreth Gyngor ac ardrethi annomestig yn y dyfodol, byddwn yn ymgysylltu ar y cyd drwy gydol y broses o ddatblygu a chyflawni polisi er mwyn sicrhau bod y systemau treth lleol yn aros yn sefydlog ac yn effeithiol.
  • Rydym yn cytuno i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gweinyddu trethi lleol mor effeithiol â phosibl, gan gynnal arferion casglu teg a lleihau achosion o osgoi trethi. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi’n ddigonol mewn systemau gweithredol a staff allweddol sy’n hanfodol i briodoldeb ariannol.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn agored i archwilio hyblygrwydd ariannol ychwanegol ar gyfer sefydliadau llywodraeth leol i’w helpu i reoli eu harian eu hunain yn fwy effeithiol, cynhyrchu refeniw ychwanegol a galluogi gwasanaethau lleol i gael eu darparu’n well.

Lleihau biwrocratiaeth 

  • Byddwn yn datblygu ffyrdd newydd o weithio ac yn gwreiddio ymddygiadau partneriaeth ddibynadwy drwy gydol y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau, cynllunio, monitro a gwerthuso.
  • Rydym wedi ymrwymo i leihau llwyth gwaith ac osgoi gwastraffu adnoddau, gan ganolbwyntio ar ymdrechion cydweithredol nad ydynt yn dibynnu ar systemau gweinyddol helaeth.
  • Bydd dull digidol yn gwella cydweithio, yn cael gwared ar ddyblygu, ac yn gwella dulliau safoni prosesau.
  • Dim ond data angenrheidiol a gwerthfawr y bydd Llywodraeth Cymru yn eu casglu’n genedlaethol, a bydd llywodraeth leol yn darparu adroddiadau data amserol o ansawdd uchel wedi’u hategu gan systemau digidol a data effeithlon.

Gwelliannau sy’n cael eu harwain gan y sector

  • Mae cydymrwymiad i welliant parhaus sy’n cael ei arwain gan y sector, gan gynnwys drwy drawsnewid digidol.
  • Nid yw gwasanaethau cyhoeddus wedi cael eu digideiddio ddigon. Felly, byddwn yn ymrwymo i sicrhau bod technoleg, data a digidol yn rhan annatod o bob penderfyniad a wnawn gyda’n gilydd. I wneud hyn, rydym wedi ymrwymo i gyflawni gweledigaeth y Strategaeth Ddigidol i Gymru: ‘gwella bywydau pawb trwy gydweithio, arloesi a gwasanaethau cyhoeddus gwell.’
  • Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i godi disgwyliadau o ran safonau digidol, gan gydweithio i gyrraedd safon gwasanaethau digidol wrth ddarparu ein holl wasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael manteision gwirioneddol o ganlyniad i hynny. Byddwn yn darparu gwasanaethau sy’n gweithio’n galetach dros y cyhoedd, sy’n syml, ac sy’n cyflawni eu dyletswyddau i fod yn ddealladwy, yn atebol ac yn ddemocrataidd.
  • Mae gwelededd a thryloywder data perthnasol yn allweddol er mwyn gallu gwneud cysylltiadau rhwng y cyllid a fuddsoddir a’r canlyniadau a geir. 

Pennod 6: Fframwaith ar gyfer Gweithio gyda’n Gilydd

Sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd

  • Mae trafodaethau cyson a thryloyw yn hanfodol er mwyn cydweithio mewn partneriaeth ddibynadwy. Byddwn yn harneisio manteision ein hystwythder fel gwlad fach drwy gydweithio’n effeithiol ac yn effeithlon i leihau biwrocratiaeth a sicrhau gwerth i’n cymunedau.
  • Rydym yn ymrwymo i barhau i gynnal trafodaethau ffurfiol a rheolaidd rhwng Cabinet Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar heriau a chyfleoedd cyffredin a fydd yn helpu i wella bywydau a phrofiadau pobl. Bydd codeiddio ein dull o ymgysylltu drwy’r Cytundeb hwn yn helpu i ddiogelu’r berthynas at y dyfodol ac yn sicrhau ei bod yn parhau’n effeithiol y tu hwnt i newidiadau mewn arweinyddiaeth wleidyddol ar lefel genedlaethol neu leol.
  • Mae’r Cytundeb hwn yn ategu’r mecanweithiau ymgysylltu sy’n bodoli eisoes rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Mae’n sail i fecanwaith ymgysylltu statudol Cyngor Partneriaeth Cymru sydd dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet/Gweinidog Llywodraeth Leol ac sydd ag aelodaeth wleidyddol.
  • Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd yr amrywiaeth o sianeli ymgysylltu sy’n galluogi trafodaethau rheolaidd, misol fel arfer, rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch heriau cyffredin.
  • Mae gan CLlLC amrywiaeth o fecanweithiau ar gyfer ymgysylltu â’i haelodau ar lefelau strategol a pholisi, er enghraifft, cyfarfodydd gwleidyddol, rhwydweithiau aelodau’r Cabinet  a chyfarfodydd dwyochrog. Mae CLlLC yn gwerthfawrogi cyfraniad Gweinidogion Cymru i’r cyfarfodydd hyn a hoffai i’r lefel hon o ymgysylltu barhau yn y dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar CLlLC i ddarparu grym cynnull ac un sianel ar gyfer lleisio barn gyfunol awdurdodau lleol.

Mecanweithiau ymgysylltu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol

Mecanweithiau ymgysylltu statudol y bartneriaeth
Cyngor Partneriaeth Cymru
  • Y prif fforwm statudol ar gyfer deialog a chydweithio rhwng Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
  • Dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.
Is-grŵp Cyllid (gwleidyddol)
  • Ymgysylltu prydlon a rheolaidd ynghylch materion cyllid llywodraeth leol
  • Dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.
Is-grŵp Dosbarthu (swyddog)
  • Yn gyfrifol am gynghori ar fformiwlâu cyllid llywodraeth leol.
Mecanweithiau ymgysylltu anstatudol y bartneriaeth
Cyfarfodydd (misol) rheolaidd rhwng Aelodau perthnasol o Gabinet Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Awdurdodau Lleol
  • Dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.
Cyfarfodydd dwyochrog rhwng Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Awdurdodau Lleol / Llefarwyr ar ran CLlLC ynghylch agendâu polisi a rennir
Cyfarfodydd dan arweiniad CLlLC
  • Cyfarfodydd rhwydwaith Aelodau Cabinet CLlLC.
  • Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynhadledd CLlLC.
  • Cyfarfodydd Gweithrediaeth a Chyngor CLlLC.
  • Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru yn ymuno fel y bo’n briodol / ar ôl cael gwahoddiad.

Rhaid i’r holl ymgysylltu fod yn ystyrlon, canolbwyntio ar gamau gweithredu a chanlyniadau er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau a rannwn a darparu gwelliannau pendant i’r dulliau o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Strwythurau a mecanweithiau partneriaeth

  • Ni fyddwn yn creu unrhyw strwythurau partneriaeth newydd heb fod yn glir ynghylch diben y polisi dan sylw a pha ganlyniadau a ddymunir. Yn gyntaf, rhaid inni ddeall a defnyddio’r mecanweithiau partneriaeth sy’n bodoli eisoes ac y gellid o bosibl eu defnyddio i ymgysylltu ar bolisi neu fater cysylltiedig arall. Byddwn yn galluogi ein gilydd i herio unrhyw gynigion ar gyfer partneriaeth newydd neu barhau â rhai sy’n bodoli eisoes.

Datblygu Polisïau

  • Bydd arbenigedd ym meysydd digidol, data a thechnoleg yn cael ei gynnwys yng nghamau cynnar y broses o lunio polisïau er mwyn sicrhau nad yw polisïau newydd yn cynyddu’r rhwystrau rhag trawsnewid digidol, a bydd timau cyflawni llywodraeth leol yn cael eu cynnwys drwy gydol y broses i gefnogi cynigion polisi newydd.

Asesiadau effaith integredig

  • Mae Asesiadau Effaith Integredig, a ddatblygir ar y cyd, yn ffordd dda o sicrhau bod yr holl themâu ac egwyddorion sylfaenol yn cael eu hystyried. Bydd hyn yn cynnwys ‘prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad’. Cynhelir asesiadau effaith integredig mewn ffyrdd sy’n gymesur â’r materion dan sylw.

Pennod 7: adolygu, gwerthuso a datblygu’r Cytundeb

Y dechrau, nid y diwedd, yw llofnodi’r Cytundeb. Bydd y Cytundeb yn ddogfen sy’n esblygu a bydd yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn drwy’r mecanweithiau ymgysylltu presennol i sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni ei fwriadau ac i asesu statws y berthynas.

Rhan 2: sut y bydd y Cytundeb hwn yn gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru

Pwrpas

  • Mae Rhan Dau y Cytundeb hwn yn dangos y gwahaniaeth y bydd gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn ei wneud i fywydau’r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Bydd y ffordd hon o weithio yn ein galluogi i gyflymu, gan fynd ymhellach ac yn gyflymach gyda’n huchelgeisiau cyffredin.
  • Cytunwyd ar yr uchelgeisiau cyffredin hyn fel meysydd ffocws cychwynnol ac maent wedi’u cynllunio i ddangos newid sylfaenol ac ystyrlon. Bydd ein cynnydd yn erbyn y canlyniadau hyn yn cael ei fonitro ar y cyd.
  • Fel gyda Rhan Un, nid y diwedd yw hyn, ond y dechrau. Gellir cynnwys meysydd ffocws newydd ac adnewyddu a diwygio’r Cytundeb drwy gytundeb ar y cyd.
  • Byddwn yn cymhwyso’r ffyrdd newydd o weithio, yr egwyddorion a’r cydymrwymiadau fel y nodir yn Rhan Un, gan gynnwys mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, i bopeth a wnawn gyda’n gilydd, gan gynnwys yr uchelgeisiau cyffredin canlynol.
  • Byddwn yn datblygu cyd-ddealltwriaeth o sut mae ein camau gweithredu unigol ac ar y cyd yn cyfrannu at y canlyniadau ac yn datblygu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ddeall cyflymder a graddfa’r cynnydd.

Ein huchelgeisiau cyffredin

Addysg 

Cyrhaeddiad dysgwyr 
  • Gyda’n gilydd, byddwn yn gwella cyrhaeddiad dysgwyr ym meysydd llythrennedd a rhifedd. Mae dysgu llwyddiannus yn seiliedig ar bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol ac iechyd meddwl a llesiant meddyliol cryf.
Gwella
  • Bydd arweinyddiaeth awdurdodau lleol yn cefnogi ysgolion yn eu hymdrechion i wella a bydd arweinyddiaeth genedlaethol yn sicrhau cysondeb a chydlyniant ar draws y system.
  • Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu manylion mwy penodol a mesuradwy fel sail i’r targedau cenedlaethol isod.
Presenoldeb
  • Fel rhagofyniad ar gyfer gwella dysgu, byddwn yn canolbwyntio ar gael presenoldeb yn ôl i’r lefelau yr oedd cyn y pandemig a lleihau’r bwlch rhwng y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion.
PISA 2025
  • Byddwn yn dangos gwelliannau yn sgoriau darllen a mathemateg Cymru (o’u cymharu â 2022).
Asesiadau personol
  • Bydd ein hadroddiad cenedlaethol blynyddol yn dangos patrymau cyrhaeddiad gwell o ran darllen a rhifedd, ynghyd â llwybr clir yn ôl i’r lefelau yr oeddent cyn y pandemig.
  • Byddwn yn datblygu disgwyliadau mwy eglur sy’n gysylltiedig ag oedran ar gyfer dysgu a gefnogir gan y fframwaith asesiadau personol i gefnogi ein dealltwriaeth o lle mae dysgwyr arni a sut i’w helpu i wneud cynnydd.
PIRLS and TIMSS
  • Mae cyfranogiad yn PIRLS 2026 a TIMSS 2027 gan ysgolion a samplwyd yn cefnogi ein sylfaen dystiolaeth genedlaethol.
Ysgolion sy’n peri pryder
  • Byddwn yn gweithio tuag at leihau nifer yr ysgolion sydd mewn categorïau gwella statudol, ac at weld llai o ysgolion yn symud i’r categorïau hyn. Yn ogystal â hyn, rydym am weld gostyngiad yn yr amser y mae ysgolion yn aros yn y categorïau gwella statudol.

Gofal cymdeithasol 

Plant sy’n derbyn gofal
  • Gwella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sydd ar gyrion gofal drwy drawsnewid y ffordd yr ydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gyda gweledigaeth glir ar gyfer sut y bydd y rhain yn edrych yn y dyfodol.
Llwybrau gofal
  • Cefnogi Llwybrau Gofal effeithiol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i fyw’n dda yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain drwy ddarparu ymyriadau cynnar, datrysiadau cymunedol a chymorth mewn argyfwng; osgoi derbyniadau; a helpu i ryddhau’n amserol. Mae gweithio fel hyn yn cydnabod bod cefnogi pobl i fyw'n dda yn bwysig ynddo'i hun ac mae hefyd yn tynnu sylw at ein hymrwymiad a'n cyfraniad at osgoi derbyniadau ac at leihau oedi mewn llwybrau gofal.

Trafnidiaeth 

Trafnidiaeth 
  • Gyda’n gilydd, byddwn yn gwneud trafnidiaeth yng Nghymru yn fwy hygyrch a chynhwysol, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy effeithlon.
Moderneiddio grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru 
  • Gwneud y cyllid yn symlach, yn llai biwrocrataidd ac yn addas i’r diben ar gyfer cyflawni cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol drwy greu un ffrwd gyllido yn barod ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Y Bil Bysiau
  • Meithrin dulliau partneriaeth Trafnidiaeth Cymru / Cyd-bwyllgorau Corfforedig / llywodraeth leol o ddatblygu rhwydweithiau er mwyn sicrhau cynnydd da o ran masnachfreinio.
Teithio gan ddysgwyr
  • Gosod y camau nesaf yn seiliedig ar ganlyniadau’r uwchgynhadledd, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cynnal a chadw priffyrdd 
  • Gwneud cynnydd gyda’r Gronfa Atal Tyllau ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a Menter Benthyca Llywodraeth Leol ar gyfer rhwydwaith y siroedd, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer cydweithio/caffael.
Strwythurau 
  • Cydweithio i ystyried menter benthyca ar y cyd sy’n canolbwyntio ar uwchraddio strwythurau ar draws rhwydweithiau priffyrdd a’r rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys gwydnwch yn wyneb newid hinsawdd a’r cynnydd yn amlder digwyddiadau tywydd eithafol.
Rhaglen ar gyfer y Llywodraeth nesaf 
  • Cynnal ymgysylltiad ar flaenoriaethau trafnidiaeth priodol ar gyfer tymor y Llywodraeth newydd.

Tai 

Cartrefi fforddiadwy
  • Cynyddu nifer ac ansawdd y cartrefi fforddiadwy i’w rhentu yn y sector cymdeithasol drwy adeiladu o’r newydd, caffael, prydlesu ac ailfodelu.
Rhoi diwedd ar ddigartrefedd
  • Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru drwy ddiwygio gwasanaethau digartrefedd i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym.
Cartrefi cymdeithasol i’w rhentu
  • Darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol i’w rhentu yn ystod tymor y Senedd hon. O’r rhain, bydd cartrefi sy’n cael eu hariannu drwy’r Grant Tai Cymdeithasol o 2021 ymlaen yn rhai carbon isel sy’n bodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021.
Cynyddu’r gallu i ddatblygu ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth
  • Gweithio i gynyddu capasiti datblygu ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector, gan gynnwys gyda datblygwyr y farchnad, er mwyn cynyddu cynhyrchiant a gwydnwch yn y sector adeiladu tai.
Gwella perfformiad cartrefi newydd a chartrefi sy’n bodoli eisoes
  • Gweithio gyda’n gilydd i wella perfformiad cartrefi newydd a chartrefi sy’n bodoli eisoes drwy groesawu datblygiadau arloesol, Dulliau Adeiladu Modern a gweithredu Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (SATC23).
Achosion o droi pobl allan
  • Lleihau nifer y bobl sy’n cael eu troi allan, a rhoi diwedd ar droi allan i ddigartrefedd.
Alinio timau
  • Alinio ar draws gwaith timau strategaeth tai, timau datblygu a thimau dyrannu tai yn yr awdurdodau lleol i sicrhau bod y gwaith o ddyrannu tai cymdeithasol yn diwallu anghenion y boblogaeth leol gan gynnwys y rhai mewn tai dros dro ac ansicr.
Buddsoddi mewn gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai 
  • Cynnal ymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai i sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth briodol i lwyddo mewn tenantiaethau ac i’w cynnal.
Arweinyddiaeth system
  • Darparu arweinyddiaeth system i sicrhau cysylltiadau cryf a gweithio mewn partneriaeth agos â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a datblygwyr y farchnad i gyflawni ar gyfer yr angen lleol - dylai hyn gynnwys cyfathrebu rheolaidd, cydweithio agosach a chynllunio ar y cyd.

Yr economi 

Twf cynaliadwy
  • Gyda’n gilydd, byddwn yn helpu i greu’r amodau ar gyfer twf a swyddi cynaliadwy, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhanbarthol a rhyngranbarthol sy’n seiliedig ar leoedd.
Creu cydlyniaeth
  • Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod polisïau, cyllid a phenderfyniadau i gefnogi twf cynaliadwy a theg yn gydlynol, gyda rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer cyrff a llywodraethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, gan gynnwys cymryd camau i fynd i’r afael â’r Argyfyngau Hinsawdd a Natur

Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
  • Byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol i hyrwyddo dulliau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae adnoddau naturiol yn cynnwys natur, tir, dŵr ac aer. Bydd dull cydweithredol yn helpu i fynd i’r afael â’r galw cynyddol ar ein hadnoddau naturiol ac yn sicrhau ecosystemau iach, gwydn a chynhyrchiol ar gyfer y dyfodol, ar yr un pryd â diwallu’r heriau o ran creu swyddi, tai a seilwaith.
Yr argyfwng hinsawdd
  • Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd er mwyn creu dyfodol tecach a mwy diogel a sicrhau swyddi gwyrdd.
  • Byddwn yn parhau i gefnogi cynghorau yn eu hymdrechion i gyfrannu at y nod cyffredinol o sector cyhoeddus ‘sero net’ erbyn 2030. Bydd y targed Cymru gyfan o gyflawni sero net erbyn 2050 yn gofyn am waith ar y cyd â diwydiant, cymunedau a’r sector ynni.
  • Bydd dull o weithredu mewn partneriaeth yn helpu i sicrhau newidiadau angenrheidiol mewn seilwaith (gan gynnwys datgarboneiddio ynni, rhwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy, rheoli dŵr a chynlluniau draenio cynaliadwy), polisïau ac ymddygiadau (ee teithio llesol, lleihau gwastraff a deiet) a fydd yn hanfodol os ydym am wneud cynnydd.
Economi gylchol
  • Byddwn yn adeiladu ar gydweithio llwyddiannus ym maes ailgylchu i annog mwy o ailddefnyddio ac atgyweirio, er mwyn adeiladu’r economi gylchol.

Iechyd, llesiant a gwydnwch

  • Byddwn yn gwella iechyd, llesiant a gwydnwch ein cymunedau drwy leihau gwastraff a llygredd, a defnyddio rheoliadau i sbarduno arloesedd, creu marchnadoedd a chadw pobl yn ddiogel. Byddwn hefyd yn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu yn sgil effeithiau disgwyliedig newid hinsawdd, fel tywydd garw a risg uwch o lifogydd, tirlithriadau, clefydau a phlâu.

Yr argyfwng natur

  • Byddwn yn cymryd camau i ddiogelu ac adfer byd natur a chysylltu pobl â byd natur. Bydd hyn yn gofyn am ymdrechion ar y cyd a newid arferion ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol (ee mewn perthynas â rheoli tir a dynodi, darparu a diogelu mannau gwyrdd, defnyddio plaladdwyr ac amodau cynllunio).