Y Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Chynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach): blwyddyn academaidd 2025 i 2026 (SFWIN 04/2025)
Yn rhoi manylion y cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion y cynlluniau grant addysg bellach canlynol, sy'n seiliedig ar incwm, ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026:
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).
- Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (GDLlC(AB)).
Mae'r cynlluniau ar gael i'w gweld ar y dudalen cyllid i fyfyrwyr.
Sicrhewch fod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei ddosbarthu i bob un o’r staff a’r cydweithwyr sy'n helpu i weinyddu'r cynlluniau.
Gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut i wneud cais
Mae gwasanaeth ymgeisio Cyllid Myfyrwyr Cymru ar agor ar gyfer LCA a GDLlC (AB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026
Sut i wneud cais: myfyrwyr newydd
Gall myfyrwyr newydd wneud cais ar-lein drwy greu cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Fel arall, gall myfyrwyr newydd gasglu ffurflen bapur o'u hysgol (LCA yn unig) neu o'u coleg (LCA a GDLlC (AB)), neu lawrlwytho un i'w hargraffu o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru ond yn gallu penderfynu ar gymhwystra a hawlogaeth ar ôl iddynt dderbyn ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn, gyda thystiolaeth ategol briodol. I gael gwybodaeth a chyngor cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.
Sut i wneud cais: myfyrwyr sy'n dychwelyd
Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gyflwyno cais papur neu gais electronig ar-lein. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ysgrifennu at fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn ystod gwanwyn 2025 i roi gwybod iddynt am y camau nesaf i'w dilyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Trothwyon incwm aelwydydd sy'n gymwys i gael LCA
Mae trothwyon incwm aelwydydd sy'n gymwys i gael LCA wedi’u cynyddu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026. Mae'r trothwyon incwm newydd ar gyfer aelwydydd yn dilyn argymhelliad yn adroddiad yr adolygiad annibynnol o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024.
Trothwyon incwm LCA yn y flwyddyn academaidd 2024 i 2025:
- £20,817 – aelwydydd ag un plentyn dibynnol.
- £23,077 – aelwydydd â dau neu fwy o blant dibynnol.
Trothwyon incwm LCA yn y flwyddyn academaidd 2025 i 2026:
- £23,400 – aelwydydd ag un plentyn dibynnol.
- £25,974 – aelwydydd â dau neu fwy o blant dibynnol.
Mae'r ffurflen gais LCA ar-lein a phapur a'r nodiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn dangos y trothwyon incwm newydd. Dim ond myfyrwyr newydd neu fyfyrwyr sy'n parhau â'u cwrs ac sy'n gwneud cais am LCA am y tro cyntaf a ddylai lenwi ffurflen 2025 i 2026.
Os yw canolfannau dysgu'n ymwybodol o unrhyw fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais am LCA eto yn y flwyddyn academaidd gyfredol, sicrhewch eu bod yn llenwi ffurflen 2024 i 2025 a'i chyflwyno i Cyllid Myfyrwyr Cymru cyn 31 Awst 2025. Ni fydd ceisiadau am LCA sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu derbyn ar gyfer 2024 i 2025.
Lefelau grant GDLlC (AB)
Mae grantiau GDLlC (AB) wedi'u cynyddu ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n astudio ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Lefelau grant ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025:
Grant llawnamser
- Grant o £1,500 - incwm aelwyd o hyd at £6,120.
- Grant o £750 - incwm aelwyd o £6,121 i £12,235.
- Grant o £450 - incwm aelwyd o £12,236 i £18,370.
- Dim grant - incwm aelwyd o £18,371 ac uwch.
Grant rhan-amser
- Grant o £750 - incwm aelwyd o hyd at £6,120.
- Grant o £450 - incwm aelwyd o £6,121 i £12,235.
- Grant o £300 - incwm aelwyd o £12,236 i £18,370.
- Dim grant - incwm aelwyd o £18,371 ac uwch.
Lefelau grant ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026:
Grant llawnamser
- Grant o £1,919 - incwm aelwyd o hyd at £6,120.
- Grant o £959 - incwm aelwyd £6,121 i £12,235.
- Grant o £576 - incwm aelwyd o £12,236 i £18,370.
- Dim grant - incwm aelwyd o £18,371 ac uwch.
Grant rhan-amser
- Grant o £959 - incwm aelwyd o hyd at £6,120.
- Grant o £576 - incwm aelwyd o £6,121 i £12,235.
- Grant o £384 - incwm aelwyd o £12,236 i £18,370.
- Dim grant - incwm aelwyd o £18,371 ac uwch.
Mae'r cais ar-lein a'r ffurflen i'w lawrlwytho ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn darparu manylion am y lefelau grant newydd.
Ni fydd y ffurflenni papur yn cael eu hailargraffu gyda'r lefelau grant newydd; fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi cymorth y canolfannau dysgu i gyfathrebu'r newidiadau i fyfyrwyr cymwys.
Meini prawf cymhwystra: personau cymwys
Mae'r newidiadau canlynol o ran personau cymwys yn sicrhau meini prawf cyson ar gyfer y trefniadau cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch.
Gwladolion Wcráin: Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 mae Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin wedi'i gynnwys yn y cynlluniau addysg bellach i sicrhau bod y cymorth a'r meini prawf cymhwystra yn parhau i fod yn gyson.
Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ei bod yn cyflwyno 'Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin' sy'n caniatáu 18 mis yn ychwanegol i'r rhai a gafodd ganiatâd yn flaenorol i aros yn y DU o dan Gynllun Wcráin.
Bydd angen i fyfyrwyr wirio pryd mae eu caniatâd cyfredol yn dod i ben cyn gwneud cais i Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin.
Personau sy'n cael statws preswylydd sefydlog yn y DU yn ystod blwyddyn academaidd
Mewn rhai amgylchiadau gall person ddod yn gymwys i gael cymorth yn ystod y flwyddyn academaidd, a gelwir hyn yn ddigwyddiad. Mae'r ddarpariaeth yn y cynlluniau addysg bellach wedi'i hymestyn i gynnwys person sy'n ymgartrefu yn y DU yn ystod blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Ymholiadau
Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru .
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn anfonwch e-bost i Is-adran Strategaeth a Chyllid Llywodraeth Cymru.
Gallwch ofyn am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
