Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion y cynlluniau grant addysg bellach canlynol, sy'n seiliedig ar incwm, ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026:

  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).
  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (GDLlC(AB)). 

Mae'r cynlluniau ar gael i'w gweld ar y dudalen cyllid i fyfyrwyr.

Sicrhewch fod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei ddosbarthu i bob un o’r staff a’r cydweithwyr sy'n helpu i weinyddu'r cynlluniau.

Gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut i wneud cais

Mae gwasanaeth ymgeisio Cyllid Myfyrwyr Cymru ar agor ar gyfer LCA a GDLlC (AB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 

Sut i wneud cais: myfyrwyr newydd

Gall myfyrwyr newydd wneud cais ar-lein drwy greu cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Fel arall, gall myfyrwyr newydd gasglu ffurflen bapur o'u hysgol (LCA yn unig) neu o'u coleg (LCA a GDLlC (AB)), neu lawrlwytho un i'w hargraffu o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru ond yn gallu penderfynu ar gymhwystra a hawlogaeth ar ôl iddynt dderbyn ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn, gyda thystiolaeth ategol briodol. I gael gwybodaeth a chyngor cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.

Sut i wneud cais: myfyrwyr sy'n dychwelyd

Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gyflwyno cais papur neu gais electronig ar-lein. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ysgrifennu at fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn ystod gwanwyn 2025 i roi gwybod iddynt am y camau nesaf i'w dilyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Trothwyon incwm aelwydydd sy'n gymwys i gael LCA

Mae trothwyon incwm aelwydydd sy'n gymwys i gael LCA wedi’u cynyddu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026. Mae'r trothwyon incwm newydd ar gyfer aelwydydd yn dilyn argymhelliad yn adroddiad yr adolygiad annibynnol o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024.

Trothwyon incwm LCA yn y flwyddyn academaidd 2024 i 2025:

  • £20,817 – aelwydydd ag un plentyn dibynnol.
  • £23,077 – aelwydydd â dau neu fwy o blant dibynnol.

Trothwyon incwm LCA yn y flwyddyn academaidd 2025 i 2026:

  • £23,400 – aelwydydd ag un plentyn dibynnol.
  • £25,974 – aelwydydd â dau neu fwy o blant dibynnol.

Mae'r ffurflen gais LCA ar-lein a phapur a'r nodiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn dangos y trothwyon incwm newydd. Dim ond myfyrwyr newydd neu fyfyrwyr sy'n parhau â'u cwrs ac sy'n gwneud cais am LCA am y tro cyntaf a ddylai lenwi ffurflen 2025 i 2026.

Os yw canolfannau dysgu'n ymwybodol o unrhyw fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais am LCA eto yn y flwyddyn academaidd gyfredol, sicrhewch eu bod yn llenwi ffurflen 2024 i 2025 a'i chyflwyno i Cyllid Myfyrwyr Cymru cyn 31 Awst 2025. Ni fydd ceisiadau am LCA sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu derbyn ar gyfer 2024 i 2025.

Lefelau grant GDLlC (AB)

Mae grantiau GDLlC (AB) wedi'u cynyddu ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n astudio ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Lefelau grant ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025:

Grant llawnamser

  • Grant o £1,500 - incwm aelwyd o hyd at £6,120.
  • Grant o £750 - incwm aelwyd o £6,121 i £12,235.
  • Grant o £450 - incwm aelwyd o £12,236 i £18,370.
  • Dim grant - incwm aelwyd o £18,371 ac uwch.

Grant rhan-amser

  • Grant o £750 - incwm aelwyd o hyd at £6,120.
  • Grant o £450 - incwm aelwyd o £6,121 i £12,235.
  • Grant o £300 - incwm aelwyd o £12,236 i £18,370.
  • Dim grant - incwm aelwyd o £18,371 ac uwch.

Lefelau grant ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026:

Grant llawnamser 

  • Grant o £1,919 - incwm aelwyd o hyd at £6,120.
  • Grant o £959 - incwm aelwyd £6,121 i £12,235.
  • Grant o £576 - incwm aelwyd o £12,236 i £18,370.
  • Dim grant - incwm aelwyd o £18,371 ac uwch.

Grant rhan-amser 

  • Grant o £959 - incwm aelwyd o hyd at £6,120.
  • Grant o £576 - incwm aelwyd o £6,121 i £12,235.
  • Grant o £384 - incwm aelwyd o £12,236 i £18,370.
  • Dim grant - incwm aelwyd o £18,371 ac uwch.

Mae'r cais ar-lein a'r ffurflen i'w lawrlwytho ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn darparu manylion am y lefelau grant newydd. 

Ni fydd y ffurflenni papur yn cael eu hailargraffu gyda'r lefelau grant newydd; fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi cymorth y canolfannau dysgu i gyfathrebu'r newidiadau i fyfyrwyr cymwys.

Meini prawf cymhwystra: personau cymwys

Mae'r newidiadau canlynol o ran personau cymwys yn sicrhau meini prawf cyson ar gyfer y trefniadau cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch. 

Gwladolion Wcráin: Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 mae Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin wedi'i gynnwys yn y cynlluniau addysg bellach i sicrhau bod y cymorth a'r meini prawf cymhwystra yn parhau i fod yn gyson. 

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ei bod yn cyflwyno 'Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin' sy'n caniatáu 18 mis yn ychwanegol i'r rhai a gafodd ganiatâd yn flaenorol i aros yn y DU o dan Gynllun Wcráin. 

Bydd angen i fyfyrwyr wirio pryd mae eu caniatâd cyfredol yn dod i ben cyn gwneud cais i Gynllun Estyn Caniatâd Wcráin.

Personau sy'n cael statws preswylydd sefydlog yn y DU yn ystod blwyddyn academaidd

Mewn rhai amgylchiadau gall person ddod yn gymwys i gael cymorth yn ystod y flwyddyn academaidd, a gelwir hyn yn ddigwyddiad. Mae'r ddarpariaeth yn y cynlluniau addysg bellach wedi'i hymestyn i gynnwys person sy'n ymgartrefu yn y DU yn ystod blwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Ymholiadau

Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru .

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn anfonwch e-bost i Is-adran Strategaeth a Chyllid Llywodraeth Cymru. 

Gallwch ofyn am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill. 

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.