Perfformiad y GIG ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol Cymru: Mehefin 2025
Adroddiad yn rhoi crynodeb o berfformiad y GIG ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol Cymru, yn cwmpasu amseroedd aros adrannau achosion brys a gofal wedi'i gynllunio, ac ymateb ambiwlansys ar gyfer Mehefin 2025.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r datganiad ystadegol chwarterol hwn yn rhoi crynodeb o ddata perfformiad y GIG ar gyfer byrddau iechyd lleol unigol. Caiff dadansoddiad misol ar gyfer Cymru gyfan ei gyhoeddi yn y crynodeb o Weithgarwch a Pherfformiad y GIG sy’n gysylltiedig. Mae data misol manwl ar gyfer byrddau iechyd lleol hefyd ar gael ar StatsCymru.
Cyflwynir y dadansoddiadau yma ar gyfer pob bwrdd iechyd yn seiliedig ar dargedau perfformiad sefydledig Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb ambiwlansys, adrannau achosion brys, apwyntiadau cleifion allanol, diagnosteg a therapïau, amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) a gwasanaethau canser. Gallwch lywio i fyrddau iechyd penodol gan ddefnyddio'r hyperddolenni adran yng nghornel chwith uchaf yr adroddiad hwn.
Mae data yn yr adroddiad hwn wedi cael ei ddarparu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill.
Prif bwyntiau
O’r mesurau yn yr adroddiad hwn, nid oes gan Fae Abertawe a Phowys lwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd ac nid oes dim achosion o aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.
Mae gan Hywel Dda ac Aneurin Bevan lai nag 1% o lwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd ac mae gan Hywel Dda hefyd lai nag 1% o lwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae gan Bowys, Bae Abertawe ac Aneurin Bevan lai nag 1% o lwybrau therapïau yn aros yn hirach na’r targed o 14 wythnos.
O ran galwadau brys am ambiwlans neu alwadau ‘coch’, Aneurin Bevan oedd â'r gyfran uchaf o ymatebion o fewn 8 munud ym mis Mai, sef 53.7%. Powys oedd â’r isaf, sef 46.0%.
O ran adrannau achosion brys, Aneurin Bevan oedd â’r gyfran uchaf o gleifion a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn y targed amser o 4 awr, sef 78.5%, a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran isaf, sef 59.8%.
Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf yn aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys, ar 6.8%, a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (16.9%).
Powys oedd â’r gyfran isaf o lwybrau RTT a oedd yn aros mwy na blwyddyn ym mis Ebrill (0.1% o lwybrau), a Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf (27.0% o lwybrau).
Nid oes gan Fae Abertawe na Phowys lwybrau RTT sy’n aros mwy na dwy flynedd, ac mae cyfran y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd yn Hywel Dda ac Aneurin Bevan yn 0.2%. Betsi Cadwaladr oedd â’r gyfran uchaf yn aros mwy na dwy flynedd (3.1%).
Ar gyfer apwyntiadau cyntaf fel claf allanol, ym Mae Abertawe a Phowys oedd y gyfran isaf a oedd yn aros mwy na blwyddyn (dim un llwybr). Dim ond 0.1% sydd gan Hywel Dda. Betsi Cadwaladr oedd â’r nifer uchaf o gleifion yn aros mwy na blwyddyn (27.7% o lwybrau).
Ar hyn o bryd Aneurin Bevan sydd â’r gyfran isaf o arosiadau diagnostig sy’n fwy na’r amser targed o 8 wythnos (7.4%). Caerdydd a’r Fro sydd â’r gyfradd uchaf (57.6% o lwybrau).
Ar gyfer therapïau, Bae Abertawe sydd â’r gyfran isaf ar hyn o bryd yn aros yn hirach na’r targed o 14 wythnos (sef 0.1%), ac mae gan Bowys ac Aneurin Bevan ill dau 0.2% a 0.5% yn y drefn honno. Hywel Dda sydd â’r gyfradd uchaf (20.7% o lwybrau).
O ran gwasanaethau canser, Aneurin Bevan sydd â’r gyfran uchaf o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r pwynt amheuaeth (65.3%), a Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfran isaf (53.5%).
Aneurin Bevan
Ffigur 1: Crynodeb o berfformiad Aneurin Bevan hyd at fis Ebrill 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]
Disgrifiad o Ffigur 1: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau brys (DHCW), Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi (DHCW), Amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth (DHCW), Llwybr Lle’r Amheuir Canser (DHCW)
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.
[Nodyn 3]: Daeth data niwroffisioleg ar gyfer Aneurin Bevan ar gael ym mis Mehefin 2023, gan ychwanegu tua 1,000 o lwybrau nad oeddent wedi cael eu hadrodd o’r blaen. Darparwyd gwasanaethau diagnosteg niwroffisioleg gan Aneurin Bevan cyn mis Mehefin 2023, ond nid yw’r data hynny ar gael. Mae hyn yn effeithio ar gymharedd data diagnostig ar gyfer Aneurin Bevan a Chymru dros amser.
[Nodyn 4]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2025
Ymatebwyd i 53.7% o alwadau ambiwlans ‘coch’ o fewn 8 munud. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd 78.5% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.
Arhosodd 6.8% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn wedi bod yn gyfnewidiol dros y blynyddoedd diwethaf.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2025
Roedd 7.4% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19, ond mae’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd 0.5% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r ganran wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ac mae wedi setlo rhwng 0 a 10%.
Roedd 17.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 0.2% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Dechreuodd y niferoedd ostwng ddechrau 2022 ac maent wedi sefydlogi ers dechrau 2023.
Roedd 15.0% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, dechreuodd y niferoedd gynyddu eto yng nghanol 2023.
Roedd 65.3% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r perfformiad wedi amrywio dros amser.
Crynodeb
Ym mis Mai, perfformiodd Aneurin Bevan yn well na chyfartaledd Cymru gyfan ar gyfer galwadau ambiwlans ‘coch’, ac yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer canran y cleifion mewn adrannau achosion brys a dderbyniwyd, a drosglwyddwyd neu a ryddhawyd o fewn 4 awr a 12 awr.
Ar hyn o bryd, mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, therapïau ac amseroedd aros am driniaeth canser. Ar gyfer rhestrau aros RTT, mae perfformiad yn well na chyfartaledd Cymru gyfan ac ar gyfer amseroedd aros am apwyntiadau cyntaf fel claf allanol, mae’r perfformiad yn debyg i gyfartaledd Cymru.
Betsi Cadwaladr
Ffigur 2: Crynodeb o berfformiad Betsi Cadwaladr hyd at fis Ebrill 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]
Disgrifiad o Ffigur 2: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Betsi Cadwaladr o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.
[Nodyn 3]: Ym mis Ebrill 2020, ni wnaeth Betsi Cadwaladr gyflwyno unrhyw ddata ar gyfer therapïau. Darllenwch yr wybodaeth am ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.
[Nodyn 4]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2025
Ymatebwyd i 50.0% o alwadau ambiwlans ‘coch’ o fewn 8 munud. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd 59.8% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.
Arhosodd 16.9% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Gofal wedi'i drefnu ym mis Ebrill 2025
Roedd 45.0% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19, ond mae’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd 6.4% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn wedi bod yn gyfnewidiol ers dechrau’r pandemig.
Roedd 27.0% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 3.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Er gwaethaf gostyngiad yn gynnar yn 2022, mae’r niferoedd wedi sefydlogi ers canol 2023.
Roedd 27.7% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er bod y niferoedd wedi bod yn gostwng o ddechrau 2021 ymlaen, maent wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 53.5% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae’r duedd hirdymor ar i lawr yn gyffredinol.
Crynodeb
O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Betsi Cadwaladr yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 a 12 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, ac yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer therapïau. Mae’r perfformiad yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros RTT, amseroedd aros am driniaeth canser, a’r amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol.
Caerdydd a'r Fro
Ffigur 3: Crynodeb o berfformiad Caerdydd a’r Fro hyd at fis Ebrill 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]
Disgrifiad o Ffigur 3: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Caerdydd a’r Fro o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.
[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2025
Ymatebwyd i 49.5% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd 64.0% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.
Arhosodd 7.8% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae tuedd ar i lawr wedi bod mewn perfformiad ers canol 2023.
Gofal wedi'i drefnu ym mis Ebrill 2025
Roedd 57.6% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r niferoedd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd 4.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ond maent yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd 22.0% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae’r niferoedd wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 1.2% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd ac mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
Roedd 19.5% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 59.5% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed.
Crynodeb
O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Caerdydd a’r Fro yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn well na chyfartaledd Cymru.
Ar hyn o bryd, mae perfformiad Caerdydd a’r Fro yn waeth na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn well ar gyfer therapïau, ac yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn debyg i’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau fel cleifion allanol.
Cwm Taf Morgannwg
Ffigur 4: Crynodeb o berfformiad Cwm Taf Morgannwg hyd at fis Ebrill 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]
Disgrifiad o Ffigur 4: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Cwm Taf Morgannwg o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.
[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2025
Ymatebwyd i 49.2% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Yn gyffredinol, mae’r perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd 61.3% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae’r duedd wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.
Arhosodd 10.7% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Yn ddiweddar, mae hyn wedi gostwng yn gyffredinol.
Gofal wedi'i drefnu ym mis Ebrill 2025
Roedd 19.8% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ond maent yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd 1.5% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ac maent wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd 22.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau 2021 ond maent wedi codi’n ddiweddar.
Roedd 1.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau 2022.
Roedd 19.5% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er gwaethaf y gostyngiad yn gynnar yn 2021, mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dechreuodd 62.7% o lwybrau canser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, ac mae’r perfformiad wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Crynodeb
O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Cwm Taf Morgannwg yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, tra bod y ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru.
Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yng Nghwm Taf Morgannwg yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig a therapïau, ac yn debyg i ffigurau Cymru gyfan ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn debyg i’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn waeth na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau fel cleifion allanol.
Hywel Dda
Ffigur 5: Crynodeb o berfformiad Hywel Dda hyd at fis Ebrill 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]
Disgrifiad o Ffigur 5: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Hywel Dda o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.
[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2025
Ymatebwyd i 48.6% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Mae'r perfformiad wedi bod yn gyfnewidiol dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd 72.9% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Mae rhywfaint o ostyngiad wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.
Arhosodd 7.8% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Yn gyffredinol, mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Gofal wedi'i drefnu ym mis Ebrill 2025
Roedd 26.4% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi gostwng ers y lefel uchaf yn 2020, ond mae’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd 20.7% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn yn is na’r lefel uchaf yn 2020 ond mae wedi bod yn codi’n gyffredinol ers canol 2021.
Roedd 13.6% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Er gwaethaf y ffaith bod y niferoedd wedi gostwng erbyn 2023, maen nhw wedi sefydlogi ers hynny.
Roedd 0.2% o lwybrau RTT yn aros mwy na 2 flynedd. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.
Roedd 0.1% o lwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Er gwaethaf y gostyngiad yng nghanol 2022, mae'r niferoedd wedi sefydlogi’n gyffredinol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 62.4% o lwybrau canser wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed. Mae hyn wedi bod yn gyfnewidiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf heb unrhyw duedd amlwg.
Crynodeb
O ran amseroedd ymateb ambiwlansys i alwadau ‘coch’, mae perfformiad Hywel Dda yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn well na chyfartaledd Cymru, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn well na chyfartaledd Cymru.
Ar hyn o bryd, mae’r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, yn waeth ar gyfer therapïau, ac yn well ar gyfer rhestrau aros RTT. Mae’r perfformiad yn debyg i’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer amseroedd aros am driniaeth canser, ac yn well na chyfartaledd Cymru ar gyfer amseroedd aros cyntaf am apwyntiadau fel cleifion allanol.
Powys
Ffigur 6: crynodeb o berfformiad hyd at fis Ebrill 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]
Disgrifiad o Ffigur 6: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd lleol Powys o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid bod yn ofalus wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.
[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2025
Ymatebwyd i 46.0% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Mae’r perfformiad wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2025
Roedd 12.9% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae’r niferoedd wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19 ond maent yn dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd 0.2% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae’r niferoedd wedi bod ar yr un lefelau â’r rhai cyn y pandemig ers cryn amser.
Roedd 0.1% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae’r niferoedd wedi bod ar yr un lefelau â’r rhai cyn y pandemig ers cryn amser.
Nid oes dim llwybrau’n aros mwy na 2 flynedd. Mae’r niferoedd wedi bod ar yr un lefelau â’r rhai cyn y pandemig ers cryn amser.
Nid oedd dim llwybrau’n aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r niferoedd wedi bod ar yr un lefelau â’r rhai cyn y pandemig ers cryn amser.
Crynodeb
Ar gyfer rhai mesurau, nid oedd modd cymharu Powys â’r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau sylweddol yn nifer a math y gwasanaethau a ddarperir ym Mhowys o’i gymharu â byrddau iechyd eraill. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n cymharu’n fras â byrddau iechyd eraill ar gyfer ymateb ambiwlansys, a llwybrau diagnosteg a therapi, ac amseroedd aros RTT. O ran amseroedd ymateb ambiwlansys i alwadau ‘coch’, mae perfformiad Powys yn waeth na chyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'r perfformiad yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig, therapïau a rhestrau aros RTT.
Bae Abertawe
Ffigur 7: Crynodeb o berfformiad Bae Abertawe hyd at fis Ebrill 2025 ar gyfer gofal wedi’i drefnu, a mis Mai 2025 ar gyfer gofal heb ei drefnu [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]
Disgrifiad o Ffigur 7: Cyfres o siartiau yn dangos perfformiad bwrdd iechyd Bae Abertawe o’i gymharu â Chymru ar gyfer mesurau dethol mewn gofal brys a gofal wedi’i gynllunio. Caiff y pwyntiau allweddol eu crynhoi yn yr adran naratif isod.
Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Set ddata adrannau achosion brys, DHCW, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi, DHCW, Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, DHCW, Llwybr Lle’r Amheuir Canser, DHCW
Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar StatsCymru
[Nodyn 1]: Mae echelinau canrannol y siartiau hyn ar raddfeydd gwahanol a dylid ystyried hyn wrth gymharu’r mesurau hyn.
[Nodyn 2]: Mae diweddaru’r arferion delio â galwadau ym mis Mai 2019 wedi arwain at wahaniaethau yn nifer y galwadau coch. Nid yw’n bosibl cymharu’n uniongyrchol cyn ac ar ôl y dyddiad hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr wybodaeth am ansawdd.
[Nodyn 3]: O fis Ebrill 2024 ymlaen, nid oedd llwybrau awdioleg a rheoli pwysau yn cael eu hadrodd yn y data therapïau mwyach, sy’n golygu nad oes modd eu cymharu â data hyd at fis Mawrth 2024.
Gofal heb ei drefnu ym mis Mai 2025
Ymatebwyd i 48.9% o alwadau ‘coch’ o fewn 8 munud. Mae’r perfformiad wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
Cafodd 64.3% o gleifion adrannau achosion brys eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr. Nid oes tuedd hirdymor amlwg o ran perfformiad.
Arhosodd 11.7% o gleifion fwy na 12 awr i gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn wedi gostwng yn ddiweddar ers y lefel uchaf ym mis Rhagfyr 2022.
Gofal wedi’i drefnu ym mis Ebrill 2025
Roedd 17.8% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am brofion diagnostig. Mae hyn wedi bod ar i lawr ers mis Mai 2020, ond mae’n dal yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig.
Roedd 0.1% o lwybrau’n aros dros yr amser targed am wasanaethau therapi. Mae hyn yn agos at y lefel cyn y pandemig ac mae wedi bod yn is na 10% dros y 2 flynedd diwethaf.
Roedd 13.3% o lwybrau RTT yn aros mwy na blwyddyn. Mae hyn wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
Nid oes dim llwybrau’n aros mwy na 2 flynedd. Mae’r niferoedd wedi bod yn gostwng ers dechrau 2022.
Ar hyn o bryd, does dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae hyn yn wir ers cryn amser.
Dechreuodd 59.7% o lwybrau canser eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed, heb unrhyw duedd hirdymor amlwg.
Crynodeb
O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae perfformiad Bae Abertawe yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd. Mae canran y cleifion mewn adrannau achosion brys sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr yn debyg i gyfartaledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r ganran sy’n aros mwy na 12 awr yn waeth na chyfartaledd Cymru.
Ar hyn o bryd mae perfformiad bwrdd iechyd Bae Abertawe yn well na ffigurau Cymru gyfan ar gyfer profion diagnostig a therapïau, rhestrau aros RTT ac amseroedd aros am apwyntiad cyntaf fel claf allanol. Mae’r perfformiad yn debyg i gyfartaledd Cymru o ran amseroedd aros am driniaeth canser.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Gellir dod o hyd i wybodaeth ansawdd a methodoleg bellach sy'n berthnasol i'r datganiad ystadegol hwn yn adroddiad ansawdd crynodeb gweithgarwch a pherfformiad y GIG.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ystadegau swyddogol achrededig yw’r rhain. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) ym mis Gorffennaf 2012. Maent yn cydymffurfio â’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir fel rhan o achrediad. Os byddwn yn dechrau pryderu ynghylch p’un a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.
Cyfeirir at Ystadegau swyddogol achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) fel Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) sy’n rheoleiddio ein hymarfer ystadegol. Mae’r Swyddfa’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Daw’r ystadegau hyn o amryw o ffynonellau sy’n deillio o systemau data gweinyddol a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Darperir data ar y gwasanaeth 111, galwadau ambiwlans 999 ac amseroedd ymateb ambiwlansys gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), a chesglir yr holl ffynonellau data eraill gan Fyrddau Iechyd Lleol Cymru a’u darparu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) er mwyn eu galluogi i gael eu casglu ar lefel genedlaethol.
Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) (DHCW), sef ceidwad y Broses Sicrwydd Safonau Gwybodaeth, sy’n goruchwylio’r casgliadau data. Mae’r Bwrdd yn mandadu casgliadau data drwy’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol, yn arfarnu safonau gwybodaeth ac yn rhoi sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a chydsyniad.
Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data a’r dulliau cymhwyso diweddaraf sydd ar gael, yn ogystal â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi.
Cyhoeddir yr ystadegau hyn ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad at y data wrth brosesu wedi'i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau’r ystadegau yn cael ei gyfyngu i dderbynyddion cymwys yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ansawdd
Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.
Sefydlir safonau a diffiniadau data gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Rhoddir arweiniad i’r sefydliadau sy’n darparu data, a darperir hyfforddiant i staff sy’n gyfrifol am gasglu’r data yn y tarddiad. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn casglu ac yn dilysu data ac mae’n gwneud ymholiadau’n uniongyrchol i’r byrddau iechyd ynghylch data afreolaidd a data sydd ar goll. Cyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddarparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, mae’r byrddau iechyd yn cymeradwyo’r holl ddata. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu setiau data wedi’u dilysu i Lywodraeth Cymru, lle mae dadansoddwyr yn prosesu’r data i gynhyrchu’r ystadegau cyfanredol yn y fformat sydd ei angen i’w cyhoeddi. Cyn eu cyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau dilysu terfynol a gallai gyflwyno ymholiadau yn eu cylch i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r byrddau iechyd. Mae uwch ystadegwyr yn llofnodi’r datganiad ystadegol cyn ei gyhoeddi.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw: darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi; rhoi gwybod i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ehangach am weithgarwch a pherfformiad GIG Cymru; galluogi darparwyr gwasanaethau fel Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fonitro eu perfformiad eu hunain.
Mae ystadegau dibynadwy ar faint y gweithgarwch a wneir yn y GIG, hyd rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros am driniaethau canser yn hanfodol i roi gwybod i ddefnyddwyr am gyflwr gwasanaethau’r GIG a pherfformiad Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion, a rhoddir cryn sylw i’r pynciau hyn yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol.
Mae’r wybodaeth a gyhoeddir yma hefyd yn cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol: Cymru Iachach.
Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy.
Mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost at regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Hoffem gael adborth gennych
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gellir anfon yr adborth drwy e-bost i’r cyfeiriad hwn ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Y diweddariad nesaf
18 Medi 2025
