Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990: Cyfarwyddyd Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2025
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan reoliad 12 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 , yn rhoi'r Cyfarwyddyd a ganlyn i reoleiddwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
1. Enwi, dod i rym a chymhwyso
(1) Enw’r Cyfarwyddyd hwn yw Cyfarwyddyd Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Cyfarwyddyd hwn i rym ar 20 Mehefin 2025.
2. Dehongli
Yn y Cyfarwyddyd hwn—
- mae i “allforiwr” yr ystyr a roddir i “exporter” yn rheoliad 2 o Reoliadau CTEG;
- ystyr “apêl" (“appeal") yw apêl o dan baragraff a grybwyllir ym mharagraff 32 (O.S. 2024/1324 (Cy. 233).) o'r Atodlen i Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024;
- mae i “cyfleuster trin awdurdodedig” yr ystyr a roddir i “authorised treatment facility” yn rheoliad 2 o Reoliadau CTEG;
- mae i “rheoleiddiwr” (“regulator”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024;
- ystyr “y Rheoliadau CTEG” (“the WEEE Regulations”) yw Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 (O.S. 2013/3113. Ceir diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Cyfarwyddyd hwn.);
- ystyr “sefydliad rheoli gwastraff” (“waste management organisation”) yw cyfleuster trin awdurdodedig, neu allforiwr;
- mae i “swyddog gorfodaeth” (“enforcement officer”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024.
3. Fêps untro i'w trin fel gwastraff
Rhaid i reoleiddwyr drin, fel gwastraff, fêps untro sy'n bodloni'r diffiniad a bennir yn rheoliad 12(2) o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024.
4. Gwaredu fêps untro
Rhaid i reoleiddwyr gymryd y camau a ganlyn mewn perthynas â'r fêps untro y cyfeirir atynt ym mharagraff 3, sy'n cael eu cadw gan swyddog gorfodi—
- i sicrhau eu bod yn cael eu hanfon at sefydliad rheoli gwastraff i'w gwaredu; a
- i sicrhau bod y sefydliad rheoli gwastraff sydd â'r dasg o waredu yn defnyddio'r technegau trin, adfer ac ailgylchu gorau sydd ar gael, yn unol â rheoliad 31 o Reoliadau CTEG.
5. Disbyddu hawliau i apelio
Ni chaiff rheoleiddwyr waredu fêps untro o dan baragraff 4 hyd nes y bydd unrhyw hawl i apelio a roddir mewn perthynas â'r drosedd o dan Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 wedi ei disbyddu, neu hyd nes y bydd y cyfnod ar gyfer dwyn yr apêl honno wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn.
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Un o Weinidogion Cymru
20 Mehefin 2025
