Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Comisiwn ymgynghori ar gyfer Asiant Cyflogwyr i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu camau nesaf cynllun gwelliannau Llandeilo a Ffairfach yr A483

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu comisiwn Asiant Cyflogwr i Arcadis Consulting (UK) Limited. 

Mae'r cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, yn ailddatgan ein hymrwymiad i barhau i weithio ar opsiynau i fwrw ymlaen â chynllun ffordd osgoi Llandeilo yr A483.

Yn 2024 cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yr opsiwn a ffefrir a chytunodd i gomisiynu ymgynghorwyr i ddatblygu cam nesaf y Prosiect.

Yn dilyn penodi’r Asiant Cyflogwr, bydd Llywodraeth Cymru nawr yn symud i gaffael contractwr i ddylunio, cwblhau'r achos busnes a drafftio gorchmynion mewn perthynas â'r cynllun.

Yn amodol ar gwblhau'r prosesau statudol yn llwyddiannus, a fydd yn debygol o gynnwys ymchwiliad lleol cyhoeddus, gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2029.