Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am wneud y gyfraith gynllunio'n symlach, yn gliriach ac yn haws i'w deall.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cefndir

Ar hyn o bryd mae'n anodd deall a llywio cyfraith gynllunio yng Nghymru. 

Mae'n seiliedig yn bennaf ar gyfreithiau a basiwyd gan Senedd y DU a luniwyd ddegawdau yn ôl ac sydd wedi cael eu newid yn sylweddol dros amser. Mae'r newidiadau hyn wedi gwneud deddfwriaeth yn dameidiog, yn gymhleth ac ar gael yn Saesneg yn unig yn bennaf.

Mae cyfraith gynllunio yng Nghymru yn wahanol i'r gyfraith yn Lloegr. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach i bobl wybod pa reolau sy'n berthnasol.

Gofynnon ni i Gomisiwn y Gyfraith adolygu cyfraith gynllunio Cymru. Canfu eu hadroddiad, Cyfraith Gynllunio yng Nghymru, fod angen gwaith brys ar y gyfraith i'w gwneud yn symlach ac yn fwy cyson. Fe wnaethom gyhoeddi ymateb interim ac ymateb manwl i'w hadroddiad.

Rydym yn gwybod ei bod yn bwysig i bawb sy'n defnyddio neu'n gweithio yn y system gynllunio ddeall yn glir y gyfraith sy'n berthnasol iddynt. Mae ein rhaglen Dyfodol Cyfraith Cymru yn anelu at dynnu y gyfraith gynllunio at ei gilydd a'i gwneud yn haws ei chanfod a'i defnyddio.

Diben y Bil

Mae'r Bil Cynllunio (Cymru) yn cydgrynhoi deddfwriaeth gynllunio yng Nghymru.

Mae cydgrynhoi:

  • yn dod â'r prif Ddeddfau cynllunio a rhywfaint o is-ddeddfwriaeth at ei gilydd
  • yn creu un Ddeddf ddwyieithog
  • yn moderneiddio strwythur a geiriad y gyfraith i'w gwneud hi'n haws ei deall a'i defnyddio.

Er y gall strwythur a mynegiant y gyfraith newid, bydd ei heffaith gyfreithiol yn aros yr un fath. Mae cydgrynhoi yn broses dechnegol i wella eglurder, nid i newid polisi neu ddiwygio cyfraith gynllunio.

Mae'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn helpu i weithredu'r prif Fil. Mae'n gwneud hyn drwy: 

  • ddarpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed
  • gwneud y diwygiadau a'r diddymiadau angenrheidiol i'r ddeddfwriaeth bresennol

Sut mae'r gwaith yn dod yn ei flaen

Cyflwynwyd y Bil Cynllunio (Cymru), y Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) a'r dogfennau cysylltiedig i'r Senedd ar gyfer craffu arnynt ar 15 Medi 2025.

Mae'r Biliau yn cael eu cefnogi gan femorandwm esboniadol. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Nodiadau Esboniadol: i helpu darllenwyr i ddeall y Biliau. Nid ydynt yn darparu disgrifiad llawn o bopeth y mae'r Biliau yn eu cynnwys.
  • Nodiadau drafftwyr: esbonio'r penderfyniadau a wnaed wrth ddrafftio'r ddeddfwriaeth.
  • Tablau tarddiad: esbonio ffynonellau deddfwriaethol y darpariaethau yn y Biliau.
  • Tablau Trawsleoli: esbonio lle mae darpariaethau yn y ddeddfwriaeth bresennol bellach yn y Biliau.

Yn dilyn y gwaith craffu manwl hwn, cymeradwyodd y Senedd y ddau Fil ar 10 Mawrth 2026.

Mae'r Biliau a'r dogfennau ategol cysylltiedig ar gael ar wefan y Senedd, gyda rhagor o wybodaeth am sut y craffwyd ar y Biliau:

Y camau nesaf

Nawr bod y Biliau wedi'u cymeradwyo gan y Senedd, mae llythyr a anfonwyd at randdeiliaid gan y Prif Gynllunydd ar 11 Mawrth 2026 yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf iddynt ddod yn Ddeddfau'r Senedd ac i'w gweithredu.

Bydd y Deddfau a'u gwybodaeth ategol ar gael ar legislation.gov.uk yn fuan ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol.