Bydd y rheoliadau hyn yn gwahardd cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, weips gwlyb sy'n cynnwys plastig o 18 Rhagfyr 2026 ymlaen.
Nod y gyfraith yw atal y difrod a achosir i'r amgylchedd drwy waredu'r cynhyrchion hyn yn y ffordd anghywir.
Amserlen
Bydd y gwaharddiad ar gyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig i ddefnyddwyr yng Nghymru yn dechrau ar 18 Rhagfyr 2026.
Trosolwg
O dan Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 [LEGISLATION.GOV.UK], mae'n drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) weips gwlyb sy’n cynnwys plastig i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Bydd y gwaharddiad yn dechrau o 18 Rhagfyr 2026, i roi amser i weithgynhyrchwyr addasu eu prosesau cynhyrchu os ydynt am barhau i gyflenwi'r farchnad yng Nghymru.
Mae eithriad wedi'i gynnwys ar gyfer y cyflenwad parhaus o weips gwlyb sy'n cynnwys plastig sydd 'wedi'u dylunio neu eu gweithgynhyrchu i'w defnyddio mewn cysylltiad â gofal neu driniaeth feddygol'.
Ni fydd y gwaharddiad yn effeithio ar weips gwlyb diblastig a gellir parhau i'w cyflenwi.
