Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Cymorth i Brynu – cynllun ecwiti a rennir Cymru Cyf.
Cynnwys
Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio a phrosesu eich data personol yn deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw.
Cefndir
Os byddwch yn gwneud cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir Cymru gan Cymorth i Brynu – Cymru Cyf, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i asesu eich cymhwysedd. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud y canlynol: -
- prosesu eich cais am Fenthyciad Ecwiti a Rennir.
- Bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddio.
- rheoli eich cyfrif.
- cyfathrebu â chi.
- ymateb i ymholiadau.
- Diweddaru'ch manylion
- eich hysbysu o'n cynhyrchion a'n gwasanaethau os gwnaethoch optio i mewn yn ystod eich cais.
Ar gyfer cyfathrebiadau marchnata, gallwch optio allan o hyn ar unrhyw adeg trwy e-bostio enquiries@helptobuywales.co.uk, neu glicio ar y ddolen 'dat-danysgrifio' yn unrhyw un o'n negeseuon e-bost marchnata.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Cymorth i Brynu - Cymru Cyf fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi'i ddarparu mewn perthynas â'ch cais i'r cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir Cymorth i Brynu – Cymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Pa ddata personol fyddwn ni yn eu casglu a'u prosesu?
Ar gyfer y Cynllun Cymorth i Brynu – Ecwiti a Rennir, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw
- Rhif ffôn cyswllt
- Dyddiad geni
- Cyfeiriad
- Cyfeiriad e-bost
- Hanes Cyflogaeth
- Tâl Cyflogaeth
- Sefyllfa ariannol
Data categori arbennig
Bydd Cymorth i Brynu – Cymru Cyf yn prosesu 'data categori arbennig' (holiadur cydraddoldeb ac amrywiaeth) o dan Erthygl 9(2)(a) o GDPR y DU at ddibenion ymchwil ystadegol yn unig yn unol ag Erthygl 89(1) gyda mesurau diogelu i warchod hawliau a rhyddid y gwrthrych data.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Rhywedd
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Crefydd
- Anabledd
Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel
Mae'r data personol a ddarperir i Cymorth i Brynu – Cymru Cyf yn cael ei gadw ar weinyddion diogel yn y DU ac yn cael ei storio mewn ffolder gyfyngedig.
Mae gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf weithdrefnau i fynd i'r afael ag achosion lle ceir amheuaeth o dorri rheolau diogelu data. Os amheuir bod rheol diogelwch data wedi'i thorri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Pwy fydd yn cael gweld eich data
Cymorth i Brynu – Cymru Cyf a Llywodraeth Cymru.
Rwyf/Rydym yn cydnabod y gallwch rannu gwybodaeth amdanaf/amdanom gyda thrydydd partïon megis asiantaethau cyfeirio credyd, sefydliadau atal troseddau ariannol, Banc Datblygu Cymru Ccc a’i holl gwmnïau cysylltiedig, a'i asiantau cysylltiedig ar gyfer asesu’r cais hwn, atal troseddau ariannol a rheoli unrhyw gyllid a ddarperir yn barhaus.
Timau cymorth gwasanaethau a'r gweinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion busnes ar gyfer gweithgareddau marchnata. Ni fydd Cymorth i Brynu - Cymru yn defnyddio eich data heb eich cydsyniad.
Efallai y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys contractwyr annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi eich cyfranogiad gan fod eich barn a'ch profiadau yn bwysig i lywio gwelliant sefydliadol.
Dim ond ar gyfer gwaith ymchwil cymeradwy y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a byddant yn cael eu dileu pan fydd y gwaith ymchwil cymeradwy hwn wedi’i gwblhau.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar systemau TG diogel Cymorth i Brynu - Cymru Cyf nes bod eich morgais ecwiti Cymorth i Brynu - Cymru Cyf yn cael ei ad-dalu, yn unol â pholisi cadw Cymorth i Brynu - Cymru Cyf ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddinistrio'n ddiogel. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth cyn hynny os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Pa wybodaeth bersonol y mae Cymorth i Brynu (Cymru) yn ei chasglu gan drydydd partïon?
Efallai y byddwn yn casglu neu dderbyn gwybodaeth bersonol amdanoch gan drydydd partïon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Asiantaethau cyfeirio credyd (CRAs)
- Cyrff ac asiantaethau'r llywodraeth
- Cyllid a Thollau EM ac awdurdodau treth eraill
- Rheoleiddwyr
- Asiantaethau gorfodi'r gyfraith
- Asiantaethau atal twyll
- Cwmnïau yswiriant
- Y Gofrestr Etholiadol a ffynonellau eraill o wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd (e.e. Rhestr sancsiynau, cyfryngau)
- Ein darparwyr gwasanaeth
- Cwmnïau a sefydliadau sy'n eich cyflwyno i ni
- Cynghorwyr ariannol
- Asiantau tir
- Cymdeithasau cardiau
- Manwerthwyr
- Gwefannau cymharu
- Darparwyr ymchwil i'r farchnad
- Asiantau olrhain ac adennill dyledion
- Sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau data i'n cefnogi i reoli ein perthynas â chi a chynnal ein busnes.
Ar adegau, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gan bobl sy'n gweithredu ar eich rhan. Gallai hyn fod gan ymgeisydd ar y cyd neu atwrneiaeth. Os yw'r person hwn yn rhoi gwybodaeth i ni, fe gofnodwn ei fod wedi'i ddarparu a gan bwy.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data mae gennych yr hawliau canlynol:
- i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch â enquiries@helptobuywales.co.uk
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Banc Datblygu Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
