Neidio i'r prif gynnwy

Roedd allbynnau astudiaeth dechnegol yn canolbwyntio ar waith modelu i lywio adolygiad o'r trothwy o 50c yr uned ar gyfer y polisi Isafbris Alcohol (MPA) sydd ar waith yng Nghymru ers 2020.

Mae'r adroddiadau'n cyflwyno canlyniadau astudiaeth dechnegol sy'n canolbwyntio ar waith modelu i lywio adolygiad o'r trothwy presennol o 50c yr uned ar gyfer y polisi Isafbris Alcohol (MPA) sydd ar waith yng Nghymru ers 2 Mawrth 2020.

Nod y gwaith hwn oedd darparu data modelu wedi'i ddiweddaru ar gyfer Cymru ar effeithiau tebygol parhau â deddfwriaeth Isafbris Alcohol y tu hwnt i'r cyfnod a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth bresennol. Bydd yr ymchwil yn adeiladu ar waith modelu presennol ar gyfer Cymru a gwaith mwy diweddar yn yr Alban, i asesu effaith poblogaeth ystod o opsiynau amgen o ran isafbris uned 50c presennol, gan adeiladu data newydd.

Cyswllt

Dr Chris Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.