Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghori: trosolwg

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyrff cymwysterau i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl. Mae trin ymgeiswyr yn deg, tra'n gwneud yn siŵr bod y cymhwyster yn parhau i fod yn ddilys, yn ystyriaeth bwysig.

Rydym am eich barn ar gynigion i wneud newidiadau penodol a chyfyngedig i'r Fanyleb Addasiadau Resymol i sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru sydd ag amhariadau a/neu anableddau yn cael eu hatal rhag cael mynediad at gymwysterau o dan y system cymwysterau, gyda'r ddarpariaeth yn galluogi cyrff dyfarnu i wneud addasiadau i agweddau penodol ar asesiad (ar gyfer cymwysterau cyffredinol) a lle bo angen dileu elfennau asesu (drwy esemptiad) mewn amgylchiadau a ganiateir.

Ein bwriad, ar sail yr ymgynghoriad hwn ac Asesiad Effaith Integredig, yw cyhoeddi diweddariad i'r Fanyleb o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010, y bydd yn rhaid i'r gynulleidfa darged roi sylw iddo wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.

Trosolwg

Mae Cymwysterau Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau, ac eithrio graddau, yng Nghymru. Ei rôl yw sicrhau bod cymwysterau, a system gymwysterau Cymru, yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru yn effeithiol a hybu ffydd y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru. Sefydlwyd Cymwysterau Cymru gan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 ac mae ei swyddogaethau wedi'u nodi yn y Ddeddf.

Mae gan Cymwysterau Cymru lefel o ymreolaeth ynghylch sut i reoli'r system gymwysterau ac mae ei rôl yn ehangach na rôl rheoleiddiwr cymwysterau confensiynol gan fod ganddo bwerau ychwanegol i gomisiynu cymwysterau newydd ac i gyfyngu ar yr ystod o gymwysterau a gynigir. Fodd bynnag, rhaid iddo roi sylw dyledus i bolisi a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Caiff meini prawf rheoleiddio ar gyfer cymwysterau eu nodi gan Cymwysterau Cymru, sydd wedyn yn cael eu datblygu'n fanylebau cymwysterau a'u cyflwyno gan gyrff dyfarnu, megis CBAC yng Nghymru.

Mae adran 96 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn gosod dyletswyddau amrywiol ar gyrff cymwysterau gan gynnwys dyletswyddau i beidio â gwahaniaethu wrth ddyfarnu cymwysterau. Yn bwysig, mae adran 96 hefyd yn cymhwyso'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn adran 20 o'r Ddeddf i gyrff cymwysterau. Mae'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol ('y Fanyleb') – a gyhoeddwyd yn y canllawiau statudol 'Addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol. Arfer pŵer rheoleiddiol Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010' yn nodi'r canllawiau a'r fframwaith i sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru ag amhariadau a/neu anableddau yn cael eu hatal rhag cael mynediad at gymwysterau o dan y system cymwysterau, gyda'r ddarpariaeth yn galluogi cyrff dyfarnu i wneud addasiadau i agweddau penodol ar asesiadau cymwysterau a lle bo angen dileu elfennau o’r asesiadau (drwy esemptiad) mewn amgylchiadau a ganiateir.

Mae adran 96 o'r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i'r 'rheoleiddiwr priodol' bennu amgylchiadau lle na fydd y ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol yn gymwys. I bob pwrpas, mae'n caniatáu i'r rheoleiddiwr priodol osod paramedrau'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. Wrth wneud hynny, rhaid i'r rheoleiddiwr priodol roi sylw i'r angen i leihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi dan anfantais, a'r angen i amddiffyn uniondeb y cymhwyster a chynnal ffydd y cyhoedd ynddo. Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoleiddiwr Cyrff Cymwysterau Cyffredinol a Chymwysterau Perthnasol) (Cymru) 2010 yn penodi Gweinidogion Cymru fel y rheoleiddiwr priodol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn golygu bod gan Weinidogion Cymru berchnogaeth o unrhyw fanylebau ynghylch darparu addasiadau rhesymol yn ogystal â'r rhestr o gymwysterau y gallai'r rhain fod yn gymwys iddynt.

Mae'r fanyleb gyfredol yn manylu na cheir defnyddio esemptiad fel addasiad rhesymol os byddai’n fwy na 40 y cant o'r marciau sydd ar gael (wedi'u pwysoli) ar gyfer cymhwyster. O dan y rheolau hyn, ni ellid defnyddio esemptiad o unrhyw gydran, neu gyfuniad o gydrannau, sy'n fwy na 40 y cant o gymhwyster fel addasiad rhesymol. Yn ogystal, ni cheir defnyddio esemptiad o ran o gydran fel addasiad rhesymol. Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer cydran gyfan.

Yn ei rôl fel rheoleiddiwr cymwysterau, mae Cymwysterau Cymru wedi cynghori Gweinidogion Cymru y dylid gwneud diwygiadau i'r Fanyleb. Hynny er mwyn sicrhau bod dysgwyr ag amhariadau a/neu anableddau penodol fel mudandod achlysurol yn parhau i allu cael mynediad at y ddarpariaeth addasiad rhesymol, gan gynnwys y posibilrwydd o gael esemptiad o asesiad. Yn dilyn y cyngor hwn, rydym yn cynnig gwneud newidiadau penodol a chyfyngedig i'r Fanyleb i fynd i'r afael â hyn.

Cymwysterau 14 i 16 cenedlaethol

Fel rhan o'i rôl, mae Cymwysterau Cymru wedi arwain rhaglen waith – Cymwys ar gyfer y Dyfodol – sydd wedi datblygu'r gofynion cynllunio ar gyfer cyfres newydd o gymwysterau 14 i 16 cenedlaethol i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Nod y Cwricwlwm i Gymru yw rhoi'r ystod gywir o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau i bobl ifanc i'w paratoi ar gyfer bywyd mewn byd rhyng-gysylltiedig sy'n newid yn barhaus. Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu'r cynnig cymwysterau 14 i 16 cenedlaethol, gan gynnwys TGAU. Dyma ddolen i'r amserlen lawn ar gyfer rhaglen ddiwygio Cymwys ar gyfer y Dyfodol.

Yn unol â'r amserlen hon, cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023 y meini prawf cymeradwyo terfynol ar gyfer y cymwysterau TGAU cenedlaethol newydd sydd i'w haddysgu o fis Medi 2025, gan gadarnhau'r cymwysterau TGAU sydd ar gael o dan y Cwricwlwm i Gymru. Yn dilyn hynny, mae CBAC, fel y corff dyfarnu, wedi datblygu manylebau manwl ar gyfer pob un o'r cymwysterau TGAU sydd wedi’u cymeradwyo’n derfynol gan Cymwysterau Cymru.

Mae'r ystod lawn o gymwysterau 14 i 16 cenedlaethol a fydd ar gael o fis Medi 2027 wedi'u nodi ar wefan Cymwysterau Cymru.

Addasiadau rhesymol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 ('y Ddeddf') yn gosod dyletswydd ar gyrff cymwysterau i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl. Mae trin ymgeiswyr yn deg, a gwneud yn siŵr bod y cymhwyster yn parhau i fod yn ddilys, yn ystyriaeth bwysig. Mae adran 96(7) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (fel y rheoleiddiwr priodol ar gyfer corff cymwysterau sy'n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru) bennu lle na ddylid gwneud addasiad rhesymol i gymwysterau cyffredinol.

Wrth ddatblygu'r manylebau, rhaid i Weinidogion ystyried: 

  • yr angen i leihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd eu hanableddau wrth geisio ennill cymhwyster
  • yr angen i sicrhau bod y cymhwyster yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y sawl sydd wedi'i ennill
  • yr angen i gynnal ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster

Mae dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau dyfarnu o hyd i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr anabl a rhaid iddynt ystyried pa addasiadau all fod yn rhesymol mewn unrhyw gyfres benodol o amgylchiadau. Mae arferion cyfredol y sefydliadau dyfarnu o ran defnyddio addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol yn seiliedig ar gyhoeddiad y Cyd-gyngor Cymwysterau 'Access Arrangements, Reasonable Adjustments and Special Consideration - General and Vocational Qualifications', sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol.

Fel y nodir yn y Fanyleb, mae'n ofynnol i'r corff dyfarnu archwilio'r holl opsiynau eraill cyn ystyried esemptiad o asesiad. Byddai'n ofynnol i'r corff dyfarnu hefyd fodloni eu hunain bod y cymhwyster y maent yn ei ddyfarnu i ddysgwr yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth a sgiliau'r dysgwr ac nad yw ei ddyfarnu yn peryglu ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster yn gyffredinol.

Pam rydym yn cynnig diwygio'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol

Yn ogystal â gosod y rheolau y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu dilyn wrth wneud addasiadau i asesiadau, mae'r Fanyleb hefyd yn nodi lle y gellir rhoi esemptiad. Gellir rhoi esemptiad ar gyfer un neu fwy o'r asesiadau sy'n ffurfio'r cymhwyster (sy'n golygu nad yw'n ofynnol i'r dysgwr sefyll yr asesiad hwnnw), lle nad oes unrhyw addasiad rhesymol arall yn briodol i ddiwallu ei anghenion. Mae'n gytundeb a wneir gyda chorff dyfarnu, fel CBAC, cyn asesiad, sy'n golygu bod ymgeisydd anabl yn gallu cael esemptiad o gydran (neu gydrannau) cymhwyster. 

Mae'n ofynnol i'r corff dyfarnu archwilio'r holl opsiynau eraill cyn ystyried esemptiad, gydag esemptiad yn cael ei ddefnyddio pan fydd popeth arall wedi methu, a rhaid darparu tystiolaeth o amgylchiadau unigol y dysgwr. Pan roddir esemptiad, ystyrir mai perfformiad y dysgwr yn y cydrannau a gwblhawyd yw ei berfformiad ar gyfer yr holl asesiadau. Defnyddir y perfformiad hwn i ddyfarnu gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.

Mae caniatáu esemptiadau yn lleihau'r anfantais i ddysgwyr anabl. Mae gosod cyfyngiadau penodol ar y defnydd a wneir ohonynt yn cynnal ffydd y cyhoedd ac yn helpu i sicrhau bod y cymwysterau yn rhoi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a phrofiad dysgwyr yng Nghymru.

O dan yr amodau presennol, ni cheir defnyddio esemptiad fel addasiad rhesymol os byddai’n fwy na 40% o'r marciau sydd ar gael (wedi'u pwysoli) ar gyfer cymhwyster. O dan y rheolau hyn, ni ellid defnyddio esemptiad o unrhyw gydran, neu gyfuniad o gydrannau, sy’n fwy na 40 y cant o gymhwyster. Yn ogystal, ni cheir defnyddio esemptiad ar gyfer rhan o gydran (neu Uned) fel addasiad rhesymol. Dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer cydran (neu Uned) gyfan. 

Yn dilyn cyngor gan Gymwysterau Cymru, rydym yn cynnig gwneud rheol eithriadol ar gyfer rhoi esemptiad o asesiad ar gyfer cymwysterau TGAU penodol. Cynigir y rheolau eithriadol hyn i ganiatáu i gyrff dyfarnu gymhwyso'r ddarpariaeth ar gyfer esemptiadau er mwyn i ddysgwyr ag amhariadau a/neu anableddau penodol allu cael mynediad at y cymwysterau penodol hyn.

Dyma'r rheolau eithriadol a gynigir:

  • Ychwanegu eithriad ar gyfer TGAU Cymraeg Craidd, fel y gellir esemptio 50% o asesiadau’r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
  • Ar gyfer y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol, cynigir ychwanegu eithriad fel y gellir esemptio 50% (yn hytrach na 40%) o asesiadau’r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael, ar gyfer y dysgwyr hynny a fydd yn cael eu hasesu yn erbyn y cymhwyster hwnnw yng nghyfres arholiadau 2026. Ni fydd y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol yn cael ei addysgu mewn ysgolion i ddysgwyr Blwyddyn 10 o fis Medi 2025 ymlaen, pan fydd yn cael ei ddisodli gan y cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd.
  • Ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth a TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, cynigir gwneud newid i'r manylebau er mwyn caniatáu esemptiad rhannol o un neu fwy o gydrannau fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.

Pam y cymwysterau penodol hyn

Mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn bwriadu rhoi sail statudol i'r targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, rhoi sail gyfreithiol gadarn i'r cysyniad o continwwm iaith Gymraeg, a phennu deilliant ieithyddol penodol ar gyfer pob dysgwr yn 16 oed mewn perthynas â'r gallu i siarad Cymraeg yn hyderus erbyn iddynt adael addysg statudol. Ynghyd â nodau strategol cyffredinol Strategaeth y Gymraeg 2050, mae'r cymwysterau TGAU wedi'u cynllunio yng nghyd-destun yr uchelgeisiau ehangach hyn ar gyfer y Gymraeg, gyda chyfran gymharol uchel o asesu llafar.

Mae'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol a'r TGAU Cymraeg Craidd (a fydd yn cael ei addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025) yn cynnwys pedair uned gydag Unedau 1 a 2 yn cael eu hasesu drwy dasgau siarad a gwrando integredig, gan gyfrannu 50% o asesiad cyffredinol y cymhwyster. Byddai hyn yn golygu ei fod yn fwy na'r terfyn presennol a ganiateir, sef 40 y cant o'r asesiad cyffredinol.

Mae'r cymwysterau TGAU dyfarniad sengl ar gyfer Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth a Saesneg Iaith a Llenyddiaeth yn cynnwys pedair uned. O ran TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth, mae'r cymwysterau wedi'u cynllunio gyda phwyslais sylweddol ar lafaredd i gyd-fynd â ffocws y Cwricwlwm i Gymru a Llywodraeth Cymru ar lafaredd a chreu siaradwyr Cymraeg. 

Adlewyrchir hyn yn y cymhwyster TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth lle caiff dwy uned (Unedau 2 a 3) eu hasesu trwy dasgau sy'n asesu sgiliau siarad a gwrando ochr yn ochr ag asesiadau ysgrifenedig, sy’n cyfrannu 40 y cant o asesiad cyffredinol y cymhwyster.

Mae'r cymwysterau TGAU dyfarniad dwbl ar gyfer Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth a Saesneg Iaith a Llenyddiaeth yn cynnwys chwe uned, gyda thair uned (Unedau 2, 3 a 5) yn cynnwys tasgau sy'n asesu sgiliau siarad a gwrando ochr yn ochr ag asesiadau ysgrifenedig, sydd hefyd yn cyfrannu 40 y cant o asesiad cyffredinol y cymhwyster.

Mae'r Fanyleb gyfredol yn nodi na cheir defnyddio esemptiad ar gyfer rhan o gydran fel addasiad rhesymol. A dim ond pan fydd ymgeisydd yn methu cael mynediad at unrhyw ran o’r gydran honno y ceir caniatáu esemptiadau ar gyfer cydran gyfan. Nid yw’r rheol hon yn atal corff dyfarnu rhag ystyried esemptiadau i ddiwallu anghenion dysgwyr yng nghyd-destun y gyfres bresennol o gymwysterau TGAU, ond mae’r TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth a’r TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth diwygiedig (a addysgir am y tro cyntaf ym mis Medi 2025) yn integredig. Mae hyn yn golygu bod yr asesiad llafaredd a’r asesiadau ysgrifenedig yn yr un Uned asesu. Felly, mae risg y gallai dysgwr gwblhau rhai o'r asesiadau ysgrifenedig yn yr Uned ond nad yw'n gallu cwblhau'r asesiad llafaredd. O dan yr amod/rheol bresennol, byddai hyn yn dileu gallu corff dyfarnu i ystyried esemptio dysgwr o’r elfen lafaredd yn unig, os oes yw’n angenrheidiol i ddiwallu ei anghenion.

O ganlyniad, byddai paramedrau presennol y Fanyleb Addasiadau Rhesymol yn effeithio ar ddysgwyr sy'n ymgymryd â'r cymwysterau hyn y gallai eu hanabledd effeithio ar eu gallu i gwblhau'r asesiad llafaredd yn unig yn unedau'r cymwysterau. 

Mae gan y Gymraeg statws unigryw yn y cwricwlwm o ystyried nodau strategol ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg, gan gynnwys gosod targedau penodol ar gyfer deilliannau ieithyddol erbyn i ddysgwyr adael addysg orfodol. Mae'r Gymraeg yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob blwyddyn ysgol, gan gynnwys Blynyddoedd 10 ac 11. Dylid cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd parhaus o ran dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd hyn. Mae cymwysterau â rôl bwysig i'w chwarae o ran cefnogi ysgolion i gyflawni'r gofyniad hwn mewn ffordd sy'n adeiladu ar ddysgu blaenorol dysgwyr. Ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, mae ennill y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith, neu TGAU Cymraeg Craidd o fis Medi 2025, yn dangos lefel o gymhwysedd yn y Gymraeg a bydd hyn yn bwysig i bobl ifanc yng Nghymru o ran cynnydd a dewis gyrfa.

Yn yr un modd, mae ennill cymwysterau mewn Saesneg yn bwysig iawn i ddysgwyr o ran symud ymlaen i addysg bellach a chyflogaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliad bod pob dysgwr ym Mlwyddyn 10 ac 11 yn dilyn 'cwrs heriol, uchelgeisiol ac ymestynnol sy'n arwain at gymhwyster mewn Saesneg'. I'r mwyafrif o ddysgwyr, bydd hon naill ai'n ddyfarniad dwbl neu sengl mewn TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth.

Bydd y dull arfaethedig, sef gcaniatáu esemptiadau eithriadol ar gyfer y cymwysterau penodol hyn mewn amgylchiadau penodol, yn golygu bod y dysgwr yn gallu cael mynediad at y cymwysterau trwy ddangos ei alluoedd a'i gymhwysedd yn yr agweddau eraill ar yr asesiadau, yn hytrach na chael ei rwystro gan anabledd sy'n ei atal rhag ymgymryd â'r elfennau llafaredd.

Yr effaith os na wneir y newid

Os nad oes cynnydd yn lefel yr esemptiad, rydym yn ystyried y gallai hyn amharu’n annheg ar allu pobl ag anableddau penodol, megis mudandod achlysurol, i ennill y cymhwyster neu o leiaf gael gradd uwch. Heb y newid hwn, mae’n bosibl na fyddai dysgwr yn gallu cael mynediad at 50% o'r marciau sydd ar gael ar gyfer y cymhwyster. Yn yr amgylchiadau hynny, mae'n bosibl y gallai'r radd is eu rhwystro rhag cael swydd yn y dyfodol neu fynediad at ddarpariaeth ôl-16 a chyrsiau addysg bellach sy'n gofyn am radd uwch fel maen prawf.

Yn ymarferol, pan roddir esemptiad mewn achos penodol, bydd y dystysgrif TGAU yn cofnodi'r esemptiad a roddwyd i'r dysgwr hwnnw, gan sicrhau trylowder i ddarparwyr ôl-16 a chyflogwyr. Felly, bydd gallu dysgwyr i siarad Cymraeg yn glir i ddarparwyr ôl-16 a chyflogwyr. Bydd y cymhwyster yn dal i roi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth person dan sylw. 

O ran ystyried esemptiadau ar gyfer rhan o gydran, mae'n bosibl y gall dysgwr ennill y cymhwyster heb y newid hwn, ond mae'n sicr yn llai tebygol. Pe bai'r dysgwr yn ennill y cymhwyster, yna byddai'n cael gradd is. Er gwaethaf y newid hwn, bydd y cymhwyster yn dal i roi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y dysgwr. Bydd yr esemptiad hefyd yn cael ei nodi ar y dystysgrif TGAU. Gan mai ychydig iawn o bobl y bydd hyn yn effeithio arnynt, nid ydym yn ystyried y bydd yn cael effaith andwyol ar ffydd y cyhoedd yn y cymhwyster.

Y camau nesaf

Byddem yn croesawu eich barn am y dull arfaethedig. Yn dibynnu ar y safbwyntiau a'r adborth i'r ymgynghoriad ffurfiol, rydym yn bwriadu cyhoeddi canllawiau diwygiedig drwy'r Fanyleb Addasiad Rhesymol 'Addasiadau rhesymol i gymwysterau cyffredinol. Arfer pŵer rheoleiddiol Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010' maes o law.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â'r dull arfaethedig o ddiwygio'r Fanyleb Addasiad Rhesymol i wneud rheolau eithriadol ar roi esemptiad o asesiad ar gyfer y cymwysterau TGAU penodol a nodwyd?

Cwestiwn 2: Os ydych chi'n anghytuno, neu'n anghytuno'n gryf â Chwestiwn 1, a oedd hyn mewn perthynas â'r dull arfaethedig yn gyffredinol neu mewn perthynas ag un o'r cymwysterau TGAU penodol a nodwyd?

Cwestiwn 3: A ydych chi'n cytuno y bydd y dull arfaethedig yn caniatáu mynediad teg a chyfartal i'r cymwysterau penodol i ddysgwyr y gallai eu hanabledd effeithio ar eu gallu i gwblhau'r asesiad llafaredd?

Cwestiwn 4: A ydych chi'n cytuno y bydd y dull arfaethedig yn lleihau'r graddau y mae pobl anabl yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd eu hanableddau wrth geisio ennill y cymhwyster?

Cwestiwn 5: A ydych chi'n cytuno y bydd y dull arfaethedig yn parhau i ganiatáu i’r cymwysterau a nodwyd roi darlun dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y person dan sylw? 

Cwestiwn 6: A ydych chi'n cytuno y bydd y dull arfaethedig yn cynnal ffydd y cyhoedd yn y cymwysterau a nodwyd?

Cwestiwn 7: Beth yw’ch barn am yr effeithiau y bydd y diwygiadau arfaethedig i'r Fanyleb Addasiadau Rhesymol yn eu cael ar anghenion amrywiol dysgwyr unigol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig a'r rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig (fel y nodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010)? 

Cwestiwn 8: Beth yn eich barn chi fyddai effeithiau tebygol y diwygiadau arfaethedig ar y Gymraeg ym Mlynyddoedd 10 ac 11? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 9: Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r diwygiadau arfaethedig mewn perthynas â chymwysterau TGAU Cymraeg Craidd a TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth er mwyn gwneud y canlynol:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod. 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a ddelir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i ofyn am i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd a wneir ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod: 

Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn: 
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico gwefan

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol y byddwch yn eu darparu fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. 

Bydd Gweinidogion Cymru yn dibynnu ar y pwerau statudol sydd ganddynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg am y ffordd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Mae'r sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yn rhan o'n tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, nodwch hynny wrth ichi ddychwelyd eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu dileu cyn cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel arall, bydd unrhyw ddata a ddelir gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol.