Adroddiad rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol: Hydref i Rhagfyr 2024
Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).
Prif bwyntiau (data dros dro)
Hydref 2023 i Medi 2024
- Cafodd 66.8% o wastraff ei ailddefnyddio/ei ailgylchu/ei gompostio, sef cynnydd o 0.7 pwynt canran o gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben fis Rhagfyr 2023, a'r ffigur 12 mis uchaf ar y cyd a gofnodwyd erioed.
Hydref i Rhagfyr 2024
- Cafodd 65% o wastraff trefol ei ailddefnyddio/ei ailgylchu/ei gompostio, sef cynnydd o 0.4 pwynt canran o gymharu â'r chwarter cyfatebol yn 2023, a'r ffigur uchaf a gofnodwyd erioed ar gyfer chwarter mis Hydref i fis Rhagfyr.
- Cafodd 332,791 o dunelli o wastraff trefol eu cynhyrchu, sef cynnydd o 0.4% o gymharu â'r un chwarter yn 2023 a chynnydd o 0.9% o gymharu â'r un chwarter yn 2022.
Mae'r ffigyrau hyn yn seiliedig ar ddata dros dro sy'n cael eu cyhoeddi bob chwarter. Caiff y data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol eu cyhoeddi'n flynyddol.
Nodiadau
Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.
Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
