Cylch gorchwyl
Yn esbonio pwrpas y grŵp a sut mae'n gweithio.
Cynnwys
Diben
Mae'r Grŵp Cynghori Gweinidogol Penaethiaid yn darparu cyngor strategol uniongyrchol i’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg gan benaethiaid ysgolion ar bolisi a diwygio addysg yng Nghymru.
Mae'r Grŵp yn gweithredu fel fforwm dibynadwy lle gall y Gweinidog Cabinet a swyddogion Llywodraeth Cymru:
- brofi cynigion polisi yn gynnar yn y broses ddatblygu
- derbyn her adeiladol a mewnwelediad proffesiynol gan arweinwyr ysgolion
- nodi cyfleoedd, risgiau a chanlyniadau anfwriadol sy'n gysylltiedig â gweithredu
- deall goblygiadau ymarferol penderfyniadau polisi i ysgolion, dysgwyr a'r gweithlu
- llywio'r gwaith o ddatblygu polisi cydlynol, cyflawnadwy ac wedi'i lywio gan dystiolaeth
Mae'r Grŵp yn gorff cynghori ac nid oes ganddo bwerau gwneud penderfyniadau.
Cwmpas
Bydd y Grŵp yn canolbwyntio ar flaenoriaethau addysg y Gweinidog Cabinet, ynghyd â materion sy'n dod i'r amlwg ac sydd o bwysigrwydd strategol i addysg yng Nghymru.
Gellir gofyn i'r Grŵp ystyried:
- cynigion polisi ac diwygiadau sy'n datblygu
- heriau gweithredu a chyflenwi
- cynllunio strategol a datblygu rhaglenni
- dulliau o ymgysylltu â rhanddeiliaid
- materion, tueddiadau a risgiau sy'n dod i'r amlwg ac sy'n effeithio ar ysgolion a dysgwyr
- cyfleoedd i wella deilliannau, tegwch a llesiant ar draws y system addysg
Caiff meysydd blaenoriaeth â drafodir eu cytuno'n flynyddol a gellir eu hadolygu yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu blaenoriaethau Gweinidogol.
Aelodaeth
Bydd y Grŵp yn cynnwys penaethiaid profiadol sy'n gwasanaethu mewn amrywiaeth o ysgolion a gynhelir ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig a lleoliadau cyfrwng Cymraeg.
Bydd yr aelodaeth yn ceisio sicrhau cydbwysedd o safbwyntiau o wahanol sectorau, ardaloedd daearyddol a chyd-destunau ysgolion. Nid yw aelodau'n benodiadau cyhoeddus.
Penodiad a chyfnod yn y Swydd
Mae aelodau a benodwyd ym mis Mehefin 2025 am gyfnod cychwynnol o flwyddyn wedi cael estyniad i'w haelodaeth tan fis Mehefin 2027. Gall Llywodraeth Cymru gytuno ar estyniad pellach os bernir bod hynny'n briodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i ddisodli aelodau neu lenwi unrhyw swyddi gwag er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Grŵp.
Rolau a chyfrifoldebau aelodau
Disgwylir i aelodau:
- fynychu cyfarfodydd a chyfrannu'n weithredol iddynt
- darparu cyngor strategol a her broffesiynol yn seiliedig ar eu profiad fel arweinwyr ysgolion
- ystyried materion o safbwynt cenedlaethol ac er budd dysgwyr ledled Cymru
- defnyddio eu rhwydweithiau proffesiynol i gasglu ac adlewyrchu safbwyntiau ehangach y sector lle bo hynny'n briodol
- nodi goblygiadau ymarferol, cyfleoedd a risgiau sy'n gysylltiedig â chynigion polisi
- adolygu a gwneud sylwadau ar bapurau, cynigion ac adroddiadau yn ôl y gofyn
- cynnal cyfrinachedd wrth drin gwybodaeth sensitif
- datgan unrhyw wrthdaro buddiannau gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig
Ni ddisgwylir i aelodau weithredu fel cynrychiolwyr ffurfiol eu hawdurdod lleol na'u partneriaeth, undeb neu gymdeithas broffesiynol.
Ffyrdd o weithio
Bydd y Grŵp yn gweithredu fel fforwm cynghori strategol.
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu papurau a deunyddiau trafod cyn y cyfarfodydd lle bynnag y bo modd.
Bydd cyngor y Grŵp yn llywio datblygiad polisi, ond bydd cyfrifoldeb am benderfyniadau polisi yn parhau gyda Gweinidogion Cymru.
Bydd swyddogion yn rhoi adborth, lle bo'n briodol, ar sut mae cyngor y Grŵp wedi dylanwadu ar ddatblygiad polisi a phenderfyniadau.
Cyfarfodydd
Bydd y Grŵp fel arfer yn cyfarfod unwaith bob hanner tymor. Gellir cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, yn rhithwir neu drwy gyfuniad o'r ddau ddull.
Bydd y Gweinidog Cabinet fel arfer yn mynychu o leiaf un cyfarfod ym mhob tymor i drafod blaenoriaethau Gweinidogol a derbyn cyngor yn uniongyrchol gan aelodau.
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cadeirio gan y Gweinidog Cabinet neu gan swyddog enwebedig o Lywodraeth Cymru pan na fydd y Gweinidog Cabinet yn bresennol.
Bydd dyddiadau cyfarfodydd yn cael eu rhannu ymlaen llaw cyn dechrau pob blwyddyn academaidd lle bynnag y bo modd.
Cymorth ysgrifenyddol
Bydd y Gyfarwyddiaeth Addysg yn darparu cymorth ysgrifenyddol i'r Grŵp, gan gynnwys:
- trefnu cyfarfodydd
- paratoi agendâu a phapurau
- cofnodi camau gweithredu a phrif bwyntiau trafod
- cydlynu cyfathrebu rhwng aelodau a swyddogion
Adrodd a thryloywder
Bydd y Grŵp yn gweithredu mewn modd sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng tryloywder a'r angen am drafodaethau gonest ac agored.
Gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi crynodebau o'r prif themâu a'r materion a drafodwyd gan y Grŵp, yn amodol ar ofynion cyfrinachedd.
Ni fydd y cyngor a ddarperir gan y Grŵp yn rhwymo Gweinidogion.
Adolygu a gwerthuso
Bydd effeithiolrwydd y Grŵp a'r cylch gorchwyl hwn yn cael eu hadolygu'n flynyddol.
Gall Ysgrifennydd y Cabinet ddiwygio'r cylch gorchwyl hwn ar ôl ymgynghori â’r aelodau.
Cyfrinachedd
Rhaid i aelodau gynnal cyfrinachedd unrhyw wybodaeth sensitif a rennir drwy'r Grŵp.
Ni ddylid rhannu gwybodaeth a ddynodwyd yn gyfrinachol y tu allan i'r Grŵp heb gytundeb ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
Tâl a threuliau
Gwneir taliad o £300 y dydd i ysgolion yr aelodau.
Telir costau teithio a chynhaliaeth i aelodau sy'n mynychu cyfarfodydd ac sydd hefyd yn teithio i gefnogi rôl y Tîm Gwella Addysg.
Aelodaeth
- Bethan Moore: Ysgol Arbennig Crownbridge, Tor-faen
- Betsan Llwyd: Ysgol Cwm Banwy, Powys
- Cat Place: Ysgol Gynradd Jubilee Park, Casnewydd
- Catryn Lawrence: Ysgol Penrhyncoch ac Ysgol Penllwyn, Ceredigion
- Christopher Parry: Ysgol Lewis Pengam, Caerffili
- Damien Beech: Ysgol Gynradd Goetre, Merthyr Tudful
- Hugo Hutchison: Ysgol Uwchradd Trefynwy, Sir Fynwy
- Janet Hayward: Ysgol Gynradd Cadoxton, Bro Morgannwg
- Jeremy Evans: Ysgol Arbennig Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr
- Julian Kennedy: Ysgol Olchfa, Abertawe
- Nicola Williams: Ysgol Gynradd Libanus, Caerffili
- Olwen Corben: Ysgol Glanrafon, Sir y Fflint
- Paul Keane: Ffederasiwn Ysgol Gymunedol Blenheim Road ac Ysgol Gynradd Coed Efa
- Richard Owen: Ysgol Gymunedol Aberdâr, Rhondda Cynon Taf
- Ryan Davies: Ysgol Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr
- Trystan Edwards: Ysgol Garth Olwg, Rhondda Cynon Taf
- Ty Golding: Ysgol Gynradd Holton, Bro Morgannwg
