Neidio i'r prif gynnwy

Deddfwriaeth berthnasol

  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) [‘Deddf 1990’]
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 (fel y’u diwygiwyd) [‘y Rheoliadau Apelau’]
  • Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y’i diwygiwyd)

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu sut a phryd y gallwch wneud apêl gynllunio ac yn esbonio prif gamau’r broses. 

Efallai y bydd angen i chi wneud cais i’ch Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) am ganiatâd cynllunio i wneud unrhyw waith adeiladu, gwaith peirianneg neu waith arall o fewn tir, arno, drosto neu oddi tano, neu i wneud unrhyw newid sylweddol i’r defnydd o unrhyw adeiladau neu dir arall. 

Gellir gwneud apêl gynllunio o dan adran 78 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) [‘Deddf 1990’] yn erbyn penderfyniad yr ACLl am y rhesymau canlynol: 

  • Gwrthod rhoi caniatâd cynllunio;
  • Cymeradwyo caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau yr ydych yn eu gwrthwynebu;
  • Gwrthod materion a gadwyd yn ôl o dan ganiatâd cynllunio amlinellol;
  • Cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl o dan ganiatâd cynllunio amlinellol yn ddarostyngedig i amodau yr ydych yn eu gwrthwynebu;
  • Gwrthod cymeradwyo unrhyw fater sy’n ofynnol gan amod ar ganiatâd cynllunio presennol;
  • Methiant yr ACLl i roi ei benderfyniad ar gais cynllunio o fewn y cyfnod priodol (8 wythnos, fel arfer);
  • Methiant yr ACLl i roi ei benderfyniad ar gais i ryddhau amod cynllunio o fewn y cyfnod priodol.

Mae rhai mathau o ddatblygiadau’n ddarostyngedig i broses ymgeisio ac apelio wahanol. Os yw’ch apêl yn ymwneud â chais deiliaid tai neu gais mân apelau masnachol, a ddiffinnir isod, mae canllawiau gwahanol y bydd angen i chi gyfeirio atynt.

Diffinnir ceisiadau ‘deiliaid tai’ yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y’i diwygiwyd) fel ceisiadau am ganiatâd cynllunio i ehangu, gwella neu newid fel arall tŷ annedd, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu newid defnydd i ehangu cwrtil tŷ annedd. 

Diffinnir ‘mân geisiadau masnachol’ fel ceisiadau am ganiatâd cynllunio i ehangu, gwella neu newid fel arall adeilad masnachol presennol nad yw ei le llawr yn fwy na 250 o fetrau sgwâr ar lefel y llawr gwaelod, neu ran o’r adeilad hwnnw, ar gyfer newidiadau defnydd penodedig neu wneud gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop.

Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno apêl

Os bydd yr ACLl yn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio neu’n ei roi yn ddarostyngedig i amodau yr ydych yn anghytuno â nhw, mae’n rhaid i chi apelio o fewn 6 mis o’r dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad gan eich ACLl.

Os nad oedd yr ACLl wedi gwneud penderfyniad o fewn 8 wythnos, neu o fewn cyfnod estynedig y cytunoch arno gydag ef fel arall, nid oes terfyn amser i chi gyflwyno’ch apêl. 

Cyn i chi wneud eich apêl, dylech drafod eich cynnig a’r penderfyniad gyda’ch ACLl. Gall datrys y materion gyda’r ACLl yn y lle cyntaf fod y ffordd gyflymaf a hawsaf o gyrraedd datrysiad boddhaol. 

Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un cais cynllunio, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un. Fodd bynnag, gallwch apelio yn erbyn sawl amod ar yr un cais mewn un cyflwyniad apêl.  

Pwy sy’n gallu apelio

Gall yr ymgeisydd a restrir ar y ffurflen gais neu asiant sy’n gweithredu ar ei ran gyflwyno apêl. 

Os nad chi yw’r ymgeisydd gwreiddiol (er enghraifft, os ydych wedi prynu’r safle’n ddiweddar) ac rydych eisiau apelio, bydd arnoch angen caniatâd ysgrifenedig gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr gwreiddiol. Bydd hyn yn eich gwneud chi’n gyfrifol am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag apêl.

Nid oes gan bartïon eraill â buddiant yr hawl i apelio yn y system gynllunio yng Nghymru. Er enghraifft, os bydd yr ACLl yn rhoi caniatâd i rywun ar gyfer datblygiad, nid oes gan berchnogion eiddo cyfagos yr hawl i apelio.

Methiant yr ACLl i wneud penderfyniad: cyfnod awdurdodaeth ddeuol

Pan fydd apêl wedi cael ei chyflwyno yn erbyn methiant yr ACLl i wneud penderfyniad ar y cais o fewn y cyfnod priodol, bydd cyfnod o 4 wythnos o dderbyn yr apêl pryd y bydd gan yr ACLl gyfle i barhau i benderfynu ar y cais.

Os bydd yr ACLl yn penderfynu wedi hynny i wrthod rhoi caniatâd cynllunio cyn diwedd y cyfnod 4 wythnos, mae’n rhaid i’r apêl gael ei thrin fel apêl a wnaed yn erbyn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio a bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn rhoi cyfle i’r apelydd ddiwygio ei ddatganiad achos llawn. 

Os bydd yr ACLl yn penderfynu rhoi caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau y mae’r apelydd yn eu gwrthwynebu cyn diwedd y cyfnod 4 wythnos, bydd PCAC yn rhoi cyfle i’r apelydd symud ymlaen â’r apêl fel apêl o dan adran 78(1) yn erbyn caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau a diwygio ei ddatganiad achos llawn.

Trosolwg o weithdrefnau apelau

Caiff apelau cynllunio eu prosesu yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 [‘y Rheoliadau Apêl’]. 

Penderfynir ar y rhan fwyaf o apelau cynllunio trwy’r dull sylwadau ysgrifenedig. Trwy’r dull apelio hwn, bydd yr Arolygydd yn ystyried tystiolaeth ysgrifenedig gan yr apelydd, yr ACLl ac unrhyw un arall sydd â buddiant yn yr apêl. Y gweithdrefnau eraill posibl yw gwrandawiad, ymchwiliad neu gyfuniad o’r rhain. Bydd yr Arolygydd yn ymweld â safle’r apêl ar gyfer pob gweithdrefn. 

Caiff PCAC bennu’r weithdrefn fwyaf addas ar gyfer apêl. Bydd swyddogion PCAC yn dewis y weithdrefn i ddechrau a bydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei adolygu’n ddiweddarach gan yr Arolygydd a benodwyd ar ôl cyfnewid tystiolaeth ysgrifenedig. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yn ein canllawiau Dewis Gweithdrefn.

Bydd yr holl ddogfennau tystiolaeth a gyflwynir gydag apêl yn cael eu cyhoeddi ar y Porth Gwaith Achos Cynllunio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein polisi neu os hoffech wneud cais am eich data personol, cysylltwch â ni.

Mae apelau cynllunio’n symud ymlaen o dan y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig, fel a ganlyn:  

  • Mae’r apelydd yn cyflwyno ffurflen apêl gynllunio wedi’i llenwi, sy’n cynnwys ei ddatganiad achos llawn, o fewn y graddfeydd amser gofynnol, fel yr amlinellir uchod. Mae’n rhaid anfon copi o’r cyflwyniad at PCAC a’r ACLl. Y datganiad achos ysgrifenedig yw’r unig gyfle i ymhelaethu ar seiliau’r apêl ac esbonio’r rhesymau pam yr ystyriwch y dylai’r apêl lwyddo, ac mae’n rhaid ei ddarparu ar y cam hwn. Rhoddir arweiniad isod ar sut i gyflwyno’ch achos.  
  • Bydd PCAC yn cydnabod bod apêl wedi cael ei chyflwyno. Bydd PCAC yn cynnal gwiriadau dilysu i sicrhau bod yr apêl wedi cael ei chyflwyno’n brydlon a chyda’r holl ddogfennau angenrheidiol.
  • Os yw’r apêl yn ddilys, bydd PCAC yn ysgrifennu at yr apelydd a’r ACLl i gadarnhau’r dyddiad dechrau ar gyfer yr apêl a graddfeydd amser bras ar gyfer ei benderfyniad. Mae’n bosibl y bydd ychydig o amser rhwng cydnabod derbyn a chwblhau gwiriadau dilysu. Gweler ein diweddariad gwasanaeth i gael rhagor o fanylion.
  • Bydd PCAC yn cynnal ymarfer sgrinio i asesu a ddylid cyflwyno Datganiad Amgylcheddol gyda’r apêl. Os oes angen Datganiad Amgylcheddol, bydd PCAC yn rhoi cyfarwyddyd sgrinio i’r apelydd. Mae’n rhaid i’r ymarfer hwn gael ei gwblhau cyn y gall yr amserlen ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ddechrau. Os oes Datganiad Amgylcheddol eisoes wedi’i gyflwyno gyda’r apêl, bydd PCAC yn asesu’r Datganiad hwnnw i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion lleiaf y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
  • O fewn 5 niwrnod gwaith o ddyddiad dechrau’r apêl, mae’n rhaid i’r ACLl hysbysu unrhyw bartïon â buddiant am yr apêl a chadarnhau y bydd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cam ymgeisio yn cael eu hanfon ymlaen at PCAC a’r apelydd.
  • Dylai’r ACLl gadarnhau a fydd yn dibynnu ar yr holiadur a dogfennau ategol i gyflwyno’i achos, neu a yw’n bwriadu cyflwyno datganiad achos llawn y mae’n rhaid iddo gael ei dderbyn gan PCAC o fewn 4 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl. Mae’n rhaid i’r ACLl anfon copi o’r holiadur at yr apelydd, hefyd.
  • Caiff partïon â buddiant gyflwyno sylwadau newydd yn ystod y cam apelio. Nid oes angen ailadrodd yr hyn a gyflwynwyd yn ystod y cam ymgeisio. Y terfyn amser ar gyfer sylwadau gan bartïon â buddiant yw 4 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl.
  • Ar ôl y dyddiad 4 wythnos, bydd PCAC yn anfon copïau o unrhyw sylwadau gan bartïon â buddiant at yr ACLl a’r apelydd. Os yw’r ACLl wedi cyflwyno datganiad achos, bydd PCAC yn anfon copi at yr apelydd. Ar ôl cyfnewid tystiolaeth, os yw’r apelydd, yr ACLl neu barti â buddiant yn dymuno cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar sylwadau unrhyw barti arall, caiff eu cyflwyno i PCAC. Mae’n rhaid i PCAC dderbyn unrhyw sylwadau o fewn 6 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl.
  • Bydd PCAC yn penodi Arolygydd Cynllunio i benderfynu ar yr apêl. Bydd yr Arolygydd yn ymweld â safle’r apêl cyn gwneud ei benderfyniad. 

Graddfeydd amser ar gyfer apelau cynllunio

Mae PCAC yn ceisio cyhoeddi penderfyniadau apêl gynllunio o fewn graddfa amser sy’n dibynnu ar y weithdrefn y mae’r apêl yn ei dilyn:

  1. O ran apelau sy’n symud ymlaen trwy’r dull sylwadau ysgrifenedig yn unig, mae PCAC yn ceisio cyhoeddi penderfyniad o fewn 14 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl
  2. O ran apelau y mae arnynt angen gwrandawiad, mae PCAC yn ceisio cyhoeddi penderfyniad o fewn 21 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl
  3. O ran apelau y mae arnynt angen ymchwiliad, mae PCAC yn ceisio cyhoeddi penderfyniad o fewn 29 wythnos o ddyddiad dechrau’r apêl

Sut i apelio

Mae’n well gennym weithio’n electronig. Y ffordd hawsaf o apelio yw trwy’r Porth Gwaith Achos sy’n galluogi PCAC i brosesu a dilysu’ch apêl yn gyflymach na thrwy ddulliau eraill. Fel arall, gallwch gyflwyno’ch apêl drwy’r post neu drwy e-bost at PEDW.GwaithAchos@llyw.cymru

Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen apêl gynllunio a chyflwyno’r dogfennau ategol hanfodol: 

  • eich cais gwreiddiol
  • tystysgrif perchnogaeth y safle
  • hysbysiad o benderfyniad yr ACLl (os nad oedd wedi gwneud penderfyniad, cyflwynwch gopi o’r llythyr sy’n cydnabod eich cais)
  • yr holl gynlluniau, lluniadau a dogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais gwreiddiol
  • yr holl ohebiaeth â’r ACLl yn ymwneud â’r cais
  • eich ffurflen apêl
  • unrhyw ddogfennau eraill sy’n cefnogi’ch apêl yn uniongyrchol, er enghraifft eich datganiad achos llawn

Nid oes ffi i gyflwyno apêl o’r math hwn. 

Os na fyddwn yn derbyn eich apêl a’ch dogfennau o fewn y terfyn amser, mae’n bosibl na fyddwn yn derbyn eich apêl. Mae cyngor ar sut i greu dogfennau a’u cyflwyno i PCAC yn y fformat cywir er mwyn lleihau oedi ar gael yma: Cyflwyno dogfennau i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC)

Os cyflwynir apêl yn electronig (h.y. trwy e-bost, y Porth Gwaith Achos), tybir eich bod yn cytuno i gyfathrebu’n electronig at ddibenion yr apêl. Gallwch dynnu’ch cydsyniad yn ôl ar gyfer cyfathrebu’n electronig trwy roi gwybod i ni’n ysgrifenedig. 

Os byddwch yn cyflwyno apêl neu unrhyw ddogfen arall trwy gyfathrebu electronig, ni ystyrir bod y ddogfen honno wedi cael ei chyflwyno hyd nes:

  • bod y derbynnydd yn gallu cael ati
  • ei bod yn ddarllenadwy ym mhob ystyr berthnasol
  • ei bod yn ddigon parhaol i’w defnyddio i gyfeirio ati’n ddilynol

Mae’n rhaid i chi hefyd anfon copi o’r ffurflen apêl wedi’i llenwi at yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), er mwyn iddo fod yn ymwybodol eich bod wedi apelio yn erbyn ei benderfyniad. Os byddwch yn cyflwyno’ch apêl gan ddefnyddio’r Porth Gwaith Achos, byddwch yn cael copi o’ch ffurflen apêl a gynhyrchwyd gan y porth ar gyfer eich cofnodion ac i’w anfon I’r ACLl. Os ydych wedi cyflwyno unrhyw ddogfennau ategol nad oeddent yn rhan o’ch cais cynllunio gwreiddiol, mae’n rhaid i chi anfon y rhain i’r ACLl gyda’r ffurflen apêl, hefyd. Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai na fyddwn yn derbyn eich apêl. 

Sylwch na chaiff apelydd godi unrhyw fater nad oedd gerbron yr ACLl neu’r awdurdod perthnasol tra oedd yn ystyried y cais, oni bai y gellir dangos: na ellid bod wedi codi’r mater cyn yr adeg honno; neu fod y ffaith na chodwyd y mater cyn yr adeg honno o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol. Cewch gyflwyno tystiolaeth wedi’i diweddaru neu dystiolaeth ychwanegol ar unrhyw faterion a allai gael eu codi yn yr apêl. Fodd bynnag, fe allai hyn fod yn gyfystyr ag ymddygiad afresymol ac arwain at hawliad am ddyfarnu costau oni bai bod rhesymau da dros beidio â bod wedi cyflwyno’r dystiolaeth i’r awdurdod cynllunio ar yr adeg briodol.

Llenwi’r ffurflen apêl

Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio’r un penawdau adrannau â’r ffurflen apêl gynllunio. 

Manylion yr apelydd 

Dim ond yr ymgeisydd gwreiddiol sy’n gallu apelio. Felly, mae’n rhaid i bob apêl fod yn ei enw ef.

Os nad chi yw’r ymgeisydd gwreiddiol (er enghraifft, os ydych wedi prynu’r safle’n ddiweddar) ac rydych eisiau apelio, bydd arnoch angen caniatâd ysgrifenedig gan yr ymgeisydd/ymgeiswyr gwreiddiol. Bydd hyn yn eich gwneud chi’n gyfrifol am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag apêl. Ysgrifennwch eich enw chi ar y llinell “Enw”, wedi’i ddilyn gan “ar ran”, ac yna enw’r ymgeisydd gwreiddiol. Anfonwch y caniatâd llofnodedig atom gyda’ch ffurflen apêl.

Manylion yr asiant

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i drin eich apêl. Os penderfynwch ddefnyddio asiant, mae’n debygol y bydd ef yn llenwi’r ffurflen apêl ar eich rhan.

Os oes gennych asiant, byddwn yn anfon ein cyfathrebiadau ato. Dylech gadw mewn cysylltiad â’ch asiant oherwydd byddwn yn anfon yr hysbysiad o benderfyniad ato. Ni fyddwn yn anfon copi atoch chi, oni bai eich bod yn gofyn amdano’n benodol.

Manylion yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl)

Bydd manylion eich ACLl wedi’u cynnwys ar unrhyw hysbysiad neu unrhyw gyfathrebiad y mae’n ei anfon atoch. Dyma’r Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’r safle ynddo.

Cyfeiriad safle’r apêl

Os nad oes gan safle’r apêl god post, rhowch god post yr adeilad agosaf. Rhowch wybodaeth hefyd i’n helpu i adnabod y safle, e.e. map neu gynllun sy’n dangos y safle ac o leiaf 2 ffordd leol wedi’u henwi neu eu rhifo a luniwyd wrth raddfa ddiffiniedig ac sy’n dangos cyfeiriad y gogledd.

Disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig  

Bydd angen i chi roi manylion am y datblygiad arfaethedig. Fel arfer, bydd y rhain fel y’u disgrifir ar yr hysbysiad o benderfyniad.

Y rheswm dros yr apêl

Dewiswch y rheswm dros yr apêl. 

Apelau eraill

Os oes unrhyw apelau eraill wedi’u penderfynu neu’n cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer y safle neu dir cyfagos, yn erbyn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, dylech gynnwys y manylion yma. Dylech roi’r rhif cyfeirnod (os yw’n hysbys), cyfeiriad y safle, disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig a statws yr apêl. Er enghraifft ‘Rwyf hefyd wedi cyflwyno apêl gorfodi ar gyfer llain gyfagos ar yr un pryd â chyflwyno’r apêl gynllunio hon’. 

Datganiad achos llawn  

Dylech roi’r rhesymau dros yr apêl yma. Os ydych eisiau cyflwyno’ch datganiad achos fel dogfen ar wahân, nodwch hyn ar y ffurflen. Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch dogfen datganiad achos llawn ar yr un pryd â’r ffurflen apêl. Y wybodaeth a gyflwynir gyda’ch apêl yw’ch unig gyfle i gyflwyno’ch achos ar eich rhesymau dros yr apêl.

Dylech esbonio pam rydych yn anghytuno â’r penderfyniad. Dim ond materion cynllunio sy’n ymwneud â’r cynnig y gallwch eu codi yn eich datganiad achos. Gallwch gyflwyno tystiolaeth newydd dim ond os yw’n ymwneud â’r materion a ystyriwyd gan yr ACLl. Er enghraifft, os oedd diogelwch ar y priffyrdd yn un o’r rhesymau dros wrthod, fe allech gyfeirio at arolwg traffig newydd yn eich datganiad achos, y byddai angen ei gynnwys yn eich tystiolaeth apêl, i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.

Gweithdrefn

O dan adran 319B(1) Deddf 1990 a Rheoliad 14 y Rheoliadau Apêl, caiff PCAC bennu’r weithdrefn fwyaf addas ar gyfer apêl. 

Fodd bynnag, dylech ddewis a ydych yn credu bod y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig yn briodol neu a ydych yn credu bod angen gwrandawiad neu ymchwiliad. 

Os ydych yn credu bod angen gwrandawiad neu ymchwiliad, dylech roi’r rhesymau llawn yn y blwch a ddarperir, gan gynnwys faint o ddiwrnodau y credwch y bydd y digwyddiad yn para a faint o dystion y bwriadwch eu galw. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yn ein canllawiau Dewis Gweithdrefn.

Costau

Os yw unrhyw barti wedi ymddwyn yn afresymol ac mae hyn wedi achosi i barti arall fynd i draul ddiangen neu wastraff yn uniongyrchol yn ystod y broses apelio neu ymgeisio, gallwch gyflwyno cais am gostau. Cyn i chi gyflwyno cais am gostau, darllenwch Adran 12.3 Llawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru, a’r Atodiad Adran 12 cysylltiedig: Dyfarnu Costau.

Manylion perchnogaeth safle’r apêl

Os nad ydych yn berchen ar safle’r apêl neu os ydych yn berchen ar ran o’r tir yn unig, dylech gynnwys enwau’r perchnogion neu’r perchnogion rhannol yn y rhan hon o’r ffurflen. 

Tystysgrif A: Pan fydd yr apelydd yn unig berchennog y safle. Mae’n ardystio, ar y dyddiad 21 diwrnod cyn cyflwyno’r apêl, nad oedd neb heblaw am yr apelydd yn berchen ar unrhyw ran o’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef. Mae Tystysgrif A wedi'i chynnwys fel rhan o'r ffurflen apêl gynllunio.

Tystysgrif B: Pan fydd rhywun heblaw am yr apelydd yn berchen ar rywfaint o’r safle neu’r safle cyfan ac rydych yn gwybod pwy yw’r holl berchnogion hynny. Mae’n ardystio eich bod wedi hysbysu pawb a oedd, ar y dyddiad 21 diwrnod cyn cyflwyno’r apêl, yn berchen ar unrhyw ran o’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef. Yna, dylech ddarparu’r manylion gofynnol, gan gynnwys enwau’r perchnogion a’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad. Mae Tystysgrif B wedi'i chynnwys fel rhan o'r ffurflen apêl gynllunio. 

Tystysgrif C: Pan fyddwch yn gwybod enwau a chyfeiriadau rhai o berchnogion y safle, ond nid pob un. Mae’n ardystio eich bod wedi hysbysu’r perchnogion rydych yn gwybod amdanynt – gweler uchod yn y modd a ddisgrifir ar gyfer tystysgrif B. Mae’n rhaid i chi hefyd gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd lleol. Diben hyn yw galluogi unrhyw berchnogion eraill, nad ydych wedi gallu canfod pwy ydynt, i ddod yn ymwybodol o’ch bwriad i apelio. Mae’n rhaid i chi anfon copi o’r hysbysiad cyhoeddedig atom gyda’ch apêl.

Tystysgrif Ch: Pan na fyddwch yn gwybod enwau a chyfeiriadau unrhyw un o berchnogion y safle. Mae’n ardystio eich bod wedi ceisio canfod pwy yw’r perchnogion, a’ch bod wedi cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol. Mae’n rhaid i chi anfon copi o’r hysbysiad cyhoeddedig atom gyda’ch apêl.

Fe allai ffugio tystysgrif perchnogaeth safle yn fwriadol fod yn fater i’r Llysoedd. Dylech wneud pob ymdrech i gwblhau’r dystysgrif gywir ar gyfer eich sefyllfa.

Tystysgrif daliadau amaethyddol

Mae’n rhaid i hyn gael ei gwblhau ar gyfer pob apêl.

Dogfennau ategol hanfodol 

Mae’r ffurflen apêl yn rhestru’r dogfennau ategol hanfodol. Gwnewch yn siŵr fod yr holl ddogfennau a restrir ar gael i’w cyflwyno gyda’ch apêl. Dylech gadarnhau hyn ar y ffurflen apêl trwy roi tic yn y blychau perthnasol. 

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi anfon popeth atom. Os na, bydd hyn yn oedi eich apêl wrth i ni ofyn i chi am y dogfennau coll. Os na chyflwynir yr holl ddogfennau o fewn terfyn amser yr apêl, fe allai eich apêl gael ei gwrthod. 

Gwnewch yn siŵr fod yr holl gynlluniau a lluniadau yn cael eu llunio wrth raddfa ddiffiniedig ac, o ran cynlluniau, yn dangos cyfeiriad y gogledd. Dylech anfon copïau atom o’r holl gynlluniau a lluniadau a anfonwyd at yr ACLl gyda’ch cais. 

Gwirio, cadarnhau a rhoi’r dyddiad

Gwiriwch eich ffurflen wedi’i llenwi, yna cwblhewch y cadarnhad perthnasol, a rhowch y dyddiad. Nid oes arnom angen ‘llofnod gwlyb’.

Manylion personol

Llenwch yr adran hon gan roi manylion personol yr apelydd a’i asiant (os yw’n berthnasol). Ni fydd y manylion personol a roddir ar y dudalen hon ar gael yn gyhoeddus. 

Apeliadau a adferwyd

Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar apeliadau a fyddai’n cael eu trin gan Arolygydd, fel arfer. Adwaenir yr apeliadau hyn fel ‘apeliadau a adferwyd’. Fe allai’r pwerau hynny gael eu defnyddio yn gysylltiedig â: 

  • datblygiad preswyl o fwy na 150 o dai neu ar fwy na 6 hectar o dir;
  • datblygiadau manwerthu o fwy na 10,000 o fetrau sgwâr;
  • cynigion mawr ar gyfer cloddio a gweithio mwynau;
  • cynigion ar gyfer datblygiadau mawr a allai gael effeithiau eang y tu hwnt i’w hardal leol;
  • cynigion dadleuol iawn y tu hwnt i’r ardal leol;
  • cynigion sy’n codi materion cynllunio newydd;
  • cynigion sy’n codi anawsterau cyfreithiol sylweddol;
  • cynigion a wrthwynebwyd gan un o Adrannau’r Llywodraeth Ganolog;
  • achosion na ellir penderfynu arnynt heblaw ar y cyd ag achos nad oes gan Arolygydd awdurdodaeth drosto; 

Beth fydd yr arolygydd yn ei ystyried?

Bydd yr Arolygydd yn gwneud y penderfyniad (neu’r adroddiad a’r argymhelliad i Weinidogion Cymru ar gyfer cais a alwyd i mewn neu apêl a adferwyd) o dan yr amgylchiadau a oedd yn bodoli ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad. 

Felly, bydd yr Arolygydd yn ystyried:

  • y deunydd a gyflenwyd i’r ACLl
  • yr holl ddogfennau apêl
  • unrhyw ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol, gan gynnwys newidiadau i ddeddfwriaeth, unrhyw bolisi newydd gan y Llywodraeth ac unrhyw bolisïau cynllun datblygu newydd neu sy’n dod i’r amlwg ers i benderfyniad yr ACLl gael ei gyhoeddi
  • unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’r apêl. 

Os ydych eisiau i Arolygydd ystyried dogfen benodol (e.e. penderfyniad / cais blaenorol), chi sy’n gyfrifol am ddarparu copi ohoni.

Ni all yr Arolygydd ystyried materion y mae’r Llysoedd wedi penderfynu nad ydynt yn gyfystyr ag ystyriaeth gynllunio berthnasol. Felly, dylech ganolbwyntio’ch dadleuon ar faterion sy’n ystyriaethau cynllunio perthnasol. Bydd adroddiad yr ACLl a’i resymau dros wrthod cais cynllunio yn amlinellu’r materion sy’n berthnasol, fel arfer. 

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych yn credu bod PCAC wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol. 

Os oes arnoch angen cymorth o ran her bosibl, fe allech ddymuno ceisio’ch cyngor cyfreithiol eich hun.