Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ar 17 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR), a ddatblygwyd gan Brifysgol Stirling a chwmni ymchwil Arad, Cynllunio cwricwlwm ac asesu ac addysgeg yn y Cwricwlwm i Gymru: astudiaeth ansoddol. Mae'r adroddiad hwn yn rhan o werthusiad ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru, astudiaeth aml-flwyddyn a fydd yn rhoi darlun eang ansoddol a meintiol i ni o sut mae'r diwygiadau yn gweithio, sut mae ymarfer yn newid a sut mae'r newidiadau hyn yn cael eu profi gan uwch arweinwyr, ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd.

Mae crynodeb o ganfyddiadau'r adroddiad wedi'i gyhoeddi. Nod yr astudiaeth oedd deall sut mae cynllunio cwricwlwm ac asesu ac addysgeg yn cael eu gwireddu’n ymarferol, yn ogystal â sut mae lleoliadau ac ymarferwyr yn cael eu cefnogi yn yr agweddau hyn.

Er bod cyfyngiadau i’r astudiaeth (gan gynnwys bod y sampl o ysgolion dan sylw yn fach ac yn hunan-ddewisol ac felly nid oes modd cyffredinoli ar sail y canfyddiadau), mae’r adroddiad yn cynnig mewnwelediadau helaeth i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu a blaenoriaethu cymorth i ymarferwyr a dysgwyr wrth barhau i wireddu y Cwricwlwm i Gymru.

Gwireddu’r cwricwlwm

Rydym yn falch bod yr adroddiad yn amlygu bod pob ysgol yn y sampl yn ymgymryd â phroses systematig o greu cwricwlwm, gyda phroses penodol sy'n cynnwys pwyslais ar y wybodaeth, sgiliau a phrofiadau sy'n galluogi eu dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r dulliau addysgegol mae ysgolion yn eu defnyddio, er enghraifft, mae llawer o ysgolion yn defnyddio'r egwyddorion addysgegol i lywio cynllunio, ac mae pwyslais cynyddol ar brofiadau dysgu dilys â phwrpas. Mae'n galonogol bod rhai ymarferwyr wedi bod yn gysylltiedig â dysgu proffesiynol am ddulliau addysgegol sy’n seiliedig ar ymchwil.

Mae'r adroddiad yn amlygu bod yr ysgolion sy'n gysylltiedig â’r ymchwil ar y cyfan yn sylwi bod dysgwyr yn gyffredinol yn ymgysylltu mwy ac yn cymryd mwy o berchnogaeth dros eu dysgu. I rai ysgolion, mae'r cwricwlwm yn meithrin clymau cryfach gyda’r gymuned, gyda phwyslais ar gynefin. Mae hyn yn galluogi ymarferwyr i gefnogi dysgu sy'n cwrdd yn gynyddol ag anghenion eu dysgwyr a'u cyd-destun.

Heriau

Mae'r canfyddiadau yn dangos bod rhai ysgolion yn yr astudiaeth wedi gwneud llai o newid i'w dulliau o ddysgu llythrennedd a rhifedd, oherwydd canfyddiad bod arloesedd yn peri risg ac oherwydd pryderon am effeithiau negyddol posibl ymarfer arloesol ar gyrhaeddiad.

Rydym yn nodi bod yr adroddiad hefyd yn amlygu pryderon am y risg o ehangu anghydraddoldebau, effaith barhaus COVID-19, a'r argyfwng costau byw ar weithredu effeithiol.

Ynglŷn ag asesu, rydym yn nodi bod yr adroddiad yn amlygu bod y rhan fwyaf o'r ysgolion wedi defnyddio cymysgedd o asesu ffurfiannol a chrynodol, ac er bod asesu gan gymheiriaid a hunanasesu yn gyffredin, mae ffurfiau mwy traddodiadol o brofi yn parhau i gael eu defnyddio, mewn rhai achosion oherwydd pwysau atebolrwydd. Nododd ysgolion uwchradd a oedd yn rhan o’r astudiaeth fwy o heriau nag ysgolion cynradd o ran alinio eu hasesu gyda’r Cwricwlwm i Gymru ac mewn perthynas â chymwysterau newydd.

Cymorth ar gyfer ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr amser a'r ymdrech y mae arweinwyr ac ymarferwyr yn eu buddsoddi mewn gweithredu'r cwricwlwm. Mae'r llwyddiannau a'r heriau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu'r hyn y mae ymarferwyr wedi bod yn ei ddweud wrthym, gan gynnwys trwy'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu'r Cwricwlwm a Grŵp Polisi y Cwricwlwm i Gymru.

Rydym am gefnogi ymarferwyr yng Nghymru i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes sy'n gwella eu hymarfer i gymell ac ysbrydoli'r plant a'r bobl ifanc yn eu hysgolion.

Yn 2019 fe wnaethom gyflwyno diwrnod hyfforddi ychwanegol i gefnogi ymarferwyr i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r diwrnod hyfforddi ychwanegol hwn wedi'i ddarparu am y chwe blynedd diwethaf, ac rydym wedi cyhoeddi ein bwriad i barhau i ddarparu y diwrnod hyfforddi ychwanegol hwn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Yn ystod tymor yr haf a'r hydref, byddwn yn cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o hyfforddiant mewn swydd (HMS), gan gynnwys trafodaethau gyda dysgwyr ac ymarferwyr, i ddeall yn well effaith HMS ar addysg ein dysgwyr ac wrth ddarparu amodau cefnogol i'n hymarferwyr. Bydd y gwaith hwn yn llywio ein Cynllun Gweithlu Addysg Strategol tymor hwy.

Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi bron i £35 miliwn y flwyddyn mewn dysgu proffesiynol ar gyfer ein hymarferwyr. Mae hyn wedi cynnwys £12 miliwn o gyllid yn uniongyrchol i ysgolion ynghyd â chyllid ar gyfer rhaglenni cenedlaethol i ddatblygu ein hymarferwyr fel ymholwyr ac i wella dealltwriaeth o'r egwyddorion addysgegol.

Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi ailwampio ein Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i sicrhau ei fod yn paratoi ein penaethiaid yn y dyfodol yn unol â'n diwygiadau addysgol.

Wrth ymateb i bryderon am gysondeb ac ansawdd dysgu proffesiynol, rydyn ni wedi cyhoeddi ein bod yn sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth a fydd yn cymryd y gwaith hwn ymlaen o fis Medi 2025 i arwain ar gyflwyno dysgu proffesiynol cenedlaethol a chyson i gefnogi ymarferwyr ar hyd llwybrau eu gyrfaoedd. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud wrth sefydlu'r corff newydd. Bydd hefyd yn datblygu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth i gefnogi ein harweinwyr a darparu dysgu proffesiynol i ymgynghorwyr gwelliant ysgolion.

Datblygwyd ein rhaglen genedlaethol o gymorth ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu, i ddarparu eglurder a dull cyson ar lefel genedlaethol, i fynd i’r afael â chysondeb ac ansawdd cefnogaeth. Mae hyn yn seiliedig ar y cynnydd a wnaeth ysgolion eisoes, ac ar y gefnogaeth effeithiol sydd eisoes yn y system. Croesawn y gefnogaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer y peilot Cynllunio Cwricwlwm, mae'r rhaglen gefnogaeth genedlaethol yn seiliedig ar y peilot ar gael i fwy o ysgolion. I sicrhau eglurder gwell, mae hyn wedi cynnwys dwyn ynghyd canllawiau a deunyddiau ategol mewn un lle hylaw, yn cael ei ddarparu gan arbenigwyr , gyda hyfforddiant un i un ar gyfer arweinwyr ysgol.

Wedi’u datblygu drwy'r rhaglen gymorth genedlaethol, mae'r offer a thempledi hyn yn modelu prosesau ar gyfer datblygu cwricwlwm ar lefel ysgol, gan gynnwys manylion ychwanegol ar gynnydd ac asesu a sut mae hyn yn edrych ar lawr y dosbarth. Rydym yn ystyried sut y gall offer a thempledi ychwanegol gefnogi ysgolion i asesu dysgu a gwerthuso cynnydd dros amser gyda mwy o eglurder ac mewn ffordd y gellir ei rhannu ar draws ysgolion.

Mae hyn yn sicrhau ein bod yn darparu cymorth cenedlaethol i ysgolion ar faterion allweddol cynnydd, asesu, a chynllunio cwricwlwm, sy'n cynnwys cymorth dwys, wedi’i dargedu, sydd ar gael ledled Cymru. Bydd hyn yn cael ei ymestyn i gynnwys dysgu proffesiynol i gefnogi llythrennedd a rhifedd a fydd ar gael ar lefel genedlaethol.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu pwysigrwydd gwaith clwstwr. Mae hyn yn rhan ganolog o'n dull o wella ysgolion ac mae gwaith y Tîm Gwella Addysg wedi'i gynllunio i gefnogi a modelu hyn. Mae gweithio rhwng ysgolion yn rhan hollbwysig o'n dull gweithredu ar gyfer y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgol.

Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw'r system asesu (yn enwedig mewn addysg uwchradd) wedi'i halinio’n briodol â dyheadau’r Cwricwlwm i Gymru. Mae ystod o dystiolaeth, gan gynnwys negeseuon uniongyrchol o'r proffesiwn, wedi dangos dro ar ôl tro fod cyfuno asesu dysgwyr gydag atebolrwydd ysgol yn arwain at canlyniadau annisgwyl yn y dosbarth. Yn flaenorol, mae hyn wedi arwain at gulhau’r cwricwlwm ac yn fwy pwysig, mae'n peryglu lles ein dysgwyr. Mae ein diwygiadau cyfredol yn ymateb i'r dystiolaeth hon, a byddwn yn parhau i sicrhau bod data sy'n gysylltiedig â'n hysgolion, gan gynnwys data o asesiadau, yn cael ei ddefnyddio'n ddoeth i lywio polisi addysg a chefnogi datblygiad pob dysgwr.

Rydym yn cydnabod bod cymwysterau yn gallu cael effaith sylweddol ar ddysgu ac addysgu. Mae Cymwysterau Cymru wedi arwain rhaglen sylweddol o ddiwygio cymwysterau cenedlaethol 14 i 16. Yn ystod y broses hon, mae Cymwysterau Cymru wedi cydbwyso'r angen am gymwysterau diwygiedig sy’n adlewyrchu'r cwricwlwm, tra ar yr un pryd cydnabod pwysigrwydd cymwysterau i ddysgwyr 16 oed ar gyfer camau nesaf eu haddysg neu gyflogaeth, a'r angen cysylltiedig i’r cymwysterau hyn fod yn ddilys a chael eu hadnabod y tu hwnt i Gymru.

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2019, penderfynodd Cymwysterau Cymru gadw'r brand TGAU ar gyfer cymwysterau cyffredinol cyn 16 oed. Mae cymwysterau TGAU yn frand ar draws Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac mae gan y cymwysterau yn y tair gwlad lawer o nodweddion cyffredin, gan gynnwys eu maint, eu pwrpas, y lefelau maen nhw’n cwrdd ar fframweithiau cymhwyster (lefelau 1 a 2) a'r gofyniad i gynnwys elfen o asesu allanol. Felly, er bod rhai gwahaniaethau yn y manylion cynnwys, strwythur a dulliau asesu a ddefnyddir o fewn TGAU, mae’r cymwysterau yn y tair gwlad yn gyfwerth.

Wrth gwrs, bydd y cwricwlwm yn parhau i ddatblygu fel rhan o broses adolygu a mireinio parhaus. Fel rhan o'r broses hon, byddwn yn ystyried rôl cymwysterau ac yn cydweithio â Chymwysterau Cymru ar sut y gall cymwysterau cenedlaethol 14-16 ddatblygu yn y dyfodol i aros yn gydlynol â’r Cwricwlwm i Gymru, ac i’w gefnogi. 

Rydym yn cydnabod bod angen cymorth a chanllawiau ar ysgolion uwchradd wrth gyflwyno cymwysterau newydd ac rydym wedi ceisio mynd i’r afael â hyn trwy ddysgu proffesiynol ac adnoddau. Ar ôl cyhoeddi ein canllawiau ar ddysgu 14 i 16, fe gyhoeddom ganllaw ar gyfer defnyddio manylebau cymwysterau yn llwyddiannus.

Mae llawer o'r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn wedi cael sylw uniongyrchol yn ein digwyddiadau arweinyddiaeth 14 i 16 a gynhelwyd ledled Cymru o Chwefror i Ebrill 2025, a fynychwyd gan dros 500 o arweinwyr ysgolion uwchradd.

Byddwn yn parhau i weithio gydag ymarferwyr a phartneriaid eraill i ddarparu cymorth ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesu ac addysgeg ac i sicrhau'r addysg orau bosib i bob plentyn yng Nghymru.