Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gallwch godi ymwybyddiaeth o'r cynllun a helpu teuluoedd i gofrestru ar gyfer Bwndel Babi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dylid codi ymwybyddiaeth o'r rhaglen Bwndel Babi gyntaf mewn apwyntiadau cynenedigol tua 16 wythnos o feichiogrwydd, o 23 Medi 2025 ymlaen.

Dylid cwblhau cofrestriadau cyntaf mewn apwyntiadau cynenedigol tua 25-28 wythnos o feichiogrwydd, o 25 Tachwedd 2025 ymlaen.

Gwybodaeth am y Bwndeli Babi

Mae Bwndel Babi yn cynnwys eitemau hanfodol i gefnogi rhieni newydd a'u babanod. Mae Bwndeli Babi hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynghylch rhaglenni cymorth a magu plant.

Nod darparu Bwndel Babi fydd lleihau rhywfaint o'r pwysau ariannol y mae teuluoedd yn ei wynebu yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Bydd rôl y fydwraig yn hollbwysig i lwyddiant y rhaglen Bwndeli Babi. 

Rôl y fydwraig

Bydd rôl y fydwraig yn hollbwysig i lwyddiant y rhaglen Bwndeli Babi. 

Mae'r animeiddiad yn mynd â chi drwy'r camau y bydd angen i bob bydwraig eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun a helpu teuluoedd i gofrestru ar gyfer Bwndel Babi.

Beth mae gofyn i fydwragedd ei wneud?

Apwyntiad cynenedigol tua 16 wythnos – codi ymwybyddiaeth o'r cynllun

Taflenni codi ymwybyddiaeth cyntaf i'w dyroddi o 23 Medi 2025 ymlaen

  • Dylai bydwragedd wirio a yw pob rhiant sy'n disgwyl yn byw o fewn cod post cymwys ar gyfer y rhaglen Bwndeli Babi.

    Gwirio codau post cymwys 

  • Os yw'r rhiant sy'n disgwyl yn gymwys ar gyfer y rhaglen Bwndeli Babi, dylai'r fydwraig roi taflen codi ymwybyddiaeth iddynt.
     
  • Mae taflenni codi ymwybyddiaeth wedi cael eu hanfon at bob Bwrdd Iechyd.

Os oes angen ichi archebu rhagor ohonynt, cysylltwch:

Rhif Ffôn: 0800 2545324

E-bost: Baby.bundles@case-uk.co.uk

Apwyntiad cynenedigol 25-28 wythnos: Cofrestru ar gyfer Bwndel Babi

Bydd cofrestriadau cyntaf ar gyfer Bwndeli Babi yn cael eu cymryd o 25 Tachwedd 2025 ymlaen

  • Eto, dylai bydwragedd wirio a yw'r rhiant sy'n disgwyl yn byw o fewn cod post cymwys ar gyfer y rhaglen Bwndeli Babi. Ewch i mae'r rhestr o godau post cymwys.
  • Os yw'r rhiant sy'n disgwyl yn gymwys i gael Bwndel Babi, dylai'r fydwraig lenwi'r ffurflen gofrestru gyda theuluoedd cymwys. Bydd gofyn i'r fydwraig gadarnhau'r beichiogrwydd gan ddefnyddio eu PIN.
  • Rhaid i'r fydwraig adael yr adran sydd i’w thorri i ffwrdd o'r ffurflen gofrestru gyda'r rhiant sy'n disgwyl. Mae hyn yn dweud wrthynt sut y bydd eu gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio.
  • Mae'r fydwraig yn gyfrifol am sicrhau bod pob ffurflen gofrestru wedi'i llenwi ac yn cael ei phostio, gan ddefnyddio'r amlen ragdaledig sydd ynghlwm wrth y ffurflen gofrestru.

Mae ffurflenni cofrestru wedi'u hanfon at bob Bwrdd Iechyd. Os oes angen ichi archebu rhagor ohonynt, cysylltwch dros:

Ffôn: 0800 2545324

E-bost: Baby.bundles@case-uk.co.uk

Gwiriwr cod post

Mae hwn yn darparu rhestr o'r holl godau post lle byddai rhywun yn gymwys i gael Bwndel Babi.

Gwirio codau post cymwys.

Teuluoedd a nodwyd yn rhai mewn angen ond sy'n byw y tu allan i ardal gymwys

Yn ogystal â'r teuluoedd hynny sy'n byw mewn ardaloedd cymwys yng Nghymru, bydd trefniadau allgymorth yn rhoi'r hyblygrwydd i fydwragedd gofrestru teuluoedd eraill, a nodwyd yn deuluoedd mewn angen ond sy'n byw y tu allan i ardal gymwys, ar gyfer cael Bwndel Babi. 

Os bydd gweithiwr proffesiynol arall (nid bydwraig) yn nodi teulu mewn angen, rhaid iddo gysylltu â'r fydwraig berthnasol. Gall bydwragedd ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i gadarnhau cymhwystra a pharhau i helpu'r teulu i gofrestru i gael Bwndel Babi. 

Os bydd teulu'n derbyn Bwndel Babi ar gyfer un beichiogrwydd trwy drefniadau allgymorth, nid ydynt yn gymwys yn awtomatig ar gyfer bwndel arall mewn beichiogrwydd yn y dyfodol. Rhaid i'r fydwraig gynnal asesiad newydd ar gyfer pob beichiogrwydd a defnyddio crebwyll proffesiynol yn ôl yr angen. 

Mae 10% ychwanegol o fwndeli ar gael drwy'r trefniadau allgymorth hyn. Bydd data misol yn cael eu hanfon at y Metrons Cymunedol ym mhob Bwrdd Iechyd, gan roi gwybod iddynt faint o gofrestriadau sydd wedi'u gwneud drwy drefniadau allgymorth.

Colli cyfle cofrestru

Os nad yw teulu cymwys wedi cofrestru ar gyfer Bwndel Babi o gwmpas yr apwyntiad cynenedigol 25-28 wythnos am unrhyw reswm, gall bydwragedd eu cofrestru i gael un unrhyw bryd hyd nes bod y babi yn bedwar mis oed. 

Bydd y Bwndeli Babi cyntaf ar gael i'w dosbarthu yn gynnar ym mis Chwefror 2026.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae'r ffurflenni cofrestru yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at y cyflenwr a fydd wedyn yn anfon y Bwndel Babi i'r cyfeiriad a nodwyd ar y ffurflen gofrestru, tua 32-34 wythnos o'r beichiogrwydd. 

Byddwn yn gweithio gyda’r Byrddau Iechyd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu ffurflen gofrestru ar-lein, drwy'r system Mamolaeth Ddigidol Cymru sydd ar ddod.

Canslo Bwndel Babi

Gellir canslo Bwndel Babi unrhyw adeg. Gall hyn fod dan amgylchiadau anodd, sensitif neu amgylchiadau eraill. 

Os yw teulu wedi'u heffeithio gan farwolaeth babi a'u bod wedi cofrestru i gael Bwndel Babi, dylai'r fydwraig drafod eu dymuniadau gyda nhw. 

Efallai y byddant am gael y Bwndel Babi o hyd. Nhw sydd biau'r Bwndel. 

Ond os nad ydynt am ei gael bellach, a bod angen ei ganslo, dylai'r bydwragedd eu holi a fyddent yn hoffi trefnu hyn, ynteu a gaiff bydwraig wneud hyn iddynt.

Os yw'r teulu yn penderfynu yr hoffent i'r fydwraig ganslo'r Bwndel, dylai'r fydwraig ffonio'r cyflenwr:

Llinell Gwasanaethau Cwsmeriaid: 0800 2545324

E-bost: Baby.bundles@case-uk.co.uk

Mae galwadau i ganslo Bwndel yn cael eu blaenoriaethu gan ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Bydd pob galwad yn gyfrinachol.

Os yw'r Bwndel eisoes wedi cyrraedd cartref y teulu, eto, dylai'r fydwraig drafod gyda'r teulu sut yr hoffent iddo gael ei gasglu. Gellir trefnu iddo gael ei gasglu yn uniongyrchol gan y cyflenwr, neu gall y fydwraig ei gasglu, a bydd y cyflenwr yn trefnu i'w gasglu gan y fydwraig mewn lleoliad arall.

Anfon adborth am y cynllun Bwndel Babi

Mae hwn yn gynllun newydd a byddem yn croesawu unrhyw adborth gan fydwragedd, yn enwedig os oes rhywbeth rydych chi'n meddwl y gellid ei newid i wella'r cynllun. 

E-bost: Baby.bundles@case-uk.co.uk