Neidio i'r prif gynnwy

9 Gorffennaf 2025

Annwyl Vernon

Yn dilyn eich cyfweliad diweddar a'ch gwrandawiad cyn penodiad, mae'n bleser gennyf eich gwahodd i wasanaethu fel Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru (TrC). Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i drafnidiaeth, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi yn eich rôl newydd. Fel y nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ei adroddiad ar ôl craffu, mae heriau a chyfleoedd sylweddol o'n blaenau i TrC ac rwy'n croesawu'r ymrwymiadau a wnaethoch iddynt. Gyda hynny mewn golwg, roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol petawn yn nodi'r meysydd rwy'n arbennig o awyddus i ganolbwyntio arnynt - yn ogystal â'ch rôl hynod bwysig yn cadeirio'r Bwrdd.

I'ch atgoffa, ac fel y nodir yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, mae James Price yn cadw statws Swyddog Cyfrifyddu ac felly mae ganddo gyfrifoldeb personol i sicrhau rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian a thros weithrediadau TrC a'i reoli o ddydd i ddydd. Yn y cyfamser, mae gan Fwrdd TrC ddyletswydd i weithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, ac i sicrhau bod gweithgareddau TrC yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol.

Fel Cadeirydd TrC, rydych chi'n atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ac mae gennych ddyletswyddau rheolwr llinell ar gyfer James Price. Fel y gwyddoch o'ch profiad sylweddol fel cyfarwyddwr anweithredol, mae rôl James fel Prif Swyddog Gweithredol yn allweddol i lwyddiant TrC ac mae'n bwysig cynnal y gwahaniaeth rhwng eich rôl lywodraethu allweddol chi a'r cyflawni gweithredol dan arweiniad James a'i Dîm Arweinyddiaeth Weithredol.

Dyma droi nawr at y meysydd lle rwy'n disgwyl gweld ffocws penodol:

  1. Rwy'n falch o'r dechrau hynod gadarnhaol yr ydym wedi'i wneud ar ddatblygu Rhwydwaith Gogledd Cymru. Wrth i ni symud i gam cyflawni'r rhaglen, ynghyd â'r Bwrdd, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi James a'i dîm i wireddu'r weledigaeth ar gyfer Rhwydwaith Gogledd Cymru.
  2. Er mwyn cyrraedd y nod, o ystyried graddfa ein huchelgais, bydd angen i ni ddefnyddio cyllid ychwanegol sylweddol, gan gynnwys cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun i sicrhau buddsoddiad tymor hwy yn y seilwaith rheilffyrdd. Gyda'ch cefndir a’ch rhwydwaith, sydd wedi'i hen sefydlu, mae hwn yn faes lle rwy'n credu y gallwch ychwanegu gwerth enfawr, nid yn unig o ran sefydlu'r achos strategol dros Rwydwaith Gogledd Cymru, ond ar draws holl ranbarthau Cymru. Byddwn yn croesawu eich cefnogaeth mewn trafodaethau gyda diwydiant, arweinwyr rhanbarthol, a Llywodraeth y DU.
  3. Ar nodyn cysylltiedig, rwy'n disgwyl i TrC gynnal o leiaf ddau gyfarfod Bwrdd y flwyddyn ym mhob un o'r pedair ardal CJC, fel bod TrC yn fwy amlwg ac yn ymatebol i anghenion pobl, busnesau a chymunedau ym mhob cwr o Gymru.
  4. Gyda Llywodraeth y DU yn debygol gyflwyno Bil Rheilffyrdd yr hydref hwn, rydym ar adeg dyngedfennol o ran diwygio rheilffyrdd. Trwy'r Bartneriaeth Bolisi, mae TrC a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar y cyd, ochr yn ochr â thîm Network Rail yng Nghymru, i ddatblygu cynllun ar gyfer model gweithredu'r rheilffyrdd yn y dyfodol. Mae sicrhau ein bod yn gallu cyflwyno manteision diwygio rheilffyrdd yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol ac rydych mewn sefyllfa dda iawn i gefnogi James a'r tîm i sicrhau y cawn y canlyniad gorau posibl.
  5. Wrth i ni symud tuag at gyflwyno masnachfreinio bysiau ledled Cymru, mae'n hanfodol bod TrC, y diwydiant ehangach a rhanddeiliaid allweddol yn barod ar gyfer ei roi ar waith. Bydd eich profiad o ddarparu masnachfreinio bysiau ym Manceinion Fwyaf yn amhrisiadwy o ran helpu TrC i gymryd un o'r camau pwysicaf yng ngwaith datblygu ehangach y Rhwydwaith T.
  6. Wrth i'r gwaith o drawsnewid Craidd Linellau'r Cymoedd nesáu at ei gwblhau, ac i ninnau edrych tuag at gyflwyno'r unedau trên tram Cl.398, bydd eich profiad o barodrwydd gweithredol o safbwynt cwsmeriaid yn arbennig o bwysig. Rwy'n awyddus i weld y cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn - i gynnal deialog agored gyda nhw a cheisio adborth ar ein gwasanaethau. Mae angen sylw arbennig ar gyfleusterau toiledau ar graidd linellau'r Cymoedd ac mae'n rhaid cael cynllun cadarn a chydlynol.
  7. Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon â'r gwelliannau a welsom o ran perfformiad gweithredol y rheilffyrdd o ddydd i ddydd, ac rwy'n fodlon i chi gadw'r trefniadau presennol ar waith i ddal James i gyfrif yn y maes hwn: drwy gadeirio Bwrdd Rheilffyrdd TrC Cyf, gwaith craffu'r Bwrdd Llywio a'ch cyfrifoldebau rheoli llinell. Mae hyn hefyd yn berthnasol i weithgareddau gweithredol a chorfforaethol allweddol eraill fel diogelwch a chyllid.
  8. Mae'r Bwrdd Llywio yn fforwm allweddol ac mae'n ganolog i fframwaith llywodraethu TrC a'r berthynas â Llywodraeth Cymru. Mae eich presenoldeb yn y cyfarfodydd misol hyn yn hanfodol.
  9. O ystyried eich ymrwymiadau ehangach, a graddfa'r gweithgarwch sy'n cael ei gyflawni gan James a'i dîm, mae'n hanfodol eich bod yn gweithio'n agos gydag ef i ddatblygu patrwm gweithio cydlynol a chyson sy'n gweithio i'r ddau ohonoch chi. Bydd datblygu Swyddfa Breifat a rannwch i'ch cefnogi chi a James yn helpu yn hyn o beth i wneud y mwyaf o'ch amser fel Cadeirydd.

Yn ogystal â'r meysydd allweddol hyn, mae'n bwysig fy mod yn eich atgoffa o gyfrifoldebau deddfwriaethol a rheoleiddiol allweddol TrC mewn meysydd sydd y tu allan i gwmpas uniongyrchol darparu trafnidiaeth gyhoeddus ond sydd, serch hynny, o bwysigrwydd sylweddol. Mae gan TrC ddyletswydd gyfreithiol bellach trwy fod yn gorff a enwir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn sail i bopeth y mae TrC yn ceisio ei gyflawni i bobl Cymru. Rhaid i ymrwymiad i amcanion lles corfforaethol TrC a'i gyfrifoldebau cyfreithiol ynghylch lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru fod yn flaenllaw yn eich teithi meddwl chi a'r Bwrdd.

Yn olaf, mae'n ddyletswydd arnaf eich atgoffa ynghylch ymrwymo i egwyddorion Nolan ac egwyddorion llywodraethu corfforaethol ac i sicrhau bod unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn cael eu rheoli. Fel Cadeirydd y Bwrdd, mae gennych hefyd rôl hanfodol wrth ystyried esblygiad y Bwrdd (a'i is-bwyllgorau a materion cysylltiedig) i sicrhau ei fod yn parhau i feddu ar yr arbenigedd priodol ar gyfer gweithredu'n effeithiol wrth i gylch gorchwyl y sefydliad newid.

Rwy'n rhoi pwys mawr i rôl y Cadeirydd a gwaith Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n falch bod y Pwyllgor yn rhannu fy marn bod gennych y cymwysterau priodol i fod yn Gadeirydd nesaf TrC. Edrychaf ymlaen at ddatblygu perthynas waith gynhyrchiol gyda chi ac aelodau newydd eraill o'r Bwrdd, yn enwedig yn ystod eich cyfarfodydd ledled Cymru.

Bydd eich contract gyda Trafnidiaeth Cymru. Felly, ni ddylid dehongli unrhyw beth yn y llythyr hwn fel contract cyflogaeth rhyngoch chi a Llywodraeth Cymru, na chymryd ei fod yn creu contract o'r fath.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich gweithgaredd gwleidyddol neu wrthdaro buddiannau ers i chi gyflwyno'ch cais ac nad ydynt wedi cael eu trafod yn y cyfweliad. Mae canllawiau ar gael yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus.

Hoffwn eich llongyfarch chi a dymuno pob llwyddiant i chi gyda'ch penodiad newydd.

Yn gywir

Ken Skates AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Cabinet Secretary for Transport and North Wales