Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Bwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru.

Rôl y Bwrdd

Mae'r Bwrdd yn grŵp anstatudol a fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru a llunwyr polisi ar draws y sector cyhoeddus (datganoledig a heb ddatganoli) a'r trydydd sector ynglŷn â mynd i'r afael ag agweddau atgas a throseddau casineb ac i wneud y newidiadau angenrheidiol ar draws asiantaethau yng Nghymru.

Diben

Bydd Bwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru yn darparu arweiniad ar draws asiantaethau cyfiawnder troseddol a phartneriaid perthnasol eraill yng Nghymru ar fynd i'r afael â throseddau casineb a thensiynau cymunedol.

Nodau

  • Datblygu a chyflwyno blaenraglen waith sy'n ymwneud ag ymrwymiadau casineb a chydlyniant yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cyfiawnder TroseddolCymruCynllun Gweithredu  Cymru Wrth-hiliolCynllun Gweithredu LHDTC+Cynllun Hawliau Pobl Anabl a chynlluniau perthnasol eraill i ddarparu cyngor a sbarduno cynnydd.
  • Rhannu a thrafod data a gwybodaeth mewn perthynas â'r tueddiadau presennol o ran troseddau casineb a thensiynau cymunedol ledled Cymru;
  • Archwilio ymyriadau cadarnhaol ledled Cymru i gefnogi dioddefwyr, annog y rhai sy'n sylwi ar droseddau i weithredu ac atal troseddwyr, gan argymell bod aelodau yn gweithredu a gwerthuso'r rhain lle bo hynny'n bosibl.
  • Cadw'r hyblygrwydd i ystyried ac ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas ag agweddau atgas a throseddau casineb.

Cyfarfodydd

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod o leiaf 4 gwaith y flwyddyn, yn rhithiol, gyda hyd at un cyfarfod y flwyddyn wyneb yn wyneb.

Llywodraeth Cymru fydd yn ymgymryd â'r cyfrifoldebau ysgrifenyddol ar gyfer y Bwrdd.

Y Cadeirydd

Gall unrhyw Aelod presennol o'r Bwrdd wneud enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd. Caniateir hunan-enwebiadau Gall Aelodau nad ydynt yn rhan o'r Bwrdd gael eu henwebu gan Aelod presennol o'r Bwrdd. Rhaid i'r Cadeirydd gynrychioli sefydliad sector cyhoeddus. Bydd y Dirprwy Gadeirydd yn swyddogaeth a wneir gan Lywodraeth Cymru ac ni fydd yn etholedig.

Bydd Cadeirydd yn cael ei ethol am dymor o 2 flynedd. Bydd holl aelodau'r Bwrdd yn cael eu gwahodd i bleidleisio i ethol Cadeirydd newydd. Os yw Cadeirydd etholedig yn dymuno rhoi'r gorau i'r rôl neu os nad yw'n gallu parhau yn y rôl am gyfnod y 2 flynedd, gall y Dirprwy Gadeirydd gadeirio cyfarfod nesaf y Bwrdd a chychwyn proses etholiadol.

Os mai dim ond 1 enwebiad cymwys a wneir, bydd Llywodraeth Cymru yn penodi'r un a enwebwyd yn Gadeirydd gan roi gwybod i Aelodau'r Bwrdd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweinyddu'r broses bleidleisio ar ran Aelodau'r Bwrdd.

Aelodaeth

Bydd aelodaeth graidd y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolaeth o'r sefydliadau canlynol:

  • Yr Heddlu Heddlu Dyfed-Powys; Heddlu Gwent; Heddlu Gogledd Cymru; Heddlu De Cymru; Heddlu Trafnidiaeth Prydain
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
  • Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Uned Gyswllt yr Heddlu
  • Llywodraeth Cymru:
    • Yr Is-adran Cymunedau Cydlynus
    • Yr Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
    • Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol
  • Cymorth i Ddioddefwyr Cymru
  • Cynrychiolwyr y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol
  • Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru
  • Cynrychiolaeth academaidd
  • Canolfannau adrodd troseddau casineb y trydydd sector: Yr Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol, On Your Side (Protection Approaches), Tell Mama, Galop
  • Cynrychiolaeth o'r trydydd sector (bydd cynrychiolydd yn cael ei dynnu o bob un o fforymau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, mae hyn yn cynnwys Fforwm Hil Cymru, Bwrdd Goruchwylio Strategol Cenedl Noddfa, Fforwm Cydraddoldeb Anabledd, Fforwm Cymunedau Ffydd)
  • Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru (Cydlynydd y cynllun gweithredu gwrth-hiliol)
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Tai Pawb

Caiff y trefniadau aelodaeth eu hadolygu bob dwy flynedd.

Bydd y Grŵp yn nodi ac yn gwahodd sefydliadau sydd â diddordeb/dylanwad mewn materion sy'n ymwneud â mynd i'r afael ag agweddau atgas a throseddau casineb i gyfarfodydd perthnasol.

Gall sefydliadau nad ydynt yn dod i ddau 2 gyfarfod yn olynol fforffedu eu presenoldeb mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Gall aelodau anfon dirprwyon am hyd at hanner y cyfarfodydd mewn blwyddyn.

Cysylltiadau

Bydd gan y Bwrdd berthynas gydfuddiannol â Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru drwy rannu agendâu, cofnodion a blaenraglenni gwaith i osgoi dyblygu a gwella ymwybyddiaeth o dueddiadau a materion sy'n dod i'r amlwg.

Data a gwybodaeth

Er mwyn cynorthwyo gwaith y Bwrdd, gofynnir i'r Heddluoedd a Cymorth i Ddioddefwyr gynhyrchu adroddiad data chwarterol y gellir ei rannu ymlaen llaw gyda'r holl Aelodau. Dylid anfon gwybodaeth at ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru bythefnos cyn y Bwrdd er mwyn gwneud y gwaith coladu. Bydd papurau'n cael eu dosbarthu i Aelodau'r Bwrdd heb fod yn hwyrach na 5 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

Gofynnir i bob Heddlu adrodd ar droseddau casineb a chanlyniadau wedi'u cofnodi yn ôl nodweddion gwarchodedig yn y chwarter diweddaraf. Bydd tueddiadau dros amser hefyd yn helpu i esbonio'r data.

Gofynnir i Cymorth i Ddioddefwyr adrodd ar atgyfeiriadau yn ôl math a nodwedd warchodedig, yn ogystal â'r gefnogaeth a roddir, yn y chwarter diweddaraf. Bydd tueddiadau dros amser hefyd yn helpu i esbonio'r data.

Yn ogystal, gofynnir i Aelodau'r Bwrdd ddarparu diweddariadau naratif am y gwaith a wneir i atal, monitro a lliniaru tensiynau cymunedol a throseddau casineb. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad ysgrifenedig ar eie gweithgareddau cyn pob cyfarfod.

Treuliau

Ystyrir ad-dalu rhai elfennau o gostau teithio pan gynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb, yn unol â chanllawiau Teithio a Chynhaliaeth Llywodraeth Cymru. Gellir darparu canllawiau (gan gynnwys ar uchafswm y cyfraddau ad-dalu) ar gais.

Fel arfer, bydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu cynllunio fel nad ydynt yn  dechrau cyn 11am a byddant yn dod i ben cyn 4pm i sicrhau nad oes angen aros dros nos. Byddai cyfleusterau fideogynadledda hefyd yn cael eu darparu lle bynnag y bo modd. Os oes angen cyfarfod wyneb yn wyneb hirach neu ddigwyddiad 2 ddiwrnod, neu lle nad yw cyfleusterau fideogynadledda yn bosibl, darperir costau llety dros nos i'r rhai nad ydynt yn cynrychioli cyrff cyhoeddus.

Rhaid cael derbynneb am unrhyw wariant ar deithio neu lety. Dim ond ar gyfer Aelodau'r Bwrdd nad ydynt yn gynrychiolwyr cyrff cyhoeddus (datganoledig a heb ddatganoli) y telir treuliau. Darllenwch fwy am gyrff cyhoeddus datganoledig.