Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae potensial i gyfarfodydd prif gynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ennyn diddordeb a chyrraedd cynulleidfa eang o’r gymuned leol a thu hwnt. Mae'r cyfarfodydd hyn yn cynnig ffyrdd newydd o gefnogi a gwasanaethu cymunedau, gan roi pwyslais cryf ar egwyddorion democratiaeth, tryloywder ac atebolrwydd i ddinasyddion Cymru. Mae’n gyfle hefyd i rannu gwybodaeth, edrych ar faterion sy'n effeithio ar fywyd unigolyn o dydd i ddydd a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion lleol. 

Mae adran 46(1) a (2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i roi trefniadau ar waith i ddarlledu cyfarfodydd cyngor llawn fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd eu hunain yn gallu gweld a chlywed y trafodion fel y maent yn digwydd.  Roedd yn fwriad o’r dechrau i hon fod yn broses raddol a fyddai’n cael ei hymestyn i gynnwys cyfarfodydd eraill, ar sail y profiad o roi’r trefniadau ar waith ar gyfer cyfarfodydd llawn. Ar hyn o bryd nid yw'n ofynnol i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol nac Awdurdodau Tân ac Achub ddarlledu eu cyfarfodydd. 

Er mwyn llywio'r cam nesaf yn ein dull o ran darlledu cyfarfodydd, rwyf am glywed barn unigolion a sefydliadau am y canlynol:

  • a ddylai’r ddyletswydd ar brif gyngor i ddarlledu cyfarfodydd gael ei hymestyn i gynnwys cyfarfodydd heblaw rhai’r cyngor llawn,
  • a ddylai hyn gael ei ymestyn, i’w gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a/neu Awdurdodau Tân ac Achub ddarlledu eu cyfarfodydd,
  • beth ddylai'r cyfnod cadw fod ar gyfer y recordiadau o'r cyfarfodydd hynny y mae'n ofynnol eu darlledu. 

Rwy'n eich annog i rannu eich barn am y materion hyn fel rhan o'r broses ymgynghori