Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r 'canllaw cyflym' yn dangos y Taliadau Cyffredinol dangosol y gallech eu derbyn o 2026 ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyfrifwch werth dangosol eich Taliad Cyffredinol o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn disodli taliadau'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS). Bydd y BPS yn gostwng bob blwyddyn, gyda hawliad terfynol yn 2028. I dderbyn taliadau cyffredinol SFS, rhaid i chi fod yn gymwys i hawlio. Mae dogfen ddisgrifio'r cynllun yn disgrifio pwy sy'n gymwys. Gallwch ddefnyddio'r canllaw cyflym hwn i amcangyfrif gwerth dangosol eich Taliad Cyffredin o dan yr SFS, neu daliad tapr y BPS. Dylai cyfrifiadau fod yn gyflym ac ni fyddant yn gofyn am wybodaeth bersonol. Mae'r wybodaeth sydd ei hangen i gwblhau'r canllaw cyflym ar gael:

  • yn nogfen grynhoi eich Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2025. Mae'n nodi manylion:
    • cyfanswm eich arwynebedd tir a ddatganwyd yn 2025
    • nifer eich hawliau BPS, a
    • y dyraniad tir comin a bennwyd o 2024
    • unrhyw ardaloedd anghymwys
  • mae eich ffurflen cadarnhau data SFS 2025 yn darparu:
    • cyfansymiau meintiau cynefinoedd, a
    • cyfanswm ardaloedd canopi coed sy'n fwy neu'n hafal i 0.1ha

Os oes angen help arnoch i ddefnyddio'r canllaw cyflym: