Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i sut mae'r bysgodfa cregyn bylchog yn cael ei rheoli er mwyn gwella cynaliadwyedd fel rhan o waith i gyflwyno Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin.

Sut i ymateb

Gellir cyflwyno ymatebion drwy e-bost, drwy'r post neu drwy ffurflen ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dylid anfon ymatebion e-bost/post i'r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn 15 Ionawr 2026 fan bellaf. Cofiwch sicrhau eich bod yn nodi "Ymgynghoriad: Newidiadau arfaethedig i fesurau rheoli pysgota am gregyn bylchog yng Nghymru" yn y blwch pwnc.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Is-adran Pysgodfeydd

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Art 6(1)(e)

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Lle y bo Llywodraeth Cymru’n ymgymryd â gwaith dadansoddi pellach ar ymatebion yr ymgynghoriad, yna mae’n bosibl y bydd y gwaith hwn yn cael ei gomisiynu i’w gynnal gan drydydd parti awdurdodedig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghoriaeth). Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: a href="mailto:dataprotectionofficer@gov.wales">swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Gair gan y Gweinidog

Mae ein moroedd yn cynnal toreth o fywyd sy'n cynnal ffyniant a lles cymunedau yng Nghymru. Yn wyneb bygythiadau cynyddol gan weithgareddau dynol a'r newid yn yr hinsawdd, rhaid meddwl am ffyrdd i addasu a diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr nawr ac yn y dyfodol.

Gan weithio gyda rhanddeiliaid, rydym yn cynnal ystod eang o weithgareddau i sicrhau defnydd cynaliadwy o'n moroedd, gan gynnwys rhaglen uchelgeisiol o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (CRhP) i wella’n systematig ein rheolaeth ar ein pysgodfeydd. 

Heb reolaeth briodol, mae gan lusgrwydo am Gregyn Bylchog y potensial i niweidio cynefinoedd gwely'r môr. Mae gan Gymru eisoes bysgodfa lusgrwydo broffidiol am gregyn bylchog ar y glannau sy'n cael ei rheoli'n dda. Ac mae llawer o ardaloedd ar gau er mwyn diogelu cynefinoedd sensitif. Dyma'n rhannol pam na wnaeth ein hasesiadau diweddar o gyflwr ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig nodi unrhyw gynefin na rhywogaeth oedd mewn cyflwr anffafriol oherwydd pysgota.

Ond ni allwn bwyso ar ein rhwyfau ac rydym am fynd ymhellach. Y rheswm dros yr ymgynghoriad – fel gyda phob ymgynghoriad ar Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd – yw sicrhau bod ein hamgylcheddau morol yn cael eu diogelu a bod ein stociau pysgod yn cael eu rheoli ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd cryfhau rheolaeth pysgota cregyn bylchog ym môr Cymru yn diogelu stociau cregyn bylchog a'r amgylchedd.

Un o gamau allweddol yn CRhP Cregyn Bylchog yw datblygu fframwaith newydd o fesurau rheoli. Bydd hyn yn gyfle i adolygu'r system bresennol a datblygu cynigion ar gyfer system reoli gryfach, fwy hyblyg fydd yn seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.

Nod y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yw cryfhau ac estyn y mesurau ar gyfer rheoli llusgrwydo am gregyn y brenin o gwmpas glannau Cymru gyfan (gwelwch Mapiau yn dangos Parth Economaidd Neilltuedig Cymru (EEZ/parth Cymru) a mesurau presennol). Byddant yn golygu rheolaeth fwy amserol wrth ymateb i dystiolaeth am y stoc neu'r amgylchedd, er enghraifft trwy newid cyfyngiadau gofodol. Ar ben hynny, bydd y mesurau hyblyg hyn yn ei gwneud yn haws treialu a mabwysiadu gêr neu ddulliau sy'n cael llai o effaith.

Hoffwn ddiolch i aelodau Grŵp Cynghori ar Gregyn Bylchog Cymru a'n helpodd i ddatblygu'r cynigion hyn. Rwy'n eich annog i ystyried y wybodaeth isod a hoffem glywed eich barn i'n helpu i reoli cregyn y brenin yng Nghymru yn y dyfodol.

Huw Irranca-Davies AS
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diben yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn

Fel rhan o’r broses o roi Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin Cymru a Lloegr (FMP Cregyn y Brenin) (ar gov.uk) ar waith ac i sicrhau ei gynaliadwyedd, mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar gynigion i greu fframwaith newydd o fesurau i reoli pysgota am gregyn y brenin (Pecten maximus) yng Nghymru trwy:

  • gryfhau mesurau rheoli ar gyfer llusgrwydo am gregyn y brenin i sicrhau bod rheoliadau’n gyson a chydlynol ym mhob rhan o Barth Cymru er mwyn diogelu stociau ac amgylchedd cregyn y brenin
  • rhoi’r modd i addasu pob ffurf ar reoli pysgota sy’n targedu cregyn y brenin fel bod mesurau’n gallu cael eu newid yn amserol i ymateb i dystiolaeth am y stoc, y gweithgaredd pysgota, dulliau / gêr, yr amgylchedd neu’r newid yn yr hinsawdd
  • caniatáu treialu a chynnal dulliau pysgota isel eu heffaith am gregyn bylchog fel plymio i gasglu â llaw neu ddefnyddio cewyll gyda goleuadau lle bo hynny’n ymarferol a chynaliadwy

Gall y newidiadau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn fod ar ffurf amodau trwydded, amodau i gyfundrefn drwyddedu, neu eu gwneud trwy ddiwygiadau annibynnol i'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Yn ogystal, rydym yn ymgynghori ar gynnig i sicrhau cysondeb rhwng y Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf (MCRS) ar gyfer cregyn y frenhines (Aequipecten opercularis / Chlamys opercularis) yng Nghymru ac awdurdodaethau cyfagos er mwyn amddiffyn y stoc yn well.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar y cynigion hyn a bydd yn ystyried yr holl ymatebion cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen.

Cefndir

Ers i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r UE-DU (ar gov.uk) wedi darparu'r fframwaith rhyngwladol ar gyfer rheoli stociau a rennir, gan gynnwys stociau nad oes cwota ar eu cyfer, fel cregyn y brenin.

Mae Deddf Pysgodfeydd 20200 (ar legislation.gov.uk) y DU yn sylfaen i sut mae pysgodfeydd yn cael eu rheoli yn y DU. Gan fod rheoli pysgodfeydd wedi ei ddatganoli, mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am benderfyniadau rheoli yng Nghymru ac yn y rhan Cymru o Barth Economaidd Neilltuedig (EEZ) y DU y cyfeirir ati fel parth Cymru. Dyma'r rhan o'r môr sydd agosaf at Gymru ac sy'n ymestyn hyd at 200 milltir forol neu i'r pellter canolrifol (hanner ffordd) rhwng Cymru a'r wlad agosaf nesaf (Ffigur 1).

Lluniodd y DU a'r Llywodraethau Datganoledig Gyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS) (ar gov.uk) sy'n cynnwys polisïau ar gyfer cyflawni amcanion y Ddeddf Pysgodfeydd, a sut y byddai cynlluniau rheoli pysgodfeydd (FMP) yn cael eu defnyddio i greu pysgodfeydd cynaliadwy. Gan fod FMP Cregyn y Brenin yn gynllun ar y cyd, mae Gweinidogion y DU a Chymru yn gyfrifol am gamau gweithredu yn eu priod awdurdodaethau, ac maent yn parhau i gydweithio ar ddatblygu polisi.

Cyhoeddwyd FMP Cregyn y Brenin ym mis Rhagfyr 2023. Nod Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yw cadw stociau ar lefelau cynaliadwy, neu eu hadfer i lefelau cynaliadwy.

Un o'r camau gweithredu allweddol yn yr FMP yw ystyried fframwaith newydd o fesurau rheoli cregyn y brenin er mwyn sicrhau bod pysgota yn gyson â'r cynnyrch cynaliadwy mwyaf (MSY) neu fesur procsi addas. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Grŵp Cynghori Cymru ar Gregyn y Brenin (WKSAG) i gyflwyno FMP Cregyn y Brenin yng Nghymru ac i ddatblygu’r mesurau isod. 

Rheoli pysgota am gregyn y brenin yng Nghymru

Mae pysgota am gregyn y brenin eisoes yn cael ei reoleiddio'n gadarn yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n trwyddedu tua 20 o gychod bob blwyddyn i bysgota am gregyn y brenin gyda llusgrwydi o fewn 6 milltir forol o’r lan. Cyn rhannu trwyddedau, mae Asesiad o’r Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) yn cael ei gynnal bob blwyddyn i sicrhau na chaiff y bysgodfa effeithiau andwyol Ardaloedd Morol Gwarchodedig (AMG). Mae asesiadau diweddar o gyflwr safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau ein casgliad blynyddol ARhC nad oes unrhyw effaith andwyol i AMGau Cymru yn cael eu hachosi gan bysgota cregyn bylchog a ganiateir.

Mae stociau cregyn y brenin yng Nghymru i’w gweld fwyaf mewn tair ardal wahanol: Bae Ceredigion, i'r Gogledd o Benrhyn Llŷn, ac i'r Gogledd-ddwyrain o Ynys Môn. Mae’r ardaloedd hyn yn gymharol fas gyda llawr o dywod/graean. Mae pysgota am gregyn y brenin wedi’i wahardd o fewn 1 filltir forol / llinellau cau baeau o gwmpas Cymru ac o fewn rhannau perthnasol o ACAau sydd â nodweddion benthig (gweler ffigur 4). Caeir y bysgodfa rhwng 1 Mai a 31 Hydref bob blwyddyn o fewn 12 milltir forol o’r lan (gweler ffigur 3). Ceir cyfyngiadau hefyd ar nerth cychod ac ar yr offer a ddefnyddir.

Mae trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer rheoli parth Cymru wedi newid yn ddramatig yn ystod y degawdau diwethaf. Mae mesurau presennol wedi'u hetifeddu o is-ddeddfau'r Pwyllgor Pysgodfeydd Môr, rheoliadau'r UE a'r DU yn ogystal â deddfwriaeth gan y Cynulliad a'r Senedd. Felly, nid yw'r mesurau yn gydlynol ar draws parth Cymru ac nid oes modd chwaith newid y mesurau presennol yn gyflym mewn ymateb i dystiolaeth er mwyn diogelu'r stoc a'r amgylchedd. Hefyd, nid yw’r fframwaith presennol o fesurau wedi’i greu i ganiatáu neu reoli dulliau eraill isel eu heffaith o gynaeafu cregyn y brenin, fel casglu â llaw neu dechnegau newydd fel defnyddio cewyll â goleuadau.

Y tu hwnt i'r fframwaith deddfwriaethol a nodir uchod, rhaid i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (ar legislation.gov.uk), Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (ar legislation.gov.uk), Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (2017) (ar legislation.gov.uk), Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (ar legislation.gov.uk), Strategaeth Forol y DU a Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru 2019 ar gyfer y rhan arfordirol a'r rhan ar y môr o barth Cymru.

Wrth ddatblygu'r FMP, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyfres o ddogfennau ategol (ar gov.uk) sy'n manylu ar y dystiolaeth, y gwaith ymchwil a'r ystyriaethau amgylcheddol sydd ar gael. Cyhoeddwyd Asesiad Amgylcheddol Strategol - Adroddiad Amgylcheddol (ar gov.uk) ym mis Ionawr 2024 hefyd. Anogir ymatebwyr i gyfeirio at y dystiolaeth yn yr adroddiadau hyn i gael rhagor o fanylion.

Mae Prifysgol Bangor wedi cynnal arolygon rheolaidd o’r stoc ar ran Llywodraeth Cymru ers 2012. Mae’r dystiolaeth am y stoc yn parhau i dyfu a rhagwelir cynnal asesiad cychwynnol o’r stoc o fewn cyfnod amser yr FMP diweddaraf (cyn 2029). Caiff yr asesiad hwn ei ddefnyddio i helpu i wneud penderfyniadau rheoli at ddiben sicrhau MSY neu fesur procsi addas.

Pa fesurau newydd i reoli cregyn bylchog sy'n cael eu cynnig?

Gan weithio gyda WKSAG, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r mesurau rheoli presennol ac wedi datblygu ystod o newidiadau arfaethedig er mwyn rheoli stociau mewn ffordd gynaliadwy a diogelu'r amgylchedd. Bwriad effaith gyfunol y cynigion hyn yw darparu adnoddau angenrheidiol i reolwyr pysgodfeydd fel bod modd iddynt reoli pysgodfeydd cregyn bylchog Cymru mewn ffordd addasol mewn ymateb i dystiolaeth a mewnbwn gan randdeiliaid trwy grŵp cynghori rheolwyr.

Dylid ystyried y cynigion yn unigol ac ar y cyd. Disgwylir y bydd llawer o gynigion unigol yn cael yr effaith fwyaf o gael eu defnyddio ar y cyd ag eraill.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y cynigion hyn yn rhesymol, yn gymesur, yn anwahaniaethol ac yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod stociau cregyn bylchog yn parhau i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor a bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu yn unol ag FMP Cregyn y Brenin, yr amcanion ar gyfer pysgodfeydd, y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a'r nodau llesiant.

Mae'r cynigion isod yn disgrifio mesurau rheoli hyblyg. Lle’r ydym yn cynnig defnyddio'r hyblygrwydd newydd hwn i gyflwyno newidiadau penodol yn y tymor byr, rydym yn tynnu’ch sylw atynt. Ar ôl yr ymgynghoriad hwn, os yw Llywodraeth Cymru yn newid mesurau rheoli cregyn bylchog, cynhelir yr holl asesiadau effaith angenrheidiol cyn cyflwyno unrhyw newidiadau. Er bod yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys sawl cynnig, mae'n bosibl y bydd angen cyflwyno newidiadau yn raddol dros amser. Er enghraifft, bydd yn rhaid wrth fonitro electronig o bell (REM) fel mesur rheoli cyn ystyried cyflwyno rheolaeth gylchynol (agor a chau ardaloedd yn eu tro) i ddiogelu stociau a chyflwr gwely’r môr.

Mae dulliau ac arferion pysgota’n datblygu trwy’r amser. Trwy feddu ar arfau rheoli hyblyg, bydd Llywodraeth Cymru’n gallu ymateb i newidiadau a hwyluso dulliau pysgota isel eu heffaith fel plymio i gasglu â llaw neu dreialu technegau newydd fel cewyll â goleuadau.

Cynnig 1

Cyflwyno trwydded cregyn y brenin Cymru gyfan flynyddol ar gyfer pob cwch sy'n dal cregyn y brenin ym mha ddull bynnag ym mharth Cymru. Byddai modd pennu amodau ar gyfer y drwydded, i'w hamrywio o bryd i'w gilydd ar sail tystiolaeth, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y bysgodfa

Byddai'r drwydded yn drwydded ddigidol, yn debyg i drwyddedau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer cregyn bylchog, cocos a chregyn moch.

Ar hyn o bryd, mae dwy ardal a ganiateir oddi mewn i barth Cymru sy'n cyfateb i hen ardaloedd y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr (SFC) (ardal 0-6 milltir forol o barth Cymru) ar gyfer Gogledd Cymru (Is-ddeddf 12) a De Cymru (Is-ddeddf 40).

Gan fod pysgodfeydd wedi cael eu datganoli ar gyfer parth Cymru gyfan, caiff hyn ei ystyried yn rhaniad gweinyddol diangen ar gyfer pysgotwyr a r\r pysgodfeydd. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dirymu'r gofynion am drwyddedau ar gyfer pob un o'r hen ardaloedd yr SFC a chyflwyno gofyniad am un drwydded i bysgota am gregyn y brenin ym mhob rhan o barth Cymru. Cynigir y bydd rhaid cael trwydded ar gyfer pob dull o bysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru.

Mae'n bosibl y bydd trwyddedau yn cynnwys amodau i'w gwneud yn ofynnol i ddeiliaid trwydded ymgymryd â gweithgareddau penodol neu’n gwahardd gweithgareddau penodol. Gellir ychwanegu, dileu neu amrywio amodau trwydded o bryd i'w gilydd yn ôl yr angen er mwyn rheoleiddio'r bysgodfa.

Os yw'n ymarferol, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol wrth amrywio amodau trwydded ac yn rhoi rhybudd rhesymol am newidiadau. Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft lle mae angen gweithredu ar frys i ddiogelu'r stoc neu'r amgylchedd, efallai na fydd hyn yn ymarferol.

Bydd cyfnod y drwydded flynyddol yn dechrau ar ddyddiad penodol bob blwyddyn ac yn para 12 mis (gan gynnwys cyfnodau cau). Bydd canllawiau yn esbonio'r gofynion ar gyfer gwneud cais am drwydded er mwyn sicrhau bod modd rhoi trwyddedau cyn i gyfnod y drwydded ddechrau.

Os cyflwynir y cynigion hyn, gallai fod angen y drwydded newydd mor gynnar â mis Tachwedd 2026.

Cynnig 2

Ystyried cyflwyno tâl am drwydded flynyddol ar gyfer cregyn bylchog 

Os cyflwynir y newid hwn, pennir y tâl yn unol â chanllawiau ar adennill costau, yr hyn sy'n rhesymol, ac mewn ymgynghoriad â deiliaid trwydded a rhanddeiliaid eraill.

Yn unol â physgodfeydd eraill a drwyddedir yng Nghymru, ac er mwyn cyfrannu at adennill costau gweinyddu, rheoli ac arolygu, cynigir y bydd gan Lywodraeth Cymru yr opsiwn i godi tâl am wneud cais am y drwydded cregyn y brenin Cymru gyfan newydd. 

Cynnig 3

Cyflwyno terfynau dal amrywiol ar gyfer cregyn y brenin ym mharth Cymru

Nid oes unrhyw derfynau dal ar gyfer cregyn bylchog ym mharth Cymru ar hyn o bryd.

Mae pennu terfynau dal i sicrhau nad yw stociau yn cael eu gorbysgota yn un o'r mesurau rheoli pysgodfeydd mwyaf effeithiol ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd. Gellir pennu terfynau dal ar sail dalfeydd hanesyddol, dangosyddion iechyd y stoc, canlyniadau asesiadau o'r stoc neu gyfuniad o'r pethau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal arolygon o'r tair prif ardal stoc ym mharth Cymru (Bae Ceredigion, i'r Gogledd o Benrhyn Llŷn, ac i'r Dwyrain o Ynys Môn) ers 2012. Rydym wedi addasu cwmpas yr arolwg yn ddiweddar ac yn datblygu dull asesu stoc. Rydym yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu terfynau dal ar sail cyfuniad o ddata dalfeydd hanesyddol a chanlyniadau arolygon gwyddonol.

Gan ddibynnu ar y cyngor gwyddonol, rydym yn rhagweld pennu terfyn dalfa blynyddol (ACL) a allai fod yn benodol i ardal stoc. Yn ogystal, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r ACL, mae'n bosibl y byddwn yn pennu terfynau misol, wythnosol neu ddyddiol hefyd ar gyfer pob cwch yn ôl yr angen er mwyn diogelu'r stoc.

Cynnig 4

Cyflwyno Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf (MCRS) amrywiol ar gyfer cregyn y brenin ym mharth Cymru a gosod yr MCRS ar y môr i'r de o 52°30' G i 110mm (fel ei fod 110mm ledled parth Cymru)

Mae Erthygl 11 o Orchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010 (fel y'i diwygiwyd) yn nodi mai "maint lleiaf cragen fylchog y caniateir ei chario gan gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru yw 110 milimetr" a bod y cyfyngiad hwn yn gymwys i'r rhan o Barth Economaidd Neilltuedig Cymru sy'n ymestyn o 0 i 12 milltir forol o'r lan. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn disodli hen is-ddeddfau'r Pwyllgor Pysgodfeydd Môr ar gyfer Gogledd a De Cymru.

Yn rhanbarth Parth Economaidd Neilltuedig Cymru ar y môr ceir dau MCRS o dan gyfraith yr UE a ddargedwir: Atodiad 6 Rhan A Rheoliad (EU) 2019/1241. I'r gogledd o'r llinell ledred ar 52°30' G, mae'r MCRS yn 110mm mewn diamedr. I'r de o'r llinell honno, mae'r MCRS yn 100mm mewn diamedr (gweler y map yn ffigur 4).

Mae MCRS o 110mm yn golygu bod 95% o gregyn y brenin yn gallu silio cyn cael eu dal. Mae hyn yn sicrhau bod y stoc yn gynhyrchiol ac yn wydn. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod angen MCRS gwahanol ar y môr i'r gogledd a'r de o linell ledred 52°30' G. Mae'n bosibl y bydd cynyddu'r MCRS i 110mm yn yr ardal ar y môr i'r de o'r llinell ledred ar 52°30' G yn arwain at ostyngiad cymedrol mewn dalfeydd y tu draw i’r terfyn 12 milltir forol i rai cychod i gychwyn. Fodd bynnag, bydd y cynnydd canlyniadol mewn biomas stoc silio yn cynyddu recriwtio, dalfeydd a chynaliadwyedd hirdymor y bysgodfa.

Ar sail y dystiolaeth bresennol, ar hyn o bryd mae MCRS o 110mm yn cael ei ystyried yn amddiffyniad digonol er mwyn sicrhau bod cregyn y brenin yn silio o leiaf unwaith cyn cael eu dal ym mharth Cymru. Yn y dyfodol, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru eisiau amrywio'r MCRS naill ai ar gyfer holl barth Cymru, neu rannau ohono, ar sail tystiolaeth yn ymwneud â'r stoc. Mae'n bosibl y bydd angen gwneud hyn er mwyn rheoleiddio dulliau pysgota newydd fel plymio i gasglu pysgod cregyn â llaw neu bysgota â chewyll, neu er mwyn gallu addasu i newid yn yr hinsawdd.

Cynnig 5

Cyflwyno gofynion System Monitro Cychod (VMS) amrywiol ar gyfer pob cwch sy'n pysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru a gosod amlder trosglwyddo data VMS o 10 munud ar gyfer cychod dros 12 metr o hyd ym mharth Cymru ar y môr (er mwyn sicrhau bod gofynion VMS ar gyfer pob cwch ym mharth Cymru yr un fath)

Mae gan Gymru rai o'r gofynion VMS mwyaf datblygedig yn y DU. Mae'n rhaid i bob cwch ddefnyddio VMS ym mharth Cymru, ond mae'r gofynion yn amrywio yn ôl maint y cwch, y dull pysgota a lleoliad y gweithgarwch pysgota. Mae'n rhaid i gychod o Gymru o dan 12m o hyd, gan gynnwys cychod sy'n pysgota am gregyn y brenin, ddefnyddio VMS gydag amlder trosglwyddo data o 10 munud ble bynnag y maent o dan Orchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022 (ar legislation.gov.uk).

Mae'n rhaid i unrhyw gychod sy'n llusgrwydo am gregyn bylchog oddi mewn i'r ardal 0-12 milltir forol, lle bynnag y maent wedi'u cofrestru, ddefnyddio VMS gydag amlder trosglwyddo data o 10 munud o dan Orchymyn Gweithrediadau Llusgrwydo Cregyn Bylchog (Dyfeisiau Olrhain) (Cymru) 2012 (ar legislation.gov.uk).

Er bod angen i gychod o dan 12m nad ydynt wedi’u cofrestru yng Nghymru ddefnyddio VMS ac adrodd eu lleoliad bob 10 munud ym mharth Cymru, dim ond bob 2 awr y mae angen i gychod dros 12m nad ydynt yn pysgota yn yr ardal 0-12 milltir forol drosglwyddo manylion eu lleoliad, hynny o dan Erthygl 19 ac Erthygl 22 o Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) Rhif 404/20111 (ar legislation.gov.uk).

Mae hon yn sefyllfa annheg nad yw'n cael ei chyfiawnhau gan gyngor gwyddonol, cyfyngiadau technolegol, prosesau rheoli pysgodfeydd neu, ers i'r pwerau angenrheidiol gael eu datganoli, gweinyddiaeth awdurdodaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy'n pysgota am gregyn y brenin ac yn eu dal â llusgrwydi drosglwyddo data ar yr un amlder VMS. Bydd hyn yn golygu bod modd rheoli pysgodfeydd a rheoli a gorfodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn fwy effeithiol.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod amlder trosglwyddo data o 10 munud yn ddigonol i reoli pysgodfeydd cregyn bylchog. Mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud yn y maes hwn a allai ddangos arfer orau wahanol yn y dyfodol. Mae'n bosibl y bydd angen amlder trosglwyddo data gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o bysgota am gregyn bylchog neu mewn ardaloedd gwahanol, er enghraifft er mwyn diogelu'r amgylchedd.

Gallai newidiadau i reolaethau eraill yn ymwneud â physgota olygu bod angen newid gofynion VMS hefyd. Er enghraifft, os cyflwynir dull monitro electronig o bell, efallai y bydd angen gwneud newidiadau i VMS er mwyn cydlynu rhwng systemau.

Cynnig 6

Cyflwyno monitro electronig o bell (REM) gyda chamerâu a synwyryddion i bysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru

Mae REM yn amrywiaeth integredig o synwyryddion (System Leoli Fyd-eang a synwyryddion offer) a chamerâu fideo a ddefnyddir i fonitro gweithgareddau pysgota cychod ar y môr o bell. Gall REM ddarparu union leoliad defnyddio offer yn ogystal â chynnwys dalfa, dulliau trin a gwaredu heb y gost o ddefnyddio arsylwyr.

Mae monitro electronig o bell (REM) gyda chamerâu a synwyryddion yn ddatblygiad newydd ym mhrosesau rheoli pysgodfeydd yn y DU. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno gofyniad i gael REM gyda chamerâu a synwyryddion ar gyfer llusgrwydo am gregyn bylchog ym mharth yr Alban. Mae Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar REM ar gyfer pysgodfeydd eraill, ac mae gwledydd eraill yn defnyddio'r dechnoleg hon.

Gan fod REM yn gallu dangos lle mae pysgota yn digwydd yn ogystal â llwybrau teithio cychod, gallai gynnig manteision lluosog o ran rheoli’r bysgodfa cregyn y brenin. Pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â data dalfeydd ac arolygon, byddai'n gwella ein dealltwriaeth o statws y stoc a rheoli lefelau pysgota. Gallai hwyluso opsiynau rheoli newydd fel cylchdroi ardaloedd sy'n cael eu pysgota er mwyn rheoli stociau’n well a chynnal integredd gwely'r môr yn unol â gofynion Strategaeth Forol y DU. Hefyd, byddai REM yn cryfhau prosesau rheoli a gorfodi'r bysgodfa ac yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd, lle bo angen. Os yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gofyniad sy’n nodi bod yn rhaid i gychod sy'n pysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru gael systemau REM gweithredol, ni fydd hynny yn digwydd cyn mis Tachwedd 2027. Os yw gofynion REM yn cael eu cyflwyno, gallant amrywio ar gyfer cychod o feintiau gwahanol neu gychod sy'n defnyddio dulliau neu offer pysgota gwahanol.

Nid yw trefniadau rhynglywodraethol ffurfiol ar gyfer REM ar waith eto, ond mae gweithgor rhyngweithredu REM y DU yn datblygu opsiynau.

Gan fod polisi REM ar lefel y DU a chostau a galluoedd y dechnoleg yn parhau i ddatblygu, mae'n bosibl y bydd angen amrywio manylebau REM technegol mewn ymateb i dystiolaeth wyddonol a datblygiadau technegol.

Cynnig 7

Cyflwyno tymor neu dymhorau caeedig amrywiol ar gyfer cregyn y brenin ym mharth Cymru a newid y cyfnodau caeedig tymhorol ar y môr fel bod y bysgodfa ar gau rhwng 1 Mai a 31 Hydref bob blwyddyn er mwyn diogelu'r stoc yn ystod y cyfnod silio

Mae sawl tymor caeedig o fewn Parth Economaidd Neilltuedig Cymru.

Mae Erthygl 4 o Orchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010 (fel y'i diwygiwyd) yn nodi "ni chaiff unrhyw berson bysgota, cymryd neu ladd cregyn bylchog yn nyfroedd Cymru yn ystod y cyfnod 1 Mai i 31 Hydref, gan gynnwys y dyddiadau hynny, ym mhob blwyddyn, drwy unrhyw ddull gan gynnwys plymio.” Mae'r ddarpariaeth hon yn berthnasol i'r rhan 0-12 milltir forol o Barth Economaidd Neilltuedig Cymru. Ceir sawl tymor caeedig gwahanol sy'n gorgyffwrdd yn y terfyn 12 milltir forol o barth Cymru (ar y môr) o dan is-ddeddfwriaeth cyn datganoli o'r 1980au (gweler Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) (Amrywio) 1986 (ar legislation.gov.uk) a Gorchymyn Cregyn Bylchog (Môr Iwerddon) (Gwahardd Pysgota) 1984 (ar legislation.gov.uk)).

Yn yr ardal ar y môr i'r de o'r llinell ledred i'r gorllewin o arfordir Cymru o 51°30'00.0"G, nid oes tymor caeedig (gweler y map yn ffigur 3).

Yn yr ardal i'r gogledd o'r llinell ledred yn 51°30'00.0"G ond i'r de o 52°48'00.0"G, y tymor caeedig blynyddol yw 1 Gorffennaf – 31 Hydref.

Yn yr ardal i'r gogledd o'r llinell ledred yn 51°30'00.0"G ond i'r de o 52°48'00.0"G, y tymor caeedig yw 1 Gorffennaf – 31 Hydref.

Mae Is-ddeddf 20 hen Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yn ymestyn y cyfnod caeedig tymhorol oddi mewn i'r 0-3 milltir forol o ardal y glannau ym mharth Cymru rhwng Trwyn Cemaes yng Ngheredigion a Braich y Pwll ym Mhen Llŷn hyd at 31 Rhagfyr (gweler y map yn ffigur 3).

Bydd y tymor caeedig arfaethedig yn gwarchod cregyn y brenin ym mharth Cymru yn ystod y prif gyfnod silio.

Bydd is-ddeddfwriaeth y DU yn gymwys y tu allan i barth Cymru yn y rhannau o Barth Economaidd Neilltuedig y DU nad ydynt wedi cyflwyno cyfnodau caeedig amgen penodol a restrir isod.

Ar hyn o bryd, mae'r tymhorau caeedig canlynol ar waith yn yr awdurdodaethau cyfagos:

  • Gogledd Iwerddon (0-12 milltir forol) ac Ynys Manaw: 1 Mehefin tan 31 Hydref
  • Lloegr - Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau Dyfnaint a Hafren - 1 Gorffennaf tan 31 Medi

Wrth i'r hinsawdd newid, mae’n bosibl y bydd ein harolygon stoc neu astudiaethau gwyddonol eraill yn dangos y byddai amrywio'r cyfnod caeedig tymhorol, naill ai yn y cyfan o barth Cymru, neu yn rhan o'r parth, yn fanteisiol i'r stoc. Trwy allu amrywio cyfnodau caeedig tymhorol ar draws ac oddi mewn i barth Cymru, byddai Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud newidiadau rheoli er mwyn sicrhau cynaliadwyedd.

Mae rhanddeiliaid wedi gofyn i Lywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o sefydlu pysgodfa plymio i ddal cregyn bylchog â llaw yng Nghymru. Mae plymio i ddal cregyn y brenin â llaw yn gyfreithlon o fewn y fframwaith presennol o fesurau. Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid wedi nodi nad yw’r dull hwn ond yn ymarferol yn nyfroedd bas y glannau yn ystod misoedd yr haf pan fydd y tywydd yn well a bod modd gweld yn well. Felly, er mwyn sicrhau bod pysgodfa plymio a dal â llaw yn ymarferol, byddai angen i reolwyr allu amrywio'r tymor caeedig ar gyfer y dull hwn. Mae plymio i ddal cregyn bylchog â llaw yn gyffredin mewn ardaloedd eraill, a chan fod y ddalfa yn cael ei dewis â llaw, mae'n cael ei ystyried yn gynnyrch premiwm gan fod pysgotwyr yn gallu gwneud busnes hyfyw o ddalfeydd cymharol isel. Ystyrir bod plymio i ddal â llaw yn cael effaith isel ar yr amgylchedd oherwydd nifer y pysgod sy'n cael eu cymryd a chysylltiad bach iawn â gwely'r môr.

Cyn ystyried creu pysgodfa plymio i ddal â llaw sy'n cael ei heithrio o'r tymor caeedig presennol rhwng 1 Mai a 31 Hydref yn ardal y glannau, cynhelir treialon i brofi a nodi'r amser neu'r amseroedd gorau ar gyfer caniatáu pysgota drwy'r dull hwn. Yn ogystal ag amseru, efallai y bydd angen ystyried eithriadau eraill fel MCRS mwy o ran maint fel bod pysgodfa cregyn bylchog sy'n defnyddio plymio i ddal â llaw yn gallu lliniaru unrhyw effaith ar anifeiliaid sy'n silio.

Cynnig 8

Cyflwyno cyfyngiadau amser (amser ar y môr neu amser yn pysgota) neu gyfnodau caeedig amrywiol o fewn parth Cymru

Nid cyfnodau caeedig tymhorol yw'r unig fath o gyfyngiad seiliedig ar amser neu dymhorol y gellir ei gymhwyso at ddibenion rheoli pysgodfeydd. Gallai cyfyngiadau tymhorol eraill gynnwys trefniadau cyrffyw a chyfyngiadau ar nifer yr oriau neu ddiwrnodau a dreulir ar y môr neu'n pysgota.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno unrhyw gyfyngiadau tymhorol ychwanegol yn y tymor byr. Ond mae cyngor gan Grŵp Cynghori Cymru ar Gregyn y Brenin yn awgrymu y bydd angen mesurau o'r fath o bosibl ar gyfer prosesau rheoli yn y dyfodol. Defnyddir y dull rheoli hwn i reoli pysgodfeydd cregyn y brenin mewn ardaloedd eraill gan gynnwys Ynys Manaw a Ffrainc. Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen cyflwyno cyfyngiadau tymhorol mewn rhai rhannau o barth Cymru yn y dyfodol er mwyn gwerthuso effeithiau newidiadau eraill. Byddai unrhyw newid yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y stoc a'r amgylchedd.

Cynnig 9

Cyflwyno cyfyngiadau gofodol neu ardaloedd caeedig amrywiol o fewn parth Cymru

Mae amryw o gyfyngiadau gofodol yn bodoli ym mharth Cymru. Mae Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010 yn creu fframwaith rheoli o fewn yr ardal 0-12 milltir forol sy'n cynnwys mwy o gyfyngiadau mewn ardaloedd parth fel y'u mesurir yn nhermau pellter o'r lan. Hefyd, mae Gorchymyn 2010 yn creu cyfres o ardaloedd lle nad oes modd llusgrwydo am gregyn bylchog ar unrhyw adeg. Mae Gorchymyn Pysgod Môr (Ardaloedd Môr Penodedig) (Gwahardd Dull Pysgota) (Cymru) 2012 (ar legislation.gov.uk) yn cau dwy ardal i offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod, gan gynnwys llusgrwydo.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid cyfyngiadau i unrhyw ardaloedd sydd wedi’u cau ar hyn o bryd i ddulliau llusgrwydo yng Ngorchmynion 2010 neu 2012 uchod neu Is-ddeddfau 27 neu 28 a ddargedwir Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld defnyddio cyfyngiadau gofodol neu ardaloedd caeedig amrywiol mewn amrywiaeth o amgylchiadau. Gellid defnyddio cyfyngiadau neu ardaloedd caeedig er mwyn amddiffyn ardaloedd sydd â llawer o gregyn bylchog ifanc mewn ymateb i dystiolaeth arolygon neu fel rhan o broses rheoli cylchdro arfaethedig. Fel arall, gellid cyflwyno cyfyngiadau neu ardaloedd caeedig ar fyr rybudd er mwyn amddiffyn stociau neu'r amgylchedd morol rhag bygythiadau uniongyrchol. 

Cynnig 10

Cyflwyno cyfyngiadau ymdrech amrywiol (maint injan, gallu tynnu, hyd y cwch) ar gyfer pysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru

Gellir diffinio "ymdrech" bysgota fel ffwythiant amser ac egni a dreulir yn pysgota. Mae hyn yn golygu bod unrhyw fesurau sy'n rheoleiddio amser a dreulir yn pysgota neu'r egni a ddefnyddir wrth bysgota yn effeithio ar ymdrech bysgota. Gellir dadlau bod hyd cwch wedi cael ei ddefnyddio weithiau fel mesur procsi ar gyfer allbwn ynni cwch yn hytrach na maint injan neu fesur ar gyfer gwthiad.

Gan ddefnyddio'r fformiwleiddiad hwn o ymdrech, mae rhai cyfyngiadau ymdrech eisoes ar waith ym mharth Cymru, ond maent yn fesurau sefydlog.

Mae erthygl 3 o Orchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010 yn gwahardd cychod rhag llusgrwydo am gregyn bylchog o fewn rhan 0-12 milltir forol o barth Cymru oni bai bod ganddynt injan sydd ag allbwn pŵer o 221 cilowat neu lai.

Mae erthygl 6 yn cyfyngu ar lusgrwydo am gregyn bylchog o fewn rhan 1-3 milltir forol o barth Cymru i gychod sy'n 10 metr o hyd neu lai.

Mae is-ddeddf 9 a ddargedwir Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru cynt yn cyfyngu ar hyd cychod i 12 metr i'r gorllewin o Drwyn y Gogarth a 15 metr i'r dwyrain o Drwyn y Gogarth yn y rhan 0-6 milltir forol o barth Cymru.

Mae Cyfundrefn Ymdrech Dyfroedd y Gorllewin yn gymwys i gychod 15 metr neu fwy o hyd sy'n pysgota am gregyn bylchog ym mharth Cymru ac ym Môr Iwerddon ehangach.

Cynigir y newid hwn er mwyn cynnwys is-ddeddfau blaenorol mewn fframwaith cydlynol ar gyfer rheoli cregyn bylchog ac er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu rheoli ymdrech yn addasol mewn ymateb i dystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid lle bo hynny'n briodol.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu newid y cyfyngiadau ymdrech gofodol fel y maent yn gymwys ar hyn o bryd yng Ngorchymyn 2010 ac mewn is-ddeddfau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru.

Cynnig 11

Cyflwyno gofynion ar gyfer cofnodi ac adrodd ar ddalfeydd cregyn y brenin ym mharth Cymru

Mae gofynion adrodd yn berthnasol i bob pysgotwr cregyn bylchog masnachol, ond maent yn amrywio yn ôl hyd y cwch. Gwaddol y DU/UE yw hwn. Bydd unrhyw brosesau adrodd sy'n gysylltiedig â thrwyddedau pysgota yn parhau i fod yn angenrheidiol yn ogystal ag unrhyw ofynion adrodd sy'n benodol i Gymru.

Bydd angen sicrhau bod gan Weinidogion Cymru fynediad at dystiolaeth cofnodi dalfeydd amser real er mwyn llywio penderfyniadau rheoli pysgodfeydd er mwyn addasu prosesau rheoli ym mharth Cymru. O ganlyniad, credir bod hyn yn rhan allweddol o'r fframwaith newydd i gyflwyno terfynau dal amrywiol, a chyfyngiadau tymhorol a gofodol amrywiol. Yn y cyd-destun hwn, mae'n bosibl y bydd angen cofnodi dalfeydd bob dydd.

Mae rheolwyr pysgodfeydd yn ymwybodol o'r baich gweinyddol ar bysgotwyr, ac os cyflwynir gofynion cofnodi dalfeydd ychwanegol ym mharth Cymru, y nod fydd osgoi unrhyw ddyblygu diangen.

Cynnig 12

Cyflwyno manylebau offer amrywiol ar gyfer pysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru a gosod isafswm maint o 75mm ar gyfer diamedr mewnol modrwyau bol llusgrwyd

Yn gyffredinol, mae'r darpariaethau ar gyfer offer technegol llusgrwydo am gregyn bylchog yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010 yn cael eu parchu gan randdeiliaid oherwydd eu bod yn glir a'u bod yn cymhwyso rheolau priodol yn unol ag ardaloedd gofodol penodol o barth Cymru. Fodd bynnag, dim ond i'r ardal 0-12 milltir forol y mae'r rheolau hyn yn gymwys. Mae hyn yn golygu mai ychydig iawn o ofynion offer technegol sydd ar waith yn y rhan terfyn 12 milltir forol EEZ (ar y môr) o barth Cymru.

Un mater a nodwyd gan Grŵp Cynghori Cymru ar Gregyn y Brenin oedd y ffaith bod Gorchymyn 2010 yn nodi nifer y "modrwyau bol" sydd ynghlwm wrth y bar bol, ond nad yw'n nodi maint y modrwyau bol hynny. Mae diamedr mewnol y fodrwy bol yn elfen hanfodol wrth ddewis llusgrwyd. Gall diamedr mewnol y fodrwy bol fod yn llai na'r MCRS ar gyfer y cregyn bylchog sydd wedi'u targedu oherwydd nad yw cregyn bylchog yn berffaith grwn ac mae'r MCRS yn cyfeirio at y rhan fwyaf llydan o’r gragen. Hefyd, mae cregyn bylchog llai o ran maint yn dianc trwy'r bylchau rhwng modrwyau, yn dibynnu ar sut maent wedi’u cysylltu â'i gilydd.

Yn ogystal â dewis offer yn y fan a'r lle, gall pysgotwyr ddidoli cregyn bylchog yn ôl maint ar y dec, gan ddychwelyd cregyn bylchog rhy fach i'r man lle y cawsant eu dal. Mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn ystyried effeithiau cymharol aflonyddu ar wely'r môr.

Mae angen i unrhyw fanyleb ar gyfer maint modrwy bol ystyried maint y gragen fylchog sydd wedi'i thargedu a'i dal yn gyfreithlon. Mae llawer o randdeiliaid sy'n targedu cregyn y brenin ym mharth Cymru yn defnyddio modrwyau bol sydd â diamedr mewnol o oddeutu 80mm i 90mm er mwyn targedu cregyn y brenin â diamedr o 110mm.

Yn Ynys Manaw a Gogledd Iwerddon, mae'n rhaid i fodrwy bol fod â diamedr mewnol o 75mm o leiaf ar gyfer cregyn bylchog MCRS 110mm. Mae rhanddeiliaid yn nodi bod pysgotwyr yn parhau i amrywio maint modrwyau bol y tu hwnt i’r gofyniad lleiaf yn ôl yr amodau.

Deallir bod angen gwneud gwaith rheolaidd i gynnal a chadw ac adnewyddu llusgrwydi. Byddai unrhyw newidiadau yn cael eu trefnu er mwyn rhoi digon o amser i bysgotwyr addasu i'r gofynion newydd.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai cael defnyddio’r hyblygrwydd i newid manylebau offer i gyflwyno maint modrwyau bol lleiaf o 75mm yn gwella detholrwydd a chynaliadwyedd y bysgodfa.

Cynhelir treialon ac astudiaethau mewn perthynas ag offer o bryd i'w gilydd. Gall hyn arwain at newidiadau mewn cyngor ar arfer orau. Byddai'r gallu i amrywio maint modrwyau bol yn ogystal â manylebau offer technegol arall yn y dyfodol mewn ymateb i dystiolaeth yn caniatáu rheoli addasol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd.

Un datblygiad ym maes pysgota am gregyn y brenin lle byddai'r gallu i amrywio gofynion offer yn gallu bod yn bwysig yn y dyfodol yw mewn ymateb i dreialon pysgota â goleuadau mewn cewylll sydd fel pe baent yn denu cregyn y brenin. Nid oes digon o wybodaeth ar gael am y dull pysgota hwn i gyflwyno unrhyw fanylebau offer ar hyn o bryd, ond rhagwelir y gallai hyn fod yn angenrheidiol yn y dyfodol ym mharth Cymru. Byddai'r cynnig hwn yn galluogi rheolwyr pysgodfeydd i ddiweddaru manylebau offer fel tystiolaeth o newidiadau arferion gorau.

Mae rhagor o wybodaeth am lusgrwydi ar gael ar wefan Seafish.

Cynnig 13

Cyflwyno terfyn amrywiol ar gyfer nifer y llusgrwydi y gall cychod eu defnyddio i bysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru a gosod terfyn uchaf o 28 (14 ar bob ochr) ar gyfer llusgrwydi yn y rhan ar y môr o barth Cymru

Nid oes unrhyw derfyn ar nifer y llusgrwydi y gellir eu defnyddio yn rhan terfyn 12 milltir forol-EEZ / llinell ganolrif (ar y môr) o barth Cymru. Mae hyn yn cyferbynnu â'r terfyn uchaf o 14 o lusgrwydi yn yr ardal 6-12 milltir forol o barth Cymru.

Mae'r Alban wedi cyflwyno terfyn o 28 llusgrwyd (14 ar bob ochr) fesul cwch yn y rhan ar y môr o barth yr Alban. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno'r gallu i osod terfynau ar lusgrwydi yn y rhan ar y môr o barth Cymru er mwyn sicrhau cysondeb ag awdurdodaethau eraill y DU.

Mae rhanddeiliaid wedi nodi mai ychydig iawn o gychod, os o gwbl, sy'n defnyddio mwy na 28 o lusgrwydi i bysgota am gregyn bylchog ym mharth Cymru, felly byddai'r effaith mewn perthynas â physgota hanesyddol yn gyfyngedig. Byddai cyflwyno terfyn ar lusgrwydi yn yr ardal ar y môr yn cyfyngu ar effeithiau ar yr amgylchedd ac ar stoc o ganlyniad i unrhyw ddadleoli posibl o gychod cregyn bylchog mawr ym mharth Cymru.

Cynnig 14

Cynyddu'r Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf ar gyfer cregyn y frenhines o 40mm i 55mm ym mharth Cymru

Nid yw’r mesur hwn yn uniongyrchol gysylltiedig â Chynllun Rheoli Pysgodfa Cregyn y Brenin.

Yn hanesyddol, mae cregyn y brenin a chregyn y frenhines wedi cael eu rheoli ar wahân er bod cysylltiad rhyngddynt gan eu bod yn rhywogaethau tebyg a bod tebygrwydd o ran eu cynefinoedd, ac o ran y pysgotwyr, y cychod a'r dulliau pysgota sy'n targedu'r ddwy rywogaeth.

Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf cregyn y frenhines yn Ynys Manaw yw 55mm. Roedd ymgynghoriad diweddar Llywodraeth y DU ar Gynllun Rheoli Pysgodfa Cregyn y Frenhines (ar gov.uk) yn cynnig newid i Faint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf o 55mm ar gyfer cregyn y frenhines ym mharth Lloegr, er nad yw'r cynnig hwn wedi'i weithredu eto.

Ychydig iawn o fesurau rheoli sydd ar waith ar gyfer cregyn y frenhines ym mharth Cymru. Mae'r Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf presennol o 40mm yn deillio o gyfraith yr UE a ddargedwir (Rheoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a'r Cyngor).

Mae cregyn y frenhines yn byw yng Ngogledd Môr Iwerddon. Ym mharth Cymru, mae cregyn y frenhines yn byw yn yr ardaloedd rhwng Ynys Manaw a Gogledd Cymru yn bennaf.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen cynyddu'r Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf ar gyfer cregyn y frenhines er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y stoc. Y rheswm am hyn yw bod mwy o gyfleoedd i anifeiliaid mwy o faint silio cyn cael eu dal, a gellir osgoi gorbysgota oherwydd dadleoli o ardaloedd cyfagos eraill sydd â Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf uwch.

Cwestiynau ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Cynnig 1:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno trwydded cregyn y brenin Cymru gyfan flynyddol ar gyfer pob cwch sy'n dal cregyn y brenin ym mha ddull bynnag ym mharth Cymru? 
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 2

Cynnig 2:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i godi tâl am wneud cais am drwydded i gyfrannu tuag at gost rheoli'r bysgodfa yn gynaliadwy?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch. 

Cwestiwn 3

Cynnig 3:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno terfynau amrywiol ar ddalfeydd ar gyfer cregyn y brenin ym mharth Cymru?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 4

Cynnig 4:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf (MCRS) amrywiol ar gyfer cregyn y brenin ym mharth Cymru a newid yr MCRS ar y môr i'r de o 52°30'G o 100mm i 110mm?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 5

Cynnig 5:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno gofynion System Monitro Cychod (VMS) amrywiol ar gyfer pob cwch sy'n pysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru a gosod amlder trosglwyddo data VMS o 10 munud ar gyfer cychod dros 12 metr o hyd ym mharth Cymru ar y môr?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 6

Cynnig 6:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno monitro electronig o bell (REM) gyda chamerâu a synwyryddion ar gyfer pysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru? 
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 7

Cynnig 7:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno tymor neu dymhorau caeedig amrywiol ar gyfer cregyn y brenin ym mharth Cymru a newid y cyfnodau caeedig tymhorol ar y môr fel bod y bysgodfa ar gau rhwng 1 Mai a 31 Hydref bob blwyddyn er mwyn diogelu'r stoc yn ystod y cyfnod silio?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 8

Cynnig 8:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno cyfyngiadau amser (amser ar y môr neu amser yn pysgota) neu ardaloedd caeedig amrywiol o fewn parth Cymru?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 9

Cynnig 9:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno cyfyngiadau gofodol neu ardaloedd caeedig amrywiol o fewn parth Cymru?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 10

Cynnig 10:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno cyfyngiadau ymdrech amrywiol (maint injan, gallu tynnu, hyd y cwch) ar gyfer pysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 11

Cynnig 11:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno gofynion ar gyfer cofnodi ac adrodd ar ddalfeydd cregyn y brenin ym mharth Cymru?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 12

Cynnig 12:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno manylebau offer amrywiol ar gyfer pysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru a gosod isafswm maint o 75mm ar gyfer diamedr mewnol modrwyau bol llusgrwyd?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 13

Cynnig 13:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno terfyn amrywiol ar gyfer nifer y llusgrwydi y caiff cychod eu defnyddio i bysgota am gregyn y brenin ym mharth Cymru a gosod terfyn uchaf o 28 (14 ar bob ochr) ar gyfer llusgrwydi yn y rhan ar y môr o barth Cymru?
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 14

Cynnig 14:
Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gynyddu'r Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf (MCRS) ar gyfer cregyn y frenhines o 40mm i 55mm ym mharth Cymru? 
Esboniwch pam a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau lle medrwch.

Cwestiwn 15

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • a ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 16

Yn eich barn chi, a ellid ffurfio'r cynigion neu eu newid er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 17

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i’w nodi:

Mae ymatebion i ymgynghoriadau'n debygol o gael eu gwneud yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb gael ei gadw'n ddienw, ticiwch yma.