Neidio i'r prif gynnwy

Yn amlinellu sut rydym yn bwriadu cyflawni a chynnal Statws Amgylchedd Da yn ein moroedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pennir y gofyniad hwn gan Reoliadau’r Strategaeth Forol 2010. Mae’n deillio o Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol.

Amcanion allweddol

Amcanion allweddol y strategaeth yw:

  • amddiffyn yr amgylchedd morol
  • atal dirywiad yr amgylchedd morol
  • adfer yr amgylchedd morol lle bo hynny’n ymarferol
  • defnyddio adnoddau morol mewn ffordd gynaliadwy.

Mae cyhoeddi’r strategaeth yn deillio o:

  • waith rhanbarthol gyda phob un o bedair Gweinyddiaeth y DU ac arbenigwyr technegol 
  • defnyddio rhwydwaith strategol Confensiwn Oslo Paris (OSPAR) i gefnogi penderfyniadau a’r broses o’u gweithredu.

Rhennir y strategaeth yn dri cham a byddwn yn ei hadolygu bob chwe blynedd. 

Rhan un o’r Strategaeth Forol: asesu Statws Amgylcheddol Da

Gwnaethom gyhoeddi a diweddaru ran un o Strategaeth Forol y DU yn 2019.

Mae'r strategaeth hon yn darparu asesiad diweddaraf o'n moroedd. Mae’n gosod amcanion, targedau a dangosyddion ar gyfer cyflawni GES dros chwe blynedd.

Rhan dau o’r Strategaeth Forol: rhaglenni monitro

Rydym bellach wedi cyhoeddi a diweddaru rhan dau o strategaeth Forol y DU.

Mae'r rhan hon o'r strategaeth yn nodi'r rhaglenni monitro. Byddwn yn defnyddio'r rhain i asesu ein cynnydd tuag at gyflawni GES.

Rhan tri o’r Strategaeth Forol: rhaglen mesurau

Mae pedair Gweinyddiaeth y DU wedi llunio rhaglen mesurau. Cyhoeddwyd y rhaglen yn 2015 yn dilyn ymgynghoriad. Mae’n cynnwys elfennau sy’n benodol i Gymru sydd i’w rhoi ar waith yn y cylch chwe blynedd. Fe’i hadolygir yn 2021.

Camau Nesaf

Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru rhan tri Strategaeth Forol y DU. Bydd cyhoeddiad ynghylch dyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.