Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, i gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Caiff hyn ei gefnogi drwy'r fframwaith Rheoli Tir Cynaliadwy ar gyfer cymorth a rheoleiddio amaethyddol yng Nghymru, sy'n ymgorffori cyfraniad amgylcheddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol ffermwyr yng Nghymru. Mae'n darparu fframwaith hyblyg o gymorth, gyda chynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Troi'n Organig – yn cyflawni’r Amcanion canlynol o ran Rheoli Tir yn Gynaliadwy:

  • cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill yn gynaliadwy
  • lliniaru'r newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddo
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision a gynigir ganddynt
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni

Nod y fframwaith yw cefnogi ffermwyr i weithredu fel ymateb i heriau a chyfleoedd, a llywio datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Adran A: cyflwyniad

Mae'r nodiadau canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Grantiau Bach. Darllenwch e’n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler 'Sut i Wneud Cais' yn adran E a'r Cynllun Troi’n Organig (ffenestr 2): gan defnyddio RPW Ar-lein i wneud cais.

Bydd y ffenestr ymgeisio yn agor ar 21 Gorffennaf 2025 ac yn cau ar 12 Medi 2025. 

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y ffenestr ymgeisio hon yw £2m dros 2 flynedd galendr, 2026 a 2027.

Mae Troi'n Organig yn gynllun sy'n seiliedig ar arwynebedd sydd ar gael i gynhyrchwyr amaethyddol presennol ledled Cymru sy'n dymuno newid o gynhyrchu confensiynol i gynhyrchu organig. Drwy gefnogi ffermwyr yn ystod y cyfnod trawsnewid dwy flynedd, nod y cynllun yw darparu cymorth i sicrhau manteision rheoli tir ac amgylcheddol cadarnhaol. Mae Troi'n Organig yn gontract 5 mlynedd a gaiff ei ariannu am y 2 flynedd gyntaf.

Bydd rheolwyr tir a busnesau ffermio yn cael eu dewis ar gyfer Grantiau Bach - Amgylchedd, ar ôl Datgan Diddordeb i Lywodraeth Cymru. Caiff y Datganiad o Ddiddordeb ei sgorio yn ôl ei allu i gyfrannu at gyflawni amcanion y Cynllun Troi'n Organig. Y rheini fydd yn gallu cyfrannu fwyaf at gyflawni amcanion y thema fydd yn cael y sgôr uchaf.  (Gweler dewis Adran E).

Darllenwch reolau a chanllawiau’r cynllun hwn cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, Gwlad a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B: cymhwysedd Cynllun Troi'n Organig

Byddwch yn gymwys i wneud cais os

  • ydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004
  • rydych yn ffermwr sy'n gynhyrchydd cynradd cynnyrch amaethyddol
  • mae gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, neu
  • rydych yn gallu dangos mwy na 550 o oriau llafur safonol

Byddwn yn cadarnhau’ch hawl i Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2024 i ddilysu’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi hawlio BPS, rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch SAF i brofi’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych naill ai 3ha o dir neu’ch bod yn gallu dangos 550 o oriau llafur safonol.

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn cynnwys y sectorau ffermio canlynol:

  • cnydau âr
  • eidion
  • godro
  • geifr
  • garddwriaeth
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • cadw gwenyn

Rhaid i'r holl dir sy'n derbyn Dyfarniad Grant Cynllun Troi'n Organig gael ei ardystio'n barhaus gyda Chorff Rheoli Organig (OCB) am gyfnod 5 mlynedd y dyfarniad grant, gan ddechrau 1 Ionawr 2026.

Gall cynhyrchwyr organig presennol wneud cais ar dir nad yw ar hyn o bryd wedi'i ardystio fel organig neu nad yw'n cael ei droi ar hyn o bryd. Dim ond un cais fesul busnes unigol fydd yn cael ei dderbyn.

Ni fyddwch yn gymwys os

  • os ydych yn gwsmer sy'n cadw ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • ydych yn gwsmer Coedwigaeth (gan gynnwys pobl sy'n berchen ar goetir yn unig)
  • ydych yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Cymdeithasau Cynhyrchwyr) 

Fodd bynnag, os yw dau ddaliad amaethyddol neu fwy'n cael eu rheoli fel uned unigol neu fod un person yn berchen arnynt neu eu bod i ryw raddau’n cael eu rheoli ar y cyd, a bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/neu storfeydd bwydo cyffredin, byddant yn cael eu hystyried yn un busnes. 

Tir cymwys

Rhaid bod gennych reolaeth lwyr ar y tir.

Mae tir rhentu yn gymwys dim ond os gallwch warantu rheolaeth reoli barhaus ar gyfer tymor pum mlynedd dyfarniad grant y Cynllun Troi'n Organig.

Fel arfer gall y canlynol fodloni meini prawf Rheolaeth Lwyr:

  • perchennog-feddiannydd y tir
  • tenant sydd â chytundeb tenantiaeth o dan Denantiaeth Busnes Fferm Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 neu Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986
  • trwyddedwr

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn 2 flynedd o daliadau trosi, rhaid i barsel tir a gyflwynwyd yn y dyfarniad grant Cynllun Troi'n Organig fod wedi dechrau troi ar ôl cynnig dyfarniad grant y Cynllun Troi'n Organig a chyn 1 Ionawr 2026.

Dim ond parseli caeau cyfan sy'n gymwys i gael dyfarniad grant Cynllun Troi'n Organig.

Rhaid i bob parsel tir fod yng Nghymru.

Dim ond Tir Comin sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pori a lle mai chi yw'r unig borwr cofrestredig fydd yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer Dyfarniad Grant y Cynllun Troi'n Organig. Mae'n rhaid i'r parseli tir hyn gael eu cofrestru ar System Adnabod Parseli Tir (LPIS) RPW. 

Nid oes rhaid i chi gynnwys yr holl dir ar eich daliad ar gyfer troi'n organig.

Codau cnydau cymwys

Mae codau cnydau cymwys o dan eu Dosbarthiad Gorchudd Tir wedi'u rhestru yn Atodiad 1: tabl 1 o'r canllawiau hyn.

Codau cnydau a restrir o dan golofn Dosbarthiad Gorchudd Tir yn Atodiad 1: bydd tabl 1 os caiff ei ddatgan ar Ffurflen Gais Sengl 2025 yn gymwys ar gyfer y cyfraddau talu canlynol:

Cyfradd DaluDisgrifiadDosbarthiad gorchudd tir
1GarddwriaethCylchdro / Garddwriaeth
2Tir amgaeëdig â chnydau cylchdro/glaswelltir dros droCylchdro
3Tir amgaeëdig â chnydau parhaol / glaswelltir

Porfa Barhaol 

Cnydau Parhaol

4Tir amgaeëdig gyda glaswelltir parhaol a dros dro gyda menter laeth.

Porfa Barhaol

Glaswellt Dros Dro

5Tir sy'n uwch i fyny na'r tir uchaf sydd wedi'i amgáu a thir penodedig arallPorfa Barhaol

Os nad yw rhywfaint neu'r cyfan o'ch tir wedi'i ddatgan ar y Ffurflen Cais Sengl yn 2025, bydd gofyn i chi gyflwyno'r codau cnydau ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ddogfennol fel cofnodion cnydau, derbynebau, anfonebau ac ati.

Tir anghymwys

Tir nad yw'n cael ei ardystio'n gwbl organig.

Tir sydd eisoes o fewn troi'n organig cyn cynnig dyfarniad grant y Cynllun Troi'n Organig.

Rhannau o barseli tir. (Dim ond parseli tir cyfan y gellir eu cynnig i'r Cynllun Troi'n Organig.)

Ni ellir ail-droi tir a gefnogwyd yn flaenorol i droi'n organig gennych drwy ddefnyddio'r Cynllun Troi'n Organig. Os mai chi yw perchennog newydd tir a drawsnewidiwyd yn flaenorol ac a ddychwelwyd wedyn i ffermio confensiynol gan fusnes ffermio arall, efallai y byddwch yn gymwys i ail-droi i gynhyrchu organig gan ddefnyddio cymorth y Cynllun Troi'n Organig.

Tir comin, lle mae porwyr cofrestredig lluosog ar y comin.

Mae nodweddion anghymwys parhaol wedi'u rhestru yn Atodiad 1: tabl 2 o'r canllawiau hyn.

Tir sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal gweithgareddau chwaraeon a/neu hamdden

Byddwn yn ystyried eich bod yn cynnal maes chwarae neu hamdden parhaol os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn gymwys:

  • bod y maes wedi’i neilltuo ac yn cael ei gadw gydol y flwyddyn i gynnal chwaraeon neu weithgareddau hamdden arno. Er enghraifft, cwrs golff, cae pêl-droed neu ménage (arena marchogaeth). Mae’r tir yn anghymwys hyd yn oed os oes gweithgareddau amaeth yn cael ei gynnal arno os nad amaeth yw ei brif ddefnydd.
  • mae’r tir yn cynnwys un neu fwy o adeileddau parhaol sy’n cael eu defnyddio gan bobl i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon neu hamdden – neu adeileddau parhaol ar gyfer gwylwyr, i’w gwneud yn fwy cyfforddus (er enghraifft, ystafelloedd newid, cawodydd neu doiledau, caffi, seddi i wylwyr neu gaban gwylio). Ni chynhwysir meysydd parcio.

    Os ydy’r manège wrth ysgol farchogaeth neu stablau llog, ystyrir bod eisteddle neu gaban gwylio’r manège yn adeiledd parhaol ond ni fydd adeiladau a stablau’r stablau llog neu’r ysgol.

  • nid yw’r tir na’r cyfleusterau at ddefnydd personol yn unig

Codau cnydau anghymwys

Mae codau cnydau anghymwys ar gyfer taliadau'r Cynllun Troi'n Organig wedi'u rhestru yn Atodiad 1: tabl 2 o'r canllawiau hyn.

Yr arian sydd ar gael 

Dyfarniad grant 5 mlynedd yw'r Cynllun Troi'n Organig, a fydd yn darparu cymorth ar gyfer troi tir cymwys i gynhyrchu organig a thuag at gost ardystio yn ystod dwy flynedd gyntaf y Dyfarniad Grant yn unig. Fel amod o'r taliadau hyn, rhaid i chi gynnal ardystiad organig parhaus am weddill tair blynedd y dyfarniad Ggant, unwaith y bydd troi llawn wedi'i gyflawni ar ôl y ddwy flynedd gyntaf.

Ar ôl troi, ar gyfer blynyddoedd 3 i 5 y dyfarniad grant efallai y byddwch yn gymwys i hawlio cymorth i gynnal ardystiad organig. 

Cyfraddau talu

Bydd y cyfraddau talu yn seiliedig ar ddefnydd tir fel y'i cyflwynwyd ar eich SAF 2025. Os nad yw rhywfaint neu'r cyfan o'ch tir wedi'i ddatgan ar unrhyw Ffurflen Cais Sengl yn 2025, bydd cyfraddau talu yn seiliedig ar y codau cnydau a gadarnhawyd a gyflwynwyd gennych ac a roddwyd tystiolaeth yn eu cylch.

Tabl 1

Cyfradd daluDisgrifiadTaliad
1.Garddwriaeth£640/ha
2.Tir amgaeëdig â chnydau cylchdro/glaswelltir dros dro£250/ha
3.Tir amgaeëdig â chnydau parhaol / glaswelltir£130/ha
4.Tir amgaeëdig gyda glaswelltir parhaol a dros dro gyda menter laeth.£430/ha
5.Tir sy'n uwch i fyny na'r tir uchaf sydd wedi'i amgáu a thir penodedig arall£18/ha

Diffinio’r cyfraddau talu

Cyfradd dalu 1
Garddwriaeth

Tir a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu garddwriaethol yn 2025.

Rhaid tyfu a gwerthu'r cnydau ar raddfa fasnachol. (Bydd angen tystiolaeth).  Dylai graddfa y cynhyrchu fod yn hafal i gyfeintiau cynhyrchu organig masnachol.

Rhaid tyfu cnydau garddwriaethol ar draws yr ardal gyfan.

Cnydau porthiant da byw neu gnydau gorchudd nad ydynt yn gymwys. 

Bydd defnydd ac arwynebedd tir yn cael eu nodi yn seiliedig ar yr hyn sy'n cael ei gyflwyno yn SAF 2025. (Dim ond tir lle mae'r cnwd garddwriaethol yn cael ei dyfu sy'n gymwys, byddai tir arall o fewn y cylchdro yn gymwys o dan gyfradd talu 2)

Cyfradd dalu 2
Tir amgaeëdig â chnydau cylchdro/glaswelltir dros dro

Tir o fewn cylchdro, megis tir âr, glaswelltir o fewn cylchdro âr, glaswelltir dros dro.

Wedi'i nodi trwy SAF 2025:

  • âr: codau amrywiol
  • glaswellt dros dro: GR1
Cyfradd dalu 3
Tir amgaeëdig â chnydau parhaol / glaswelltir

Tir nad yw o fewn cylchdro cnydau / cnydau parhaol. 

Glaswelltir parhaol, wedi'i sefydlu dros 5 mlynedd.

Wedi'i nodi trwy SAF 2025:

  • glaswelltir parhaol: GR2 a GR8
Cyfradd dalu 4
Tir amgaeëdig gyda glaswelltir parhaol a dros dro gyda menter laeth

Gall tir fod yn laswelltir o fewn cylchdro cnydau, glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro.

Bydd defnydd ac arwynebedd tir yn cael eu nodi yn seiliedig ar yr hyn sy'n cael ei gyflwyno yn SAF 2025.

  • glaswelltir parhaol: GR2 a GR8
  • glaswelltir dros dro: GR1

Bydd y gyfradd dalu hon ond yn berthnasol i dir sy'n cefnogi menter laeth. (Anifeiliaid godro a stoc ifanc godro.)

Dim ond cyfradd dalu 4 fydd ffermydd â sawl menter, er enghraifft, uned laeth a defaid ucheldir yn cael eu talu am dir a ddefnyddir gan y fenter laeth. Bydd tir a ddefnyddir gan y fenter defaid yn cael ei dalu ar naill ai cyfradd talu 2, 3 neu 5, yn dibynnu ar gyflwyniad SAF 2025 neu godau cnydau wedi'u cadarnhau a gyflwynwyd ac y cafwyd tystiolaeth.

Bydd arwynebedd y tir cymwys sy'n gymwys ar gyfer cyfradd dalu 4 yn cael ei chyfrifo yn seiliedig ar nifer yr anifeiliaid llaeth ar y daliad gan ddefnyddio cyfrifiad uned da byw safonol (LSU). Bydd yr anifeiliaid a ddatgelir ar eich SAF yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion EID Cymru a BCMS.

Tabl 2

Da bywUnedau da byw (LU)
Buchod godro (dros 24 mis)1 LU
Buchod godro ifanc (6-24 mis)0.6 LU
Geifr godro (6 mis neu fwy)0.16 LU
Geifr godro ifanc (llai na 6 mis)0.04 LU
Defaid godro (6 mis neu fwy)0.11 LU
Defaid godro – stoc ifanc (llai na 6 mis)0.04 LU

Bydd yr arwynebedd mwyaf y caiff cyfradd dalu 4 ei thalu arno yn cael ei gyfrif yn ôl nifer yr anifeiliaid godro organig sydd ar y daliad ac ar sail lefel stocio uchaf o 2 LU / Ha.

Er enghraifft:

Enghraifft 1:

Bydd gan fferm gyda 100 o wartheg godro (dros 12 mis) a 60 o wartheg ifanc godro (6 – 12 mis) 136 o unedau da byw godro. Yn seiliedig ar ddefnydd o'r ardal porthiant ar 2 LU / Ha, yr uchafswm arwynebedd a fyddai'n derbyn cyfradd talu 4 fyddai 68 ha. (136 wedi'i rannu â 2).

Byddai unrhyw laswelltir parhaol ychwanegol uwchlaw'r 68 Ha yn cael ei dalu ar gyfradd taliad 3. 

Enghraifft 2:

Bydd gan fferm gyda 120 o wartheg godro (dros 12 mis) ac 80 o wartheg ifanc godro (6-12 mis) 168 o unedau da byw llaeth. Yn seiliedig ar ddefnydd o'r ardal porthiant ar 2 LU / Ha, byddai'r uchafswm arwynebedd a fyddai'n derbyn cyfradd talu 4 yn 84 ha. (168 wedi'i rannu â 2) Fodd bynnag, os mai dim ond 50 Ha o laswelltir parhaol sydd gan y fferm hon a'r arwynebedd sy'n weddill sy'n cefnogi'r fenter laeth yw tir cylchdro, byddai cyfradd talu 4 yn berthnasol i laswelltir dros dro hyd at yr uchafswm o 84 ha.

Pe bai'r tir cylchdro yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cnydau heblaw glaswelltir dros dro, (e.e. indrawn neu gnwd cyfan) byddai'r tir hwn yn aros ar gyfradd dalu 2 a byddai cyfradd talu 4 yn berthnasol i'r 50ha o laswelltir parhaol yn unig.

Enghraifft 3:

Bydd gan fferm sydd â 200 o eifr godro (6 mis neu fwy) a 50 o dda ifanc geifr godro (llai na 6 mis) 34 o unedau da byw llaeth. Yn seiliedig ar ddefnydd o'r arwynebedd porthiant ar 2 LU / Ha, byddai'r uchafswm arwynebedd a fyddai'n derbyn cyfradd talu 4 yn 17 Ha. (34 wedi'i rannu â 2) 

Byddai unrhyw laswelltir parhaol ychwanegol uwchlaw'r 17 Ha yn cael ei dalu ar gyfradd taliad 3. 

Os yw unedau da byw llaeth cymwys, (yn seiliedig ar y defnydd o'r arwynebedd porthiant ar 2 LU / Ha) yn fwy na'r arwynebedd sydd ar gael o laswelltir parhaol a glaswelltir dros dro, ni ystyrir tir uwchlaw terfyn uchaf yr amgaead a thir penodedig arall ar gyfer cyfradd talu 4.

Nid yw'r tir a ddefnyddir ar gyfer magu anifeiliaid llaeth yn gymwys i gael cyfradd talu 4.

Nid yw cynhyrchydd llaeth organig presennol, sy'n ceisio ardystiad organig ar dir ychwanegol sy'n troi tir ychwanegol yn gymwys ar gyfer y gyfradd dalu hon. (Ni fyddai gwartheg godro confensiynol yn defnyddio'r tir pan gyflwynir y cais.)

Cyfradd Dalu 5
Tir sy'n uwch i fyny na'r tir uchaf sydd wedi'i amgáu a thir penodedig arall

Parseli tir ucheldirol yn bennaf (neu ran ohonynt)

Byddwn yn nodi parseli tir o fewn terfyn uchaf yr amgaead, yn ogystal â'r unig dir comin pori (wedi'i bori) a pharseli caeau tir penodedig eraill sy'n gymwys ar gyfer Cyfradd Talu 5.

At ddibenion Troi'n Organig, 'Tir uwchlaw terfyn uchaf yr amgaead' yw unrhyw dir a nodir ar derfyn uchaf map amgaead ar MapDataCymru.

Mae tir penodedig arall yn cynnwys:

  • tir comin sy’n cael ei bori a chi yw’r unig borwr cofrestredig (tir Ccomin ag un porwr).
  • parseli tir â 50% neu fwy o’r cae yn orgors bori, rhos arfordirol, rhos llawr gwlad a morfa heli
  • systemau da byw ar yr ucheldir, heb fod yn ddwys yn bennaf, gyda lefelau stocio isel

Costau ardystio Corff Rheoli Organig

Darperir cyfraniad tuag at gostau ardystio o £500 y flwyddyn ar gyfer y cyfnod troi dwy flynedd.

Os oes gennych ardystiad organig eisoes ond eich bod yn gwneud cais i ddod â thir ychwanegol yn dir cynhyrchu organig, ni fyddwch yn gymwys i gael y cyfraniad o £500 tuag at gostau ardystio.

Ardal o dir y gellir ei chynnwys yn y Cynllun Troi'n Organig a'r gyfradd dalu uchaf

Nid oes terfyn uchaf ar arwynebedd y tir y gellir ei gyflwyno ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig.

Tabl 3

Bydd uchafswm y taliad yn cael ei leihau yn ôl y canlynol:

ArwynebeddTaliad
0 – 200 ha o dir cynefin cymwys100% o’r gyfradd dalu.
200 – 400 ha o dir cymwys50% o’r gyfradd dalu
400 ha +10% o’r gyfradd dalu

O gyrraedd unrhyw rai o’r trothwyon talu, y gyfradd dalu uchaf fydd yn cael ei hystyried gyntaf.

Er enghraifft, mae ymgeisydd yn cyflwyno EoI ar gyfer 300 hectar, sy'n cynnwys 50 hectar o dir amgaeëdig gyda chnydau cylchdro / glaswelltir dros dro, 200 hectar o dir amgaeëdig gyda chnydau parhaol / glaswelltir a 100 hectar o dir uwchlaw terfyn uchaf yr amgaead.  

Tabl 4

Bydd y Dyfarniad Grant yn cynnig:

ArwynebeddTaliad
50 hectar ar gyfradd dalu 2 (£250/ha)£12,500
150ha ar gyfradd dalu 3 (£120 / ha)£18,000
50ha ar 50% o'r gyfradd dalu 3 (£120)£3,000
100ha ar 50% o'r gyfradd dalu 5 (£9.0)£900
Cyfanswm y Cynnig Dyfarniad Grant£34,400

Unwaith y bydd y gyfradd dalu wedi'i sefydlu, bydd hyn yn aros yn ddigyfnewid am ddwy flynedd y dyfarniad grant.

Pan fo nodweddion anghymwys parhaol yn cael eu cyflwyno neu eu nodi ar barseli tir o fewn y cytundeb, (e.e. coetir neu adeiladau) ni fydd yr arwynebedd hwn yn gymwys am daliad a chaiff ei ddileu o'r Dyfarniad Grant.  Oni bai bod unrhyw newid defnydd tir yn darparu manteision amgylcheddol ychwanegol, gellir adennill unrhyw daliadau a wnaed yn flaenorol.

Bydd y taliad ar gyfer 2027 (ail flwyddyn y contract) yn seiliedig ar gyflwyn SAF 2025. Os yw'r defnydd tir yn newid yn ystod 2026 / 2027, (o gnwd parhaol i gnwd cylchdro, neu i'r gwrthwyneb) ni fydd hyn yn effeithio ar daliadau.The grant award will offer:

Gofynion allweddol

Er mwyn gallu bodloni amodau Cymorth Organig 2024, rhaid i’r holl dir sydd o dan y contract fod wedi’i ardystio gydag OCB yn ddi-dor am oes y Contract sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2026. Rhaid cyflwyno'r Dystysgrif OCB a'r Atodlenni Tir diweddaraf erbyn 31Rhagfyr 2026.

Ni wneir unrhyw daliadau nes bod tystysgrif wedi'i chyflwyno. 

Os caiff eich cais ei ddewis yn llwyddiannus a'ch bod yn derbyn y dyfarniad grant, bydd gofyn i chi gyflwyno copi o'ch cais OCB a'ch cynllun troi'n organig a baratowyd fel rhan o'r cais, os yw'n berthnasol. 

Dylid cyflwyno'r ddogfennaeth pan fyddwch yn cyflwyno'ch hawliad fel rhan o gyflwyniad SAF 2026.

I fod yn gymwys i gael cyfradd talu 4, ar ôl derbyn dyfarniad grant troi'n organig, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus sydd â menter laeth gyflwyno:

  • llythyr o fwriad, gan brynwr / prosesydd llaeth yn datgan, mewn egwyddor, y bydd yn prynu'r llaeth organig wedi iddynt droi'n organig
  • i'r rhai sy'n prosesu llaeth ar y daliad, bydd angen iddynt gadarnhau ac esbonio sut maent yn bwriadu newid eu dulliau prosesu a'u cynhyrchion mewn ymateb i'r llaeth organig sydd ar gael

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus sydd â menter laeth gynhyrchu llaeth am gyfnod y dyfarniad grant a chyflwyno tystiolaeth fel rhan o'u cyflwyniad SAF 2026.

Pan nad yw llaeth yn cael ei gynhyrchu am y 5 mlynedd, gellid adennill rhywfaint neu'r cyfan o'r grant.

I fod yn gymwys i gael cyfradd talu 1, ar ôl derbyn dyfarniad grant troi'n organig, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus sydd â menter arddwriaethol gyflwyno:

  • tystiolaeth bod yn rhaid tyfu'r cnydau a'u gwerthu ar raddfa fasnachol. (Dylai graddfa y cynhyrchu fod yn hafal i gyfeintiau cynhyrchu organig masnachol)

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus sydd â menter arddwriaethol gynhyrchu yn arddwriaethol am gyfnod y dyfarniad grant a chyflwyno tystiolaeth fel rhan o'u cyflwyniad SAF 2026. 

Lle nad yw cynhyrchiad garddwriaethol yn cael ei gynnal am y 5 mlynedd, gellid adennill rhywfaint neu'r cyfan o'r grant.

Pan nad oes digon o dystiolaeth yn cael ei ddarparu i ddangos bod gofynion y cynllun wedi'u bodloni, gellir cadw'r taliad yn ôl, gwrthod yr hawliad, ac unrhyw daliadau blaenorol wedi'u hadfer.

Adran C: tir mewn cynlluniau eraill

Details of the relationship between Organic Conversion Scheme and land entered into other schemes are set out below:

Dyma fanylion y berthynas rhwng y Cynllun Troi’n Organig a thir sy’n perthyn i gynlluniau eraill:

Cynllun Cynefin Cymru

Gellir cyflwyno tir sydd wedi'i gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru i'r Cynllun Troi'n Organig.

Cynllun Cynefin Cymru - Tiroedd Comin

Nid yw tir sy'n dir comin cofrestredig yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig, ac eithrio tir comin unig borwr sydd wedi'i gofrestru yn system adnabod parseli tir RPW. 

Nid yw tir a ddefnyddir yn gyffredin yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig, ac eithrio tir un porwr a ddefnyddir yn gyffredin, sydd wedi'i gofrestru yn system adnabod parseli tir RPW.

Ond os oes gennych gontract Dyfarniad Grant Tir Comin Cynllun Cynefin Cymru eisoes ar dir o'r fath, bydd yna gyfyngiadau. Ni chewch ddatgan diddordeb mewn gwaith fydd yn newid amodau rheoli Contract Tir Comin Cynefin Cymru sydd gennych eisoes.

Cynlluniau organig blaenorol

Ni ellir ystyried unrhyw dir sydd naill ai'n cael ei droi'n organig neu sy'n statws cwbl organig ar gyfer cymorth o dan y cynllun Troi'n Organig. 

Felly, ni ellir cynnwys tir a ariennir o dan gynlluniau organig blaenorol fel Glastir Organig, cynllun Troi'n Organig neu Gymorth Organig yn y cais Troi'n Organig hwn.

Cynlluniau Creu Coedwig

Ni fydd parseli tir a gynhwysir mewn contract neu ddyfarniad grant ar gyfer y cynlluniau canlynol yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig:

  • Creu Coetir Glastir
  • Grant Creu Coetiroedd
  • Grantiau Bach – Creu Coetiroedd
  • Cynllun Adfer Coetiroedd 

Gellir defnyddio parseli Cynllun Trosi Organig i wneud cais i gynlluniau creu coetir a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.  Os byddwch yn llwyddo i wneud cais am gymorth creu coetiroedd, ni fydd unrhyw daliadau pellach gan y Cynllun Troi'n Organig yn cael eu gwneud ar yr arwynebedd o dir a blannwyd.

Grantiau Bach – Amgylchedd

Gellir cynnwys tir o dan ddyfarniad Grant Troi'n Organig yn Grantiau Bach - Yr Amgylchedd. Os bydd tir yn dod yn anghymwys h.y. nid yw'n cael ei ddosbarthu bellach yn laswelltir parhaol, cnydau parhaol neu dir cylchdro ar ôl cwblhau prosiect Grantiau Bach - Yr Amgylchedd, bydd dyfarniad grant y Cynllun Troi'n Organig yn cael ei derfynu ar y tir hwnnw a gellir adennill unrhyw daliadau blaenorol.

Talu ddwywaith

Peidiwch â gwneud cais am Grantiau Bach - Amgylchedd os ydych eisoes yn derbyn arian o le arall i wneud yr un gwaith. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn gyllido dwbl ar gyfer yr un tir.

Os gwelir wedyn eich bod wedi cael arian o ffynhonnell arall i wneud gwaith troi'n organig, gallai hynny arwain at gosb ariannol, gofyn ichi ad-dalu taliadau’ch dyfarniad grant troi'n organig a’ch gwahardd yn y dyfodol. 

Adran D: ymgynghori a chaniatáu

Rhaid sicrhau nad yw unrhyw waith a wneir fel rhan o’r prosiect yn torri rhwymedigaethau amgylcheddol o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol arall, gan gynnwys rheoliadau ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS), nac yn niweidio unrhyw nodweddion amgylcheddol hanesyddol. Rhaid i chi gadw at amodau unrhyw ganiatâd a gewch gan yr awdurdod perthnasol. Gall peidio â gwneud hynny arwain at eich erlyn.

Os na ellir rhoi caniatâd, ni ddylid cynnal y gwaith.

Adran E: gwneud cais am y Cynllun Troi'n Organig

RPW Ar-lein

Rhaid cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig drwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein yn unig. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun i Iau 8:30 i 17:00, Gwener 8:30 i 16:30) a dweud wrth y cysylltydd beth yw’ch CRN. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch. 

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru i ddysgu mwy. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen cysylltu â Llywodraeth Cymru i ddweud am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael defnyddio’ch cyfrif RPW ar-lein. Mae'r cais am y Cynllun Troi'n Organig ar gael yn yr adran "Ceisiadau a Hawliadau" eich cyfrif. 

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW.  Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) neu gopi caled ar unwaith. Ar ôl i’r ffurflen ein cyrraedd, byddwn yn anfon CRN Asiant atoch a Chod Defnyddio RPW Ar-lein. Hefyd, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Darllenwch ein y canllaw sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am Fynegi Diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble i fynd am help digidol.

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar ein gwefan.

Ceisiwch ateb cwestiynau gan Lywodraeth Cymru am eich Datganiad o Ddiddordeb yn y Cynllun Troi'n Organig yn gyflym. O beidio ag ateb yn brydlon, efallai na fyddwn yn gallu cynnig Dyfarniad Grant Troi'n Organig ichi. 

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i Fynegi Diddordeb trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Y broses ymgeisio

Mae dau gam i'r broses ymgeisio ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig.

  1. Dylech gyflwyno’ch datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein.
  2. Ar ôl i'r ffenest ar gyfer datgan diddordeb ddod i ben, bydd proses ddewis yn cael ei chynnal. Os cewch eich dewis, bydd dyfarniad grant yn cael ei gynnig ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb 

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno eich EoI trwy RPW Ar-lein ar gael yma yn Cynllun Troi’n Organig (ffenestr 2): gan defnyddio RPW Ar-lein i wneud cais.

Bydd yr holl dir sydd gennych reolaeth rheoli am fwy na 365 diwrnod yn cael ei lenwi ymlaen llaw ar eich cais EoI Ar-lein. Bydd gofyn i chi ddewis pob parsel cae sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig. Ni fyddwch yn gallu dileu unrhyw barseli tir o'ch cais, rhaid i chi ddad-ddewis y parsel gan ddarparu'r rheswm dros ddad-ddewis ar eich cais. Gallwch hefyd ychwanegu parseli tir pellach i'ch cais. 

Dylai'r rhifau da byw rydych chi'n eu rhoi ar eich cais gyfateb i'r rhifau ar y daliad fel y'u cofnodwyd ar Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Rhaid cwblhau'r Datganiad o Ddiddordeb yn llawn a chyflwyno’r holl ddogfennau a nodir isod i gefnogi'r cais. 

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i gyflwyno cais drafft trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Tynnu datganiadau o ddiddordeb yn ôl 

Ni chewch wneud newidiadau ar ôl ichi datgan diddordeb. Os oes angen i chi newid unrhyw un o'r codau cnydau ar yr amod nad yw'r ffenestr EoI wedi cau, gallwch dynnu'ch EoI gwreiddiol yn ôl ac ailgyflwyno un newydd gyda'r parseli tir cywir wedi'u dewis. 

Unwaith y bydd eich EoI wedi'i gyflwyno, gallwch ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. Gallwch dynnu’ch cais yn ôl trwy "Fy Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais eto mewn unrhyw rowndiau yn y dyfodol, os bydd ffenestr ymgeisio pellach ar gael.

Sgorio a dewis

Bydd y Cynllun Troi'n Organig yn anelu at ddewis EoIs sy'n cyflawni tuag at amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy o:

  • gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill yn gynaliadwy
  • lliniaru'r newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddo
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision a gynigir ganddynt
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni

Meini prawf sgorio

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer cymorth o dan y Cynllun Troi'n Organig, rhaid cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EoI) i Lywodraeth Cymru. Bydd pob Datganiad o Ddiddordeb cymwys sy’n dod i law Llywodraeth Cymru’n cael ei ystyried ar gyfer ei ddewis. 

Bydd y broses ddethol yn dadansoddi potensial gallu pob ffurflen Datgan Diddordeb i gyfrannu at amcanion amgylcheddol allweddol cynllun Troi'n Organig. Gwneir hyn drwy fesur croestoriad yr arwynebedd o dir a gynhwysir yn yr EoI gyda nifer o fapiau digidol, a elwir yn haenau'r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), lle maent yn digwydd ledled Cymru. Defnyddiwyd yr haenau GIS i benderfynu ar yr ardaloedd gorau ar gyfer cyflawni amcanion penodol y cynllun. Er enghraifft, gall arferion ffermio organig wella ansawdd dŵr a gwella safleoedd dynodedig, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, neu Henebion Cofrestredig a, lle mae blaenoriaeth uwch i gyfrannu at yr amcanion hyn, bydd EoIs yn sgorio'n uwch na lle mae blaenoriaeth is. 

Mae pob haen GIS yn cael sgôr, sy'n cael ei bennu gan flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru.  Yna mae'r EoI yn cael ei asesu yn erbyn pob haen GIS.  Mae sgôr yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar yr ardal sy'n croestorri â'r haen sy'n cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol: 

Arwynebedd (ha) o'r Haen Amcan Targed * x Pwysoli'r Targed   = Sgôr

                   Arwynebedd (ha) Mynegi Diddordeb 

*o fewn ardal gymwys (ha) Mynegi Diddordeb 

Er enghraifft: 

Dyrennir pwysoldeb o 4 fesul hectar i EoI sy'n cwmpasu 90.24ha, y mae 65.64ha ohono yn dod o fewn haen yr Afon Sensitif. Byddai cyfraniad yr haen wrthrychol hon i'r sgôr gyffredinol ar gyfer yr EoI yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn: 

65.64 x 4 = 2.9 

   90.27 

Mae'r nod Afon Sensitif, felly, yn cyfrannu 2.9 pwynt at y sgôr ar gyfer yr EoI. 

Mae'r cyfrifiad hwn yn cael ei gwblhau ar gyfer pob haen GIS gwrthrychol y mae'r EoI yn ei groestorri. Yna mae'r sgoriau a gyflawnwyd ar gyfer pob haen yn cael eu hychwanegu at ei gilydd i roi cyfanswm sgôr ar gyfer yr EoI. Byddai Datganiad o Ddiddordeb â mwy o haenau, ac yn arbennig haenau ag iddynt flaenoriaeth uchel, yn cael sgôr uwch. 

Yna rhennir cyfanswm y sgôr a gyflawnwyd ar gyfer yr haenau gwrthrychol ag arwynebedd yr EoI. Mae hyn yn darparu'r sgôr derfynol a ddefnyddir i raddio'r holl EoIs a dderbyniwyd. 

Mae'r holl EoIs yn cael eu rhestru yn ôl y sgôr derfynol a gyflawnwyd a bydd y sgorwyr uchaf wedyn yn cael eu dewis a'u prosesu. 

Mae tabl sy'n rhestru'r holl Haenau GIS Amcan a'r pwysoli cysylltiedig wedi'i gynnwys yn Atodiad 2. 

Os na fydd gennym ddigon o gyllideb i allu cynnig dyfarniad grant i bob ymgeisydd, bydd Llywodraeth Cymru’n dilyn proses ddewis gystadleuol i benderfynu pa ymgeiswyr i gynnig dyfarniad grant iddynt. Pan fydd ceisiadau wedi cael yr un sgôr a’u bod o’r un gwerth ac yr un safle o ran trothwy’r gyllideb sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, gan ddibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi a fydd eich cais yn llwyddiannus neu ddim gan restru’r amcanion a ddefnyddiwyd i gyfrif sgôr eich fferm.

Cynnig dyfarniad grant

Os byddwch yn cael cynnig contract, rhaid ichi ei dderbyn neu ei wrthod o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig i chi. 

Unwaith y bydd y contract wedi’i gynnig, ni fydd modd ei newid.

Os na fyddwch wedi derbyn eich llythyr dyfarnu grant o fewn 30 diwrnod calendr, bydd y dyfarniad grant yn cael ei dynnu'n ôl. 

Byddwn yn rhoi nodyn atgoffa ichi drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Pan wnaethoch dderbyn y contract, gwnaethoch gytuno i ddarparu'r dystysgrif OCB (Corff Rheoli Organig) berthnasol a'r rhestr tir, copi o'r cais i'r OCB a'r cynllun troi'n organig, os oedd hynny'n berthnasol, erbyn 31 Rhagfyr 2026 er mwyn bod yn gymwys i gael taliad. 

Ni fydd cymorth y Cynllun Troi'n Organig yn cael ei dalu oni bai bod yr holl ddogfennau ategol wedi'u derbyn a'u gwirio fel rhai sy'n bodloni gofynion y cynllun.

Adran F: amodau’r grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Grantiau Bach –Amgylchedd (gweler Adran M). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r dyfarniad grant troi'n organig yn cael ei gynnig yn unol â thelerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich llythyr Dyfarnu Grant, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r Dyfarniad Grant arwain at ganslo’ch Dyfarniad Grant a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau 

Rhoddir y grant ichi ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr yn y Datganiad o Ddiddordeb, y ffurflen hawlio ac unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol. 

Gellid erlyn person sy’n gwneud datganiad ffug neu na fydd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y cais hwn. Gallai rhoi datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y Datganiad o Ddiddordeb hwn arwain at ddod â’r contract i ben a/neu adennill unrhyw daliadau.

Rhaid i’r ymgeisydd ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Rydych wedi cynnwys manylion sy’n wir, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys yn ddigyfyngiad unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r ceisiadau, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am yr holl benderfyniadau busnes a wneir.  

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis iechyd a diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau os bydd newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau neu reoliadau domestig neu ryngwladol neu gyfarwyddebau swyddogol cymwys.

Rhaid ichi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r manylion a roddir yn adran Manylion yr Ymgeisydd ar y ffurflen.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu hasiant awdurdodedig priodol, fynd ar eich tir ac archwilio’r tir ac unrhyw offer, cyfleusterau a'r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau’ch bod yn gymwys a bod y wybodaeth a roddwyd ar gyfer Mynegi Ddiddordeb yn gywir.

Peidiwch â gwneud gwaith cyn ymuno â'r Cynllun Troi'n Organig sy'n niweidio'r amgylchedd. Rhaid deall y gallai hynny arwain at wrthod eich cais.

Ni fyddwch wedi cynnwys tir sydd o dan gytundebau rheoli eraill neu sy’n destun grant neu gais am grant arall, a allai ei gwneud yn bosibl eich talu ddwywaith.

Rhaid ichi gynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r Dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant.

Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich cais Mynegi Diddordeb yn y Cynllun Troi'n Organig â sefydliadau eraill, ac rydych yn cytuno i ni ddatgelu neu rannu unrhyw wybodaeth yn ôl yr angen.

Gallai Llywodraeth Cymru ofyn hefyd i sefydliadau eraill am wybodaeth amdanoch chi, neu roi gwybodaeth amdanoch chi iddyn nhw er mwyn cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae'r sefydliadau eraill hynny'n cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, fel sy'n briodol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Caiff gwybodaeth arall a roddir ei datgelu hefyd os caniateir hynny o dan y gyfraith.

Adran G: taliadau

Hawliadau

Bydd taliadau'r Cynllun Tron' Organig ar gael i'w hawlio ar y Ffurflen Gais Sengl yn unig yn y flwyddyn hawlio perthnasol; bydd taliadau'n cael eu gwneud ar ôl dilysu eich hawliad yn llwyddiannus. Bydd hawliadau yn cael eu talu dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru wedi bodloni bod y gofynion trosi tir ac ardystio wedi'u bodloni. Caiff taliadau eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael taliad Cynllun Troi’n Organig, rhaid ichi fodloni’r canlynol:

  • arwyddo dyfarniad grant troi'n organig a chadw at yr holl ofynion
  • peidio â gwneud gosodiad na datganiad ffug neu gamarweiniol, na rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol
  • peidio â ffugio’r amodau sydd eu hangen i gael taliad
  • gadael i Lywodraeth Cymru neu bobl eraill ag awdurdod archwilio’r holl dir unrhyw bryd ar ôl cael rhybudd, a darparu unrhyw ddogfen neu gofnod y gall Llywodraeth Cymru neu’r bobl eraill ag awdurdod ofyn amdanynt
  • cyflwyno hawliadau dilys a chyflawn erbyn y dyddiad penodedig gan ddefnyddio'r Ffurflen Cais Sengl yn y flwyddyn hawlio berthnasol. Ni fydd hawliad yn ddilys nes bod yr holl wybodaeth ategol hefyd wedi’i chyflwyno
  • rhaid hawlio’r taliad cyn y dyddiad terfyn fydd wedi’i nodi yn eich dyfarniad grant. Byddwn yn gwrthod hawliadau fydd yn ein cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn yn awtomatig

Cam-hawlio a chosbau 

Pan fyddwn yn dod o hyd i anghysondebau yn eich hawliad, bydd taliadau'n cael eu gostwng i'r swm a ganfuwyd.

Tanddatgan

Gall methu â datgan yr holl dir/ardaloedd amaethyddol ar eich daliad ar y SAF (gan gynnwys yr holl dir sy'n eiddo i dir ac sy'n cael ei rentu ynddo ac nid dim ond tir a gofnodwyd yn eich dyfarniad grant Cynllun Troi'n Organig) arwain at leihau eich taliadau.

Gorddatgan

Bydd cosbau am orddatgan yn cael eu rhoi os yw'r arwynebedd a ddatganwyd ar gyfer Cynllun Troi'n Organig ar y Ffurflen Cais Sengl (SAF) yn fwy na'r arwynebedd a nodir. Cyfrifir cosbau gan ddefnyddio'r arwynebedd a ddatganwyd ar eich SAF sy'n derbyn yr un gyfradd gymorth (y cyfeirir ati fel grwpiau cnydau). Yn achos Troi'n Organig, mae pob Cyfradd Dalu yn grŵp cnydau ar wahân.

Os yw'r arwynebedd yr hawlir arno o dan Cynllun Troi'n Organig yn fwy na'r arwynebedd cymwys (e.e. mae nodwedd anghymwys wedi cael ei hychwanegu at arwynebedd y contract), os na chaiff hyn ei ddatgan yn Ffurflen y Cais Sengl yn y flwyddyn hawlio berthnasol, bydd unrhyw grant a delir ar gyfer yr arwynebedd anghymwys yn cael ei adennill.

Os yw'r arwynebedd yn fwy nag arwynebedd y contract, bydd yr arwynebedd sy'n gymwys ar gyfer taliad yn cael ei leihau 1.5 gwaith y gwahaniaeth wedi'i nodi

Ni fydd y gosb yn fwy na 100% o'r symiau sy'n seiliedig ar yr arwynebedd a ddatganwyd.

Fe welwch isod enghraifft o gosbau cyffredin am orddatgan.

Enghraifft 1

Datganir bod arwynebedd a hawliwyd gan y Cynllun Troi'n Organig ar gyfer cyfradd talu 1 yn 100ha ond penderfynir ei bod yn 98.5ha gan fod yr hawlydd wedi adeiladu adeilad amaethyddol newydd ar dir o fewn y contract. Ni chaiff ei leihau gan nad yw’r gwahaniaeth yn fwy na 3% neu 2 hectar ond bydd taliad y Cynllun Troi'n Organig yn seiliedig ar 98.5 hectar.

Enghraifft 2

Mae arwynebedd hawliedig gan y Cynllun Troi'n Organig ar gyfer Cyfradd Talu 1 wedi'i ddatgan yn 100ha ond penderfynir ei fod yn 90ha gan fod yr hawlydd wedi plannu coetir newydd ar dir o fewn y contract. Gan fod y gwahaniaeth yn fwy na 3% neu 2 Ha, bydd cosb yn berthnasol. Bydd taliad y Cynllun Troi'n Organig yn seiliedig ar 75 ha, sef 90ha minws 15ha (10ha x 1.5).

Torri’r safonau Trawsgydymffurfio 

Bydd cyfrifoldeb arnoch i fodloni’r holl safonau Trawsgydymffurfio am y flwyddyn galendr lawn. Os na fyddwch yn bodloni’r Gofynion Rheoli Statudol neu’r safonau Cadw Tir mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da, boed yn fwriadol neu drwy esgeulustod, gallech golli’ch taliad Cynllun Troi'n Organig am flwyddyn neu fwy. Wrth benderfynu o faint y caiff eich taliad ei leihau, byddwn yn ystyried pa mor fawr, difrifol, parhaol ac ailadroddus y bu’r achos o anghydymffurfio.

Adennill taliadau 

Mae Llywodraeth Cymru’n cael gofyn i ymgeisydd dalu’r hyn a dalwyd iddo yn ôl os na fydd wedi cwblhau’n llawn y prosiect sy’n derbyn y grant ac os nad yw’r ymgeisydd wedi cydymffurfio ag amodau a thelerau dyfarniad grant Cynllun Troi'n Organig. Mae rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau’ch bod yn cadw at reolau Cynllun Troi'n Organig. Caiff archwiliadau eu cynnal i gadarnhau bod yr wybodaeth rydych wedi’i rhoi inni wrth hawlio taliadau ac mewn dogfennau ategol yn gywir. Edrychir hefyd bod yr holl ymrwymiadau y gellir eu gwirio, er enghraifft bod gwaith wedi’i wneud yn unol â’r hawliad a gymeradwywyd.

Eich gwahardd yn y dyfodol

Gwahardd yn y dyfodol yw sicrhau bod y manteision amgylcheddol yn cael eu cyflawni drwy'r Cynllun Troi'n Organig trwy atal EoIs oddi wrth y rhai nad ydynt wedi ymrwymo i ymgymryd â thrawsnewid organig am gyfnod y dyfarniad grant.

Gallai peidio â chwblhau Dyfarniad Grant olygu na fydd Rheolwyr Tir a Busnesau Ffermio eraill yn cael eu dewis ar gyfer Cynllun Troi'n Organig.

Os yw Llywodraeth Cymru yn derbyn na allwch gwblhau unrhyw ymrwymiadau'r Cynllun Troi'n Organig oherwydd amgylchiadau eithriadol a ddangoswyd, bydd yr ymrwymiad yn cael ei dynnu o'r dyfarniad grant. Caiff pob cais ei asesu fesul achos.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i Gynllun Troi'n Organig. Mae troseddau’n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Ymddygiad annerbyniol

Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru, unigolion na sefydliadau sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru oddef ymddygiad ymosodol, sarhaus na difrïol na gofynion afresymol a pharhaus gan ymgeiswyr/hawlwyr neu eu cynrychiolwyr. Felly hefyd aelodau’r Panel Apelio Annibynnol. 

Mae Rheoli Ymddygiad Annerbyniol Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru yn esbonio'r yr ydym yn ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol. 

Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais neu hawliad.

Adran H: trosglwyddo a gwerthu tir sydd o dan y dyfarniad grant

Byddwch yn ymwybodol y gellir trosglwyddo dyfarniad grant y Cynllun Troi'n Organig os yw'r busnes fferm sy'n cymryd rheolaeth o'r tir yn cytuno i barhau â thelerau ac amodau dyfarniad grant OCS. Fodd bynnag, os byddwch yn gwerthu neu'n trosglwyddo tir (cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig neu anysgrifenedig), heb i'r busnes fferm arall gytuno i gymryd drosodd y dyfarniad grant, cyn cwblhau'r dyfarniad grant, bydd eich dyfarniad grant yn cael ei ganslo ac ni wneir unrhyw daliad. Ar ben hynny, gellir adennill taliadau a wnaed eisoes i chi yn ystod y dyfarniad grant.

Rhaid i chi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’ch caeau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • cofrestru caeau nad ydynt wedi’u cofrestru gydag RPW o’r blaen (h.y. caeau heb eu cofnodi ar y Ffurflen Gais Sengl (SAF))
  • rhannu caeau yn barhaol
  • uno caeau yn barhaol
  • newid ffiniau caeau
  • newid nodweddion parhaol caeau.

Hefyd, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn y terfyn o 30 diwrnod ar ôl iddo ddigwydd os ydy meddiannydd y tir, gan gynnwys perchennog neu denant, yn newid.

Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y newidiadau hyn drwy ddefnyddio’r cyfleuster Rheoli Fy Nhir (MML) ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd.

Gallech gael eich cosbi am beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru. 

Adran I: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn deddfwriaeth (gan gynnwys newid dehongliad)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i reolau’r cynllun neu ddyfarniad y grant

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich dyfarniad grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein gwefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran J: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Troi'n Organig.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn gwneud y taliad i chi neu fe allai gael ei ddewis ar gyfer ymweliad ar ôl i chi dderbyn y taliad.

Bydd yr holl fanylion yn eich Datganiad o Ddiddordeb, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch yn eich Datganiad o Ddiddordeb a’ch hawliad yn cael eu harchwilio. 

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr archwiliadau’n tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich hysbysu ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y gwnawn ni wrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae'n ofyn fod yr holl grantiau yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion o Lywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio'r prosiect ar unrhyw adeg resymol o fewn y cyfnod hwn o bum mlynedd.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • gyflwyno unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich dyfarniad grant Cynllun Troi'n Organig a darparu'r wybodaeth honno yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • gofalu bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am eich contract grant Troi'n Organig ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld. Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono

Adran K: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio

Mae'r Broses Apeliadau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig yn destun newid o 1 Ionawr 2026. Bydd canllawiau apeliadau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan cyn y dyddiad hwn. 

Nid oes sail dros apelio yn y cam Mynegi Diddordeb.

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • cam 1: adolygiad gan RPW
  • cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng ngham 1)

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. 

Rhaid i apelwyr a’u cynrychiolwyr beidio â chysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r Panel Apelio Annibynnol. Gallem ystyried hynny fel Ymddygiad Annerbyniol yn unol â’r canllaw Rheoli Ymddygiad Annerbyniol gan Gwsmeriaid Llywodraeth Cymru. Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais neu hawliad.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig.

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Gellir cael rhagor o gyngor ar sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru 
Adeiladau’r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10  3NQ

Ffôn: 03000 251378
E-bost: complaints@gov.wales 
Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pencoed
CF35  5LJ

Ffôn: 0300 790 0203 
Gwefan: Ombwdsmon

Adran L: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth eang o gynlluniau grant i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach a mwy llewyrchus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n gorchwyl gyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu i asesu eich cymhwysedd i gael cyllid.

Cyn i ni ddarparu cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Mae’r gwiriadau hyn yn gofyn inni brosesu data personol amdanoch chi i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o dwyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant yr ydych wedi gwneud cais amdano, neu gallwn roi’r gorau i ddarparu cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian ac, yn sgil hyn, gall eraill wrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwysedd, mae’n bosibl hefyd y bydd angen inni rannu gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’ch cais ag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyllid a Thollau EF, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a’r heddlu.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o’r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, gall fod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, caiff eich data personol eu cadw am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag pob amod sy’n ymwneud â’r grant a ddyfarnwyd a phan fydd pob taliad wedi cael ei wneud. Fodd bynnag, os dyfernir y cyllid dan Reoliad Eithriad Bloc Cyffredinol neu reoliad De Minimus, bydd eich data personol yn cael eu cadw am 10 mlynedd o ddiwedd unrhyw ddyfarniad cymorth. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

2il Lawr, Tŷ Churchill 
Ffordd Churchill 
Caerdydd 
CF10  2HH

Rhif ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Adran M: gofynion cyfreithiol

Mae'r Cynllun Troi'n Organig yn cyflawni yn unol ag amrediad o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth. Mae'r rhain wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Rheolir y Cynllun Troi'n Organig gan Reoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir rhifau 1305/2013, 1303/2013 and 1306/2013, Rheoliad Gweithredu rhifau 808/2014 a 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyo 640/2014 ac 807/2014 (fel y’u diwygir o dro i dro). 

Rhoddir Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’u diwygir o dro i dro) gan gynnwys Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (W.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (W.328) 

Mae'r Cynllun Troi'n Organig yn gynllun amlflynyddol, ar dir sydd ar gael i reolwyr tir a busnesau ffermio ledled Cymru. Mae’r prosiectau gwaith cyfalaf sydd ar gael wedi’u dewis am eu bod yn dod â budd eang a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu pedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • sicrhau cadernid rhag yr hinsawdd
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Mae tri amcan trawsbynciol i’r Cynllun Troi'n Organig, sef:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a meysydd gwledig
  2. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, gan gynnwys prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth;
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, a daw’r rheini o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran N: cysylltiadau

Ymholiadau: y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Am bob ymholiad ynghylch RPW, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru'n gwneud eu gorau i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'ch gwefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n llawn newyddion, cyngor a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a’u deall.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. I gofrestru, ewch i Hysbysiadau neu yn Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer SoDdGa, GNC, AGA ac ACA 

Cyfoeth Naturiol Cymru
d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Maes y Ffynnon 
Penrhosgarnedd 
Bangor 
Gwynedd 
LL57 2DW

Ffôn: 0300 065 3000
Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun i Gwe 8am i 6pm)
Ymholiadau cyffredinol: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Cadw: ar gyfer Henebion Rhestredig / parciau a gerddi cofrestredig

Cadw
Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48  1UZ

Ffôn: 03000 252239

E-bost: ScheduledMonuments@gov.wales

Heneb (yr Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru) 

Ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar asedau hanesyddol heb eu dynodi (Nodweddion yr Amgylchedd Hanesyddol) neu gyngor rheoli treftadaeth cyffredinol, cysylltwch â Heneb

Ymholiadau cyffredinol: heritagemanagement@heneb.org.uk

Archaeoleg Clwyd-Powys

Y Swyddfeydd
Coed y Dinas
Y Trallwng 
SY21 8RP                 

Ffôn: 01938 553670
Gwefan: Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru

Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent

Canolfan Fusnes Sa12
Ystâd Ddiwydiannol Seaway Parade
Baglan
Port Talbot 
SA12 7BR

Ymholiadau cyffredinol:
Ffôn: 01792 655208

Archaeoleg Dyfed

Corner House (Prif Swyddfa)
6 Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
SA19 6AE 

Ffôn: 01558 823121

Archaeoleg Gwynedd

Craig Beuno
Ffordd Garth
Bangor 
LL57 2RT

Ffôn: 01248 352535

Atodiad 1: codau cnydau cymwys ac anghymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig

Tabl 1: codau cnydau sy'n gymwys ar gyfer Cynllun Troi'n Organig

Mae'r tabl hwn yn darparu'r holl godau cnydau cymwys ochr yn ochr â'u mathau dosbarthu gorchudd tir cysylltiedig ar gyfer Cynllun Troi'n Organig.

Cnwd/disgrifiad o’r tirCnwd codGorchudd tir categoriY Cynllun Troi’n Organig taladwy
AfalauAP4GarddwriaethYdy
Cnwd âr – cymysgMC3GarddwriaethYdy
MarchysgallAR2GarddwriaethYdy
MerllysAS1GarddwriaethYdy
Planhigion WyAU1GarddwriaethYdy
Bambŵ;BA2Cnydau ParhaolYdy
Haidd - wedi'i hau yn y gwanwynBA5CylchdroYdy
Haidd - wedi'i hau yn y gaeafBA4CylchdroYdy 
BasilBA6GarddwriaethYdy 
Bresych a brassica eraill - wedi'i hau yn y gwanwynBN4CylchdroYdy 
Ffa - cae - wedi'u hau yn y gaeafBN5CylchdroYdy 
Ffa - gwyrddBN2GarddwriaethYdy 
Ffa – mungBE11GarddwriaethYdy 
Llydanddail - Glastir pori Opsiwn 176BG1Porfa BarhaolYdy 
Ffa soiaBN3CylchdroYdy 
Betys / MangoldsBT1CylchdroYdy 
Llus / LlygaeronBS2GarddwriaethYdy 
Mwyar duon / Mwyar logan / MafonBS1GarddwriaethYdy 
Maglys DuME6GarddwriaethYdy 
Tafod yr YchBO1GarddwriaethYdy 
Gwenith yr HyddBU1CylchdroYdy 
Ffa maes - wedi'i hau yn y gaeafCA21GarddwriaethYdy 
Bresych a chnydau bresych eraill - wedi'i hau yn y gaeafCA22GarddwriaethYdy 
CamelinaCA18CylchdroYdy 
Had Pefrwellt / pefrwelltCY1CylchdroYdy 
MoronCA20GarddwriaethYdy 
SeleriacCE2GarddwriaethYdy 
Coed conwydd - opsiwn Glastir pori 176CG1Porfa BarhaolYdy 
SicoriCH5CylchdroYdy 
TsilisCI1GarddwriaethYdy 
Tsili - CoedenCT1GarddwriaethYdy 
MeillionCL4CylchdroYdy 
Meillion – melysCL3CylchdroYdy 
CyfardwfCO5GarddwriaethYdy 
Coedlan – cylchdro byrCO4Cnydau ParhaolYdy 
Crambe CR2CylchdroYdy 
Berwr – saladCR4GarddwriaethYdy 
Berwr – dŵrCR5GarddwriaethYdy 
Ciwcymbrau;CU1GarddwriaethYdy 
Cennin PedrDA1GarddwriaethYdy 
Llysiau'r gwewyrDL1GarddwriaethYdy 
Ysgall bwytadwyTH1GarddwriaethYdy 
Melyn yr HwyrEV1

Garddwriaeth

 

Ydy 
Gwyndwn - aildyfiant naturiolFA3CylchdroYdy 
Gwyndwn - porfa wedi'i hauFA4CylchdroYdy 
Gwyndwn - gorchudd bywyd gwyllt wedi'i hauFA5CylchdroYdy 
FfeniglFE2GarddwriaethYdy 
FfenigrigFE1GarddwriaethYdy 
Ymylon CaeauFM1ArallYdy 
Erfin PorthiantRA9CylchdroYdy 
Eirin Mair / Cyrens coch / Cyrens duon / Cyrens gwynBS3GarddwriaethYdy 
grawnwin;GR7GarddwriaethYdy 
Glaswellt – parhaol – dros 5 mlyneddGR2Porfa BarhaolYdy 
Glaswellt – parhaol – wedi'i hadu yn ystod y 12 mis diwethafGR8Porfa BarhaolYdy 
Glaswellt – dros dro – o dan 5 oedGR1CylchdroYdy 
GrugHE9Porfa BarhaolYdy 
Rhos – poriHE7Porfa BarhaolYdy 
CywarchHE2CylchdroYdy 
Had porfwyd glasHE8CylchdroYdy 
HopysHO1GarddwriaethYdy 
RhuddyglRA4GarddwriaethYdy 
LafantLA1GarddwriaethYdy 
FfacbysLE1GarddwriaethYdy 
LetysLE3GarddwriaethYdy 
Had Llin - wedi'i hau yn y gwanwynLI4CylchdroYdy 
Had Llin - wedi'i hau yn y gaeafLI5CylchdroYdy 
Lucerne  LU2CylchdroYdy 
Lupins - melysLU1CylchdroYdy 
IndrawnMA6CylchdroYdy 
Maro / Pwmpenni / Sgwash / CourgetteMA5GarddwriaethYdy 
melonau;ME3GarddwriaethYdy 
Melonau – DŵrME5GarddwriaethYdy 
Grawn bachMI1CylchdroYdy 
MiscanthusMI5Cnydau ParhaolYdy 
Garddwriaeth cynhyrchu cymysgMP1GarddwriaethYdy 
madarchMU2GarddwriaethYdy 
MwstardMU3GarddwriaethYdy 
Mwstard – brownMU5GarddwriaethYdy 
Cnydau cloi nitrogen - cymysgMN1CylchdroYdy 
Meithrinfa – coed – addurnolNU11GarddwriaethYdy 
Cnau – castanwyddNU2GarddwriaethYdy 
Cnau – cyll / cobNU5GarddwriaethYdy 
Cnau – pistachiosPI1GarddwriaethYdy 
Cnau – cnau FfrengigNU4GarddwriaethYdy 
Ceirch - wedi'i hau yn y gwanwynOA5CylchdroYdy 
Ceirch - wedi'i hau yn y gaeafOA4CylchdroYdy 
Rêp had olew - wedi'i hau yn y gwanwynRA8CylchdroYdy 
Rêp had olew - wedi'i hau yn y gaeafRA7CylchdroYdy 
Wynwns / Cennin / Sialóts / GarllegON2GarddwriaethYdy 
Perllan – cymysgOR3GarddwriaethYdy 
OreganoOR2GarddwriaethYdy 
Helyg GwiailOS1Cnydau ParhaolYdy 
PerllysPA1GarddwriaethYdy 
PannasPA2GarddwriaethYdy 
GellygPE10GarddwriaethYdy 
Pys - ffacbysPE3GarddwriaethYdy 
Pys (gwinwydd ac eraill) – wedi'u hau yn y gwanwynPS2CylchdroYdy 
Pys (gwinwydd ac eraill) - wedi'i hau yn y gwanwynPS3CylchdroYdy 
PupurPP1GarddwriaethYdy 
LlyriadPL3GarddwriaethYdy 
Eirin / Eirin Gwyrdd / Ceirios / AlmonauPL2GarddwriaethYdy 
Tatws – melysPO2GarddwriaethYdy 
TatwsPO1GarddwriaethYdy 
RadisRA2GarddwriaethYdy 
rhiwbob;RH1GarddwriaethYdy 
RocedRO2GarddwriaethYdy 
RhosodRO1GarddwriaethYdy 
Rhyg - (gan gynnwys Meslin) - wedi'i hau yn y gwanwynRY4CylchdroYdy 
Rhyg - (gan gynnwys Meslin) - wedi'i hau yn y gaeaf RY5CylchdroYdy 
SaffrwnSA1GarddwriaethYdy 
SaetsSA9GarddwriaethYdy 
Sain Foin SF1CylchdroYdy 
SalsiffiSA3GarddwriaethYdy 
Morfa Heli - poriSM2Porfa BarhaolYdy 
Twyni tywodSD1Porfa BarhaolYdy 
Scorzonera  SC1GarddwriaethYdy 
Pwmpen SiamSP7GarddwriaethYdy 
SorgwmSO3CylchdroYdy 
Gwenith yr Almaen - wedi'i hau yn y gwanwynSP8CylchdroYdy 
Gwenith yr Almaen - wedi'i hau yn y gaeafSP9CylchdroYdy 
YsbigoglysSP3GarddwriaethYdy 
Pwmpen - BananaSQ1GarddwriaethYdy 
Pwmpen - Cnau MenynSQ2GarddwriaethYdy 
Pwmpen - Japanese PieSQ3GarddwriaethYdy 
mefusST1GarddwriaethYdy 
Hadau blodyn yr haulSU2CylchdroYdy 
Erfin bwytaSW4CylchdroYdy 
TybacoTO1GarddwriaethYdy 
tomatos.TO2GarddwriaethYdy 
Traciau poriGT1Porfa BarhaolYdy 
Coed gyda gorchymyn cadw coedTP8ArallYdy 
MeillionTR5CylchdroYdy 
Meillion – Pys-y-CeirwTR9CylchdroYdy 
Rhygwenith - wedi'i hau yn y gwanwynTC4CylchdroYdy 
Rhygwenith - wedi'i hau yn y gaeafTC3CylchdroYdy 
TiwlipauTU4GarddwriaethYdy 
Maip bwyta / Teiffon / ColzaTU5GarddwriaethYdy 
Pupys VE3CylchdroYdy 
Gwenith - wedi'i hau yn y gwanwynWT2CylchdroYdy 
Gwenith - wedi'i hau yn y gaeafWT1CylchdroYdy 
WoadWO1Cylchdro Ydy
IamYA1GarddwriaethYdy

Tabl 2: Codau Cnydau yn anghymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig

Disgrifiad o’r tir/cnwdCod cnwd Dosbarthiad gorchudd tirOrganig taladwy
Corneli caeau/ymyl coetir (heb gynnwys stoc) GC3ArallNa
Glaswellt (ac eithrio stoc)GR9ArallNa
Rhostiroedd (ac eithrio stoc)HE6ArallNa
Crëwyd clustogfa pwll ar gyfer GlastirGC2ArallNa
Gwelyau cyrs/corsydd (ac eithrio stoc)RE3ArallNa
Morfeydd heli (ac eithrio stoc)SM1ArallNa
Prysgwydd/eithin/mieri (ac eithrio stoc)GS1ArallNa
Coridor nantSC2ArallNa
Coridor nant – wedi'i greu ar gyfer GlastirGC1ArallNa
Coetir – llydanddail – stoc wedi'i eithrio – sy'n gymwys i gael BPSBW1ArallNa
Coetir – conifferaidd – stoc wedi'i eithrio – sy'n gymwys i gael BPS CW1ArallNa
CyrsRE1ArallNa
BrwynRU1ArallNa
Prysgwydd/eithin/mieri – ag eithrio stoc – heb fod yn gymwys am Gynllun y Taliad SylfaenolGS2ArallNa
Coridorau glan nant – ddim yn gymwys am BPSSC3ArallNa
Tir nad oes modd ei ddefnyddio – dros droTT99ArallNa

Nodweddion Parhaol yn anghymwys ar gyfer cynllun Troi'n Organig

Na

Coetir conwydd – grŵp ZZ10ArallNa
Coetir llydanddail – grŵpZZ11ArallNa
Coetir conwydd gwasgarogYY14ArallNa
Coetir llydanddail gwasgarogYY15ArallNa
Coetir – boncyffion YY16ArallNa
Coetir – conifferaidd – stoc wedi'i eithrio – anghymwys ar  gyfer BPS TR2ArallNa
Coetir – llydanddail – stoc wedi'i eithrio – anghymwys ar    gyfer BPS WS1ArallNa
Rhedyn - grŵpZZ20ArallNa
Rhedyn gwasgarogYY21ArallNa
Prysgwydd / Eithin / Mieri - grŵpZZ22ArallNa
Prysgwydd / Eithin / Mieri – gwasgarogYY23ArallNa
Pyllau – anghymwysZZ30ArallNa
Afonydd a NentyddZZ31ArallNa
Sgri / Cnycau / Meini / Tywod - grŵpZZ40ArallNa
Sgri / Cnycau / Meini / Tywod – gwasgarogYY41ArallNa
Adeiladau / buarthauZZ89ArallNa
Arwynebau caledZZ92ArallNa
FfyrddZZ94ArallNa
Traciau – heb eu poriZZ97ArallNa
Gweithgareddau anamaethyddolNO1ArallNa

Atodiad 2: haenau sgorio nod y Cynllun Troi’n Organig

HaenSgôr
Llynnoedd Sensitif4
Afonydd Sensitif4
Pwll dŵr1
Ffos6
SoDdGAau Biolegol a 300m o lain glustogi6
SoDdGA Biolegol ar Arfordir ac Iseldir â Blaenoriaeth48
Madfall Dwr Cribog 1km3
Gwyniad6
Misglen berlog yr afon4
Cen ar hen goed wrth ymylon ffyrdd a thir parc3
Y gardwenynen lwydfrown4
Y gardwenynen feinlais4
Planhigion âr1
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth un30
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth dau10
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth tri3
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pedwar2
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump1
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 40–50%1
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 50–60%2
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 60–70%10
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 70–80%18
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 80–90%32
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 90–100%60
Lleihau'r perygl o lifogydd (Rheoliadau ynghylch storio dŵr a llif uchaf - adfer a chreu gwlyptir a golchdir)20
Ardaloedd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac ardaloedd gwarchodedig sydd â dyddiad targed ar gyfer cyflawni amcan amgylcheddol erbyn 201520
Materion Maethynnau â Thystiolaeth8
Priddoedd carbon blaenoriaeth 1 (iseldir)30
Priddoedd carbon blaenoriaeth 2 (iseldir)15
Priddoedd carbon blaenoriaeth 3 (iseldir)6