Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Cyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi pŵer i'r Senedd bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC). 

Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) ar gyfer gweithredu CTIC. Mae'n nodi'r gofynion, yr amserlenni a'r mesurau perfformiad. Bydd glynu at y CLG yn sicrhau gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr Cymru, ac yn caniatáu i CThEF a Llywodraeth Cymru gyflawni eu priod gyfrifoldebau wrth weithredu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. 

Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru a CThEF wedi cynnal adolygiad o'r CLG i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Fel rhan o'r broses hon, mae rhai newidiadau a diwygiadau wedi'u gwneud.

Y prif newidiadau a wneir i'r CLG yw:

  • cynnwys cyfeiriad at ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn achos o'r fath nad oes Penderfyniad ar gyfer Cyfraddau Cymru;
     
  • cynnwys gofyniad allweddol newydd ar gyfer cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol a'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd; a,
     
  • diweddaru'r cyfeiriad at Weinidog Llywodraeth Cymru i gyfeirio at y “Gweinidog Cymru perthnasol” (“relevant Welsh Minister”) yn syml.

Mae dolen i’r CLG i’w chael yn: Cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer gweithredu cyfraddau Treth Incwm Cymru gan CThEF - GOV.UK