Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Tracey Holdsworth (Cadeirydd) NSPCC Cymru
  • Mike Clark TGP Cymru
  • Jennifer Gibbon-Lynch Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Olivia Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Paul Apreda FNF Both Parents Matter Cymru
  • Sarah Coldrick Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
  • Gareth Jenkins Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Sara Kirkpatrick Cymorth i Ferched Cymru
  • Sharon Lovell Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)
  • Samantha Williams Anabledd Dysgu Cymru
  • Astrid Davis Cadeirydd Panel Teulu Caerdydd ac Ynad
  • Nigel Brown Cafcass Cymru
  • Matthew Pinnell Cafcass Cymru
  • De Litchfield Cafcass Cymru
  • Bethan Altman Cafcass Cymru
  • Lydia Hall-Mulvaney Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Croeso ac ymddiheuriadau

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Catrin Cracroft Cynrychiolydd Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • HHJ Jayne Scannell Y Farnwriaeth Donna Mulhern GLlTEF
  • Sean O’Neill Plant yng Nghymru
  • Helen Mary Jones Voices from Care Cymru
  • Suzanne Burgoyne Cafcass Cymru

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2024

Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2024 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi. Roedd yr aelodau yn cydnabod bod y camau gweithredu a nodwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cynghori wedi'u cyflawni ac y gellir eu cau.

Gwybodaeth Reoli a Diweddariad ar y Gwaith o Ddatblygu Fframwaith Gwybodaeth Reoli

Darparodd Nigel drosolwg cynhwysfawr o'r adroddiadau ar ddata a pherfformiad ar gyfer achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat. Hefyd, darparodd Nigel grynodeb manwl o'r newidiadau sydd ar ddod i'r setiau data a'r dangosyddion perfformiad allweddol, gan roi gwybod y disgwylir i'r broses gwybodaeth reoli fod wedi ystyried y dangosyddion perfformiad allweddol newydd erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynghori.

Mynegodd Paul Apreda bryderon nad oedd y cynigion yn canolbwyntio ar ganlyniadau a gofynnodd i'r mater hwn gael ei gynnwys yn y cofnodion. Ymatebodd Tracey a Nigel i amrywiaeth o gwestiynau a ofynnwyd gan aelodau'r pwyllgor, gan gynnwys pryder Paul.

Cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc

Rhoddodd Olivia gyflwyniad ardderchog yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • O ganlyniad i'r ymgyrch recriwtio diweddar, mae'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc wedi recriwtio unigolion a chynyddu nifer yr aelodau i gyfanswm o saith aelod yng Nghymru a chadarnhaodd bod yr aelodau newydd o'r bwrdd yn meddu ar brofiad ym maes cyfraith gyhoeddus.
  • Fel rhan o broses sefydlu staff Cafcass Cymru, disgwylir i ddau aelod o staff y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc gyfweld â Matthew Pinnell fis nesaf mewn perthynas â'i rôl ac effaith cynnwys y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yng ngwaith Cafcass Cymru.
  • Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc wedi adolygu Canllawiau Ymarfer ar gyfer Cam-drin Domestig Cafcass Cymru, y disgwylir iddynt gael eu lansio ar 14 Mai, yn ogystal â rhoi adborth pwysig arnynt a gaiff ei gynnwys yn y canllawiau a'i ymgorffori'n ymarferol.
  • Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc wedi gweithio'n agos gydag Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield er mwyn helpu i greu pecyn cymorth ‘Barnwyr yn Ysgrifennu at Blant’ a lansiwyd gan Lywydd yr Is-adran Teuluoedd.
  • Disgwylir i gynhadledd ‘Llais y Plentyn’ nesaf y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc gael ei chynnal ar-lein ar 31 Gorffennaf. Gofynnwyd i aelodau'r pwyllgor nodi'r dyddiad a bydd rhagor o wybodaeth i ddod yn y misoedd nesaf.

Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau o'r Pwyllgor Cynghori i Olivia am ei chyflwyniad rhagorol.

Awgrymodd Sara Kirkpatrick y gellir cyfeirio at adnoddau perthnasol fel rhan o'r cyfweliad ag aelodau o'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc a Matthew Pinnell. Nododd Jennifer Gibbon-Lynch y gellid ystyried hyn ymhellach.

Canfyddiadau'r Adolygiad Ymarfer

Rhoddodd Nigel drosolwg o Ganfyddiadau'r Adolygiad Ymarfer, gan nodi y byddai canfyddiadau'r Adolygiad yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ymarfer yn barhaus yn ogystal ag ansawdd y gwaith. Hefyd, darparodd Nigel grynodeb o'r newidiadau a wnaethpwyd o ganlyniad i'r Adolygiad Ymarfer, fel diwygiadau i fodel y cynllun achos er mwyn sicrhau ei fod yn symlach, yn fwy amserol ac yn cynnwys cofnodion yn seiliedig ar dystiolaeth, cyfraniad gan blant sy'n rhan o achos llys a'r newidiadau sydd i ddod i'r cynllun achos.

Gofynnodd Paul Apreda a ellid ystyried ymgysylltu â rhieni yn debyg i'r ffordd yr ymgysylltir â phlant.

Cam Gweithredu: Nigel a Matthew i ystyried y mater ymhellach.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Braenaru

Rhoddodd Nigel ddiweddariad ar y Cynllun Braenaru, gan nodi bod Cymru gyfan bellach yn gweithredu o dan y model Braenaru. Mae'r lansiad yn yr ardaloedd sy'n weddill wedi bod yn llwyddiannus, bydd cyfnod trosglwyddo yn mynd rhagddo tra bod achosion etifeddol yn rhedeg ochr yn ochr ag achosion Braenaru ac rydym yn disgwyl gweithio ar y cynllun Braenaru yn y misoedd nesaf. 

Gwnaeth Tracey Holdsworth ganmol Cafcass Cymru am sicrhau bod y cynllun Braenaru yn llwyddiant.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ganllawiau Ymarfer ar gyfer Cam-drin Domestig Cafcass Cymru

Roedd Bethan Altman yn bresennol yn y cyfarfod i roi'r wybodaeth gynhwysfawr ddiweddaraf am Ganllawiau Ymarfer ar gyfer Cam-drin Domestig Cafcass Cymru. Nododd Bethan fod disgwyl lansio'r Canllawiau Ymarfer ar gyfer Cam-drin Domestig ar 14 Mai a darparodd trosolwg defnyddiol o'r gwaith y mae Cafcass Cymru wedi'i gyflawni ochr yn ochr â secondai Cymorth i Ferched Cymru i sicrhau bod y canllawiau yn llwyddiannus; yn benodol, nododd Bethan bwysigrwydd yr hyfforddiant Safe & Together a'r broses ar gyfer annog yr holl Ymarferwyr i weithio o dan y model hwn. Nododd Bethan fod Ymarferwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i'r model Safe & Together, ac ar y cyd â'r Canllawiau Ymarfer, y nod yw gwella ymarfer sy'n ystyriol o drawma a sicrhau canlyniadau mwy diogel i blant.

Ymatebodd Bethan i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r pwyllgor. Cytunwyd y byddai drafft o'r Canllawiau Ymarfer yn cael ei ddosbarthu ymhlith aelodau'r Pwyllgor Cynghori ac y dylid anfon unrhyw sylwadau/arsylwadau at Lydia Hall-Mulvaney.

Siaradodd Sara Kirkpatrick a Tracey Holdsworth gadarnhaol am y gwaith caled y mae Cafcass Cymru wedi'i gyflawni a'r dulliau gweithredu y mae'n eu cymryd.

Unrhyw Fater Arall

Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben. 

Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 8 Gorffennaf 2025 drwy Teams.