Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Ebrill nodais fy uchelgeisiau ar gyfer rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n gweithio i bawb. Heddiw, rwy'n nodi'n fanylach y camau y byddwn yn eu cymryd. Byddwn yn cyflawni'r rhain drwy weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac Awdurdodau Lleol ac, yn bwysig ddigon, y rhai sydd â phrofiad bywyd o'r rhwystrau y mae llawer o bobl sy'n ceisio defnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn eu hwynebu ar hyn o bryd. 

Mae ein dull gweithredu yn ceisio sicrhau bod pobl wrth wraidd ein polisïau a'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith mewn perthynas â phob dull teithio yn lleol, yn rhanbarthol ac ar lefel Cymru gyfan. 

Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi nodi pum egwyddor a fydd yn llywio ein gwaith, sef:

  • Teimlo'n Ddiogel: Er ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn ddiogel o safbwynt iechyd a diogelwch wrth deithio, rydym hefyd am i bobl deimlo'n ddiogel wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym am i bobl deimlo'n hyderus wrth ddefnyddio ein gwasanaethau ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r flwyddyn.
  • Teimlo Bod Croeso i Chi: Mae pawb yn haeddu cael profiad cadarnhaol wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth ac mae rhoi mesurau ar waith er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt yn rhan bwysig o'r broses o gyflawni hyn. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu trin â pharch gan staff a defnyddwyr trafnidiaeth eraill a sicrhau bod ffyrdd o roi gwybod am ymddygiad annerbyniol ac i gamau gael eu cymryd o ganlyniad i hynny.
  • Hygyrchedd: Rydym am ddileu rhwystrau ffisegol a rhwystrau o ran iaith, cost a gwybodaeth y gall pobl eu hwynebu wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth. Drwy wneud hyn, byddwn yn helpu pobl i deithio'n hyderus a bod yn fwy annibynnol ac yn galluogi pobl i gael mynediad i'r pethau sy'n eu galluogi i ffynnu.
  • Cynnwys: Rydym am greu cyfleoedd i bobl gael eu cynnwys yn y broses o lunio a chyflwyno ein polisïau, seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth.  Drwy ddeall profiad bywyd pobl sy'n defnyddio ein rhwydweithiau, gallwn eu cynllunio i fod yn ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch o'r dechrau.
  • Ymgorffori Newid: Rydym yn awyddus i helpu a grymuso pawb i ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth; byddwn yn gwneud hyn drwy arweinyddiaeth gref, mwy o gynrychiolaeth a meithrin diwylliant sy'n canolbwyntio ar bobl yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru. 

Mae'r nifer mawr o bobl rwyf wedi cyfarfod â nhw ers i mi ddechrau yn y swydd wedi nodi'n glir iawn – rydym am weld newidiadau go iawn, nid dim ond geiriau calonnog. Felly, mae ein camau gweithredu yn rhai ymarferol â therfynau amser penodol a bwriedir iddynt osod sylfeini cadarn y gallwn adeiladu arnynt. 

Gallwn helpu pobl i deimlo'n ddiogel drwy lunio canllawiau ymarferol ar oleuadau yn gyflym, gallwn wneud yn siŵr bod gennym ddull gweithredu cyson ar draws ein rhwydweithiau, gan gydbwyso anghenion pobl sy'n teithio â'n cyfrifoldebau ecolegol ac amgylcheddol er mwyn sicrhau, pan fyddwn yn uwchraddio ein seilwaith, y gallwn ei wneud yn iawn y tro cyntaf. 

Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod pobl yn teimlo bod croeso iddynt pan fyddant yn defnyddio ein rhwydweithiau. Dyna pam rydym wedi cynnig amrywiaeth o gamau gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr bod staff sy'n delio â chwsmeriaid ar gyfer pob dull teithio yn cael hyfforddiant rheolaidd ar faterion pwysig fel gwrth-hiliaeth a'r model cymdeithasol o anabledd. 

Gwyddom fod y rhwystrau i deithio yn eang eu cwmpas; mae rhai rhwystrau yn ffisegol, mae rhai yn ariannol ac mae rhai yn ddiwylliannol a gallant ymddangos yn anorchfygol ar adegau i bobl sydd ond yn ceisio mynd o bwynt A i bwynt B. Eto i gyd, gwyddom fod ymgorffori hygyrchedd yn ein seilwaith o'r cychwyn cyntaf yn golygu ei bod bob amser ym mlaen meddwl pawb, yn ogystal ag arbed amser ac arian drwy osgoi gwaith ôl-osod. 

Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ein camau gweithredu ar ddatblygu'r safonau a'r canllawiau cywir a chynnwys y rhai â phrofiad bywyd, er mwyn sicrhau bod darparwyr trafnidiaeth yn glir, nid yn unig ynghylch y safonau a ddisgwylir ganddynt, ond cymorth ymarferol hefyd i roi newidiadau, sy'n aml yn rhai syml, a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, ar waith. 

Mae cynnwys pobl yn llinyn sy'n rhedeg drwy ein dull gweithredu, yn ogystal â gweddill y pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd ein Bwrdd Teithio Cynhwysol yn ein helpu i fabwysiadu dull gweithredu integredig ar draws dulliau teithio yn ogystal ag ystyried effeithiau croestoriadedd ar y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth. Byddwn hefyd yn adeiladu ar lwyddiant Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu ei gylch gwaith a dod yn Banel Teithio Pobl Anabl Cymru Gyfan, sef Panel a arweinir gan bobl anabl a fydd yn rhoi cyngor a sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â sut i wneud ein rhwydweithiau yn fwy hygyrch a chynhwysol. 

Er mwyn ymgorffori newid mae angen i chi allu mesur y cynnydd rydym wedi'i wneud. Byddwn yn atgyfnerthu ein dull gweithredu drwy ddefnyddio'r ffynonellau mwyaf perthnasol ac amrywiol o dystiolaeth a byddwn yn gweithio gyda phobl â phrofiad bywyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn mesur yr hyn sy'n wirioneddol bwysig.

Rwyf wedi nodi'n glir bod hygyrchedd a chynhwysiant yn ddisgwyliadau sylfaenol y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt yn ein rhwydweithiau trafnidiaeth, ac nad ydynt yn cael eu hystyried yn wasanaeth dewisol. Bydd blaenoriaethau a chamau gweithredu Teithio i Bawb yn ein helpu i greu rhwydweithiau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch ac sy'n cynnwys pobl yn y gwaith o'u cynllunio a'u cyflwyno.