Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2026: disgrifiad o'r cynllun yn cynnig darlun llawn o'r cynllun a dylai roi digon o fanylion i ffermwyr allu ystyried gofynion y cynllun o ran eu busnes fferm unigol.

Ond rydym yn deall hefyd y gallai fod gan ffermwyr gwestiynau am y gweithredoedd cyffredinol a beth mae'r gofynion hyn yn ei olygu iddyn nhw’n ymarferol.

Mae gofynion gweithredu wrthi'n cael eu llunio i ateb rhai o'r cwestiynau mwy technegol, ac er y gallwn roi ateb ichi yn y cwestiynau cyffredin hyn, rydym yn dal i weithio ar y manylion ac yn eu trafod gyda pholisi a rhanddeiliaid.

Bydd canllawiau llawn a nodiadau technegol y cynllun ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cyn i'r cynllun ddechrau ar 1 Ionawr 2026. 

1. Pwy sy'n gymwys i'r SFS

C. A oes angen bod gennyf hawliau BPS neu fod wedi hawlio am BPS o'r blaen i gael ymuno â'r cynllun?

A. Na. Nid oes unrhyw hawliau o dan yr SFS. I gael ymuno â’r cynllun, bydd angen i chi allu bodloni'r gofynion sy'n cael eu rhestru yn y disgrifiad o'r cynllun.

C. I'r rhai sydd â llai na 3 hectar o dir cymwys, sut fyddwch chi'n cadarnhau eu bod wedi bodloni'r gofyn i weithio 550 o oriau llafur safonol ar weithgareddau amaethyddol neu ategol? (wedi'i ddiweddaru)

A. Maen bosibl y bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth drwy RPW Ar-lein i ddangos bod dros 550 o oriau llafur safonol wedi'u gweithio ar weithgareddau amaethyddol neu ategol ar y tir a hawliwyd.   

C. Beth ydych chi'n ei olygu wrth weithgareddau amaethyddol neu ategol?

A. Caiff y ddau eu diffinio yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2024. 

Mae gweithgareddau amaethyddol yn golygu:

  • cadw a bridio da byw defnyddio tir ar gyfer garddwriaeth, ffermio cnydau âr a ffermio gwartheg godro
  • defnyddio tir fel tir pori, fel coetir fferm neu ar gyfer amaethgoedwigaeth. Mae'n cynnwys amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir, tyfu planhigion ar gyfer eu gwerthu neu ar gyfer gwerthu rhan ohonyn nhw, fel yr hadau
  • cadw’r tir mewn cyflwr sy’n addas ar gyfer y gweithgareddau a restrir uchod

Mae gweithgareddau ategol yn golygu:

  • gweithgareddau ar dir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth i greu a rheoli cynefin, neu at ddibenion eraill sy'n gysylltiedig â chadwraeth natur, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo, neu gynnal ecosystemau a'u gwneud yn fwy gwydn
  • mae'n golygu hefyd gwerthu, marchnata, paratoi, pecynnu, prosesu neu ddosbarthu cynhyrchion sy'n dod o amaethyddiaeth 

C. Beth ydych chi’n feddwl wrth ‘o dan reolaeth lwyr’ ac ‘unig feddiannydd y tir’?

A. Mae’r tir yn gymwys ichi hawlio’r SFS cyffredinol arno os oes gennych reolaeth lwyr arno a’ch bod yn gallu cynnal y gweithredoedd cyffredinol ar eich fferm. Bydd bodloni un o’r canlynol yn cael ei ystyried fel rheolaeth lwyr:

  • chi yw perchennog a meddiannydd y tir
  • rydych yn denant ac unig feddiannydd y tir gyda Thenantiaeth Busnes Fferm o dan Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 neu denantiaeth lawn o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986
  • tenant â thenantiaeth lafar ond sydd â’r un lefel o reolaeth â’r uchod

Er mwyn bod yn gymwys am yr SFS, nid chi fydd unig feddiannydd y tir o reidrwydd ond chi fydd â rheolaeth lwyr ar y tir. Er enghraifft, caiff rhywun â thrwydded bori (neu gytundeb tebyg) fynd ar eich tir yn benodol ar gyfer ei bori neu dyfu cnwd neu gywain gwair neu silwair arno dros gyfnod penodedig a chyfyngedig, ond chi fydd â rheolaeth lwyr ar y tir ac ar nodweddion y dirwedd o hyd. 

C. Fel perchennog y tir, a oes angen bod gennyf reolaeth lwyr ar y tir hwnnw am gyfnod di-dor o 10 mis? 

A. Nid oes angen bod gennych reolaeth lwyr ar eich tir am gyfnod di-dor o 10 mis. Ond dylai fod gennych reolaeth lwyr am o leiaf 10 mis o bob blwyddyn galendr, a rhaid bod y tir o dan eich rheolaeth lwyr ar 15 Mai. 

Cyn belled â bod gennych reolaeth lwyr ar eich tir am 10 mis o’r flwyddyn galendr, gallwch rannu hynny’n ddau gyfnod neu fwy.

Er enghraifft, gallai fod gennych reolaeth lwyr ar gae o 1 Ionawr tan 30 Mehefin ac yna eto o 1 Medi tan 31 Rhagfyr. 

Dylech sicrhau fod y tir yn gymwys a’ch bod yn cydymffurfio â gofynion y cynllun am y flwyddyn galendr gyfan. Os na fydd hynny’n bosibl, rhowch wybod i Lywodraeth Cymru ar unwaith. 

C. A oes rhaid i mi ddatgan fy holl dir neu dim ond tir sydd gennyf ar gael am 10 mis? (newydd)

A. Rhaid i chi ddatgan yr holl dir y mae gennych reolaeth drosto am 10 mis ac y mae gennych reolaeth drosto ar 15 Mai. Ni fydd yn ofynnol i chi, er enghraifft, ddatgan tir rydych chi'n ei feddiannu dan delerau trwydded bori. 

C. Rwy’n defnyddio tir o dan delerau trwydded bori. A ga i hawlio taliad cyffredinol yr SFS ar y tir hwnnw? 

A. Na chewch. Os ydych chi’n defnyddio tir o dan delerau trwydded bori (neu gytundeb tebyg), sy’n ymwneud yn benodol â phori, tyfu cnydau neu gywain gwair neu silwair dros gyfnod penodedig a chyfyngedig, nid ydym yn ystyried bod gennych reolaeth lwyr ar y tir hwnnw, ac felly ni fyddwch yn cael hawlio taliad cyffredinol SFS ar y tir hwnnw

C. Rwy'n trwyddedu rhywfaint o'm tir i borwr, oes angen i'm porwr gydymffurfio â gofynion cynllun taliad cyffredinol yr SFS? (newydd)

A. Nid yn uniongyrchol, chi fel yr hawlydd sydd â rheolaeth dros y tir sy'n gyfrifol am fodloni gofynion sylfaen reoleiddio, Cod cyffredinol a gweithredoedd cyffredinol cymwys yr SFS, nid eich porwr. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni'r gofynion cynnal a chadw cynefin a choetir, dylech ystyried hyn fel rhan o delerau’ch cytundeb pori. 

Os nad oes gennych eich stoc da byw eich hun, ni fydd disgwyl i chi gwblhau UA12: iechyd a lles anifeiliaid na dewis Dangosyddion Perfformiad Allweddol y sector da byw ar gyfer UA3: meincnodi oherwydd bod da byw porwr arall ar eich tir. 

C. Beth os, fel tenant, nad wy’n gallu cydymffurfio â rhai o ofynion y gweithredoedd cyffredinol oherwydd cyfyngiadau gan y landlord yn fy nhenantiaeth? (newydd)

A. Os oes gennych chi reolaeth dros barsel tir, dylech allu bodloni gofynion yr holl weithredoedd cyffredinol. Mewn achosion eithriadol, lle rydych chi'n credu na allwch chi fodloni'r gofynion oherwydd cyfyngiadau gan y landlord yn eich tenantiaeth, byddwn yn datblygu proses lle gall tenantiaid ofyn am randdirymiad. Bydd angen i Lywodraeth Cymru gymeradwyo ceisiadau fesul achos unigol.

C. A oes angen i fy holl dir fynd o dan yr SFS?

A. Mae'r SFS yn gynllun fferm gyfan, a dylech ei hawlio ar yr holl dir sydd o dan eich rheolaeth lwyr am o leiaf 10 mis o'r flwyddyn.

C. A oes angen i mi hawlio’r SFS ar fy holl dir neu a ga’ i barhau i hawlio'r BPS ar ran o fy nhir?

A. Bydd angen i chi ddewis naill ai hawlio'r SFS neu hawlio'r BPS ar y tir, hynny ar eich Ffurflen Gais Sengl (SAF). Unwaith y byddwch yn hawlio'r SFS, chewch chi ddim hawlio'r BPS.  

C. Beth ydych chi’n feddwl wrth weithgareddau anamaethyddol nad ydyn nhw’n gymwys am daliad cyffredinol yr SFS? 

A. Fel yn y BPS, rydyn ni’n diffinio tir anamaethyddol nad yw’n gymwys am daliad cyffredinol yr SFS. Rydyn ni’n rhannu gweithgareddau anamaethyddol yn dri chategori:

  • gweithgareddau categori 1: mae’r rhain yn cael eu caniatáu trwy’r flwyddyn ac mae’r tir yn parhau’n gymwys am daliad cyffredinol yr SFS. Gweithgareddau fel pysgota, saethu adar hela neu ymweliadau â’r fferm gan ysgolion
  • gweithgareddau categori 2: mae’r rhain yn cael eu caniatáu am hyd at 28 diwrnod yn ystod y flwyddyn galendr. Os cynhelir y gweithgareddau hyn am fwy na 28 diwrnod, ni fydd y tir yn gymwys am daliad cyffredinol yr SFS. Gweithgareddau fel carafanau/gwersylla, sioeau gwledig, arwerthiannau fferm, meysydd parcio a chwaraeon moduro
  • gweithgareddau categori 3: nid yw’r gweithgareddau hyn yn gyson â defnyddio’r tir at ddiben amaethyddol, felly maen nhw wedi’u gwahardd. Ni fydd y tir yn gymwys am daliad cyffredinol yr SFS. Er enghraifft, cyfleusterau chwaraeon parhaol, carlamfeydd ceffylau a meysydd awyr

Fe welwch ragor o fanylion yng nghanllawiau’r cynllun terfynol. 

C. Beth am dir â phaneli solar? Ydy’r tir hwnnw’n gymwys am daliad? 

A. Ni fydd tir â phaneli solar arno yn gymwys am daliad cyffredinol yr SFS, gan gynnwys y tir rhwng, o dan ac o gwmpas y paneli solar, hyd yn oed os yw’r tir yn cael ei bori neu’n hygyrch i anifeiliaid pori. 

Os yw’r paneli solar wedi’u crynhoi yn un rhan o’r cae (e.e. cornel neu un pen) a’ch bod am hawlio taliad ar weddill y cae, rhaid codi ffens o gwmpas y rhan â’r paneli solar a chreu 2 gae ar wahân.

C. A fydd y tir y cynhelir gweithgareddau anamaethyddol arno’n cael ei gyfrif at y gofyn o 10% o gynefin? 

A. Na fydd. Ni fydd tir y cynhelir gweithgareddau anamaethyddol arno, na nodweddion anghymwys fel afonydd/nentydd, adeiladau/buarthau ac arwynebau caled, yn cael eu cynnwys yn arwynebedd cyfan eich fferm o dan yr SFS, ac ni fydd felly’n gymwys am y taliad cyffredinol na’i ddefnyddio i gyfrif y tir sydd ei angen i fodloni’r gofyn bod 10% yn gynefin. 

C. A ga i ddefnyddio’r tir rwyf wedi datgan fy mod yn cynnal gweithgareddau anamaethyddol arno i blannu coed arno i fodloni gofynion UA10: cynllun cyfle i blannu coed a pherthi/gwrychoedd?

A. Na chewch. Ni chewch ddefnyddio tir anghymwys SFS i blannu coed arno i fodloni’r gofyn cyffredinol i blannu 0.1ha / 250 o goed o dan UA10: cynllun cyfle i blannu coed a pherthi/gwrychoedd. 

C. Os bydda i’n derbyn cytundeb o dan y Cynllun Trosi Organig (OCS) nawr neu i ddechrau 1 Ionawr 2026, a fydd hyn yn fy atal rhag gallu gwneud cais i’r SFS yn 2026? Sut bydd hyn yn effeithio ar y gweithredoedd opsiynol sydd ar gael i mi yn y dyfodol? (newydd)

A. Ni fydd bod â dyfarniad grant y Cynllun Trosi Organig nawr neu dderbyn un i i ddechrau ar 1 Ionawr 2026 yn cael unrhyw effaith ar eich gallu i wneud cais i gynllun cyffredinol yr SFS yn 2026 nac ar y gweithredoedd opsiynol sydd ar gael i chi.

2. Trosglwyddo tir

C. A ga’ i drosglwyddo tir yn ystod blwyddyn y cynllun a throsglwyddo fy hawliad SFS? 

A. Mae haen gyffredinol yr SFS yn hawliad a datganiad blynyddol. I gael y taliad cyffredinol, bydd angen i ffermwyr fodloni gofynion y cynllun o’r newydd bob blwyddyn. Nid yw'n bosib trosglwyddo'r hawliad blynyddol i ffermwr arall.

3. Sylfaen reoleiddio'r SFS

C. Beth yw sylfaen reoleiddio'r SFS? 

A. Rheolau cyfreithiol yw'r rhain, fydd yn sylfaen i’r cynllun. Maen nhw i gyd yn ofynion cyfreithiol sy'n bod eisoes ac mae'n rhaid cadw atyn nhw. 

Bydd y rhan fwyaf o’r gofynion hyn fel y rheolau Trawsgydymffurfio sy'n sail i'r BPS ar hyn o bryd.

C. A oes yna ofynion cyfreithiol newydd y bydd yn rhaid eu bodloni o dan yr SFS? 

A. Oes. Mae dau ofyn newydd, sydd hefyd yn ofynion cyfreithiol ar hyn o bryd, sy'n ymwneud â:

  • hawliau tramwy cyhoeddus/ardaloedd mynediad agored, a
  • Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS)

C. A fydda i'n cael taliad am fodloni gofynion sylfaen reoleiddio'r SFS?

A. Nid oes unrhyw daliad penodol am gadw at sylfaen reoleiddio'r SFS, ond rhaid cadw at y rheoliadau i gael y taliad cyffredinol. 

Bydd sylfaen reoleiddio'r SFS yn gweithredu fel y rheolau Trawsgydymffurfio o dan y BPS. Bydd angen ichi ddatgan eich bod yn bodloni sylfaen reoleiddio'r SFS ar y SAF flynyddol.

C. Sut byddwch chi'n gwneud yn siŵr fy mod wedi bodloni sylfaen reoleiddio'r SFS?

A. Byddwn yn dal i ddewis ffermydd i'w harchwilio i wirio cydymffurfiaeth â'r rheoliadau, fel yr ydyn ni nawr gyda'r BPS.

C. Beth sy'n digwydd os na fydda’ i'n cadw at sylfaen reoleiddio'r SFS? 

A. Os na fyddwch yn cydymffurfio â'r gofynion, efallai y cewch gosb ariannol i'r taliad cyffredinol. 

Bydd set o safonau dilysadwy a matrics o gosbau yn cael eu cyhoeddi cyn i'r cynllun ddechrau ar 1 Ionawr. 

4. Profi pridd (Gweithred Gyffredinol (UA)1)

C. A fydd angen cynnal profion ar 20% o 'nghaeau neu 20% o arwynebedd fy nhir mewn blwyddyn? (wedi'i ddiweddaru)

Sylwer, mae'r gofyniad hwn yn cael ei egluro ers cyhoeddi'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy: disgrifiad o'r cynllun a fersiynau blaenorol o'r cwestiynau cyffredin hyn. 

A. Bydd angen i chi brofi 20% ar gyfartaledd o'ch parseli tir sy'n cynnwys tir wedi'i wella bob blwyddyn, dros gylch 5 mlynedd. Dim ond ar barseli tir sy'n derbyn mewnbynnau y bydd angen profion.

C. Os bydda i’n cynnal profion ar fwy nag 20% o’m tir mewn blwyddyn, a ga i gynnal profion ar lai nag 20% yn y blynyddoedd wedi hynny?

A. Gallwch chi ddewis profi mwy nag 20% mewn blwyddyn benodol, ar yr amod bod y gofyniad i brofi cyfartaledd o 20% y flwyddyn a 100% dros gyfnod o bum mlynedd wedi'i fodloni.

Os byddwch chi'n profi 100% o'ch tir yn 2025, ni fydd angen cwblhau profion pridd eto tan 2030. Bryd hynny bydd angen i chi brofi o leiaf 20% o'ch caeau sy'n cynnwys tir wedi'i wella. 

C. Sut bydda i'n cadarnhau pa gaeau sydd angen eu profi o fewn y cynllun? (newydd)

A. Byddwn yn nodi eich tir wedi'i wella ar y SAF ac yn defnyddio hynny i wirio'n flynyddol a ydych chi wedi bodloni'r gofynion. Os oes gennych chi dir wedi’i wella nad yw neu na fydd yn derbyn unrhyw fewnbynnau, bydd angen i chi gadarnhau hynny ar y SAF. Bydd y caeau hynny wedyn yn cael eu tynnu o'r gofynion profi pridd

C. Beth yw'r lleiaf y mae angen i'r profion pridd eu profi?

A. Bydd gofyn i chi brofi am, o leiaf, Potasiwm (K), Ffosfforws (P), Magnesiwm (Mg), pH, a Deunydd Organig Pridd.

C. Faint o brofion pridd sydd angen i mi eu cwblhau ar gyfer pob parsel tir? (newydd)

A. Dylech wirio a yw'r math o bridd yr un fath ar draws y parsel cyfan ac, os felly, cymryd 25 sampl pridd ar ffurf trawslun siâp W. Dylech ddisgwyl un canlyniad prawf pridd yn ôl ar gyfer y parsel tir hwnnw. 

Os ydych chi'n nodi sawl math gwahanol o bridd o fewn parsel tir, yna dylech gymryd 25 sampl pridd ar gyfer pob un o'r ardaloedd gwahanol. Dylech ddisgwyl un canlyniad sampl pridd ar gyfer pob math o bridd gwahanol o fewn y parsel cae hwnnw. 

Dylech gofnodi canlyniadau samplau pridd ar RPW ar-lein yn erbyn y parsel cae a brofwyd. Mae disgwyl i chi roi o leiaf 1 canlyniad prawf am bob parsel i ddangos eich bod wedi bodloni’r gofyniad, ond canlyniadau lluosog lle mae sawl math o bridd. 

C. Ai dim ond y caeau sydd wedi'u gwella, sydd o dan fy rheolaeth lwyr ac y bydda i'n hawlio'r SFS arnyn nhw yn 2026 y bydd angen eu profi? 

A. Ie, dim ond tir sydd wedi'i wella, sydd o dan eich reolaeth lwyr, y bydd angen ichi ei brofi, oni bai bod profion pridd wedi'u cynnal arno yn y 4 blynedd ddiwethaf.

C. Os yw fy holl fferm yn gynefin heb dir wedi'i wella sydd wedi derbyn mewnbynnau neu a allai dderbyn mewnbynnau, oes angen i mi brofi pridd? (newydd)

A. Na, ni fydd angen i chi gwblhau'r weithred gyffredinol hon. 

C. Pryd bydd angen i mi gwblhau fy mhrofion pridd? 

A. Bydd angen cwblhau'r profion pridd erbyn 31 Rhagfyr bob blwyddyn a rhoi'r canlyniadau ar RPW Ar-lein erbyn 15 Ionawr y flwyddyn sy'n dilyn. 

C. Oes angen i mi lanlwytho'r canlyniadau eu hunain neu dim ond cadarnhau fy mod wedi cynnal y profion a chadw'r canlyniadau ar y fferm? 

A. Dylech lanlwytho canlyniadau pob set o brofion pridd i RPW Ar-lein. Byddan nhw'n cael eu defnyddio i fonitro'r wlad gyfan, nid dim ond ffermydd unigol.

C. Sut ydw i'n dangos i mi gynnal profion pridd yn y pedair blynedd cyn ymuno â'r cynllun? 

A. Bydd angen i chi gadarnhau pa barseli y gwnaethoch eu profi a dyddiad eu profi trwy ddangosfwrdd cyffredinol yr SFS ar RPW Ar-lein. Ni fydd angen i chi anfon canlyniadau'r profion pridd aton ni, ond dylech eu cadw a'u dangos pan ofynnir ichi wneud. 

C. Os ydw i wedi profi fy holl barseli tir sy'n cynnwys tir wedi'i wella cyn ymuno â'r SFS ond nad oedd y profion hyn yn cynnwys Deunydd Organig y Pridd, oes rhaid i mi brofi fy holl Ddeunydd Organig y Pridd cyn diwedd y cylch 5 mlynedd? (newydd)

A. Os gwnaethoch chi brofi 100% o'ch parseli tir yn 2025 (heb gynnwys deunydd organig y pridd), rydych chi wedi bodloni'ch gofyniad 5 mlynedd. Mae hynny’n golygu nad oes angen i chi gynnal rhagor o brofion pridd cyn diwedd 2029. 

C. Ble ca’ i help neu fwy o wybodaeth am brofion pridd?

A. Gall Cyswllt Ffermio roi gwybodaeth ichi am brofion pridd. 

C. A oes angen i mi drefnu bod labordy achrededig yn profi fy samplau pridd? (newydd)

A. Oes, rhaid i chi anfon eich samplau pridd i labordy achrededig i'w profi. Mae'n bwysig bod holl samplau'ch fferm yn cael eu hanfon i'r un labordy achrededig i sicrhau eu bod yn cael eu trin a'u dadansoddi'n union yr un fath a bod modd cymharu’r canlyniadau.

Mae gwefan AHDB yn rhestru labordai achrededig lle gallwch anfon samplau pridd i'w dadansoddi ac mae’n darparu manylion cwmnïau sy'n gallu samplu'r pridd a dadansoddi’r samplau yn y labordy.

Cwmnïau profi pridd a phorthiant | AHDB 

C. A oes angen profwr pridd cymeradwy neu achrededig i wneud hyn ar fy rhan? 

A. Na, rydyn ni wedi datblygu'r weithred hon i sicrhau eich bod chi'n gallu cynnal y profion eich hun os ydych am wneud hynny. Mae'r Taliad Cyffredinol yn cynnwys y gost o gynnal Profion Pridd. Nid oes unrhyw daliad ar wahân am gontractio profion pridd.

C. A oes adeg benodol o'r flwyddyn pryd y dylwn brofi'r pridd?

A. Ni fydd unrhyw ofyn i gynnal profion pridd ar adeg benodol o'r flwyddyn, ond rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny yn yr hydref. Holwch Cyswllt Ffermio am fwy o help ac arweiniad.

C. A yw profion pridd sy’n cael eu hariannu drwy Cyswllt Ffermio yn gymwys i gyfrif tuag at y profion pridd sy'n ofynnol ar gyfer UA1: iechyd pridd? (newydd)

A. Bydd profion pridd sy’n cael eu hariannu a’u cwblhau gan Cyswllt Ffermio rhwng 2021 a 2025 yn cyfrif tuag at UA1. Gall profion pridd sy'n cael eu trefnu trwy Cyswllt Ffermio cyn 31 Rhagfyr 2025 ac sy’n cael eu cwblhau yn 2026 gyfrif hefyd, ar yr amod bod yr holl ofynion profi a amlinellir ar gyfer y weithred gyffredinol yn cael eu bodloni'n llawn. 

Ar ôl 1 Ebrill 2026, ni fydd Cyswllt Ffermio yn ariannu profion pridd ar gyfer ffermwyr sydd yn yr SFS, ond bydd cymorth yn dal ar gael i ddehongli'r canlyniadau a chynghori ar unrhyw gamau priodol.

5. Rheolaeth integredig ar blâu (IPM) (UA2) (newydd)

C. A yw Glyffosad yn cael ei ddosbarthu fel Cynnyrch Diogelu Planhigion (PPP)? (newydd)

A. Ydy, mae glyffosad yn sylwedd chwynladdwr sbectrwm eang sydd wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio yng ngwledydd Prydain Fawr.

C. A yw UA2 yn berthnasol i'm fferm os ydw i'n defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP) i sbot-drin ysgall, danadl, etc yn unig. (newydd)

A. Ydy, mae defnyddio a chofnodi PPP eisoes yn ofyniad trawsgydymffurfio a bydd yn parhau dan sylfaen reoleiddio’r SFS. Dylid ystyried y defnydd o unrhyw PPP a ddefnyddir fel rhan o ddull rheolaeth integredig ar blâu, ond gall eich asesiad fod yn fyrrach ac yn llai manwl.

Hyd yn oed os mai dim ond ychydig o PPP rydych chi'n eu defnyddio bob blwyddyn, mae'n ofynnol i chi gwblhau'r weithred. 

6. Meincnodi (UA3) (newydd)

C. Os nad wy’n berchen ar nac yn cadw da byw nac yn tyfu cnydau, pa Ddangosyddion Perfformiad Allweddol sydd angen i mi eu cwblhau? Ai 3 Dangosydd Perfformiad Allweddol amgylcheddol / fferm gyfan? Neu dim ond 1 Dangosydd Perfformiad Allweddol gan fod y gofyniad sector yn amherthnasol? (newydd) 

A. Rhaid i bob busnes gwblhau o leiaf 3 Dangosydd Perfformiad Allweddol bob blwyddyn. Os nad ydych chi'n berchen ar nac yn cadw da byw nac yn tyfu cnydau, rhaid i chi gwblhau 3 Dangosyddion Perfformiad Allweddol fferm gyfan.

7. Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) (UA4) (newydd)

C. Pa ddysgu sy'n cyfrif tuag at y gofyniad 6 awr ar gyfer UA4? (newydd)

A. Rhaid i ddysgu trwy ddarparwyr allanol: 

  • fodloni o leiaf dau o'r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy
  • cael deilliannau dysgu clir (y gallu i ddiffinio beth fydd dysgwr wedi'i ddysgu a beth fydd yn gallu ei wneud ar ôl cwblhau'r gweithgaredd yn llwyddiannus)
  • cael y gallu i brofi dysgu – naill ai trwy asesiad wedi'i fformatio, neu adborth llafar trwy gydol y gweithgaredd
  • cadarnhau eich presenoldeb, gan gynnwys hyd h.y. yr amser a gymerir

Er eglurder a chysondeb, byddwn yn derbyn dulliau dysgu yn yr un fformat â'r rhai a ddarperir drwy Cyswllt Ffermio, a fydd yn cynnwys: 

  • grwpiau trafod
  • dosbarthiadau meistr
  • hyfforddiant achrededig
  • gweithdai iechyd a lles anifeiliaid
  • e-ddysgu
  • mentora 

Ni fyddwn yn derbyn presenoldeb mewn cynadleddau, digwyddiadau sioeau teithiol na chyfarfodydd.

C. E-ddysgu: a oes dyraniad amser (oriau DPP) ar gyfer pob modiwl yn hytrach na'r amser gwirioneddol a gymerir? (newydd)

A. Mae pob modiwl e-ddysgu sy’n cael ei gwblhau yn cael ei gofnodi fel 1 awr o ddysgu. Mae "amser a gymerir" wedi'i neilltuo i’r ymyriadau UA4 perthnasol sy'n weddill a gyflwynir gan Cyswllt Ffermio (mae rhestr isod). Bydd oriau dysgu yn cael eu storio ar gofnod Storfa Sgiliau (DPP) yr unigolyn a'u rhannu gydag RPW. 

  • hyfforddiant achrededig (gan gynnwys gweithdai iechyd a lles anifeiliaid)
  • Academi Amaeth
  • Agrisgôp
  • grwpiau trafod
  • e-ddysgu
  • dosbarthiadau meistr
  • mentora

C. A fydd gweithdai iechyd a lles anifeiliaid sy'n cael eu cynnal gan filfeddygfeydd, a'u hariannu gan Cyswllt Ffermio, yn cyfrif tuag at y gofyniad DPP? (newydd)

A. Byddant. Mae’r rhain yn hyfforddiant achrededig, ond dim ond y rhai sy’n cael eu cwblhau yn 2026 fydd yn cyfrif tuag at y 6 awr o DPP, ar gyfer blwyddyn 2026 y cynllun.

C. A yw DPP a ariennir gan Cyswllt Ffermio rhwng Ionawr a Mawrth 2026 yn cyfrif tuag at ofynion? (newydd) 

A. Mae unrhyw un o'r modiwlau e-ddysgu sydd ar gael yma (ar businesswales.gov.wales) a gwblhawyd ers 1 Awst 2025, yn gallu cyfrif tuag at flwyddyn 2026 y cynllun (ond dim ond ar gyfer y flwyddyn gynllun honno), a gall busnesau ddewis pa un i'w cwblhau. 

Gall cwblhau'r modiwlau Iechyd a Lles Anifeiliaid gyfrif tuag at elfen DPP UA4 ac UA12 (Iechyd a Lles Anifeiliaid) hefyd os cânt eu cwblhau gan y person priodol. Mae'r cyfnod cwblhau 5 mlynedd yn golygu y bydd y cyrsiau hyn sy'n cael eu cwblhau o fis Ionawr 2022 ymlaen yn cyfrif ar gyfer 2026.

Ni fydd unrhyw e-ddysgu neu weithgaredd arall Cyswllt Ffermio a gwblhawyd yn 2025 (neu cynt) yn cyfrif tuag at UA4 (nac UA12). 

Mae'r holl DPP sy’n cael ei gwblhau drwy Cyswllt Ffermio yn cael ei gofnodi'n awtomatig ar y Storfa Sgiliau a bydd RPW yn cael gwybod am ddyddiad cwblhau, teitl a hyd y cwrs.

C. Os ydw i'n bartner mewn mwy nag un busnes, ydy fy hyfforddiant DPP yn cyfrif tuag at y ddau fusnes (h.y. alla i wneud 6 awr ar gyfer fy holl fusnesau neu oes angen i mi wneud 6 awr ar gyfer pob busnes/Cyfeirnod y Cwsmer)? (newydd)

A. Byddwch yn gallu cadarnhau pa fusnesau (Cyfeirnodau'r Cwsmer) y mae’r hyfforddiant a'r dysgu rydych chi wedi’i gwblhau yn cyfrif tuag atynt. 

Rydym yn eich annog i rannu manteision yr hyn a ddysgoch ledled y busnes fferm, gyda gweithwyr y fferm a gyda’ch teulu ehangach lle bo modd. 

C. Os ydw i'n cwblhau mwy na 6 awr o hyfforddiant yn y flwyddyn gyntaf, ydy'r oriau ychwanegol yn gallu cyfrif tuag at y flwyddyn nesaf? (newydd)

A. Na, rhaid i chi gwblhau o leiaf 6 awr o hyfforddiant ym mhob blwyddyn rydych chi'n hawlio SFS. 

8. Gofynion cynnal cynefinoedd (UA5)

C. Sut mae gwybod pa fathau o gynefin sydd gen i a ble?

A. Bydd ffurflen cadarnhau data 2025 ar gael ar RPW Ar-lein tan 31 Hydref a bydd yn ffordd i chi gadarnhau'r darnau o gynefin a sut fathau o gynefin sydd ar eich fferm cyn dechrau'r SFS. 

C. Pam mae angen i mi gadw dyddiadur gweithgarwch a stocio?

A. Mae cadw cofnod o'r holl waith rheoli tir yn arfer da. Bydd cadw cofnod pori a thorri, neu o unrhyw weithgaredd arall yn dangos eich bod wedi gwneud popeth rhesymol i gadw a chynnal y cynefin yn y cyflwr a ddisgwylir ar gyfer y math hwnnw o gynefin. Nid oes angen i chi gyflwyno'ch dyddiadur gweithgarwch, ond bydd angen i chi ei ddangos pan ofynnir ichi wneud. 

C. A ga i ddewis pa gynefin rwy'n ei hawlio o dan yr SFS, fel ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru 2025?

A. Na, mae'r SFS yn gynllun fferm gyfan a rhaid hawlio a rheoli pob cynefin ar y fferm yn unol â gofynion y weithred gyffredinol. Bydd yr arwynebeddau cynefinoedd yn cael eu cadarnhau yn SAF 2026, yn dilyn yr wybodaeth a ddarperir yn ffurflen cadarnhau data 2025.

C. Beth os yw bron y fferm i gyd yn gynefin?

A. Os yw'r rhan fwyaf o'ch fferm yn gynefin, gallwch ofyn am ymweliad cynghori (un cyflym os yw mwy na 90% yn gynefin) i ystyried problemau, atebion a rhanddirymiadau posibl i'ch helpu i gynnal y weithred gyffredinol.

C. Sut ydw i'n gofyn am gael llacio'r rheolau ar gyfer y gofynion rheoli cynefinoedd?

A. Dylech gyflwyno cais trwy RPW Ar-lein. Caiff pob achos ei ystyried yn ôl ei deilyngdod. 

C. A fydda i’n cael rhoi bwyd ategol i adar hela ar dir cynefin?

A. Byddwch. Nid yw adar hela’n cael eu hystyried yn dda byw o dan yr SFS. Byddwch felly yn cael rhoi bwyd ategol i adar hela, yn unol â chanllawiau ‘Sustainable Gamebird Releasing’ y Game and Wildlife Conservation Trust os yw’r adar wedi’u rhyddhau’n gyfreithlon. 

9. Y gofyn i gynnal 10% yn gynefin

C. Pa dir fydd yn cyfrif tuag at y gofyn bod 10% o'r fferm yn gynefin? (wedi'i ddiweddaru)

A. Bydd y canlynol, yn y drefn a nodir isod, yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a ydych chi wedi bodloni'r gofyniad 10% o gynefin. 

  1. Pob cynefin lled-naturiol presennol fel y'i diffinnir o dan UA5: cynnal cynefinoedd.
  2. Coetir llydanddail sydd wedi sefydlu. Mae'r rhain yn ardaloedd o goetir llydanddail o 0.1ha neu fwy.
  3. Perthi wedi'u hadfer neu eu creu ers 1 Ebrill 2022 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru o dan gynlluniau Glastir Uwch, Grantiau Bach Glastir neu Grantiau Bach Amgylcheddol
  4. Perthi mewn 'cyflwr da’.
  5. Cynefin Dros Dro o dan UA6: creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella.

C. Beth am gynefinoedd parhaol newydd a grëwyd ers 2022 y sonnir amdanynt yn nogfen SFS: disgrifiad o'r cynllun? (newydd)

A. Bydd, bydd y rhain yn cyfrif tuag at y gofyniad 10% o gynefin. Dylai pob cynefin parhaol, fel pyllau a choridorau ar lan nant ac ardaloedd o goetir o 0.1ha neu fwy a grëwyd ers 2022 a hyd at y pwynt y byddwch yn cyflwyno SAF 2026, gael eu cadarnhau fel rhan o'r adolygiad sylfaenol o gynefinoedd ar y SAF. 

C. A yw perthi/gwrychoedd a blygwyd yn ddiweddar yn cyfrif fel cynefin? (newydd)

A. Gall gwrychoedd sydd wedi'u hadfer (gan gynnwys wedi'u plygu) ers 1 Ebrill 2022 o dan gynlluniau Glastir Uwch, Grantiau Bach Glastir neu Grantiau Bach – Amgylcheddol gyfrif tuag at y gofyniad 10% o gynefin. Does dim angen i'r gwrychoedd hyn fodloni'r diffiniad o wrychoedd mewn 'cyflwr da’. 

Rhaid i wrychoedd a adferwyd y tu allan i'r cynlluniau hynny ers 1 Ebrill 2022 neu unrhyw wrychoedd a adferwyd cyn 1 Ebrill 2022 fodloni'r diffiniad o wrychoedd mewn 'cyflwr da' er mwyn cyfrif tuag at y gofynion 10% o gynefin. 

C. A yw pyllau bywyd gwyllt yn cyfrif fel cynefin? (newydd)

A. Mae pyllau bywyd gwyllt hyd at 1 ha yn cyfrif fel cynefin. Os oes gan bwll presennol lain glustogi wedi’i ffensio, bydd yr holl ardal sydd wedi’i hamgáu (yn cynnwys y llain glustogi a’r dŵr agored) yn cael ei chynnwys ac yn rhan o UA5: cynnal cynefinoedd, a byddai'n cyfrif tuag at y 10%. Nid yw lagwnau dyfrhau yn cyfrif fel cynefin ac nid ydynt yn cyfrif tuag at y 10%.

C. Pa goetir llydanddail sefydledig sy'n gymwys i fodloni'r gofyniad 10% o gynefin? (newydd)

Diffinnir yr ardaloedd o goetir llydanddail sefydledig a ddefnyddir ar gyfer y gofyniad 10% o gynefin fel:

  • coetir neu ardaloedd o ganopi coed, wedi'u mapio mewn blociau unigol o 0.1 hectar neu fwy, lle mae gennych reolaeth lawn drostynt. Gall yr ardal hon gynnwys unrhyw ganopi sy'n hongian o ffermydd cyfagos hefyd. Ni ellir defnyddio coed unigol neu ardaloedd o ganopi coed o dan 0.1 hectar i fodloni'r gofyniad 10% o gynefin
  • ardaloedd o goetiroedd llydanddail a sefydlwyd hyd at y pwynt y byddwch yn cyflwyno eich SAF 2026. Efallai na fydd y rhain wedi'u cynnwys ar eich ffurflen cadarnhau data SFS neu fap SFS.
  • ystyr 'sefydledig', yw ardaloedd o goetir neu grwpiau o goed sydd newydd eu plannu yn y ddaear. Nid oes angen i goetir sydd newydd ei blannu fod wedi cyrraedd aeddfedrwydd penodol.
  • mae 'llydanddail', yn golygu bod mwy na 80% o'r arwynebedd yn cynnwys coed llydanddail. Gall yr ardaloedd hyn gynnwys hyd at 20% o rywogaethau conwydd a bytholwyrdd drwyddi draw.

C. A fydd 'helyg' fel rhywogaeth yn cyfrif tuag at orchudd coetir ac a fyddai hefyd yn cyfrif tuag at y gofyniad i gael 10% o gynefin oherwydd ei fod yn rhywogaeth lydanddail? (newydd)

A. Bydd ardaloedd o helyg mewn lleoliad coetir (e.e. Gwern Helyg, coetir gwlyb) o fwy na 0.1ha o orchudd coed parhaus yn dod o dan ofynion UA9: cynnal coetir ac yn denu'r taliad cynnal coetir. Mae coetiroedd o'r fath yn cael eu hystyried yn llydanddail a gallant hefyd gyfrif tuag at ofyniad y cynllun i gael 10% o gynefin. Os yw'r ardaloedd helyg yn fwy cynrychioliadol o brysgwydd fel y disgrifir ar gyfer y math hwn o gynefin yn UA5, dylid dewis y categori hwn a fyddai'n denu'r taliad cynnal cynefin. Mae cynefinoedd o'r fath yn cyfrif tuag at ofyniad 10% y cynllun.

C. Beth ydych chi'n ei olygu wrth berthi/gwrychoedd mewn cyflwr da? (wedi'i ddiweddaru)

A. Mae'r berth yn 3m o led ac yn 2m o uchder (neu'n 2m o led ac yn 3m o uchder) o leiaf, a

  • stoc wedi'i eithrio
  • os yw'n cynnwys ffens ddwbl, bod o leiaf 3m rhwng ffensys dwbl, neu
  • bod o leiaf 2 m rhwng ffensys dwbl a godwyd gyda  Glastir ac
  • nad yw holl fylchau’r berth yn fwy na 5% o hyd y berth

C. Sut mae cyfrifo arwynebedd ar gyfer perthi/gwrychoedd a all gyfrif tuag at y gofyniad cynefin o 10%? (newydd)

A. Byddwn yn defnyddio'r cyfrifiad canlynol i bennu arwynebedd cynefin gwrychoedd i gyfrannu at y gofyniad i gael 10% o gynefin:

  • hyd y gwrych wedi'i luosi â 3 lle mae gennych 100% o reolaeth
  • hyd y gwrych wedi'i luosi â 1.5 lle rydych chi'n cadarnhau bod gennych reolaeth ar 50% o'r berth/gwrych (un ochr)
  • yna mae'r cyfanswm mewn metrau sgwâr yn cael ei rannu â 10,000 i roi ffigur mewn hectarau

Er enghraifft, mae gwrych 100 metr o hyd (lle mae gennych reolaeth o'r ddwy ochr) yn cael ei luosi â 3, sy’n rhoi 300 metr sgwâr. Bydd hyn yn hafal i 0.03 hectar i gyfrannu tuag at y gofyniad 10% o gynefin. h.y. 300m2 /10,000 = 0.03ha

C. Beth yw isafswm hyd y perthi y gallaf ei gynnwys fel perthi/gwrychoedd mewn 'cyflwr da' i'w gyfrif tuag at y gofyniad 10% o gynefin? (newydd)

A. Rhaid i'r darnau unigol o berthi/gwrychoedd a gadarnhawyd fel rhai mewn 'cyflwr da' ar SAF 2026 fod o leiaf 20 metr o hyd parhaus, wedi'u mesur ar hyd ffin cae traddodiadol. 

Nid yw gatiau yn ffurfio rhan o’r hyd parhaus. Os oes giât, bydd y naill ochr a'r llall i'r giât yn cael ei ystyried yn ddechrau darn newydd o berthi/gwrychoedd.

Os yw'r bylchau yn fwy na 5% o'r hyd parhaus, ni ellir cynnwys y berth/gwrych.

C. Sut ydych chi'n mynd i ddiffinio bwlch yn y gwrych? (newydd)

A. Diffinnir bwlch fel gwagle clir ym mhroffil fertigol y berth/gwrych (o'r top i'r gwaelod) sy'n fwy nag 1 metr o hyd. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer bylchau derbyniol fel pwyntiau mynediad camfa, cafnau dŵr ac ardaloedd cysgodol o dan goed gwrychoedd. 

C. A oes rhaid bod gan berthi/gwrychoedd mewn cyflwr da ffensys dwbl i gyfrif at y gofyn o 10% o gynefin? 

A. Y gofyn yw cadw da byw draw oddi wrth berthi rhag eu difrodi. Y ffordd orau o wneud hynny yw trwy godi ffens ddwbl gyda bwlch o 3m. Ond mae opsiynau eraill ar gael. 

C. A oes angen ffens ddwbl ar berth/gwrych os mai dim ond rheolaeth lwyr ar un ochr sydd gen i? 

A. Bydd angen ichi fod yn siŵr bod dwy ochr y berth sydd mewn cyflwr da yn ddiogel rhag da byw cyn y gall gyfrif at y gofyn o 10% o gynefin. 

C. A oes angen ffens ddwbl ar berthi/gwrychoedd sydd mewn cyflwr da ar dir âr? 

A. Nac oes. Ni fydd angen ffens ddwbl ar berthi mewn cyflwr da ar dir âr. Bydd angen ichi wneud yn siŵr na fydd da byw yn mynd at y perthi hyn. Os caiff y ffordd y caiff y cae drws nesaf ei reoli yn newid, efallai y bydd angen codi ffens. 

C. A yw’n dderbyniol defnyddio ffensys trydan ar gyfer perthi/gwrychoedd sydd mewn cyflwr da? 

A. Ydyn. Os ydy’r ffens drydan yn cadw stoc o’r berth, mae’n dderbyniol ar gyfer amddiffyn perthi sydd mewn ‘cyflwr da’. 

C. A oes angen ffens ddwbl ar berth/gwrych sydd mewn cyflwr da ar ochr ffordd? 

A. Nac oes, nid oes angen ffens ar ochr y berth sydd nesaf at y ffordd. 

C. Sut mae rhoi gwybod ichi am fy mherthi/gwrychoedd sydd mewn cyflwr da? 

A. Bydd cyfle ichi ddatgan eich perthi sydd mewn ‘cyflwr da’ ar eich Ffurflen Cais Sengl 2026.

C. Sut ca i fy nhalu am berthi/gwrychoedd sydd mewn cyflwr da?

A. Bydd y Taliad Fferm Gyfan yn adlewyrchu’r costau rydych wedi’u hysgwyddo a’r incwm rydych wedi’i golli wrth reoli’ch perthi/gwrychoedd. Dim ond perthi sydd mewn ‘cyflwr da’ sy’n gallu cyfrannu at y gofyn bod 10% o’ch fferm gyfan yn gynefin. 

C. Sut mae gwybod bod 10% o’r fferm yn gynefin?

A. I gael syniad cychwynnol, gallwch rhannu’r arwynebedd y cynefin ar eich fferm â chyfanswm yr arwynebedd sy’n gymwys am yr SFS ar eich fferm e.e.15ha o gynefin / 100ha o dir cymwys = 15%.

Os yw'r canlyniad yn llai na 10%, gallwch gynnwys yr holl ddarnau o dir sy'n cyfrif tuag at y 10% o gynefin megis coetir llydanddail.

Nid yw tir comin yn cyfrif tuag y 10% o’r gofyniad cynefin.

C. Sut byddwch chi'n gweld a ydw i’n bodloni'r gofyn bod 10% yn gynefin? (wedi'i ddiweddaru)

A. Bydd y SAF yn cyfrifo'n awtomatig a ydych wedi bodloni'r gofyniad i gael 10% o gynefin. Bydd yn cyfrifo'r Arwynebedd Fferm Gyfan o faint y parsel tir ac unrhyw nodweddion anghymwys wedi'u cadarnhau ar y tir a ddatganwyd. Yna bydd yn adio’r arwynebeddau a ddatganwyd ar gyfer meini prawf pob cynefin unigol ac yn cyfrifo cyfanswm arwynebedd y cynefin ar eich fferm. Bydd yn cyfrifo ac yn cadarnhau a ydych wedi bodloni'r gofynion 10% o gynefin ai peidio.

Ni fyddwch yn gallu cyflwyno'ch SAF nes eich bod wedi bodloni'r gofyniad 10% o gynefin a bydd angen i chi gynnwys perthi/gwrychoedd a/neu gynefin dros dro nes i chi gyrraedd yr arwynebedd angenrheidiol o gynefin.

C. Os byddaf yn gofyn am gael gwared ar ardaloedd o gynefin lled-naturiol parhaol, sydd wedi'u cynnwys yn yr haen cyfyngiadau, fel rhan o'r adolygiad sylfaenol o gynefinoedd ar y SAF, sut bydda i'n gwybod a ydw i wedi bodloni'r gofyniad 10% o gynefin? (newydd)

A. Wrth gyfrifo'r gofyniad 10% o gynefin, byddwn yn defnyddio lleoliad y cynefin a gadarnhawyd ar y SAF. Os ydych chi'n tynnu cynefin o'r SAF ac yn disgyn islaw'r trothwy cynefin o 10%, efallai y bydd angen i chi greu Cynefinoedd Dros Dro i fodloni gofyniad y cynllun. 

C. Sut galla i gadarnhau fy mod wedi creu cynefin dros dro? (wedi'i ddiweddaru)

A. Os nad oes gennych ddigon o gynefin ar eich fferm ar hyn o bryd i fodloni'r gofyniad i gael 10% o gynefin, rhaid i chi greu cynefin dros dro ychwanegol yn unol ag UA6: Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella.

Byddwch yn cael cyfle i ddatgan unrhyw gynefin dros dro sydd eisoes wedi'i greu a chadarnhau ardaloedd a lleoliad unrhyw gynefin dros dro newydd a gaiff ei greu ar eich SAF 2026.

C. A ga i greu cynefin dros dro ychwanegol i gynyddu gwerth fy nhaliad cynnal cynefin?

A. Na chewch. Dim ond yr arwynebedd o gynefin dros dro sydd ei angen ac sydd wedi’i greu i fodloni'r gofyn o 10% sy'n gymwys am y Taliad Cynnal Cynefinoedd. Bydd unrhyw gynefin dros dro sy'n cael ei greu dros y gofyn o 10% yn dal i gael ei gynnwys yn Nhaliad y Fferm Gyfan.

C. Os ydw i'n brin o dir cynefin i ffurfio gofyniad i gael 10% o gynefin, alla i rentu tir cynefin ychwanegol gan gymydog sydd â mwy na digon o dir cynefin? (newydd) 

A. Mae'r penderfyniad p'un ai i rentu tir yn benderfyniad busnes. Ni allwn wneud sylwadau ar unrhyw drefniadau masnachol. I hawlio'r Cynllun Cyffredinol, rhaid bod gennych reolaeth lawn ar y tir am 10 mis o'r flwyddyn galendr a sicrhau bod y tir yn bodloni gofynion y Cod Cyffredinol a'r Gweithredoedd Cyffredinol ar gyfer blwyddyn lawn y cynllun. 

10. Creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella (UA6) (newydd)

C. A oes modd defnyddio cnydau a gafodd eu hau yn ystod gwanwyn/haf 2026 o dan y Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd i fodloni'r gofyniad 10% o gynefin? (newydd)

A. Oes. Gellir defnyddio cnydau a gefnogir o dan y cyfnod ymgeisio hwnnw i'ch helpu i fodloni'r gofyniad 10% o gynefin, (gyda'r gofynion rheoli ychwanegol ar gyfer gwyndwn cymysg er enghraifft). Dim ond o fis Mehefin 2026 ymlaen y bydd y cymorth hwn ar gael fel gweithred opsiynol, ac ni ellir ei ddefnyddio i gefnogi'r gwaith o greu cynefin dros dro i fodloni'r gofynion 10% o gynefin ym mlynyddoedd y cynllun yn y dyfodol.

C. Os ydw i wedi sefydlu gwyndwn blodeuog fel rhan o'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn 2024 neu 2025, alla i ddefnyddio'r gwyndwn hwn fel cynefin dros dro ar gyfer blynyddoedd cyntaf yr SFS? (newydd)

A. Cewch, byddai hyn yn dderbyniol gan fod gwyndwn blodeuog yn cael ei ystyried yn gynefin dros dro am 3 blynedd.

C. Beth am wyndynnydd blodeuog a sefydlwyd yn 2024 a 2025 y tu allan i'r cynllun? (newydd)

A. Byddai’r rhain hefyd yn dderbyniol ar yr amod bod gofynion UA6 wedi'u bodloni a'ch bod yn cadw labeli hadau ac anfonebau cysylltiedig ac unrhyw dystiolaeth ategol arall o'r gweithgaredd. 

C. Ar gyfer UA6: glaswelltir wedi’i wella, a'i dorri’n hwyr, a yw hyn yn berthnasol i unrhyw wyndwn neu ddim ond gwyndwn glaswellt? (newydd)

A. Mae hyn yn berthnasol i wyndwn glaswellt yn unig ac nid gwyndwn amlrywogaeth. 

11. Cynllun rheoli safle dynodedig (UA7) (newydd)

C. Pwy fydd yn cymeradwyo'r cynlluniau rheoli? (newydd)

A. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fydd yn cymeradwyo'r holl gynlluniau rheoli ar gyfer safleoedd dynodedig. Bydd y broses yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru.

12. Rheoli perthi/gwrychoedd (UA8)

C. Pam nad yw ffurflen cadarnhau data 2025 yn dangos y perthi/gwrychoedd sydd ar fy fferm?

A. Cafodd y ffurflen cadarnhau data ei llunio cyn i'r Dirprwy Brif Weinidog lofnodi'r cynllun terfynol ym mis Gorffennaf ac felly mae'n rhoi manylion cynefinoedd a'r canopi coed, fel oedden nhw yn 2024.

Bydd y polisi a'r diffiniadau terfynol ar gyfer perthi yn y weithred gyffredinol hon a'r rheini fydd yn cyfrif tuag at y 10% o gynefin yn cael eu hystyried wrth greu mapiau SFS 2026.

C. Pa berthi sydd angen i mi eu rheoli fel rhan o UA8? 

A.  Pob perth ar eich fferm, y mae gennych reolaeth lwyr drosti, gan gynnwys y rheini ar eich ochr chi o ffin a rennir, ac sy'n cael ei rheoli trwy ei thorri a'i thocio. 

C. Sut ydw i'n cadarnhau pa berthi sy'n gorfod bodloni gofynion UA8? (wedi'i ddiweddaru)

A. Bydd gofyn i chi gadarnhau bod yr holl berthi ar eich fferm yn cael eu rheoli yn unol â'r gofynion a nodir ar gyfer UA8 ar eich SAF. Ni fydd yn ofynnol i chi nodi a chadarnhau hydoedd unigol o berthi/gwrychoedd. 

C. A oes angen i mi fod â rheolaeth lwyr ar ddwy ochr y berth o dan UA8?

A. Na, ond bydd angen ichi reoli eich ochr chi o'r berth yn unol â gofynion y cynllun.

C. Sut byddwch chi'n cadarnhau fy mod yn bodloni'r gofynion rheoli perthi?

A. Byddwn yn edrych a ydych wedi tocio'r perthi, coed perthi a bod y berth wedi tyfu rhwng mhob archwiliad. Rydym yn argymell eich bod yn cadw dyddiadur gweithgarwch sy'n disgrifio'r gwaith tocio neu dorri perthi ar eich fferm a’i ddangos pan ofynnir ichi wneud.

C. Os yw fy mherth eisoes wedi tyfu i 3m x 2m (neu 2m x 3m), a gaf i ei thorri neu ei thocio bob blwyddyn? (newydd)

A. Na, dim ond bob yn ail flwyddyn ddylech chi docio perthi ac eithrio mewn rhai amgylchiadau. 

C. A oes eithriadau i’r rheol mai dim ond bob yn ail flwyddyn y cewch dorri neu docio perthi/gwrychoedd? (wedi'i ddiweddaru)

A. Oes. Rydyn ni’n caniatáu’r eithriadau canlynol er mwyn ichi allu torri neu docio perthi’n amlach na phob yn ail flwyddyn:

  • mae’r berth yn tyfu dros briffordd, ffordd, trac neu lwybr troed a bod angen gwneud y gwaith am resymau iechyd a diogelwch
  • mae’r gwaith torri a thocio’n cael ei wneud fel rhan o’r gwaith arferol i gynnal a chadw ffosydd ar dir wedi’i wella.
  • gall y cwmni sy’n gyfrifol am llinellau trydan neu ffôn dorri coed a/neu berthi am resymau diogelwch.

Dylech gadw tystiolaeth e.e. ffotograffau a/neu lythyron/ebyst oddi wrth y cwmnïau neu awdurdodau perthnasol sy’n dangos yn glir pam yr oedd angen torri neu docio’r perthi’n amlach nag unwaith bob dwy flynedd. 

C. A gaf i dorri neu docio'r naill ochr i berth mewn un flwyddyn a’r ochr arall y flwyddyn ganlynol i fodloni'r gofynion? (newydd)

A. Na, rhaid i chi beidio â thorri na thocio'r un berth mewn blynyddoedd olynol. 

C. Rydych chi am i ni gynnal neu sefydlu o leiaf un goeden mewn perth/gwrych ar gyfartaledd ym mhob cae bob 50m o berth. Beth ydych chi’n feddwl? (wedi'i ddiweddaru)

A. Dylech gynnal neu sefydlu o leiaf un goeden mewn perth/gwrych ar gyfartaledd ym mhob cae bob 50m o berth. Er enghraifft, mewn cae sydd â pherth 200m o hyd, dylai fod yna 4 coeden yn y berth honno.

Gallwch naill ai blannu eginblanhigion newydd sydd o leiaf 1 metr o uchder, neu nodi planhigion presennol a all ddatblygu'n goed.

C. Erbyn pryd mae angen i mi fod wedi plannu coed perthi neu nodi'r coed perthi y byddaf yn gadael iddyn nhw dyfu i fodloni'r gofyniad coed perthi? (newydd)

A. Bydd angen i chi fod wedi nodi'r coed perthi i'w gadael i dyfu erbyn adeg tocio'r berth am y tro cyntaf ers hawlio taliad cyffredinol yr SFS. Fel arall, dylech fod wedi plannu'r coed angenrheidiol erbyn diwedd y tymor plannu cyntaf ar ôl hawlio taliad cyffredinol yr SFS (e.e. erbyn 31 Mawrth 2027 os ydych chi'n hawlio am y tro cyntaf yn 2026). 

Argymhellir eich bod chi'n tagio'r coed er mwyn osgoi difrod damweiniol wrth docio. 

C. Pa rywogaethau ddylwn i eu plannu i fodloni'r gofyniad coed perthi? (newydd)

A. Dylech ddewis rhywogaethau coed brodorol sy'n tyfu'n dda mewn perthi lleol, gan y byddan nhw’n cyfrannu at dirwedd ddeniadol a gallan nhw gynyddu gwerth bywyd gwyllt y gwrychoedd. Rydym yn awgrymu'r rhywogaethau canlynol: 

  • Gwern
  • Ceiriosen (Du ac Aderyn)
  • Criafolen (Aberpennar)
  • Aethnen
  • Coeden Afalau Surion
  • Draenen Wen
  • Pinwydden yr Alban
  • Bedwen (Arian a Llwyd)
  • Helygen (Brau, Deilgron a Llwyd)
  • Masarnen Fach
  • Pisgwydden (Dail Bach a Dail Mawr)
  • Poplysen Wen
  • Poplysen Ddu
  • Derwen (Di-goes a Coesynnog)

Am restr helaeth o goed brodorol i Gymru, gweler ‘Using Local Stock for Planting Native Trees and Shrubs' ar Forest Research (mae parthau 303 a 304 yn berthnasol). 

Peidiwch â phlannu coed ynn oherwydd clefyd (Chalara) coed ynn.

C. Beth am berthi mewn ardaloedd arfordirol lle na fydd coed perthi yn tyfu o bosibl a lle na fydd modd cyflawni twf cynyddol? (newydd)

A. Ni fydd tir mewn ardaloedd arfordirol yn cael ei eithrio rhag plannu coed perthi os yw'n ofynnol, ac yn ystod archwiliad, byddem ni’n disgwyl gweld tystiolaeth nad yw coed safonol wedi'u tocio. 

Ni fydd unrhyw randdirymiad ar gyfer ardaloedd arfordirol o'r gofyniad i gyflawni twf cynyddol mewn amgylchiadau rhesymol. 

C. A fyddwch chi'n caniatáu rhanddirymiad o'r gofyniad i sefydlu coed perthi lle mae adar sy’n nythu ar y ddaear yn bresennol? (newydd)

A. Ar hyn o bryd rydym ni’n ystyried proses i ganiatáu rhanddirymiadau yn yr amgylchiadau hyn. Bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi yng nghanllawiau terfynol y cynllun. 

C. Beth yw’r manteision i fywyd gwyllt o beidio â thorri neu docio perth/gwrych bob blwyddyn? 

A. Ar lawer o fathau o goed a llwyni, bydd angen tyfiant dwyflwydd oed i gynhyrchu blodau a ffrwythau. Trwy beidio â’u torri bob blwyddyn, bydd yr hen bren hwn yn cael cyfle i dyfu a chynnal blodau a ffrwythau sy’n ffynhonnell fwyd bwysig i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys pryfed peillio, adar a mamaliaid bach. 

Hefyd, trwy adael i’r berth dyfu’n dalach a lletach ac yn fwy trwchus, bydd yn cynnig mwy o gysgod i dda byw a chnydau ac i adar sy’n nythu. 

C. Mae gen i grŵp o goed mewn cornel cae. Ydyn nhw’n cyfrif fel coed perthi/gwrychoedd y bydd angen eu cynnal neu eu sefydlu?

A. Na. Ni fydd grwpiau o goed neu goed unigol o fewn y cae yn cyfrif at y gofyn hwn. Rhaid i’r coed fod yn rhan o’r berth ei hun i gyfrif fel coeden perth. Bydd angen gofalu am grwpiau o goed yn unol â’r cod i bawb neu UA9: cynnal coetir os yw’r arwynebedd o dan y canopi o goed yn fwy na 0.1ha. 

13. Cynllun Cyfle i Blannu Coed a Chreu Perthi/Gwrychoedd (UA10)

C. Beth yw’r targed ar lefel y cynllun ar gyfer plannu coed a pherthi? (wedi'i ddiweddaru)

A. Rydym ni wedi dileu gofyniad y cynllun i gael 10% o orchudd coed ar bob fferm a'i ddisodli gyda'r UA hwn gan obeithio y bydd yn eich annog i blannu coed a gwrychoedd. Bydd cymhelliad cymorth ariannol ar gyfer plannu ar gael yn yr haen opsiynol. Credwn y gallwn gyflawni canlyniad gwell a'n helpu i gyflawni ein huchelgais o blannu o leiaf 17,000ha o goed newydd drwy'r cynllun ledled Cymru erbyn 2030.

C. Pam mae angen i mi ystyried plannu coed a chithau wedi dileu'r gofyn bod 10% o'r fferm o dan orchudd o goed?

A. Mae'r rheol gorchudd coed 10% wedi'i ddileu ac rydym wedi creu'r weithred gyffredinol hon yn ei lle. Rydym am annog ffermwyr i blannu coed a pherthi i fod o fudd i’w harferion ffermio ac felly rydym yn gofyn i bob ffermwr sy'n ymuno â'r cynllun greu cynllun cyfle sy'n dangos ble y gallen nhw blannu coed, coetir newydd a/neu berthi/gwrychoedd newydd ar eu fferm.

C. Pam mae angen inni blannu 0.1ha o goed fel rhan o'r cynllun cyfle i blannu coetir/perthi? (wedi'i ddiweddaru)

A. Mae gennym uchelgais i bob fferm sy’n ymuno â'r cynllun blannu o leiaf 0.1ha o goed erbyn diwedd 2028 (neu drefniadau i blannu erbyn 31 Mawrth 2029). Mae hyn yn gyfwerth â 250 o goed newydd. Byddwn yn annog ffermwyr i blannu mwy na hyn i fodloni’r targedau ar lefel y cynllun ac yn cydnabod y bydd faint y bydd yn cael ei blannu ar bob fferm yn wahanol. Fodd bynnag, nid ydym disgwyl i ffermwyr blannu coed ar eu tir mwyaf cynhyrchiol os gallan nhw ganfod tir cymwys llai cynhyrchiol i blannu coed arno.

C. A fydd perthi sydd newydd gael eu plannu yn cyfrif tuag at y gofyniad i blannu 0.1ha o goed?

A. Mae modd cynnwys perthi newydd yn y cynllun ond nid yw perthi newydd yn cyfrif tuag at y gofyniad i ddangos cynnydd tuag at blannu 0.1ha o goed erbyn diwedd 2028.

C. Ble ydw i'n cynnal fy nghynllun cyfle? 

A. Bydd ar gael i chi ei gwblhau trwy RPW Ar-lein yn 2026.

C. A yw aildyfiant naturiol yn cyfrif os coda i ffens o amgylch darn 0.1ha neu fwy? 

A. Na fydd, fydd aildyfiant naturiol ddim yn cyfrif. Rydyn ni’n disgwyl ichi blannu o leiaf 0.1ha o goed newydd. 

C. Pa fathau o goed ddylwn i eu plannu?

A. Gallwch ddewis unrhyw rywogaeth sy'n addas i'ch tir chi Os ydych chi'n gwneud cais drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru, bydd rhaid cadw at amodau penodol. Fe welwch y manylion yn nghanllawiau'r cynllun dan sylw. 

C. Beth am goetir rydw i newydd ei blannu? 

A. Bydd unrhyw goed y byddwch wedi'u plannu ers 1 Ebrill 2022 yn cyfrif tuag at eich gofyn i blannu 0.1ha o goed newydd.

C. Os ydw i eisoes wedi cyfrannu 0.1ha a oes dal angen i mi gwblhau'r cynllun cyfle? 

A. Oes, rhaid i bawb sy'n ymuno â'r cynllun baratoi cynllun cyfle, waeth faint o waith plannu sydd eisoes wedi'i wneud ar y fferm.

C. Sut ydw i'n dweud wrthych am y coed rwy wedi'u plannu ers 1 Ebrill 2022 y tu allan i gynllun Llywodraeth Cymru? 

A.  Dylech ddatgan unrhyw goed rydych wedi'u plannu ar y SAF.

C. Beth os na alla' i blannu digon o goed am ryw reswm? (wedi'i ddiweddaru)

A. Dylai pob ffermwr allu nodi o leiaf 0.1ha o gyfleoedd plannu coed posibl a dylid nodi'r rhain ar y plan. Mae hyn yn arwydd o gyfleoedd posibl ar gyfer plannu coed a pherthi ar y fferm ac nid yw'n rhoi caniatâd i blannu nac yn rhwymedigaeth arnoch i gyflawni'r holl blannu a awgrymwyd. Mewn rhai achosion fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall fod rhesymau pam na allwch chi blannu, e.e. cyfyngiad tenantiaeth, neu sensitifrwydd ardal. Byddwn yn darparu cyngor pellach ar hyn cyn i'r cynllun agor.

C. Beth os ydw i eisiau plannu ar dir sydd wedi'i ddosbarthu'n gynefin?

A. Os felly, efallai y byddai'n syniad da gofyn i CNC am cyngor cyn cyflwyno cais. Ond, ddylai hyn ddim eich rhwystro rhag cwblhau a chyflwyno cynllun cyfle i ddangos ble yr hoffech chi blannu coed newydd.

C. A yw plannu coed digolledu yn cyfrannu at y gofyniad i blannu 0.1ha o goed? (newydd)

A. Nac ydy, os oes angen plannu coed digolledu oherwydd bod coed wedi'u cwympo’n anghyfreithlon a’i bod yn ofynnol i chi blannu coed newydd yn eu lle, er enghraifft, fel rhan o hysbysiad ailstocio neu orfodi.

Ydy, os oes angen plannu coed digolledu fel rhan o ofyniad cynllunio, fel Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), ac mae'n ychwanegol at y coed a oedd gennych cyn y gofyniad

14. Iechyd a lles anifeiliaid

C. Pa filfeddyg all wneud fy Nghylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC)? (newydd)

A. Dylai'r AHIC gael ei wneud gan y practis milfeddygol sydd â gofal am yr anifeiliaid, sy'n gyfrifol am feddyginiaethau presgripsiwn a gofal 24 awr. Y practis fydd yn y sefyllfa orau i wybod statws iechyd presennol da byw a, law yn llaw â'r ffermwr, bydd yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon i ddeall a nodi nodau a gweithredoedd realistig. 

Rhaid bod y milfeddyg wedi cwblhau hyfforddiant fel rhan o'r fframwaith sicrhau ansawdd.

Dim ond dan yr amgylchiadau isod y gall milfeddyg arall gyflwyno'r AHIC:

Gall ymgynghorydd milfeddygol, ar ôl cwblhau hyfforddiant gorfodol, sy'n rhoi cyngor ar iechyd y fuches a'r ddiadell yn rheolaidd, gyflwyno'r AHIC a rhaid iddo adrodd i aelod o'r practis milfeddygol sydd ag anifeiliaid dan eu gofal.

Mewn amgylchiadau eithriadol, lle mae capasiti neu alluogrwydd milfeddygol yn gyfyngedig neu os nad yw'r practis milfeddygol neu'r milfeddyg unigol, sydd ag anifeiliaid o dan eu gofal, wedi cwblhau'r hyfforddiant priodol, gellir awdurdodi cais am arweiniad a chefnogaeth gan gydweithwyr eraill.

C. Pa anifeiliaid da byw sy'n cael eu cynnwys mewn fferm aml-sector (newydd)

AAr fferm gymysg, dylai'r elfennau AHIC a bioddiogelwch ganolbwyntio ar y rhywogaeth y mae’r milfeddyg a’r ffermwr yn asesu y mae'r AHIC yn fwyaf priodol ar ei chyfer. Ar gyfer y weithred lles, dim ond 1 rhywogaeth sydd angen sylw bob blwyddyn, ond dylid canolbwyntio ar rywogaethau gwahanol bob blwyddyn olynol.

C. A oes angen i mi gynnal y weithred gyffredinol hon os mai dim ond ychydig o anifeiliaid anwes sydd gen i? (wedi'i ddiweddaru)

A. Mae UA12: iechyd a lles anifeiliaid yn berthnasol i bob fferm lle mae anifeiliaid da byw yn cael eu magu neu eu ffermio i gynhyrchu bwyd neu nwyddau. Ni fydd angen i chi gwblhau'r weithred gyffredinol hon os ydych chi'n cadw anifeiliaid dim ond fel anifeiliaid anwes neu fel rhan o weithgareddau sŵau anwesu. 

Ni fydd angen i fentrau bach sy'n gwerthu wrth giât y fferm (e.e. wyau), neu le cedwir da byw i’w bwyta’n breifat neu i ddosbarthu anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn breifat, gweithgareddau fel sŵau anwesu neu anifeiliaid sy’n cael eu cadw fel anifeiliaid anwes, gwblhau elfen AHIC y weithred gyffredinol. 

C. Mae gen i fferm gymysg. A fydd angen i mi gynnal AHIC ar gyfer y gwartheg a'r defaid sydd ar fy fferm?

A. Mae gennym gyngor ac adnoddau penodol ar ffermydd llaeth, gwartheg eidion a defaid, ond efallai y bydd ffermwyr sydd â rhywogaethau da byw eraill hefyd yn gymwys i hawlio SFS. Mae angen i ffermwyr dofednod, moch, ceirw, geifr neu gamelidau hefyd gwblhau elfennau UA12. Rydym ni’n rhagweld y gallai ymgynghorydd milfeddygol wneud hyn ar gyfer yr unedau hyn, ond mae'r templedi AHIC a bioddiogelwch yn parhau'r un fath. Ar gyfer yr elfen lles anifeiliaid, yn hytrach na'r modiwlau sgiliau ar gyfer sgorio symudedd a chyflwr corff, byddwn angen:

  • tystiolaeth o raglen iechyd anifeiliaid wedi'i chynllunio gyda milfeddyg i reoli cloffni a chyflwr corff da byw ar eich fferm, gyda thystiolaeth o weithgarwch monitro sgoriau

C. Pwy sydd angen gwneud AHIC os yw'r anifeiliaid ar dir tacio neu oddi ar y fferm o dan gontract, ai'r perchennog, y ceidwad neu'r ddau? (newydd) 

A. Y sawl sy’n hawlio taliad cyffredinol yr SFS sy’n gyfrifol am gwblhau'r weithred gyffredinol hon yn y pen draw. Ar gyfer AHIC, y ceidwad cofrestredig fyddai'n gyfrifol ond gall ddirprwyo i weithiwr sydd â chyfrifoldeb am reoli da byw i reoli'r broses. 

Er enghraifft, os ydych chi'n berchennog defaid ac wedi symud anifeiliaid oddi ar eich daliad ar gyfer pori dros y gaeaf/tacio, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr AHIC yn cael ei gwblhau tra bod y defaid ar y tir tacio. 

Os oes gennych chi anifeiliaid ar eich tir, ac nad eich cyfrifoldeb chi ydyn nhw (h.y. anifeiliaid tac) ni fyddai'n ofynnol i chi gwblhau gweithredoedd UA12 ar eu cyfer.

C. Os gall hi gymryd mwy na 12 mis i gynnal holl gamau'r AHIC, pryd mae angen ei gwblhau?

A. Mae angen cwblhau camau’r AHIC mewn cyfnod 12 mis ond rydym yn gwerthfawrogi y gall hyn gael ei ledaenu ar draws 2 flynedd galendr, ond rhaid i'r cam adolygu gael ei wneud o fewn y cyfnod 12 mis. Ar gyfer 2026, rydym yn disgwyl i'r camau 'mesur a chynllunio' fod wedi'u cwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2026.

C. Oes rhaid i mi rannu'r holl wybodaeth hon gyda chi? 

A. Na. Nid oes angen i chi gyflwyno dogfennau na chanlyniadau'r cynllun, dim ond cadw'r cynllun ar y fferm. Gallwn ofyn ichi gadarnhau rhai manylion ar eich dangosfwrdd SFS a dangos copi pan ofynnir ichi mewn archwiliad. 

C. Rwy'n rhan o gynllun sicrwydd fferm, a yw hyn yn bodloni'r gofynion ar gyfer cwblhau UA12? (newydd)

A. Nac ydy. Nid yw'r templedi AHIC a bioddiogelwch wedi'u llofnodi gan y ffermwr a'r milfeddyg yn rhan o gynllun sicrwydd fferm. Mae'r templed yn tywys ffermwyr a milfeddygon trwy broses benodedig sy'n safon ddilysadwy o’r weithred i sicrhau cysondeb, ansawdd ac effaith. Mae'r cynllun hefyd yn rhoi sicrwydd bod y broses wedi'i chwblhau'n foddhaol. 

Mae cynlluniau iechyd sicrwydd fferm a'r prosesau AHIC yn bethau ar wahân ond gallent gyd-fynd â'i gilydd hefyd. Mae gan y prosesau amcanion a dulliau gwahanol, ac er bod modd cyflawni rhai agweddau ar yr un pryd, roedd rhai milfeddygon a ffermwyr fu'n rhan o'n cynllun peilot helaeth yn teimlo mai eu cadw ar wahân sydd orau er mwyn gallu canolbwyntio'n ddigonol ar bob un.

C. Pryd mae angen i mi gwblhau fy hyfforddiant sgorio cyflwr corff a symudedd?

A. Byddwn yn gofyn i chi gwblhau hyn erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf y byddwch chi'n hawlio SFS ac yna unwaith bob 5 mlynedd ar ôl hynny. 

C. Rwyf eisoes wedi cwblhau hyfforddiant sgorio cyflwr corff a symudedd yn y 5 mlynedd diwethaf, a yw hyn yn cyfrif? (wedi'i ddiweddaru)

A. Os ydych chi eisoes wedi cwblhau hyfforddiant sgiliau cymwys ar gyfer sgorio symudedd a chyflwr corff yn y pum mlynedd flaenorol, a bod gwaith sgorio a chofnodi yn cael ei wneud bob blwyddyn ar y fferm, naill ai gan staff y fferm neu 'fentor symudedd' cymeradwy, efallai eich bod eisoes yn bodloni gofynion y weithred hon, cyn belled â bod gennych dystiolaeth. 

Bydd angen i chi gadarnhau'r hyfforddiant hwn drwy RPW Ar-lein. 

C. A allaf i gwblhau hyfforddiant sgorio symudedd a chyflwr corff drwy e-ddysgu neu a oes rhaid i mi fynychu'r cwrs yn gorfforol? (newydd)

A . Cyn belled â'i fod yn gwrs sydd ar y rhestr o raglenni hyfforddi cymwys, gallwch ei gwblhau fel cwrs e-ddysgu neu fynychu cwrs corfforol. 

15. Tir comin

C. Sut mae cael taliad cyffredinol ar dir comin? 

A. Gallwch hawlio hawliau tir comin ar y SAF, fel rydych yn ei wneud nawr ar gyfer BPS.

C. Sut bydd hawliau tir comin yn cael eu rhannu?

A. Bydd hawliau tir comin yn cael eu rhannu fel y maen nhw nawr ar gyfer BPS. 

C. Pa ofynion y bydd angen imi eu bodloni i gael taliad cyffredinol ar dir comin a beth byddwch chi’n ei archwilio? (wedi'i ddiweddaru)

A. Gallwch ddefnyddio hawliau pori tir comin i fod yn rhan o'ch taliad cyffredinol, ar yr amod:

  • mai chi sydd â'r hawl gyfreithiol i ddefnyddio'r tir comin hwnnw ar gyfer stoc pori
  • eich bod yn gallu troi stoc berthnasol allan i bori ar y tir comin yr ydych wedi cofrestru hawliau pori iddo
  • eich bod yn cadw dyddiadur stocio o stoc wedi'i throi allan i bori ar y comin. Dylech gadw'r dyddiadur ar y fferm, i'w wirio wrth arolygu
  • eich bod yn dilyn gofynion sylfaen reoleiddio’r SFS ar y comin
  • yn rhoi sylw dyledus i'r rheolaeth berthnasol sydd ar waith ar y comin. Trwy hyn rydym yn golygu na ddylech gyflawni unrhyw weithgareddau sy'n peryglu cytundebau rheoli presennol ar y comin

Bob blwyddyn, byddwn yn cadarnhau eich bod yn berchen ar o leiaf un o’r mathau o dda byw a enwir yn eich hawliau pori tir comin. Er enghraifft, os oes gennych hawliau pori tir comin ar gyfer 200 o ddefaid a 10 o wartheg, byddwn yn cadarnhau’ch bod yn berchen ar/yn cadw o leiaf un o’r mathau hyn o dda byw. 

  • ni fydd angen ichi ddangos tystiolaeth eich bod yn berchen ar/cadw'r holl fathau o dda byw neu’n berchen ar/cadw yr un nifer o dda byw â’r hawliau tir comin sydd gennych
  • ni fydd angen ichi ddangos tystiolaeth bod gennych frîd arbennig o dda byw sy’n addas ar gyfer pori tir comin

Wrth 'cadw' rydym yn golygu mai chi yw'r ceidwad cofrestredig. 

C. Mae gen i hawl i bori rhan o gomin fel unig borwr, sut ca i fy nhalu am hyn? 

A. Gellir cofrestru tir comin sydd ag un porwr gyda Llywodraeth Cymru a rhoi cyfeirnod cae iddo. Ond rhaid ei ddatgan fel parsel wedi'i amgáu. Peidiwch â datgan comin sydd ag un porwr yn adran tir comin y SAF. 

C. Beth yw'r amodau i gael cynnal gweithredoedd cydweithredol ar dir comin. 

A. Bydd tir comin sydd â chytundeb Cynllun Cynefin Cymru 2025 yn cael cynnig estyniad ar gyfer 2026. Rydym yn ystyried sut i helpu i ffurfio Cymdeithasau Pori newydd er mwyn i fwy o dir comin allu cael ei reoli ar y cyd o 2027 ymlaen.  Bydd y gefnogaeth yn parhau yn 2026 i'r rheini sydd â chytundeb Cynefin Cymru Tir Comin. 

16. Taliadau'r SFS

C. Beth yw taliad cyffredinol yr SFS?

A. Mae'r taliad cyffredinol wedi'i rannu'n ddwy elfen: taliad sylfaenol cyffredinol a'r taliad gwerth cymdeithasol. 

  • mae'r taliad sylfaenol cyffredinol yn cynnwys taliad fferm gyfan, a delir ar yr holl dir cymwys, o £70/hectar ar y 70 hectar cyntaf a £2/hectar ar y tir cymwys sy'n weddill, a
  • thaliad ychwanegol i gynnal cynefinoedd o £69/hectar, a
  • thaliad cadw coetir ychwanegol o £62/hectar
  • mae'r taliadau cynnal cynefinoedd a choetir yn cael eu talu ar bob cynefin a choetir, nid dim ond hyd at y trothwy o 10% o gynefin 

Bydd taliad gwerth cymdeithasol o £107/hectar yn cael ei dalu ar yr holl dir cymwys.

Bydd ffermydd sy'n ymuno â'r cynllun yn 2026 ac sydd â 100 hectar neu lai o dir cymwys, yn cael taliad sefydlogi untro o £1,000 ychwanegol i gydnabod y costau pontio i ffermwyr llai. 

Mae cyfrifiannell canllaw cyflym ar gael ar ein wefan i roi syniad bras i ffermwyr o werth eu taliad cyffredinol SFS yn 2026.

C. A yw taliadau cyffredinol yr SFS wedi'u capio?

A. Ydyn. Bydd cap ar werth y taliad cyffredinol llawn. Bydd capio'n dechrau ar £25,000, a bydd y gyfradd gapio yn cynyddu'n raddol. Bydd cap o 100% ar unrhyw daliadau gwerth mwy na £300,000. 

Mae cyfrifiannell canllaw cyflym yn cynnwys y rheolau capio.

C. A oes cap ar y taliad llawn?

A. Na, dim ond taliadau dros £25,000 sy'n cael eu capio. Er enghraifft:

Mae ffermwr yn cael taliad cyffredinol yr SFS o £60,000.

  • ni fydd cap ar £25,000 cyntaf y taliad
  • mae cap o 5% ar daliadau rhwng £25,000 a £50,000 h.y. 5% o ostyngiad ar £25,000 sy'n gadael £23,750
  • mae cap o 10% ar daliadau rhwng £50,000 a £150,000 h.y. 10% o ostyngiad ar £10,000 sy'n gadael £9,000 

Felly, cyfanswm taliad cyffredinol yr SFS ar ôl capio yw £57,750. 

C. A fydd y taliadau cynefin a choetir yn cael eu talu i mi ar ben y taliad fferm gyfan?

A. Byddan. Bydd y taliadau cynefin a choetir yn cael eu talu ar dir cymwys yn ychwanegol at daliad y fferm gyfan. Mae cyfrifiannell canllaw cyflym yn rhoi syniad ichi o werth y taliadau cynnal cynefin a choetir.

C. Pa goetiroedd llydanddail fydd yn gymwys am daliad?

A. Bydd taliad cynnal coetir (yn ychwanegol â’r taliad fferm gyfan) yn cael ei dalu ar bob coetir llydanddail sydd fwy na 0.1ha o faint. 

Ni fydd coed unigol na grwpiau o goed llydanddail â chanopi llai na 0.1ha yn gymwys am y taliad cynnal coetir.  

C. A ga i daliad cynnal coetir ar goetir gafodd ei greu o dan gynllun creu coetir glastir, grant creu coetir neu grantiau bach – creu coetir?

A. Na chewch. Ni fydd coetir sy’n rhan o gytundeb plannu cyfredol yn gymwys am y taliad cynnal coetir o dan yr SFS. Ond fe fydd yn gymwys am y taliad fferm gyfan a’r taliad gwerth cymdeithasol. 

C. A alla i gael taliad ar wahân ar gyfer fy mherthi/gwrychoedd?

A. Na. Bydd y taliad fferm gyfan yn talu’r costau a ysgwyddir a’r incwm a gollir am yr holl weithredoedd cyffredinol, gan gynnwys UA8: rheoli perthi/gwrychoedd. 

C. Pam rydych chi wedi gosod trothwyon ar gyfer rhai o'r taliadau – 70 hectar ar gyfer y taliad fferm gyfan a 100 hectar ar gyfer y taliad sefydlogi yn 2026?

A. Mae nifer o'r costau cyffredinol a gofynion y cynllun yn sefydlog neu o leiaf ddim yn adlewyrchu maint y fferm. Y canlyniad yw bod ffermydd bach yn debygol o orfod ysgwyddo costau uwch fesul hectar o'u cymharu â ffermydd mwy. Yn gyffredinol, disgwylir y bydd hi'n anoddach i ffermydd llai ysgwyddo'r costau sefydlog hyn ac elwa ar arbedion maint. Er enghraifft, bydd 6 awr o Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn costio ffermwr bach o ran amser/incwm a gollir yr un faint â ffermwr mawr.

C. A yw'r trothwy o 100 hectar ar gyfer y taliad defydlogi yn 2026 yn cynnwys arwynebedd yr hawliau tir comin fydd wedi'u rhannu yn 2026? 

A. Bydd, bydd y trothwy o 100ha yn cynnwys arwynebedd y tir comin fydd wedi'i rannu yn 2026, a fydd yn cael ei gyfrif ar ôl ichi gyflwyno'r SAF. Byddwn yn cadarnhau eich dyraniad 2025 yn llythyr talu BPS 2025, os yw'n berthnasol.

C. A fydd y taliad sefydlogi yn 2026 yn cael ei ystyried wrth gyfri'r cap?

A. Na fydd. Ni fydd y taliad sefydlogi yn rhan o'r taliad cyffredinol. Felly ni fydd cap arno. 

C. A fydd y cyfraddau talu yr un faint bob blwyddyn?

A. Rydym yn disgwyl i’r cyfraddau talu gael eu gosod bob blwyddyn gan eu bod bellach ar gyfer BPS. Bydd y gyllideb amaethyddiaeth yn cael ei phennu'n flynyddol fel rhan o gylch cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru a dyma fydd yn penderfynu’r cyfraddau talu.

C. Pryd bydd y taliadau cyffredinol yn cael eu talu?

A. Rydym yn bwriadu talu rhagdaliadau o fis Hydref 2026 ymlaen, fel gyda'r BPS, a dechrau talu'r taliadau sy'n weddill o fis Rhagfyr, yn amodol eich bod wedi cynnal yr holl UAs angenrheidiol a bod eich hawliad wedi'i ddilysu.

C. Pryd bydd taliadau'r haenau opsiynol a chydweithredol yn cael eu gwneud?

A. Bydd dyddiadau talu'r taliadau opsiynol a chydweithredol yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gynllun a'r gweithredoedd a wneir. Mae manylion llawn y cynlluniau sydd ar gael yn 2026 i'w gweld ar ein wefan.

C. Sut ydw i'n gweithio allan beth fydd fy nhaliad SFS yn 2026? 

A. Mae cyfrifiannell canllaw cyflym ar gael ar ein wefan. Gall ffermwyr fwydo arwynebedd y fferm gyfan, arwynebedd y cynefin ac arwynebedd y coetir, i gael syniad bras o werth ei daliad cyffredinol SFS ar gyfer 2026. 

Bydd ffermwyr yn gallu hefyd nodi arwynebedd/gwerth yr hawliau sydd wedi'u defnyddio i gael syniad bras gwerth eu taliad BPS 2026. 

Mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy: sut i gwblhau'r canllaw cyflym ar gael ar ein wefan.

17. Proses yr SFS

C. Pryd mae angen i mi benderfynu a ydw i'n mynd i hawlio SFS neu BPS a chyflwyno hawliad?

A. Mae blwyddyn y cynllun yn mynd o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr, felly, bydd angen i chi fodloni gofynion y gweithredoedd cyffredinol, gan gynnwys cynnal a chadw cynefinoedd a choetir, o 1 Ionawr. 

Ond mae gennych tan ddyddiad cau SAF15 Mai i ddewis a ydych am hawlio SFS neu BPS. 

Bydd angen i chi ddatgan ar y SAF eich bod wedi bodloni gofynion angenrheidiol y cynllun o 1 Ionawr. 

C. Pryd mae angen i mi gwblhau'r holl weithredoedd cyffredinol?

A. Bydd angen cwblhau'r gweithredoedd cyffredinol erbyn 31 Rhagfyr bob blwyddyn (yn ôl y gofyn). 

C. Sut ydw i'n rhoi gwybod i taliadau gwledig Cymru fy mod wedi cwblhau'r holl weithredoedd cyffredinol? 

A. Bydd angen i chi roi gwybod i ni eich bod yn cydymffurfio neu wedi cynnal y gweithredoedd cyffredinol, naill ai drwy'r SAF flynyddol neu drwy ddiweddaru dangosfwrdd newydd RPW Ar-lein sy'n cael ei lunio i gyd-fynd â'r cynllun.

Bydd angen i chi gadarnhau eich bod wedi cwblhau'r holl weithredoedd cyffredinol perthnasol ar eich fferm erbyn 15 Ionawr y flwyddyn ganlynol. 

C. Pryd bydd dangosfwrdd gweithredoedd cyffredinol yr SFS ar gael ar RPW Ar-lein? 

A. Ein nod yw cael dangosfwrdd gweithredoedd cyffredinol yr SFS yn barod ar RPW Ar-lein ym mis Mehefin 2026. 

Bydd dangosfwrdd unigryw i bob fferm, yn seiliedig ar y gweithredoedd cyffredinol sy'n berthnasol i'r fferm. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddir ar y SAF i nodi'r gweithredoedd sy'n berthnasol i bob fferm.

Byddwch yn gallu diweddaru’r dangosfwrdd gyda manylion pob gweithred cyffredinol wrth ichi eu cwblhau drwy gydol blwyddyn y cynllun.

C. Beth fydd yn digwydd i 'nhaliadau os na fydda' i wedi cynnal yr holl weithredoedd cyffredinol neu'n gwneud camgymeriad?

A. Rydym yn datblygu set o safonau dilysadwy a matrics cosbau i gyd-fynd â'r cynllun. Ein bwriad yw ymateb yn fwy pragmatig a chymesur i unrhyw wallau neu gamgymeriadau dilys, a byddwn yn gweithio ar hyn gyda rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf.

Ein bwriad yw cyflwyno llythyrau cynghori yn hytrach na chosbau ariannol ar gyfer mân broblemau. Gall materion difrifol arwain at gosbau i'r taliad cyffredinol.

C. Rydych chi'n bwriadu casglu gwybodaeth am fy musnes a'm fferm. Sut byddwch chi'n storio fy nata yn ddiogel? 

A. Bydd yr holl ddata y byddwn yn ei gasglu'n cael ei reoli'n ddiogel a sensitif ac ni fyddwn yn ei gadw am fwy o amser nag sydd ei angen. Yn bennaf, byddwn dim ond yn gofyn ac yn casglu data ar gyfer prosesu hawliadau a chyfrifo'r taliadau. Ni fyddwn, er enghraifft, yn gofyn am eich data mewn perthynas â’ch Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Datblygiad Proffesiynol Parhaus neu AHIC.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio neu'n rhannu'r data hwn at ddibenion monitro, gwerthuso ac adrodd. Lle mae angen i ni grynhoi data ynghyd i greu ystadegau, bydd yr holl ddata yn ddienw.

Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â datgelu data a hysbysiad preifatrwydd yn cael ei chyhoeddi yng nghanllawiau llawn y cynllun a'r SAF blynyddol. 

C. Beth yw'r llinell sylfaen carbon ar lefel fferm? Beth sy'n rhaid imi ei wneud? 

A. Byddwn yn defnyddio'r data sydd eisoes gan neu ar gael i Lywodraeth Cymru i gyfrifo llinell sylfaen carbon pob fferm yn yr SFS.

Mae hyn yn argymhelliad gan y Panel Adolygu Tystiolaeth ar Atafaelu Carbon a bydd yn cael ei ddatblygu yn lle'r cynnig gwreiddiol bod pob ffermwr yn llenwi Cyfrifiannell Carbon.  Bydd rhagor o fanylion ar gael amdano cyn hir.

18. Canllaw cyflym yr SFS

19. Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS)

C. Pam ydych chi wedi penderfynu tapro taliadau i 60% yn 2026 yn hytrach nag 80% fel eich cynnig gwreiddiol? 

A. Mae hi wastad wedi bod yn fwriad gennym ddileu'r BPS yn raddol gan mai'r SFS fydd y cymorth i ffermydd yng Nghymru yn y dyfodol. Y cynnig yn ein hymgynghoriad gwreiddiol oedd tapro'r BPS i 60% yn 2026. 

Rydym yn annog ffermwyr i ymuno â'r SFS ac i ddechrau elwa arno. Rydym wedi ymrwymo'r hyn sy'n cyfateb i gyllideb BPS eleni o £238m i gynnwys haen gyffredinol SFS a tapr BPS 2026, sy’n darparu’r un sefydlogrwydd ariannol.

C. A fydda' i dan anfantais trwy hawlio BPS yn 2026, 2027?

A. Penderfyniad busnes yw dewis naill ai hawlio BPS neu hawlio SFS. Bydd taliadau BPS yn cael eu tapro bob blwyddyn nes eu dileu'n llwyr. Ni fydd taliadau BPS o gwbl yn 2029.

C. Os byddaf yn dewis cymryd rhan yn SFS, pam na cha i fynd yn ôl i'r BPS?

A. Yr SFS yw dyfodol cymorth i ffermwyr yng Nghymru. Hen gynllun yw'r BPS bellach ac mae'n cael ei gau'n raddol dros y cyfnod pontio. Mae'r taliadau tapro yn cael eu cynnig fel nad oes diwedd sydyn i daliadau ffermwyr os ydyn nhw'n dewis peidio ag ymuno â'r SFS.

C. A fydd ffermwyr newydd dan anfantais os nad ydyn nhw'n cael gofyn am hawliau BPS o'r Gronfa Genedlaethol?

A. Bydd ffermwyr newydd yn cael ymuno â'r SFS yn syth ac ni fydd angen hawliau BPS arnyn nhw i wneud hynny.

C. A ga i drosglwyddo hawliau BPS o hyd os bydda i'n rhoi fy fferm i 'mhlant?

A. Cewch , ond i drosglwyddo hawliau'r BPS, rhaid trosglwyddo’r tir hefyd a rhaid cadw at y rheolau sydd mewn grym ym mlwyddyn 2026 y cynllun.

C. A ga i drosglwyddo hawliau BPS trwy ewyllys o hyd?

A. Cewch, cewch drosglwyddo hawliau BPS trwy ewyllys o hyd, cyn belled â'u bod yn cael eu trosglwyddo gyda thir. 

C. Os byddaf yn trosglwyddo rhai ond nid pob un o'm hawliau gyda thir, beth sy'n digwydd i'r gweddill ohonynt?

A. Byddwch yn gallu cadw gweddill eich hawliau BPS sydd heb eu trosglwyddo. Er enghraifft, os oes gennych 100 o hawliau ond dim ond 90 wedi’u trosglwyddo gyda 90 hectar o dir, byddwch yn cadw 10 hawl. Gallwch gadw'r rhain i'w defnyddio yn y dyfodol i hawlio BPS os oes gennych ardal gyfatebol o dir BPS cymwys. Os byddwch yn ymuno â’r SFS, byddai'r hawliau hyn yn cael eu 'ildio'.

C. A ga i drosglwyddo neu lesio fy hawliau BPS ar gyfer 2027 ar ôl hawlio SFS yn 2026?

A. Na chewch. Ar ôl i chi hawlio SFS, byddwch yn colli'ch hawliau BPS a fyddan nhw ddim ar gael ichi mwyach i hawlio na'u trosglwyddo ar gyfer y flwyddyn ganlynol. 

C. Sut ydw i'n ildio fy hawliau? 

A. Does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Ni fydd eich hawliau ar gael i chi mwyach, nac i unrhyw un arall, unwaith y byddwch yn hawlio'r SFS. 

C. Ar hyn o bryd rwy'n derbyn taliad ffermwyr ifanc y BPS; a fydda i'n cael cadw'r taliad hwn os bydda i'n dewis aros yn BPS?

A. Byddwch. Os byddwch yn dal i fodloni'r meini prawf tra bo'r BPS ar gael.

C. Rwy'n ffermwr ifanc ac yn cymryd yr awenau fel pennaeth y daliad eleni, a ga i hawlio taliad ffermwr ifanc BPS flwyddyn nesaf os bydda i'n dewis aros yn BPS?

A. Na chewch. Bydd y Taliad Ffermwyr Ifanc yn cau i hawlwyr newydd yn BPS 2026.

C. Pam ydych chi wedi penderfynu dod â'r rheol 2 flynedd ar ddefnyddio hawliau a chrafangu hawliau'n ôl i ben?

A. Y rheswm am y newid hwn yw bod BPS a'r Gronfa Genedlaethol yn dod i ben.

C. Pryd bydd cyfnod trosglwyddo a lesio BPS yn agor ar gyfer 2026?

A. Caiff y dyddiadau eu cyhoeddi cyn hir. Bydd rhaid trosglwyddo a lesio'r holl hawliau gyda thir erbyn 15 Mai 2026.

20. Apeliadau

C. A oes newid yn y broses apelio RPW?

A. Nac oes. Yn dilyn adborth ar ôl ymgynghori, byddwn yn parhau gyda'r un broses apelio dau gam. 

C. A oes newid i'r ffi apelio?

A. Oes, bydd ffioedd apelio cam 2 yn cynyddu i dalu costau'r Panel Apelio Annibynnol. Y costau o 1 Ionawr 2026 fydd £290 ar gyfer gwrandawiad llafar, a £220 ar gyfer gwrandawiad ysgrifenedig. Os caiff eich apêl ei derbyn yn llawn, bydd y ffi yn cael ei had-dalu.

Ni fydd y ffi apelio yn cynyddu ar gyfer apeliadau sy'n ymwneud ag iawndal TB. 

C. A yw'r newid yn y ffi yn effeithio ar apeliadau nawr?

A. Bydd y newid hwn yn y ffi yn berthnasol i bob apelydd waeth beth fo'r cynllun yr ydych yn apelio yn ei erbyn, o 1 Ionawr 2026.

C. Pam ydych chi'n cynyddu'r ffi?

A. Mae'r cynnydd yn y ffi i dalu costau'r Panel Apelio Annibynnol, sydd ar hyn o bryd yn £875 y dydd, ar gyfer 3 aelod o'r panel. Gall y panel ystyried tair apêl lafar neu bedair apêl ysgrifenedig mewn diwrnod. Ni fydd unrhyw gostau Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys yn y ffi.