Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth: 1 Mai 2025
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth ar 1 Mai 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Huw Irranca-Davies
- Cadeirydd - Anwen Elias
- Mo Alamgir
- Sarah Allan
- Jess Blair
- Michael Corcoran
- Tomos Dafydd Davies
- Sally Holland
- Yvonne Murphy
- Julie Sangani
- Diana Stirbu
- Daisy Thomson
- Leanne Wood
Eitem 1 ar yr agenda: coffi a chyflwyniadau
1. Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau a’r Dirprwy Brif Weinidog. Cafwyd cyflwyniadau ar gyfer yr aelodau hynny nad oeddent wedi cyfarfod â’i gilydd o’r blaen.
Eitem 2 ar yr agenda: cyflwyniadau byr a thrafodaeth bord gron i ddilyn
2.1 Croesawodd y Dirprwy Brif Weinidog y Grŵp a chydnabod yr amrywiaeth a dyfnder y profiad sy’n cael eu cynrychioli ar y Grŵp hwn. Mae’r Grŵp wedi’i benodi i fynd i’r afael â’r heriau enfawr sy’n wynebu democratiaeth – nid yn unig o safbwynt cylchoedd etholiadol ond hefyd o safbwynt democratiaeth o ddydd i ddydd – fel yr amlinellir yn adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
2.2 Trafododd y Dirprwy Brif Weinidog a’r Grŵp pa mor bwysig ydyw bod pobl yn gwybod sut i ddefnyddio eu llais ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’u bod yn gwybod bod eu lleisiau yn cael eu gwerthfawrogi.
2.3 Croesawodd y Grŵp y cyfle i greu tirwedd o arferion gorau ledled Cymru ac i gyflwyno awgrymiadau i Weinidogion eu hystyried y tu hwnt i’r Senedd hon. Bydd y Grŵp yn ystyried beth sydd angen ei wneud eto gyda phobl ifanc, a chydag oedolion hefyd, i sicrhau eu bod yn meithrin dealltwriaeth well o’r dirwedd gwneud penderfyniadau.
2.4 Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn edrych ymlaen at weld y Grŵp yn rhannu ei Raglen Waith gychwynnol, er mwyn mynd ati faes o law i gytuno ar y ffordd ymlaen. Gofynnodd y Dirprwy Brif Weinidog am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd y Grŵp.
Eitem 3 ar yr agenda: Cadeirydd yn cyflwyno’r cefndir a thrafodaeth bord gron i ddilyn
3.1 Rhoddodd y Cadeirydd y cefndir ar gyfer penodi’r Grŵp hwn, gan gynnwys gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a’i Argymhellion ar gyfer cryfhau democratiaeth Cymru. Bydd y Grŵp hwn yn ystyried Argymhellion 1 a 2.
- Arloesi democrataidd
Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru. Dylid gwneud hynny gan elwa ar banel cynghori arbenigol, a dylid ei gynllunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Dylai strategaethau newydd ar gyfer addysg ddinesig fod yn flaenoriaeth i’r gwaith hwn, a dylai gael ei adolygu’n rheolaidd gan y Senedd. - Egwyddorion cyfansoddiadol
Gan ddefnyddio’r arbenigedd hwn, dylai Llywodraeth Cymru arwain prosiect i ymgysylltu â dinasyddion a’u cynnwys yn y gwaith o ddrafftio datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol a llywodraethiant i Gymru.
3.2 Cynhaliodd y Grŵp drafodaethau ar arloesi democrataidd ac addysg ddinesig i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r dulliau arloesi hynny a’r addysg honno a’r modd y gellir eu defnyddio i gryfhau democratiaeth. Nodwyd bod dinasyddiaeth yn gymhleth, ag iddi nodweddion cynnil, a bod hon yn ecosystem gymhleth. Roedd y Grŵp yn cydnabod pwysigrwydd iaith wrth ddatblygu’r opsiynau ar gyfer y ddau Argymhelliad.
3.3 Mae enghreifftiau gwych i’w cael yn rhyngwladol y gall y Grŵp hwn eu hystyried. Cadarnhaodd y Grŵp ei fwriad i ganolbwyntio ar yr hyn y mae modd gweithredu arno ac sydd o fewn ei gwmpas.
Eitem 4 ar yr agenda: sesiynau i grwpiau ar wahân ar y rhaglen waith
4.1 Trafododd aelodau’r Grŵp y cyfleoedd ar gyfer datblygu rhaglenni gwaith o dan y themâu adeiladu gallu ar gyfer arloesi democrataidd, strategaethau ar gyfer addysg ddinesig a phrosiectau pendant, gan gynnwys mapio sefydliadau allweddol y bydd angen eu cynnwys yn y gwaith hwn.
4.2 Bydd adborth o’r sesiynau hyn i grwpiau yn cael ei adolygu yn dilyn y cyfarfod hwn a bydd y pwyslais ar gyfer cyfarfod arfaethedig y Grŵp hwn ym mis Mehefin 2025 yn seiliedig ar yr adborth hwn.
4.3 Nododd y Grŵp y gallai hon fod yn rhaglen waith hirdymor ac efallai y byddai’r Grŵp yn dymuno pennu rhestr yn ôl blaenoriaeth o’r hyn y dylai ei wneud i ddatblygu egwyddorion sylfaenol syml ar gyfer y gallu i dyfu yn unol â'r anghenion y tu hwnt i oes y Grŵp.
Eitem 5 ar yr Agenda: y camau nesaf a ffyrdd o weithio
5.1 Atgoffwyd yr aelodau eu bod wedi cwblhau ffurflen gwrthdaro buddiannau pan gawsant eu penodi. Bydd unrhyw ddatganiadau o wrthdaro buddiannau yn cael eu trin fesul achos, yn unol â pholisi.
5.2 Nododd y Grŵp Gylch Gorchwyl ffurfiol y Grŵp a fydd yn cael ei gyhoeddi.
5.3 Trafododd y Grŵp yr opsiynau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol a sut y bydd rhaglen waith ddatblygedig yn arwain at raglen lawnach o gyfarfodydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw.
5.5 Cynhelir cyfarfod rhithwir ar y rhaglen waith ddrafft ym mis Mehefin 2025. Yn y cyfnod interim, gofynnir i’r Grŵp ystyried y cyfleoedd ar gyfer gwneud cynnydd. Bwriedir cynnal cyfarfodydd yn y dyfodol ar ffurf hybrid.
5.4 Cadarnhaodd y Cadeirydd y bydd y Grŵp hwn yn amlinellu ei raglen waith ddrafft yn ffurfiol i’r Dirprwy Brif Weinidog ei chymeradwyo er mwyn sicrhau bod modd cynllunio yn fanylach. Bydd y Grŵp yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar ei gynnydd i’r Dirprwy Brif Weinidog.
