Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau’r Grŵp Cynghori ar Drethi 

  • Y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt AC (Cadeirydd)
  • Andrew Evans - Geldards
  • Frank Haskew – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)
  • David Phillips – Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS)
  • Victoria Winckler – Sefydliad Bevan
  • Emma Watkins – CBI Wales
  • Janet Jones – Ffederasiwn y Busnesau Bach
  • Robert Lloyd Griffiths – Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cymru
  • Kay Powell – Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Martin Mansfield – Cyngres Undebau Llafur Cymru
  • Phil Jarrold – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Yn bresennol hefyd

  • Jeff Andrews – Cynghorydd Arbenigol i’r Gweinidog Cyllid
  • Andrew Jeffreys – Pennaeth Buddsoddi Strategol a Diwygio Ariannol
  • Gareth Morgan – Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Ariannol
  • Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Trethi
  • Emma Baff – Uwch Ysgrifennydd Preifat y Gweinidog Cyllid
  • Claire McDonald – Rheolwr Rhaglen Weithredu Trysorlys Cymru
  • Ruth Leggett – Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, Rhaglen Weithredu Trysorlys Cymru
  • Trudi King - Ysgrifenyddiaeth y Grŵp

Cyflwyniad a chyd-destun

1. Cadeiriodd y Gweinidog Cyllid gyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar Drethi ar gyfer Cymru yn Nhŷ Hywel ddydd Mercher, 5 Mawrth 2014.

2. Croesawodd y Gweinidog y cyfranogwyr i’r cyfarfod cyntaf a diolchodd iddynt am gytuno i fod yn aelodau o’r grŵp.

3. Dywedodd y Gweinidog Cyllid ei bod yn bwysig gwneud cynnydd gyda datganoli drwy sicrhau bod pwerau’n cael eu rhoi at bwrpas ac yr hoffai weld egwyddorion clir o gyfundrefn deg, syml a sefydlog ar gyfer trethi a fyddai’n cefnogi ac yn hybu twf a swyddi yng Nghymru. Crybwyllodd aelodau o’r grŵp yr hoffent hefyd weld trafodaeth heriol yn y grŵp er mwyn helpu i hwyluso syniadau ar gyfer trethi newydd yng Nghymru.

4. Nodwyd y byddai adegau pryd y gofynnid i aelodau’r Grŵp fynd allan i’w rhwydweithiau ac ymgynghori, fel bod eu haelodau’n cael cyfle i gyfrannu at y broses.

Cylch gorchwyl

5. Trafododd yr aelodau’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Grŵp Cynghori ar Drethi.Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl, yn amodol ar fân ddiwygiad, i gynnwys yposibilrwydd y byddai’r grŵp yn ymgynghori â chynghorwyr ac arbenigwyrychwanegol, ac yn gofyn am eu barn, os byddai hynny’n briodol.

Cyflwyniadau

6. Clywodd y Grŵp Cynghori ar Drethi  ddau gyflwyniad byr, y cyntaf ar gynnydd Bil Drafft Cymru, a’r ail ar gasglu a rheoli trethi.

7. Diolchodd y Gweinidog i’r Grŵp am ei gyfraniadau a dywedodd y byddai’r Grŵp  yn cyfarfod nesaf ym mis Mehefin ac unwaith eto yn yr Hydref.