Atebion i gwestiynau cyffredin am rheoli mwg i awdurdodau lleol.
Cynnwys
Beth yw manteision ardal rheoli mwg?
Mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at ddatblygu nifer o glefydau gan gynnwys canser, clefyd y galon ac asthma; mae plant, yr henoed a'r rhai sydd â phroblemau anadlu mewn perygl arbennig.
Amcangyfrifir mai llosgi tanwydd solet yn y cartref ac yn fasnachol yw'r ffynhonnell fwyaf o fater gronynnol, yn benodol PM2.5 yng Nghymru, a all, o’i anadlu, achosi llid ar yr ysgyfaint ac achosi niwed hirdymor i iechyd.
Mae rheoli mwg yn offeryn defnyddiol pan gaiff ei ddefnyddio fel rhan o ddull cyfannol o reoli ansawdd aer lleol. Mae'r drefn sancsiynau sifil newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn lleihau'r baich prawf i hwyluso ymyrraeth gyflymach gan awdurdodau lleol i fynd i'r afael â mwg sy'n cael ei allyrru yn eu hardaloedd rheoli mwg.
Gallwch gynnig dull a arweinir gan gyngor i annog cydymffurfiaeth heb fod angen cosb ariannol, er bod yr opsiwn hwn ar gael os na chaiff y cyngor ei ddilyn.
Beth yw ardal rheoli mwg?
Mae ardal rheoli mwg yn ardal lle na chaiff pobl a busnesau:
- allyrru mwg o simnai adeilad. Mae hyn yn cynnwys adeiladau awyr agored sydd â simnai hefyd, fel hafotai
- prynu neu werthu tanwydd anawdurdodedig i'w ddefnyddio mewn ardal rheoli mwg oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn offer 'esempt' (offer sydd wedi'i gymeradwyo i'w defnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg)
Y darnau perthnasol o ddeddfwriaeth yw Deddf Aer Glân 1993 a Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 ('y ddeddfwriaeth’).
Pa danwydd ellir ei ddefnyddio mewn ardal rheoli mwg?
Gall cartrefi a busnesau losgi'r tanwydd canlynol mewn ardal rheoli mwg:
- Tanwydd 'di-fwg': glo carreg, glo carreg rhannol, nwy a glo stêm anweddol isel.
- Tanwydd solet awdurdodedig/ardystiedig a weithgynhyrchwyd, y gallwch ddod o hyd iddo ar y wefan ganlynol: Authorised/Certified Fuels – Clean Air Act Data Entry System
- Pren sych, ond dim ond wrth ddefnyddio offer esempt priodol. Ni ellir llosgi pren mewn lle tân agored mewn ardal rheoli mwg. Gallwch wirio a yw'ch offer wedi'i eithrio trwy chwilio ar y wefan ganlynol: Exempt Appliances – Clean Air Act Data Entry System. Dim ond y mathau o danwydd y mae'r gwneuthurwr yn dweud y gellir eu defnyddio yn yr offer y cewch chi eu defnyddio.
Sut i greu ardal rheoli mwg newydd
Gallwch ddatgan bod y cyfan neu unrhyw ran o'ch awdurdod yn ardal rheoli mwg. Cyn creu gorchymyn rheoli mwg, rhaid i chi ymgynghori ar eich cynigion gyda'r rhai yr effeithir arnynt gan y newid ac ystyried unrhyw sylwadau cyn bwrw ymlaen. Gallwch ddewis gwneud gwaharddiadau wrth greu gorchymyn rheoli mwg, fel math o le tân neu adeilad.
Er nad yw wedi'i gwmpasu gan y ddeddfwriaeth, byddem yn argymell eich bod yn cynnal dadansoddiad o fanteision ac effeithiau creu ardal rheoli mwg hefyd. Gallai'r dadansoddiad hwn gynnwys pethau fel nifer y cartrefi a'r busnesau yr effeithir arnynt, faint o eiddo sydd ddim yn cydymffurfio o bosibl adeg cyflwyno’r ardal neu pa mor gadarnhaol y gallai'r effaith ar ansawdd aer lleol fod. Byddai angen ystyried costau'r dadansoddiad hwn yn eich penderfyniad.
Mae camau penodol y mae'n rhaid i chi eu dilyn, fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Mae canllawiau ar gael o dan Creu, amrywio neu ddirymu ardal rheoli mwg.
Sut i amrywio gorchymyn rheoli mwg presennol
Cewch amrywio gorchymyn presennol, er enghraifft, i ymestyn ei ffiniau neu i eithrio adeiladau penodol. Mae'n rhaid i chi ymgynghori ar eich cynigion gyda'r rhai yr effeithir arnynt gan y newid ac ystyried unrhyw sylwadau cyn bwrw ymlaen.
Mae canllawiau manwl ar gael o dan Creu, amrywio neu ddirymu Ardal Rheoli Mwg.
Sut i ddirymu gorchymyn rheoli mwg presennol
Cewch ddirymu gorchymyn rheoli mwg presennol, er enghraifft os ydych am ei ddisodli gydag un gorchymyn rheoli mwg i gwmpasu'ch awdurdod cyfan. Mae'n rhaid i chi ymgynghori ar eich cynigion gyda'r rhai yr effeithir arnynt gan y newid, ond mae'r rheolau ychydig yn wahanol ar gyfer gorchmynion hŷn. Os gwnaed eich gorchymyn ar neu ar ôl 13 Tachwedd 1980, gellir codi gwrthwynebiadau'n uniongyrchol gyda'r awdurdod lleol. Os cafodd ei wneud cyn 13 Tachwedd 1980, rhaid gwneud gwrthwynebiadau'n uniongyrchol i Weinidogion Cymru a byddant yn penderfynu a oes angen ymchwiliad lleol neu gyfarfod gyda pherson priodol. Mae'n rhaid i chi ystyried unrhyw wrthwynebiadau cyn i chi fwrw ymlaen â'r dirymiad.
Mae canllawiau manwl ar gael o dan Creu, amrywio neu ddirymu ardal rheoli mwg.
Sut i orfodi'r sancsiynau sifil?
Yn y mwyafrif helaeth o achosion, os yw person yn llosgi tanwydd awdurdodedig neu'n defnyddio offer esempt yna ni fydd mwg yn cael ei ollwng ac felly ni ellir rhoi cosb sifil. Os bydd mwg yn cael ei allyrru yna byddwch yn gallu gweithredu ond nid oes rhaid i chi wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen ffeithiau Sancsiynau Sifil.
Mae angen i chi gasglu tystiolaeth ffotograffig neu fideo o fwg yn cael ei allyrru o simnai. Gall hyn gael ei gofnodi’n uniongyrchol gan eich swyddogion neu o dystiolaeth a gyflwynir gan ddinasyddion. Er mwyn hwyluso hyn, efallai y byddwch am ddarparu'r swyddogaeth hon ar eich gwefan. Mae'n rhaid i chi ddarparu'r dystiolaeth hon wrth orfodi'r ddeddfwriaeth.
Rydym yn argymell eich bod yn mabwysiadu dull sy'n cael ei arwain gan gyngor a defnyddio hwn fel eich opsiwn cyntaf bob amser, i godi ymwybyddiaeth o sut mae llosgi tanwydd solet domestig yn cyfrannu at ansawdd aer gwael yng Nghymru a sut y gall effeithio'n andwyol ar iechyd y preswylwyr a'u cymdogion. Ystyriwch rannu enghreifftiau o arfer gorau neu ddulliau newid ymddygiad eraill i hysbysu preswylwyr am beryglon arferion llosgi gwael a'r niwed y gall hyn ei wneud i'w hiechyd a lles eu hunain a'u cymdogion.
Mae templedi ar gael i chi eu hanfon at breswylwyr a busnesau wrth orfodi'r ddeddfwriaeth.
A oes rhaid i awdurdod lleol gynnig cymorth ariannol wrth greu gorchymyn rheoli mwg newydd?
Yn y rhan fwyaf o achosion, nac oes. Cafodd y ddarpariaeth ar gyfer ad-dalu costau addasu ar gyfer cartrefi cyn 1964 ei dileu o'r ddeddfwriaeth gan Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Mae dwy adran o Ddeddf Aer Glân 1993 yn ymwneud â chostau addasu wedi cael eu cadw. Mae adran 24 yn ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu costau addasu lle rydych wedi gofyn yn benodol am y gwaith a gallwch adennill cyfran o'r costau hyn gan Weinidogion Cymru. Mae adran 26 yn rhoi'r pŵer dewisol i chi dalu am addasiadau i adeiladau crefyddol ac elusennol.
Beth yw'r rheolau ar gyfer gwerthu a phrynu tanwydd mewn ardal rheoli mwg?
Mae'n anghyfreithlon gwerthu a phrynu tanwyddau anawdurdodedig i'w defnyddio lle mae gorchymyn rheoli mwg ar waith, oni bai ei fod ar gyfer offer esempt, mewn adeilad, lle tân, neu foeler sefydlog / cyfarpar diwydiannol sefydlog. Mae'r rhestr o fathau awdurdodedig o danwydd yng Nghymru i'w gweld ar y wefan ganlynol: Authorised/Certified Fuels – Clean Air Act Data Entry System.
I'r prynwr, mae uchafswm o £100 o ddirwy. I'r manwerthwr, bydd y llys yn penderfynu ar lefel y ddirwy. Dylech wirio hefyd bod manwerthwyr yn cymryd camau i hysbysu cwsmeriaid am y rheolau hyn.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y daflen ffeithiau ar gaffael a gwerthu tanwydd anawdurdodedig.
A yw llongau wedi'u cynnwys yn y ddeddfwriaeth?
Na, nid yw'r ddeddfwriaeth yn cynnwys llongau yng Nghymru.
A oes ffyrdd eraill o gyfleu'r neges?
Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol, rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i'ch Cofrestrfa Tir am eich ardaloedd rheoli mwg. Bydd hyn yn helpu i gyfleu bodolaeth gorchmynion rheoli mwg trwy chwiliadau cyfreithiwr ar gyfer pryniannau tir neu adeiladau arfaethedig.
