Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2025

Camau i’w cymryd: Ymatebion erbyn 22 Hydref 2025

Trosolwg

Diben yr ymgynghoriad hwn, sy'n cael ei gynnal yng Nghymru yn unig, yw gofyn am eich barn ar ddiwygiadau arfaethedig i’r ddogfen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru ("y cod”).

Cyhoeddir y cod diwygiedig o dan adran 45AB o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990") mewn perthynas â chasglu gwastraff ar wahân o dan adran 45AA o'r Ddeddf honno.

Cyn cyhoeddi cod diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r personau hynny sy'n briodol yn eu barn nhw, yn unol ag adran 45AB(4) o Ddeddf 1990. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn unol â'r ddyletswydd honno.

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn llywio'r gwaith o ddrafftio diwygiadau terfynol i'r cod a'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023.

Sut i ymateb

Llenwch yr holiadur ar-lein neu'r holiadur ar ddiwedd y ddogfen. Gellir cyflwyno ymatebion drwy e-bost neu drwy'r post i'r cyfeiriadau isod erbyn 22 Hydref 2025.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: cod ymarfer Cymru 

Cynyddu ailgylchu gan fusnesau

Manylion cysylltu

E-bost: 
YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru, neu 
RecyclingReformsConsultations@gov.wales 

Post: 

Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau a'r Economi Gylchol 
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron 
Caerdydd 
CF10 3NQ

This document is also available in English.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)). 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Lle y bo Llywodraeth Cymru’n ymgymryd â gwaith dadansoddi pellach ar ymatebion yr ymgynghoriad, yna mae’n bosibl y bydd y gwaith hwn yn cael ei gomisiynu i’w gynnal gan drydydd parti awdurdodedig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghoriaeth). Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Nod a chwmpas yr ymgynghoriad hwn

Diben yr ymgynghoriad hwn, sy'n cael ei gynnal yng Nghymru yn unig, yw gofyn am eich barn ar ddiwygiadau arfaethedig i’r ddogfen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru ("y cod”). Mae’r diwygiadau arfaethedig i'r cod:

  • yn adlewyrchu diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 i weithredu'r ymrwymiad yr ymgynghorwyd arno yn flaenorol i gyflwyno gofyniad ar safleoedd annomestig i gyflwyno cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach ("sWEEE") i'w gasglu ar wahân erbyn mis Ebrill 2026. Ar hyn o bryd, dim ond sWEEE heb ei werthu y mae'n rhaid ei wahanu. Gan ein bod eisoes wedi ymgynghori ar y polisi hwn ac ymrwymo iddo, mae y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. Felly, rydym yn gofyn am eich barn ar y newidiadau sy'n angenrheidiol i'r cod i adlewyrchu'r gofyniad newydd hwn yn unig. Mae'r diwygiadau i'r cod wedi'u gwneud yn seiliedig ar y disgwyliad y bydd y rheoliadau diwygio arfaethedig yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd
  • yn cynnwys mân ddiweddariadau o fewn cwmpas y polisi gwreiddiol i wella eglurder a chysondeb yn dilyn adborth ers gweithredu'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle ym mis Ebrill 2024

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn llywio'r gwaith o ddrafftio diwygiadau terfynol i'r cod a'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023.

Cefndir: y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle presennol

Y "Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle" yw'r enw cyfunol a roddir i'r tri rheoliad a roddodd effaith i gyfres o ddiwygiadau i wahanu, casglu a gwaredu gwastraff o eiddo annomestig. Mae'r rheoliadau perthnasol wedi'u rhestru isod, a daethant i rym ar 6 Ebrill 2024:

Darperir crynodeb o'r gofynion gwahanu o dan Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 (testun y cod) isod: 

  • ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid safleoedd annomestig (gan gynnwys busnesau, elusennau a chyrff y sector cyhoeddus) roi deunyddiau ailgylchadwy penodedig allan i'w casglu wedi'u gwahanu oddi wrth ei gilydd ac wedi'u gwahanu oddi wrth wastraff gweddilliol
  • ei gwneud yn ofynnol i’r rheini sy’n casglu’r deunyddiau eu casglu mewn casgliadau ar wahân a’u cadw ar wahân

Ar hyn o bryd, y deunyddiau ailgylchadwy penodedig y mae’n ofynnol eu cyflwyno ar wahân yw:  

  • gwydr
  • plastigau a metelau, cartonau a phecynnau cyfansawdd plastig ffeibr eraill o gyfansoddiad tebyg
  • papur a cherdyn
  • gwastraff bwyd (ar gyfer safleoedd sy'n cynhyrchu mwy na 5 cilogram yr wythnos)
  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu, a
  • thecstilau heb eu gwerthu   

Cefndir: diwygiadau arfaethedig i'r gofynion gwahanu

Cynigiodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, a gynhaliwyd yn 2019, y dylid ei gwneud yn ofynnol i safleoedd annomestig gyflwyno cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach ("sWEEE") ar wahân i'w gasglu a'i ailgylchu. Fodd bynnag, fe wnaeth ymgynghoriad dilynol a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023 ymgynghori ar gynnig diwygiedig i gyflwyno'r gofynion gwahanu a chasglu ar gyfer sWEEE hyd at ddwy flynedd ar ôl y dyddiad dod i rym gwreiddiol (h.y. erbyn mis Ebrill 2026). Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd mewn Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig y byddai Gweinidogion Cymru yn bwrw ymlaen â'r cynnig hwn. Ar hyn o bryd, dim ond sWEEE heb ei werthu y mae'n rhaid ei wahanu.

Felly, mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu diwygio, drwy reoliadau newydd, Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 i gyflwyno'r ymrwymiad hwn yr ymgynghorwyd arno eisoes.

Yn amodol ar y rheoliadau diwygio arfaethedig yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, o 6 Ebrill 2026 ymlaen, y deunyddiauailgylchadwy penodedig y mae’n ofynnol eu cyflwyno ar wahân fydd:  

  • gwydr
  • plastigau a metelau, cartonau a phecynnau cyfansawdd plastig ffeibr eraill o gyfansoddiad tebyg 
  • papur a cherdyn
  • gwastraff bwyd (ar gyfer safleoedd sy'n cynhyrchu mwy na 5 cilogram yr wythnos) 
  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach heb ei werthu, a
  • thecstilau heb eu gwerthu  

Darperir yr ymgynghoriadau blaenorol y cyfeirir atynt isod at ddibenion cyfeirio:

Diwygiadau arfaethedig i'r cod i ymgynghori arnynt

Mae cod diwygiedig drafft yn cyd-fynd â'r ddogfen ymgynghori hon. 

Newid arfaethedig i'r cod i gynnwys sWEEE 

Mae'r cod cyfan wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 fel y bydd yn ofynnol i safleoedd annomestig gyflwyno sWEEE ar wahân i'w gasglu a'i ailgylchu o 6 Ebrill 2026 ymlaen. Ar hyn o bryd, dim ond sWEEE heb ei werthu y mae'n rhaid ei wahanu. 

Mae'r disgrifiad diwygiedig arfaethedig o'r ffrwd wastraff hon o fewn Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 a'r cod fel a ganlyn:

  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach

Yn unol â hynny, mae cyfeiriadau yn y cod at sWEEE 'heb ei werthu' wedi'u dileu. Bydd y disgrifiad hwn yn cwmpasu sWEEE heb ei werthu. 

Diwygiadau arfaethedig i atodiadau'r cod 

Mae Atodiadau 1 i 6 o'r cod yn darparu rhestrau o'r is-ffracsiynau y dylid ac na ddylid eu gosod o fewn y chwe ffrwd wastraff ailgylchadwy benodedig; papur a cherdyn; cartonau, metel a phlastig; gwydr; bwyd; sWEEE a thecstilau heb eu gwerthu. 

Disgwylir i'r is-ffracsiynau a restrir yn yr atodiadau hyn esblygu a newid dros amser yn seiliedig ar adborth rhanddeiliaid arbenigol, cyflwyno deunyddiau pecynnu newydd, gwelliannau i dechnolegau ailgylchu ac i ddarparu ar gyfer y gallu i ryngweithredu â mecanweithiau deddfwriaethol eraill. 

O fewn y ffrwd wastraff ailgylchadwy cartonau, metelau a phlastigau, mae adborth gan randdeiliaid wedi nodi nad yw polypropylen ymestynedig yn cael ei wahanu'n hawdd nac yn rheolaidd oddi wrth is-ffracsiynau eraill o fewn y ffrwd wastraff hon ar hyn o bryd, felly nid yw'r deunydd hwn yn cael ei ailgylchu'n aml na'i ailgylchu ar raddfa fawr ar hyn o bryd.

Felly, rydym yn cynnig diwygio Atodiad 2 o'r cod i gael gwared ar bolypropylen ymestynedig fel deunydd y dylid ei roi yn y ffrwd wastraff ailgylchadwy cartonau, metel a phlastig. Byddai cael gwared ar bolypropylen ymestynedig o Atodiad 2 hefyd yn gofyn am ddiwygiad i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023.

Yn ogystal, mae rhanddeiliaid wedi gofyn am eglurder ynghylch a ddylid rhoi deunydd pecynnu pothell a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer deunydd fferyllol a thabledi eraill yn y ffrwd wastraff ailgylchadwy cartonau, metel a phlastig. Gan nad yw deunydd pecynnu pothell yn cael ei ailgylchu'n aml, ac oherwydd bod angen ei ailbrosesu mewn modd arbenigol, rydym yn cynnig ychwanegu 'deunydd pecynnu pothell a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer deunydd fferyllol a thabledi eraill sy'n cynnwys ceudodau neu bocedi plastig wedi'u rhagffurfio sydd wedi'u selio fel arfer â sêl caead wedi'i wneud o ffoil alwminiwm neu ffilm blastig' fel is-ffracsiwn na ddylid ei roi yn y ffrwd wastraff ailgylchadwy cartonau, metel a phlastig. 

Diweddariadau arfaethedig i'r cod i roi eglurder ychwanegol ynghylch eitemau gwastraff ailgylchadwy y gellir eu hystyried yn wastraff peryglus o dan Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005.

Ni ddylid cyflwyno i'w gasglu gwastraff sydd wedi'i gategoreiddio fel gwastraff peryglus o dan reoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 neu sy'n cynnwys gweddillion gwastraff neu sylweddau sydd wedi'u categoreiddio fel rhai peryglus neu sydd wedi'u halogi gan wastraff neu sylweddau o’r fath o dan reoliad 6 o’r rheoliadau hynny yn unrhyw un o'r ffrydiau gwastraff ailgylchadwy. Yn hytrach, dylid eu trin yn unol â Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Gwneir hyn yn glir ym mharagraffau 4.18 a 6.8 yn y fersiwn gyfredol o'r cod.

Rydym wedi diweddaru'r adrannau hyn o'r cod i dynnu sylw at y ffaith mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw rheoleiddiwr y gyfundrefn wastraff peryglus yng Nghymru, yn ogystal â chynnwys dolen i ganllawiau ar wahân a allai helpu darllenwyr y cod i weld a yw eu gwastraff yn wastraff peryglus, neu'n cynnwys gwastraff peryglus, a beth i'w wneud os ydynt wedi asesu eu gwastraff ac yn ansicr a yw'n cael ei ddosbarthu fel gwastraff peryglus. 

Enghreifftiau o weithleoedd defnydd cymysg

Yn adran 5, mae'r cod yn darparu canllawiau ar yr ystyriaethau y gall gweithle eu harchwilio i nodi a oes rhaid iddynt gydymffurfio â'r gofynion gwahanu. Nodir yn glir fod enghreifftiau o safleoedd annomestig at ddibenion enghreifftiol yn unig. 

Yn dilyn adborth rhanddeiliaid, rydym wedi cynnig dileu'r ddwy enghraifft o safleoedd defnydd cymysg posibl ym mharagraff 5.5 gan nad oedd y rhain yn cael eu hystyried yn angenrheidiol nac yr enghreifftiau gorau yn y cyd-destun hwn. O ystyried y rhestr ehangach o ffyrdd o helpu pobl i bennu a oes rhaid iddynt ddilyn y gofynion gwahanu, rydym o'r farn nad oes angen unrhyw enghreifftiau.

Nid yw ysbytai yn esempt mwyach o'r gofynion gwahanu

Cafodd ysbytai esemptiad o ddwy flynedd o'r gofynion gwahanu yn Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, a fydd yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd 5 Ebrill 2026. Felly, o 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd rhaid i ysbytai gydymffurfio â'r gofynion gwahanu. Mae'r cod wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu hyn.

Nid yw'r esemptiad hwn ar gyfer ysbytai yn bolisi newydd ac mae y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. Nid yw'r ymgynghoriad ond yn gofyn am farn ynghylch a yw'r cod yn ei gwneud yn glir na fydd yr esemptiad hwn yn berthnasol mwyach o 6 Ebrill 2026 ymlaen. 

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Dylid darllen y cwestiynau hyn ar y cyd â'r adran "Diwygiadau arfaethedig i'r cod i ymgynghori arnynt" uchod

Cwestiwn 1: Nodwch pa sector rydych chi'n ei gynrychioli:

i) Busnes
ii) Sefydliad trydydd sector
iii) Sefydliad sector cyhoeddus
iv) Gwasanaeth casglu gwastraff Awdurdod Lleol
v) Cwmni rheoli gwastraff (e.e. casglwr gwastraff preifat, triniwr neu ailbrosesydd gwastraff, gweithredwyr cyfleusterau llosgi a chydlosgi, gweithredwr cyfleusterau tirlenwi)
vi) Dim un o'r uchod (nodwch)

Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE)

Mae'r cod wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r diwygiad arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 i gynnwys sWEEE o 6 Ebrill 2026 ymlaen. 

Mae'r disgrifiad arfaethedig o'r ffrwd wastraff hon o fewn Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023 a'r cod fel a ganlyn:

  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach

Yn unol â hynny, mae cyfeiriadau yn y cod at sWEEE 'heb ei werthu' wedi'u dileu. 

Cwestiwn 2: Ydych chi'n fodlon ei bod yn ddigon clir o fewn y cod fod sWEEE o safleoedd annomestig bellach yn ddarostyngedig i'r gofynion gwahanu? 

i) Bodlon iawn
ii) Gweddol fodlon
iii) Ddim yn fodlon nac yn anfodlon
iv) Anfodlon

Eitemau gwastraff ailgylchadwy y gellir eu hystyried yn beryglus o dan Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Rydym wedi diweddaru adrannau 4.18 a 6.8 o'r cod i dynnu sylw at y ffaith mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw rheoleiddiwr y gyfundrefn gwastraff peryglus yng Nghymru, yn ogystal â chynnwys dolen i ganllawiau ar wahân a allai helpu darllenwyr y cod i nodi a yw eu gwastraff yn wastraff peryglus, neu'n cynnwys gwastraff peryglus, a beth i'w wneud os ydynt wedi asesu eu gwastraff ac yn ansicr a yw'n cael ei ddosbarthu fel gwastraff peryglus. 

Cwestiwn 3. Ydych chi'n fodlon bod y diweddariadau a wnaed i baragraffau 4.18 a 6.8 o'r cod yn ddigon clir?

i) Bodlon iawn
ii) Gweddol fodlon
iii) Ddim yn fodlon nac yn anfodlon
iv) Anfodlon

Enghreifftiau o weithleoedd defnydd cymysg

 Yn dilyn adborth rhanddeiliaid, rydym wedi cynnig dileu'r ddwy enghraifft o eiddo defnydd cymysg posibl ym mharagraff 5.5 gan nad oedd y rhain yn cael eu hystyried yn angenrheidiol nac yr enghreifftiau gorau yn y cyd-destun hwn. O ystyried y rhestr ehangach o ffyrdd o helpu pobl i bennu a oes rhaid iddynt ddilyn y gofynion gwahanu, rydym o'r farn nad oes angen unrhyw enghreifftiau.

Cwestiwn 4. Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gael gwared ar y ddwy enghraifft benodol o weithleoedd defnydd cymysg ym mharagraff 5.5?

  1. Ydw
  2. Nac ydw
  3. Dim barn

Nid yw ysbytai yn esempt mwyach o'r gofynion gwahanu

Rhoddwyd esemptiad o ddwy flynedd i ysbytai o'r gofynion gwahanu yn Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, a fydd yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd 5 Ebrill 2026. Felly, o 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd rhaid i ysbytai gydymffurfio â'r gofynion gwahanu. Mae'r cod wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu hyn.

Cwestiwn 5. Ydych chi'n fodlon bod y ffaith bod yr esemptiad ar gyfer ysbytai yn dod i ben wedi'i esbonio'n glir yn y cod? 

i) Bodlon iawn
ii) Gweddol fodlon
iii) Ddim yn fodlon nac yn anfodlon
iv) Anfodlon

Diwygiadau i'r rhestr o is-ffracsiynau gwastraff

Cwestiwn 6: Ydych chi'n cytuno y dylid ychwanegu deunydd pecynnu pothell (fel y’i disgrifir uchod) at y rhestr o is-ffracsiynau na ddylid eu rhoi yn y ffrwd wastraff ailgylchadwy cartonau, metel a phlastig a geir yn Atodiad 2? 

i) Ydw 
ii) Nac ydw 
iii) Dim barn

Cwestiwn 7: Ydych chi'n fodlon bod y disgrifiad o ddeunydd pecynnu pothell a ddefnyddir yn y cod, sef deunydd pecynnu a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer deunydd fferyllol a thabledi eraill sy'n cynnwys ceudodau neu bocedi plastig wedi'u rhagffurfio sydd fel arfer wedi'u selio â sêl caead wedi'i wneud o ffoil alwminiwm neu ffilm blastig, yn ddigon clir? 

i) Bodlon iawn
ii) Gweddol fodlon
iii) Ddim yn fodlon nac yn anfodlon
iv) Anfodlon

Cwestiwn 8: Ydych chi'n cytuno y dylid cael gwared ar bolypropylen ymestynedig o'r rhestr o is-ffracsiynau y dylid eu rhoi yn y ffrwd wastraff ailgylchadwy cartonau, metel a phlastig a geir yn Atodiad 2? 

i) Ydw
ii) Nac ydw
iii) Dim barn

Cwestiwn 9: Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y diweddariadau arfaethedig i'r cod ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 10: Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid y diweddariadau arfaethedig i'r cod fel eu bod yn:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu'n
  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 11: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i roi gwybod amdanynt.

Y camau nesaf

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn llywio'r gwaith o ddrafftio diwygiadau terfynol i'r cod a'r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023. Bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.