Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’)

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Mae'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig yn galluogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir ac eraill i weithio gyda'i gilydd ar lefel tirwedd, dalgylch neu ar draws Cymru i:

  • gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy
  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
  • cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu, a
  • gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, annog mynediad y cyhoedd iddyn nhw ac i ymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni

5. Diben y cynllun

Cyflwynir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a'r sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith hyblyg o gymorth o dan yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ('y Ddeddf Amaethyddiaeth’). Bydd disgwyl i brosiectau gyflawni ystod o gamau gweithredu ar fferm gan gynnwys: 

  • plannu coed a sefydlu trefniadau rheoli coetir
  • adfer a chreu perthi (gwrychoedd)
  • cael gwared ar Rywogaethau Estron Goresgynnol a'u dileu
  • ymyriadau i reoli perygl llifogydd yn naturiol
  • gwella a chreu gwlyptiroedd trwy fesurau ail-wlychu a chynnal pyllau, llynnoedd, gwelyau cyrs a ffeniau
  • gwella a chreu cynefinoedd glan afon ac adfer afonydd
  • gwella cynefinoedd a mawndiroedd heb eu hamgáu ar yr ucheldir
  • gwella a chreu cynefinoedd ar lawr gwlad
  • gwella a chreu glaswelltiriedd amrywiol - cynyddu amrywiaeth mewn glaswelltir sydd wedi'i wella a chyflwyno gwyndwn amlrywogaeth, adfer gweirgloddiau traddodiadol, creu lleiniau a stribedi ar gyfer adar gwyllt, bywyd gwyllt a phryfed peillio
  • adfer ffiniau traddodiadol, waliau cerrig, cloddiau a ffensys llechi
  • gwella mynediad at gefn gwlad drwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd
  • mesurau sydd wedi’u targedu i helpu i adfer neu ailgyflwyno rhywogaethau bywyd gwyllt penodol, sef y rheini a restrir yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 - Cynefinoedd a Rhywogaethau o'r Pwysigrwydd Pennaf i Gymru, megis creu neu sefydlu cynefinoedd nythu neu fwydo, gan gynnwys mesurau i reoli ysglyfaethu na ellir ei osgoi i helpu’r rhywogaethau hynny fel rhan o’r gweithredoedd ar lefel tirwedd.
  • mesurau wedi'u targedu i wella ansawdd dŵr ac iechyd y pridd trwy leihau llygredd amaethyddol, lleihau'r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr trwy reoli plâu a maetholion mewn ffordd integredig

Heb y cymhorthdal, ni fyddai llawer o egwyddor y polisi ac amcan y cynllun yn cael eu cyflawni a byddai cynefinoedd a bywyd gwyllt yn cael eu colli.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig.

8. Sectorau i’w cefnogi

  • Gweithgareddau gweinyddol a chymorth gwasanaeth
  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  • Y celfyddydau, adloniant a hamdden
  • Addysg

9. Hyd y cynllun

19 Rhagfyr 2024 i 31 Mawrth 2028.

10. Y gyllideb cymorth o dan y Cynllun

£10,000,000

11. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu ar ffurf grantiau.

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Rhaid i bob ymgeisydd ddangos cymhwysedd drwy gyfres o gwestiynau prawf o fewn y ffurflen gais i ddangos eu bod yn ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir neu weithwyr sectorau gwledig cysylltiedig.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae cost safonol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithgaredd/eitem fel rhan o gynlluniau cyfredol, ac os yw’r gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar dir y mae unigolyn yn berchen arno neu’n ei reoli, bydd prosiect y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig yn cael ei gynnig ar y costau safonol hynny.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

Bydd y cam cyflawni prosiect y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig ar gael ar gyfer rhwng £250,000 a £1,000,000.

15. Manylion cyswllt

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image