Y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11324 - cynllun i gefnogi cynhyrchu bwyd gwyrdd ac atal newid yn yr hinsawdd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (‘y Ddeddf Amaethyddiaeth’)
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Mae'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig yn galluogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir ac eraill i weithio gyda'i gilydd ar lefel tirwedd, dalgylch neu ar draws Cymru i:
- gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy
- lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
- cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu, a
- gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, annog mynediad y cyhoedd iddyn nhw ac i ymwneud â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso’r defnydd ohoni
5. Diben y cynllun
Cyflwynir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a'r sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith hyblyg o gymorth o dan yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a amlinellir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 ('y Ddeddf Amaethyddiaeth’). Bydd disgwyl i brosiectau gyflawni ystod o gamau gweithredu ar fferm gan gynnwys:
- plannu coed a sefydlu trefniadau rheoli coetir
- adfer a chreu perthi (gwrychoedd)
- cael gwared ar Rywogaethau Estron Goresgynnol a'u dileu
- ymyriadau i reoli perygl llifogydd yn naturiol
- gwella a chreu gwlyptiroedd trwy fesurau ail-wlychu a chynnal pyllau, llynnoedd, gwelyau cyrs a ffeniau
- gwella a chreu cynefinoedd glan afon ac adfer afonydd
- gwella cynefinoedd a mawndiroedd heb eu hamgáu ar yr ucheldir
- gwella a chreu cynefinoedd ar lawr gwlad
- gwella a chreu glaswelltiriedd amrywiol - cynyddu amrywiaeth mewn glaswelltir sydd wedi'i wella a chyflwyno gwyndwn amlrywogaeth, adfer gweirgloddiau traddodiadol, creu lleiniau a stribedi ar gyfer adar gwyllt, bywyd gwyllt a phryfed peillio
- adfer ffiniau traddodiadol, waliau cerrig, cloddiau a ffensys llechi
- gwella mynediad at gefn gwlad drwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd
- mesurau sydd wedi’u targedu i helpu i adfer neu ailgyflwyno rhywogaethau bywyd gwyllt penodol, sef y rheini a restrir yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 - Cynefinoedd a Rhywogaethau o'r Pwysigrwydd Pennaf i Gymru, megis creu neu sefydlu cynefinoedd nythu neu fwydo, gan gynnwys mesurau i reoli ysglyfaethu na ellir ei osgoi i helpu’r rhywogaethau hynny fel rhan o’r gweithredoedd ar lefel tirwedd.
- mesurau wedi'u targedu i wella ansawdd dŵr ac iechyd y pridd trwy leihau llygredd amaethyddol, lleihau'r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr trwy reoli plâu a maetholion mewn ffordd integredig
Heb y cymhorthdal, ni fyddai llawer o egwyddor y polisi ac amcan y cynllun yn cael eu cyflawni a byddai cynefinoedd a bywyd gwyllt yn cael eu colli.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig.
8. Sectorau i’w cefnogi
- Gweithgareddau gweinyddol a chymorth gwasanaeth
- Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
- Y celfyddydau, adloniant a hamdden
- Addysg
9. Hyd y cynllun
19 Rhagfyr 2024 i 31 Mawrth 2028.
10. Y gyllideb cymorth o dan y Cynllun
£10,000,000
11. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu ar ffurf grantiau.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Rhaid i bob ymgeisydd ddangos cymhwysedd drwy gyfres o gwestiynau prawf o fewn y ffurflen gais i ddangos eu bod yn ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir neu weithwyr sectorau gwledig cysylltiedig.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae cost safonol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithgaredd/eitem fel rhan o gynlluniau cyfredol, ac os yw’r gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar dir y mae unigolyn yn berchen arno neu’n ei reoli, bydd prosiect y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig yn cael ei gynnig ar y costau safonol hynny.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
Bydd y cam cyflawni prosiect y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig ar gael ar gyfer rhwng £250,000 a £1,000,000.
15. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn:
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
