Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf lansio ymgynghoriad ar Casglu Deunyddiau Gwastraff ar wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru, sy'n darparu canllawiau ar sut i gydymffurfio â'r gofynion gwahanu ailgylchu yn y gweithle. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o'r cam nesaf ar gyfer y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle. Mae'r rheoliadau, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024, yn rhan hanfodol o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng hinsawdd a natur. Trwy ddargyfeirio deunyddiau ailgylchadwy gwerthfawr o safleoedd tirlenwi a llosgi a'u cadw a'u dychwelyd i'r economi yn lle hynny, rydym wedi gosod sylfeini ar gyfer economi gryfach a gwyrddach fel yr ymrwymwyd iddi yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddiwygiadau arfaethedig i'r Cod Ymarfer sy'n adlewyrchu diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, un o'r tri offeryn statudol sy'n ffurfio'r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle. Mae'r diwygiadau yn gweithredu'r ymrwymiad i gyflwyno gofyniad i weithleoedd gyflwyno cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) ar wahân i'w gasglu a’i ailgylchu ymhellach o 6 Ebrill 2026. Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i weithleoedd wahanu sWEEE heb ei werthu yn unig. 

Mae'r diwygiad arfaethedig hwn yn rhan o'r dull graddol ar gyfer y diwygiadau ailgylchu yn y gweithle yr ymgynghorwyd arnynt yn 2019 ac yn 2022/23. Bydd y cam nesaf yn gweld gofynion ar gyfer tecstiliau a ffilm blastig yn cael eu cyflwyno'n raddol erbyn Ebrill 2027. Mae mân ddiweddariadau eraill i'r cod o fewn cwmpas y polisi gwreiddiol wedi'u gwneud i adlewyrchu bod esemptiad ar gyfer ysbytai wedi dod i ben ac i wneud gwelliannau er eglurder a chysondeb yn dilyn adborth ers i'r rheoliadau ddod i rym ym mis Ebrill 2024.

Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr elfen sWEEE o'r diwygiadau hyn, y disgwylir iddo leihau CO2 e o 7,400 tunnell, a chynyddu ailgylchu cyfarpar trydanol bach o tua 38,000 tunnell dros 10 mlynedd. Mae casglu sWEEE ar wahân yn creu'r cyfle i adnoddau gwerthfawr gael eu hadfer o'r llif gwastraff hwn a fyddai fel arall yn cael eu colli. Trwy gasglu'r adnoddau hyn y gellir eu defnyddio gan weithgynhyrchwyr yn lle deunyddiau crai newydd, mae hefyd yn golygu ein bod yn defnyddio llai o adnoddau'r ddaear. Casglu'r adnoddau hynny yw un o'r prif resymau am yr argyfwng ym mioamrywiaeth y byd. 

Yn ogystal â manteision amgylcheddol, bydd y polisi yn dod â manteision ehangach. Er enghraifft, disgwylir iddo greu 91 o swyddi newydd yn y sector rheoli gwastraff ac arwain at ostyngiad o ran nifer y tanau gwastraff a achosir gan fatris ïon lithiwm a geir mewn llawer o gyfarpar trydanol bach.

Y gofyniad sWEEE yw cam diweddaraf y diwygiadau ailgylchu yn y gweithle, sydd wedi'u modelu i ddarparu budd net cronnol o £194.6M o Werth Presennol Net dros 10 mlynedd yn sgil y pecyn cyfunol o fesurau.

Mae Cymru eisoes yn 2il yn y byd ar gyfer ailgylchu a thrwy weithredu cam nesaf y diwygiadau ailgylchu yn y gweithle, byddwn yn cymryd cam pwysig arall. Bydd hyn yn golygu bod mwy o ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu dal a bydd yn ei gwneud yn bosibl i hyd yn oed mwy o ddeunyddiau ailgylchu o ansawdd uchel gael eu dal fel y gellir eu defnyddio gan weithgynhyrchwyr Cymru, gan ddatgloi manteision yr economi gylchol a gwneud cam sylweddol arall tuag at Gymru sero net. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Pe bai'r Aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.