Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma'r Cyhoeddiad Cyntaf o amcangyfrifon wedi'u modelu yn dangos nifer yr aelwydydd nad oeddent yn gallu fforddio cadw eu cartref wedi'u gwresogi'n ddigonol yn 2024, ynghyd ag asesiad o effaith bosibl prisiau ynni a chwyddiant ar dlodi tanwydd. Cyhoeddir dadansoddiad manylach ym mis Hydref.

Mae'r prif ffigurau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn dadansoddiad manylach, er mwyn diwallu angen/budd defnyddwyr. Cyhoeddir dadansoddiad manwl ym mis Hydref. Bydd adroddiad methodoleg manwl a dangosfwrdd rhyngweithiol yn cyd-fynd â hyn. Oherwydd gwahaniaethau yn y fethodoleg, ni ellir cymharu amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu 2024 yn uniongyrchol â ffigurau blaenorol, ond mae modd gwneud cymariaethau bras.

Gwybodaeth gefndir

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cyfnodol o'r cynllun trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035. Cyhoeddwyd y cynllun ym mis Mawrth 2021, a chyhoeddwyd yr adolygiad cyntaf ym mis Mehefin 2025. Comisiynwyd amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu 2024 gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) i lywio'r adolygiad ac i helpu i baratoi targedau interim.

Methodoleg

Mae’r amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru wedi'u hailgyfrifo gan BRE i adlewyrchu’r sefyllfa ym mis Hydref 2024, gan ddefnyddio data sylfaen Arolwg o Gyflwr Tai Cymru 2017-18 a modelu newidiadau i incwm aelwydydd a phrisiau tanwydd rhwng 2017 a Hydref 2024. Dewiswyd Hydref 2024 yn bwynt cyfeirio, gan ei fod yn cyd-fynd â'r adolygiadau o'r cap ar brisiau ynni. Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi wedi'u cymhwyso yn unol â'r mesurau sy'n debygol o fod wedi'u gosod yn y stoc dai yn ystod y cyfnod hwnnw[troednodyn 1]. Cyfrifwyd ffigurau 2024 o dan y diffiniad incwm llawn[troednodyn 2] a modelwyd gofynion ynni aelwydydd gan ddefnyddio Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (fersiwn 1.1 BREDEM 2012).

Diffiniadau

Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os na all yr aelwyd honno gadw'r cartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, mesurir hyn fel unrhyw aelwyd a fyddai'n gorfod gwario mwy na 10% o'i hincwm ar gynnal trefn wresogi ddigonol[troednodyn 3]. Diffinnir aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae aelwyd y mae angen iddi wario rhwng 8 a 10% yn cael ei hystyried yn aelwyd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (h.y. maent yn agored i newidiadau cymharol fach mewn incwm neu gostau ynni). 

Diffinnir aelwydydd sy'n agored i niwed fel rheini sy’n gartref i berson 60 oed a throsodd, plentyn neu berson dibynnol o dan 16 oed, person sengl o dan 25 oed a/neu berson sy’n anabl neu sydd â salwch hirdymor. 

Diffinnir aelwyd incwm is fel aelwyd y mae ei hincwm yn llai na 60% o incwm canolrifol aelwydydd yn y DU cyn costau tai fel y'u cyhoeddir yn flynyddol yn adroddiad HBAI[troednodyn 4].

Prif ganlyniadau

Ym mis Hydref 2024

  • Amcangyfrifwyd bod 340,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 25% o aelwydydd.
  • Amcangyfrifwyd bod 63,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol, sy'n cyfateb i 5% o aelwydydd.
  • Amcangyfrifwyd bod 215,000 o aelwydydd mewn perygl o dlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 16% o aelwydydd.
  • Amcangyfrifwyd bod 304,000 o aelwydydd agored i niwed yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 26% o aelwydydd sy'n agored i niwed.
  • Amcangyfrifwyd bod 46,000 o aelwydydd agored i niwed yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol, sy'n cyfateb i 4% o aelwydydd sy'n agored i niwed.
  • Amcangyfrifwyd bod 198,000 o aelwydydd agored i niwed mewn perygl o dlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 17% o aelwydydd sy'n agored i niwed.

Effaith bosibl prisiau ynni

Yn 2024/25, amcangyfrifwyd mai'r bil ynni cyfartalog ar gyfer cartrefi, yn seiliedig ar lefel ddefnydd safonol, oedd £1,850. Mae hyn 37% yn uwch nag yn 2021/22, pan oedd y bil cyfartalog ar gyfer cartrefi yn £1,360 [troednodyn 5]. O ganlyniad, mae mwy o aelwydydd yng Nghymru bellach yn gorfod gwario mwy na 10% o'u hincwm ar filiau ynni, sy'n eu rhoi mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn gadael llai o incwm ar gyfer hanfodion fel bwyd, rhent ac anghenion sylfaenol eraill. Bydd effaith incwm aelwydydd ar dlodi tanwydd yn cael ei dadansoddi ymhellach ym mis Hydref.

Mae'r cynnydd mewn costau ynni yn cael ei achosi yn bennaf gan faterion byd-eang. Bu tarfu ar y cyflenwad ynni byd-eang, mae chwyddiant wedi gwthio prisiau i fyny, ac mae problemau gyda chadwyni cyflenwi wedi ei gwneud hyd yn oed yn ddrutach i gael tanwydd i'r DU. Mae'r ffactorau hyn wedi gwneud biliau ynni yn anrhagweladwy, ac mae llawer o deuluoedd yn cael trafferth ymdopi â'r costau cynyddol.

Effaith bosibl chwyddiant

Mae chwyddiant wedi cynyddu'r costau byw yng Nghymru ers 2021, gan effeithio ar gyllidebau aelwydydd a gwneud hanfodion yn ddrutach. Yn 2021, cyfradd chwyddiant blynyddol y Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr, oedd 2.5%, ond erbyn 2022 roedd wedi cynyddu i 7.9%, wedi'i hysgogi gan brisiau ynni a chostau bwyd cynyddol, a tharfu ar y gadwyn gyflenwi [troednodyn 6]. Er bod chwyddiant wedi lleddfu ychydig yn 2024 i 3.3%, mae'n parhau i fod yn uchel, sy'n golygu bod teuluoedd yn dal i dalu mwy am hanfodion bob dydd nag yn 2021. Mae hyn wedi lleihau pŵer prynu cyflogau a budd-daliadau, gan adael aelwydydd gyda llai o arian i dalu costau ynni cynyddol.

Y camau nesaf

Disgwylir dadansoddiad manwl o'r amcangyfrifon wedi'u modelu hyn ym mis Hydref. Bwriedir:

  • cymharu â gwledydd eraill yn y DU
  • edrych ar dueddiadau dros amser
  • trafod tlodi tanwydd yn ôl nodweddion aelwydydd
  • trafod tlodi tanwydd yn ôl nodweddion anheddau
  • chael trafodaeth fanylach ar y ffactorau sy'n ysgogi tlodi tanwydd; incwm, prisiau tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, a sut y mae'r rhain wedi newid ers i'r amcangyfrifon blaenorol cael eu llunio

Atodiad A: crynodeb o'r fethodoleg

Ceir crynodeb byr isod sy’n cynnwys disgrifiadau o’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru 2024 o dan y diffiniad 10%. Bydd adroddiad methodoleg llawn yn cael ei gyhoeddi ynghyd â dadansoddiad manwl yn yr hydref.

Diffiniadau

Diffinnir bod aelwyd yn dlawd o ran tanwydd os gwnaethant wario mwy na 10% o’u hincwm ar danwydd. Cyfrifir hyn gan ddefnyddio’r hafaliad isod.

Image

Os yw’r gymhareb o’r hafaliad uchod yn fwy na 0.1, diffinnir bod yr aelwyd yn dlawd o ran tanwydd. Caiff cyfanswm y costau tanwydd ar gyfer aelwyd eu modelu gan ddefnyddio trefn wresogi safonol sy’n ystyried faint o arian y byddai angen i’r aelwyd ei wario ar gostau tanwydd er mwyn cyrraedd y safonau sefydledig ar gyfer cysur yn seiliedig ar trefn gwresogi boddhaol. Diffinnir ‘System wresogi foddhaol’ yw 23°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr mewn aelwydydd â phobl hŷn (60 oed neu hŷn) neu anabl (pobl sy’n byw gyda salwch cyfyngus hirdymor). Ar gyfer aelwydydd eraill, ystyrir bod tymheredd o 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am naw awr o bob 24 awr yn ystod yr wythnos, ac 16 awr o bob 24 awr ar benwythnosau yn foddhaol.

Diffinnir aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.

Mae aelwyd y mae angen iddi wario rhwng 8 a 10% yn cael ei hystyried yn aelwyd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (h.y. maent yn agored i newidiadau cymharol fach mewn incwm neu gostau ynni).

Defnyddio data Arolwg Cyflwr Tai Cymru (WHCS) 2017–18

Mae'r data a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer amcangyfrif tlodi tanwydd yn seiliedig ar ffynonellau data hŷn (gan gynnwys Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017–18) sydd wedi cael eu hailseilio gan ddefnyddio data gweinyddol i adlewyrchu safonau byw mwy diweddar. Er bod hwn yn parhau i fod yn ddull cadarn, mae ein hyder yn yr amcangyfrifon yn lleihau wrth inni symud ymhellach o linell sylfaen 2017–18. Mae hyn oherwydd y nifer cynyddol o ragdybiaethau ac addasiadau sydd eu hangen, sy'n cyflwyno ansicrwydd cynyddol. Ar hyn o bryd mae Arolwg Tai newydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2027–28, a fydd yn darparu data crai mwy cyfredol i ategu amcangyfrifon tlodi tanwydd yn y dyfodol a gwella eu cywirdeb a'u dibynadwyedd.

Cyfrifo prif elfennau tlodi tanwydd

Mae tair prif elfen a ddefnyddir i gyfrifo tlodi tanwydd: incwm, prisiau ynni a gofynion ynni. Mae crynodeb isod o’r modd y caiff yr elfennau hyn eu cyfrifo.

Incwm

Mae angen dau ddiffiniad gwahanol o incwm.

Incwm sylfaenol

Caiff hyn ei gyfrifo trwy adio cyfanswm incymau personol pawb yn yr aelwyd (16 oed ac yn hŷn) at ei gilydd, yn ogystal ag unrhyw fudd-dal neu daliadau o ffynhonnell incwm arall y mae’r aelwyd yn eu derbyn (o incwm a enillir, budd-daliadau’r wladwriaeth a chynilion, ac ati) i ddarparu incwm y Brif Uned Budd-daliadau (PBU). Os yw’n berthnasol, caiff incwm o unedau budd-daliadau eraill a’r Taliad Tanwydd Gaeaf (WFP) ei ychwanegu wedyn i roi’r ‘incwm sylfaenol’.

Incwm llawn

Mae hyn yn adeiladu ar ‘incwm sylfaenol’ trwy adio incwm sy'n gysylltiedig â thai, gan gynnwys budd-daliadau tai a Budd-dal Treth Gyngor. Caiff unrhyw Dreth Gyngor sy'n daladwy ei didynnu ohono. Dyma ‘Incwm llawn y cartref’.

Prisiau ynni

Mae elfen pris tanwydd cyfrifiad tlodi tanwydd yn cynhyrchu prisiau tanwydd y gellir eu cyfuno’n rhwydd ag allbynnau gofyniad ynni aelwyd i gynhyrchu costau tanwydd.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth am ddull taliadau nwy a thrydan, ond nid yw’n casglu gwybodaeth am yr union dariff neu gyflenwr. Mae ffynonellau data’r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) yn darparu ‘pris cyfartalog uned’ a ‘chostau cyfartalog sefydlog’ (ffioedd sefydlog) nwy a thrydan ar gyfer rhanbarthau cyflenwi ynni ledled y DU. Wedyn, caiff y cyfuniad o ddata gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, a’r cyhoeddiad Prisiau Ynni Chwarterol [troednodyn 7] a ddarperir gan DESNZ eu cyfuno i gyfrifo ffigur pris tanwydd terfynol. Darperir data arall ar gyfer tanwyddau nad ydynt ar fesurydd o gyhoeddiad Sutherland Tables ac ar gyfer rhai tanwyddau, defnyddir gwerthoedd diofyn SAP 2012 ac maent yn cael eu chwyddo gan ddefnyddio data Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI).

Gofynion ynni

Un o elfennau tlodi tanwydd yw faint o danwydd sydd ei angen i ddarparu ar gyfer anghenion pob aelwyd, ac o gyfuno hyn â phrisiau tanwydd, mae’n cynhyrchu’r bil tanwydd wedi’i fodelu.

O dan y diffiniad tlodi tanwydd, gellir grwpio’r ynni sydd ei angen i wresogi a phweru cartref yn bedwar categori, sef:

  1. Gwresogi gofod: Es (GJ)
  2. Gwresogi dŵr: Ew (GJ)
  3. Goleuadau ac offer: ELA (GJ)
  4. Coginio: Ec (GJ)

Defnyddir methodoleg Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREDEM) [troednodyn 8] i ragfynegi gofynion ynni aelwyd lle mae:

Cyfanswm gofynion ynni aelwyd = ES + EW + ELA + EC

Mae cyfanswm gofynion ynni aelwyd yn cynnwys gwresogi gofod a dŵr (i fodloni safonau diffiniedig), ynni ar gyfer goleuadau ac offer (gan gynnwys gofynion ar gyfer pympiau, ffaniau a chawodydd trydan, ac ynni a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy), ac ynni ar gyfer coginio. Bydd faint o ynni sydd ei angen i wresogi annedd yn dibynnu ar fanyleb yr adeilad, fel lefelau inswleiddio, systemau gwresogi, lleoliad daearyddol yr annedd, a’r math o adeilad. Bydd galw aelwyd am ynni yn dibynnu ar nifer y bobl o fewn yr aelwyd, arferion yr unigolion hyn a’u ffordd o fyw. Defnyddir gwybodaeth o Arolwg Cenedlaethol Cymru ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru i ddarparu manylion am anheddau ac aelwydydd fel ei gilydd. Defnyddir rhagdybiaethau Data SAP gostyngol (RdSAP) i ddelio â data coll a gellir eu gweld yn nogfen gweithdrefn SAP[troednodyn 9]. Dylid nodi bod y ffigurau bellach yn ymgorffori gwerthoedd diwygiedig, sef gwerthoedd-U (U-values) fel y’u cyhoeddwyd yn RdSAP v9.93.

Darperir data ar nodweddion y ddeiliadaeth, a’r rhanbarth, gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Wedyn, bydd Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn darparu gwybodaeth am nodweddion ffisegol y cartref, a ddefnyddir i lywio modelu defnydd ynni aelwydydd ar gyfer tlodi tanwydd, gan gynnwys:

  • gwybodaeth fanwl am y dimensiynau
  • math o annedd a’i hoedran
  • systemau gwresogi a dŵr poeth
  • ffabrig yr annedd ac amlygiad/cysgodi
  • mesurau effeithlonrwydd ynni

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Datganiad cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Rydym wedi gwneud yr ystadegau hyn ar gael mewn modd amserol i ddiwallu anghenion defnyddwyr. Rydym wedi dilyn protocolau perthnasol ar gyfer cyhoeddi'r ystadegau hyn, gan sicrhau nad ydynt wedi cael eu rhannu ond â derbynwyr cymwys cyn eu cyhoeddi.

Ansawdd

Rydym wedi gwneud cyfyngiadau'r data hyn yn glir i ddefnyddwyr (er enghraifft, tynnu sylw at ble na ellir gwneud cymariaethau ar draws amcangyfrifon blaenorol oherwydd methodoleg). Bydd adroddiad ansawdd a methodoleg pellach yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.

Gwerth

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr ystadegau hyn yn hygyrch i ddefnyddwyr, gan ddefnyddio iaith glir a chryno (er enghraifft, rydym wedi ehangu'r sylwadau i gynnwys rhagor o gyd-destun polisi ac economaidd). Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ein Tlodi tanwydd yng Nghymru: dangosfwrdd rhyngweithiol wedi'i ddiweddaru ym mis Hydref.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (WFG)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Yn seiliedig ar dueddiadau o Arolygon Cyflwr Tai blaenorol Cymru, data o Arolwg Tai Lloegr, data defnyddio solar ffotofoltäig, a gwybodaeth am gynlluniau Llywodraeth y DU megis ECO a'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy.

[2] Gweler Atodiad A o Amcangyfrifon Tlodi Tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru: ym mis Hydref 2021 am ddiffiniad.

[3] ‘System wresogi foddhaol’ yw 23°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr mewn aelwydydd â phobl hŷn (60 oed neu hŷn) neu anabl (pobl sy’n byw gyda salwch cyfyngus hirdymor neu sy'n anabl). Ar gyfer aelwydydd eraill, ystyrir bod tymheredd o 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am naw awr o bob 24 awr yn ystod yr wythnos, ac 16 awr o bob 24 awr ar benwythnosau yn foddhaol. Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035 | LLYW.CYMRU

[4Ystadegau incwm aelwydydd sydd islaw'r incwm cyfartalog (HBAI) (Department for Work and Pensions). Dywedir bod aelwyd ag incwm cymharol isel os yw eu hincwm aelwyd cyfwerthedig net yn is na'r trothwy a osodwyd ar 60% o incwm aelwydydd cyfartalog (canolrifol) y DU.

[5Biliau ynni domestig blynyddol (Department for Energy Security and Net Zero). Mae data biliau ynni blynyddol cyfartalog yn seiliedig ar y lefelau defnydd sefydlog (3,400 kWh ar gyfer trydan, 11,200 kWh ar gyfer nwy) wedi dangos anwadalrwydd. 2021/22: £1,360, 2022/23: £2,370, 2023/24: £2,240 a 2024/25: £1850

[6Chwyddiant a mynegeion prisiau (SYG). Y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH) yw'r mesur mwyaf cynhwysfawr o chwyddiant. Mae'n ymestyn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) i gynnwys mesur o'r costau sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar eich cartref eich hun, ei gynnal a'i gadw a byw ynddo, a elwir yn gostau tai perchen-feddianwyr (OOH), ynghyd â'r Dreth Gyngor. Mae'r ddau yn dreuliau sylweddol i lawer o aelwydydd ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y CPI. 

[7] Mae'r data prisiau tanwydd mesurydd a ddefnyddir yn y cyfrifiadau tlodi tanwydd yn deillio o brisiau ynni chwarterol DESNZ, yn nhablau QEP 2.2.4 a QEP 2.3.4. Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau): ym mis Hydref 2021 (troednodyn 10)

[8] Defnyddir methodoleg BREDEM a ddisgrifir yn Henderson J, Hart J, BREDEM 2012 A technical description of the BRE Domestic Energy Model, v1.1, Ionawr 2015.

[9] BRE 2017. Appendix S: Reduced Data SAP for existing dwellings, RdSAP 2012 v9.93. Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau): ym mis Hydref 2021 (troednodyn 12)

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Koe
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 70/2025