Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bydd aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi gosod Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolaethau Mewnforio) (Cymru) 2025, sy'n cyfyngu ar fewnforio nwyddau penodol yn bersonol o wladwriaethau yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ynghyd ag Ynysoedd Ffaro, y Swistir a'r Ynys Las.
Mae hyn wedi disodli y mesurau diogelu tymor byr presennol sydd ar waith i gyfyngu ar fewnforio cig anifeiliaid cnoi cil a chig moch, a chynhyrchion llaeth, o wladwriaethau yr AEE ynghyd ag Ynysoedd Ffaro, y Swistir a'r Ynys Las i Gymru i'w bwyta a'u defnyddio'n bersonol. Mae rhagor o fanylion i'w gweld yma.
Bydd y Gorchymyn newydd hwn yn darparu amddiffyniad hirdymor, gwydn rhag y risg o glefydau yn ymledu drwy fewnforio POAO yn bersonol i Brydain Fawr.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau yn ymrwymedig i gynnal ein bioddiogelwch a'n ffiniau yn wyneb y risgiau cynyddol hyn o glefydau a byddant yn parhau i sicrhau diogelwch ein ffermwyr a'n heconomi.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
