Eithriadau o ran cofrestru gofal plant a'r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol
Rydym eisiau eich barn ar y newidiadau arfaethedig i'r rheolau ynghylch cofrestru gwarchod plant a gofal dydd, a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhif: WG51607
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2025
Camau i’w cymryd: Ymatebion erbyn 3 Tachwedd 2025
Diben yr ymgynghoriad hwn
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi eich barn ar y canlynol:
- Y newidiadau a gynigiwyd i'r amgylchiadau lle nad yw'n ofynnol i ddarparwr gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.
- Y cynnig i ddatblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau sydd wedi'u heithrio[1] rhag gorfod cofrestru.
- Yr effaith y byddai newidiadau i'r eithriadau a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yn ei chael ar ystod o ffactorau, gan gynnwys y Gymraeg.
Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd cyngor yn cael ei roi i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Trefnir ymgynghori a/neu ymgysylltu pellach os yw'n briodol.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich ymateb erbyn 3 Tachwedd 2025 drwy un o'r ffyrdd a ganlyn:
- Cwblhewch ein ffurflen ar-lein
- Lawrlwythwch ein ffurflen ymateb, llenwch hi a’i hanfon drwy e-bost i:
ymgynghoriadgofalplantagwaithchwarae@llyw.cymru - Lawrlwythwch ein ffurflen ymateb, llenwch hi a’i hanfon drwy'r post i:
Y Gorchymyn Eithriadau a Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol
Is-adran y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Manylion cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth:
Y Gorchymyn Eithriadau a Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol
Is-adran y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymgynghoriadgofalplantagwaithchwarae@llyw.cymru
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: Exceptions to childcare registration and the proposal for a Voluntary Approval Scheme [HTML] | GOV.WALES
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth a gesglir yn yr ymarfer hwn yw ein tasg gyhoeddus, sef arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erth 6(1)(e)
Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei ddarllen yn ei gyfanrwydd gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru am fynd ati i ddadansoddi mwy ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, mae'n bosibl y bydd trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o’r fath ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn amlinellu gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych chi'n dymuno i'ch enw neu'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, byddant yn rhan o adroddiadau a gaiff eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a roddwyd i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol sy'n cael eu cadw amdanoch chi, a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd y data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/
Y cefndir
Mae'r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, ('Gorchymyn Eithriadau 2010'), yn nodi'r amgylchiadau lle nad oes angen cofrestru fel gwarchodwr plant [2] neu ddarparwr gofal dydd [3]. Mae bod wedi'ch eithrio rhag gorfod cofrestru yn golygu nad oes angen i chi fel darparwr gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru na chydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd 2010, na rhoi sylw i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir ar gyfer plant hyd at 12 oed. Mae'n darparu gwahaniaeth rhwng darparwyr y mae'n ofynnol iddynt gofrestru a'r rhai nad yw'n ofynnol iddynt wneud.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r eithriadau, gyda'r nod o sicrhau bod yr eithriadau o ran cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yn gymesur.
Wrth adolygu'r eithriadau presennol a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau 2010, mae rhanddeiliaid wedi nodi'r angen posibl am gynllun cofrestru neu gymeradwyo gwirfoddol. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau ('y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol'), a fyddai ar gael i ddarparwyr sydd wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd.
Rhwng gwanwyn 2024 a haf 2025, ymgymerodd Llywodraeth Cymru â gwaith ymgysylltu helaeth. Y nod oedd deall yn well y sectorau cofrestredig ac anghofrestredig, a'r effaith y gallai newidiadau posibl ei chael ar ystod eang o randdeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â thua 400 o unigolion, gan gynnwys plant, rhieni neu ofalwyr, a'r rhannau cofrestredig ac anghofrestredig o'r sector. Ym mis Mehefin 2024, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cynghori [4] i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi.
Gan ymateb i'r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a gyda cymorth y Grŵp Cynghori, mae Llywodraeth Cymru am glywed barn y cyhoedd ar y newidiadau arfaethedig i'r eithriadau presennol o ran cofrestru, a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig mewn clywed gan y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y newidiadau posibl—megis plant, teuluoedd, darparwyr (cofrestredig ac anghofrestredig), a sefydliadau cynrychiadol.
Diben yr ymgynghoriad hwn
Mae i'r ymgynghoriad dair rhan y mae Llywodraeth Cymru yn annog ymatebwyr i'w cwblhau. Fodd bynnag, croesewir ymatebion i Rannau A ac C neu Rannau B ac C yn unig.
Mae Rhan A o'r ymgynghoriad hwn yn holi barn y cyhoedd ynghylch rhai cwestiynau sylfaenol sy'n ymwneud â'r amgylchiadau lle na ddylid ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.
Mae Rhan B o'r ymgynghoriad hwn yn holi barn y cyhoedd ynghylch a ddylid datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ymhellach ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau, ac os felly, pa egwyddorion a nodweddion craidd y dylid eu sicrhau.
Mae Rhan C o'r ymgynghoriad hwn yn holi barn y cyhoedd ynghylch yr asesiadau effaith rheoleiddiol ac integredig, a'r effaith bosibl y gallai'r newidiadau arfaethedig ei chael ar ystod o ffactorau, gan gynnwys y Gymraeg.
Mae’r gwaith hwn i gyd yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Wrth ystyried eich barn a'ch adborth, gweler y dogfennau isod am ragor o wybodaeth:
- Gorchymyn Drafft Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2026 - mae hwn yn nodi'r eithriadau arfaethedig mewn perthynas â "gwarchod plant" a "gofal dydd i blant".
- Asesiadau Effaith Integredig – mae’r rhain yn rhoi dadansoddiad o effaith y newidiadau arfaethedig i'r eithriadau a'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig o safbwynt cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.
- Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft - mae hwn yn darparu dadansoddiad o gostau, manteision a risgiau o ganlyniad i newidiadau rheoleiddiol i'r eithriadau.
Diogelu
Mae diogelu plant a phobl ifanc o bwys aruthrol. Mae Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl: Cod Ymarfer Diogelu (y Cod) yn berthnasol i bob darparwr, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau, p'un a ydynt wedi'u cofrestru neu heb eu cofrestru. Y disgwyliad gan Lywodraeth Cymru yw bod gan bob darparwr systemau diogelu sylfaenol ar waith fel y rhai a awgrymir yn y Cod, i ddiogelu plant a phobl ifanc.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wrthi'n cynnal adolygiad o 'Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl: Cod Ymarfer Diogelu' a bydd yn ystyried unrhyw newidiadau i'r eithriadau neu ddatblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yng ngoleuni'r adolygiad o'r Cod. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi dechrau trwy arolwg er mwyn ystyried y Cod a chael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gryfhau systemau diogelu ym mhob darpariaeth.
Rhan A: Adolygiad o'r eithriadau
Mae Rhan A yn amlinellu'r rhesymau dros adolygu'r eithriadau, a'r hyn y mae cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn ei olygu. Mae'n esbonio'r newidiadau arfaethedig i'r eithriadau a sut y gallent weithio, ac yna ceir cwestiynau ymgynghori.
Y rheswm dros yr adolygiad o'r eithriadau
Mae bod wedi'ch eithrio yn golygu nad yw'n ofynnol i chi fel darparwr gofrestru gydag AGC fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu'r eithriadau, yn dilyn argymhellion i gynnal ymgynghoriad yn yr adroddiadau canlynol:
- Cais am Dystiolaeth mewn perthynas â Gorchymyn Eithriadau 2010 (2019)
- Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio (2022)
- Yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae (2023)
Mae'r adroddiadau hyn yn amlinellu pryderon bod Gorchymyn Eithriadau 2010 yn anodd ei ddeall, ei fod yn cael effaith negyddol ar ddarparwyr cofrestredig, ac ynghylch y berthynas rhwng Gorchymyn Eithriadau 2010 a threfniadau diogelu ar gyfer darparwyr anghofrestredig.
Amcanion yr adolygiad o'r eithriadau yw:
- Sicrhau bod opsiynau gofal plant yn canolbwyntio ar y plant eu hunain ac yn meithrin hawliau plant i chwarae, ymlacio, dysgu ac ymuno â grwpiau a sefydliadau sy'n darparu ar gyfer eu hanghenion a'u diddordebau.
- Sicrhau bod yr eithriadau sydd ar waith yn gymesur ac yn eithrio'r rhai nad oes angen iddynt gofrestru gydag AGC.
- Hyrwyddo mesurau diogelwch cadarn i blant ym mhob lleoliad gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau, a fydd yn cyfrannu at gadw plant yn saff ac at sicrhau eu bod yn cael gofal priodol.
- Cefnogi gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau fforddiadwy, hygyrch a hyblyg i deuluoedd er mwyn darparu ar gyfer anghenion, diddordebau a gofynion amrywiol ledled Cymru. Ni ddylai unrhyw newidiadau i'r eithriadau leihau'r gofal plant, y cyfleoedd chwarae na'r gweithgareddau sydd ar gael neu sy'n fforddiadwy.
- Symleiddio Gorchymyn Eithriadau 2010 er mwyn gallu ei ddehongli'n eglur ac yn gyson.
Rydym yn cydnabod y cymorth gwerthfawr ac amrywiol y mae darparwyr cofrestredig ac anghofrestredig yn ei gynnig i blant a theuluoedd ledled Cymru. Mae angen inni sicrhau cydbwysedd, ac nid ydym am leihau'r ystod o weithgareddau sydd ar gael i blant a theuluoedd yng Nghymru sy'n hyrwyddo eu lles ac yn cyfoethogi eu bywydau. Nid yw'n nod gan yr adolygiad o'r eithriadau i gofrestru pob darparwr sy'n cynnig gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau i blant.
Cofrestru gydag arolygiaeth Gofal Cymru
Mae cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yn golygu bodloni gofynion cyfreithiol i sicrhau diogelwch a lles plant. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cais â manylion a dogfennaeth berthnasol, bodloni gofynion o ran cymwysterau, ac ymgymryd â gwiriadau cefndir (DBS) ar gyfer yr holl staff ac aelodau o'r aelwyd sy'n 16 oed neu'n hŷn (gwarchodwyr plant yn unig). Rhaid i ddarparwyr roi sylw i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir, a sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n barhaus â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft: amgylchedd diogel, cymarebau priodol rhwng staff a phlant, a hyfforddiant addas. Caiff darparwyr eu harolygu hefyd i fonitro ansawdd y gofal ac mae angen iddynt gyflawni cyfrifoldebau penodol yn gyson, megis cynnal safonau a rhoi gwybod i AGC am newidiadau sylweddol. Pan fydd darparwyr wedi'u cofrestru, yn gyffredinol caiff eu manylion eu rhoi ar gofrestr gyhoeddus lle gellir dod o hyd i'w hadroddiad arolygu.
Y newidiadau a gynigiwyd i'r eithriadau a sut y byddent yn gweithio
Asesodd adolygiad cychwynnol o Orchymyn Eithriadau 2010 yr holl erthyglau presennol, a nodwyd sawl un y gallai fod angen eu newid.
Mae'r adran hon yn amlinellu'r erthyglau o Orchymyn Eithriadau 2010 yr ydym yn cynnig bod angen eu newid, mae'n esbonio'r newidiadau arfaethedig a sut y gallent weithio, ac yna'n nodi cwestiynau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae'r newidiadau arfaethedig wedi'u nodi yng Ngorchymyn Drafft Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2026 'Gorchymyn Eithriadau drafft 2026') a fyddai, pe bai'n cael ei wneud, yn disodli Gorchymyn Eithriadau 2010.
Rhieni, gofalwyr maeth, perthnasau ac aelodau o'r aelwyd
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 3 yn dweud nad yw unigolyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant lle mae'r darparwr gofal yn rhiant, yn rhiant maeth, neu'n berthynas i'r plentyn.
Diben yr erthygl hon oedd sicrhau bod perthnasau yn gallu gofalu am blant sy'n perthyn iddynt heb fod angen cofrestru fel gwarchodwyr plant.
Ar hyn o bryd mae yna anghysondeb rhwng yr erthygl hon a chanllawiau ymarfer Cynnig Gofal Plant Cymru ac AGC. Bydd y newidiadau yr ydym yn eu cynnig i'r erthygl hon yn golygu bod y polisïau a'r ymarfer yn gyson â'i gilydd.
Credwn y dylai'r rhieni neu'r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, rhieni maeth y plentyn, perthnasau [5] neu unrhyw unigolyn sy'n byw yn yr un cartref â'r plentyn, fod wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwr plant.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai perthnasau neu unigolion sy'n byw yn yr un cartref â'r plentyn allu gweithredu fel gwarchodwyr plant cofrestredig ar gyfer plant sy'n perthyn iddynt neu blant y maent yn byw gyda nhw, ar yr amod bod pob un o'r amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Nid ydynt yn rhiant i'r plentyn ac nid oes ganddynt gyfrifoldeb rhiant am y plentyn,
- Nid nhw yw gofalwr maeth y plentyn,
- Nid yw'r gofal yn digwydd yng nghartref y plentyn, ac
- Mae'r gofal ar gael i blant nad ydynt yn perthyn iddynt.
Cwestiwn 1:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno na ddylai unigolyn weithredu fel gwarchodwr plant os ydynt: yn rhiant i'r plentyn, neu os oes ganddynt gyfrifoldeb rhiant amdano; os ydynt yn rhiant maeth i'r plentyn; yn berthynas; neu'n byw yn yr un cartref â'r plentyn?
Cwestiwn 2:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylid caniatáu i berthynas i'r plentyn neu unigolyn sy'n byw yn yr un cartref â'r plentyn weithredu fel gwarchodwr plant cofrestredig ar gyfer plentyn sy'n perthyn iddynt neu blentyn y maent yn byw gyda nhw, ar yr amod bod pob un o'r amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Nid ydynt yn rhiant i'r plentyn ac nid oes ganddynt gyfrifoldeb rhiant am y plentyn,
- Nid nhw yw gofalwr maeth y plentyn,
- Nid yw'r gofal yn digwydd yng nghartref y plentyn, ac
- Mae'r gofal ar gael i blant nad ydynt yn perthyn iddynt.
Nanis, au pairs a gwarchodwyr babanod (babysitters)
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 5 yn dweud nad yw unigolyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant lle mae gofal yn cael ei ddarparu gan unigolyn sy'n cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu (fel nani neu au pair) a lle mae'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y naill deulu neu'r llall.
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 6 yn dweud nad yw unigolyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant lle mai dim ond rhwng 6pm un diwrnod a 2am y diwrnod canlynol y darperir y gofal.
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 13 yn dweud nad yw unigolyn yn darparu gofal dydd lle mai dim ond rhwng 6pm a 2am y darperir y gofal, lle mae'n digwydd mewn gwesty, tŷ llety neu sefydliad tebyg arall ar gyfer plentyn sy'n aros yno, a lle mae'r unigolyn sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny ar gyfer dim mwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd.
Mae'r 3 erthygl hyn yn cael eu hadolygu gyda'i gilydd. Diben erthyglau 6 ac 13 yw eithrio gwarchodwyr babanod (‘babysitters’) [6] rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd. Ystyrid 6pm-2am yn oriau gweithredu arferol i gwarchodwyr babanod, a'r bwriad wrth gynnwys yr erthyglau hyn oedd sicrhau nad oedd angen i gwarchodwyr babanod gofrestru gydag AGC. Wrth ddewis gwarchodwyr babanod a dod i benderfyniad ynghylch ei addasrwydd, mae rhiant neu warcheidwad yn arfer eu hawl i ddewis. Diben erthygl 5 yw eithrio nanis [7] ac au pairs [8] rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwyr plant.
Hoffem gysoni'r eithriadau mewn perthynas â nanis ac au pairs ag ar gyfer gwarchodwyr babanod, fel bod yr holl ddarparwyr hyn yn gweithredu o dan ddisgwyliadau ac amgylchiadau tebyg cyn bod gofyn iddynt gofrestru. Hoffem hefyd wahaniaethu'n gliriach rhwng gwarchodwyr babanod a gwarchodwyr plant.
Hoffem i deuluoedd allu gwneud trefniadau hyblyg ar gyfer gwardchod babanod ad hoc gyda'r rhai y maent yn eu hystyried yn addas – gall hyn ddigwydd yng nghartref y plentyn neu mewn safle annomestig o ddewis y rhieni.
Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cael gwared â'r cyfyngiad amser o 6pm-2am ar gyfer gwarchodwyr babanod. Hoffem gyfyngu ar nifer y teuluoedd y caiff gwarchodwyr babanod ofalu amdanynt ar yr un pryd i 2. Rydym yn cynnig nodi'n benodol bod y gofal i gael ei ddarparu yng nghartref y naill neu'r llall o'r ddau deulu hynny neu mewn safle annomestig (a allai gynnwys gwesty neu dŷ llety) o ddewis y rhieni. Rydym yn cynnig bod y trefniadau gofal i gael eu gwneud rhwng y rhieni a'r gwarchodwyr babanod, yn yr un modd ag y mae rhieni yn gwneud trefniadau gyda mathau eraill o ddarparwyr gofal plant yn y cartref, sef nanis ac au pairs.
Cyn belled â bod gwarchodwyr babanod yn gweithredu yn unol â'r manylion arfaethedig hyn, ni fydd y newidiadau yn golygu bod yn rhaid i gwarchodwyr babanod gofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd. Mae'r newidiadau arfaethedig hyn yn golygu na ellir darparu gofal yng nghartref y gwarchodwyr babanod am fwy na 2 awr heb iddo orfod cofrestru fel gwarchodwr plant.
Cwestiwn 3:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r newidiadau arfaethedig i'r eithriadau sy'n ymwneud â gwarchodwyr babanod, nanis ac au pairs:
- Cysoni'r eithriadau mewn perthynas â nanis, au pairs a gwarchodwyr babanod
- Cael gwared â'r cyfyngiad amser o 6pm-2am ar gyfer gwarchodwyr babanod
- Cyfyngu ar nifer y teuluoedd y gall gwarchodwyr babanod ofalu amdanynt ar yr un pryd i 2
- Nodi'n glir y dylai'r trefniadau gofal gael eu gwneud rhwng y darparwr a rhieni'r naill deulu neu'r llall
- Ar gyfer gofal mewn safle domestig, nodi bod y gofal i'w ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref y naill neu'r llall o'r ddau deulu
- Ar gyfer safle annomestig, nodi'n glir bod y gofal i ddigwydd mewn safle annomestig (a allai gynnwys er enghraifft: gwesty neu dŷ llety) o ddewis y rhieni
Gwasanaethau ieuenctid
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 16 yn dweud nad yw unigolyn yn darparu gofal dydd lle mae’r gwasanaeth a ddarperir yn wasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd 11 oed, a lle mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu’r gwasanaeth ieuenctid hwnnw.
Diben yr erthygl hon yw osgoi ei gwneud yn ofynnol i ddarpariaeth gwasanaeth ieuenctid sydd wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc 11 oed neu'n hŷn gofrestru fel darparwyr gofal dydd.
Rydym yn parhau i fod o'r farn na ddylai fod angen i wasanaethau ieuenctid gofrestru fel darparwyr gofal dydd. Fodd bynnag, hoffem ddiwygio'r cafeat oedran o 11 i 10 er mwyn caniatáu i wasanaethau ieuenctid wrth bontio [9] gael eu cynnig heb orfod cofrestru fel darparwr gofal dydd. Byddai hyn yn cynyddu mynediad i blant 10 oed at wasanaethau ieuenctid sydd â'r nod o ddarparu cymorth addysgol, personol a chymdeithasol i blentyn yn ystod ei gyfnod o bontio rhwng addysg gynradd ac addysg uwchradd.
Cwestiwn 4:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno na ddylai fod yn ofynnol i ddarparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os ydynt yn darparu gwasanaethau ieuenctid i bobl ifanc 10 oed neu'n hŷn, a lle mai nod y ddarpariaeth ar gyfer y plant 10 oed yw eu cefnogi wrth bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd a'u helpu o ran anghenion personol, cymdeithasol ac addysgol?
Coetsio a dysgu
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 15 yn dweud nad yw unigolyn yn darparu gofal dydd lle maent yn cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu yn unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol: Chwaraeon; Celfyddydau perfformio; Celf a chrefft; Astudiaethau ysgol neu gymorth gwaith cartref; neu Astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol. Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol lle mae'r plant o dan 5 oed ac yno am fwy na phedair awr y diwrnod, neu lle mae'r unigolyn yn cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu mewn mwy na dau o'r mathau gweithgareddau uchod.
Diben yr erthygl hon yw atal ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar goetsio neu ddysgu gofrestru fel darparwyr gofal dydd, lle mae unrhyw ofal a roddir yn gysylltiedig â gweithgaredd craidd y coetsio neu'r dysgu. Nid ydym o'r farn bod angen cofrestru gweithgareddau coetsio a dysgu fel gofal dydd, a dylent barhau i fod wedi'u heithrio.
Mae ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid yn dweud wrthym ei bod yn annhebygol y gall plant 4 oed neu'n iau ganolbwyntio ar weithgaredd coetsio neu ddysgu am hyd at 4 awr. O ystyried eu cyfnod datblygiad a'u hanghenion gofal, mae'n annhebygol bod y gofal sydd ei angen arnynt yn gysylltiedig â'r coetsio neu'r dysgu dros y cyfnod hwn.
Rydym yn cynnig, os yw plentyn 4 oed neu'n iau yn mynychu darpariaeth coetsio neu ddysgu heb ei riant neu ei ofalwr am fwy na 2 awr mewn diwrnod, y dylai'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd. Caiff darparwyr gynnig sawl sesiwn, ond dim ond am hyd at 2 awr y diwrnod y caiff unrhyw blentyn 4 oed neu'n iau fod yno, oni bai bod eu rhiant gyda nhw. Ni fyddai'r rheol hon yn berthnasol i blant 5 oed neu'n hŷn, a all fod yno am gyfnod amhenodol o amser.
Cwestiwn 5:
Rydym yn cynnig na ddylai'r eithriad o ran coetsio a dysgu fod yn berthnasol os yw plant 4 oed neu'n iau yn y ddarpariaeth am fwy na 2 awr mewn diwrnod. Dim ond lle nad yw'r rhieni yn bresennol y mae'r cynnig hwn yn berthnasol i goetsio a dysgu. Byddai plant 5 oed neu'n hŷn yn dal i allu bod yno am gyfnod amhenodol o amser.
Ydych chi'n cytuno neu’n anghytuno:
- mai 2 awr yw'r cyfnod priodol y dylai plant 4 oed neu'n iau gael bod mewn gweithgareddau coetsio a dysgu heb eu rhieni a heb i'r darparwr orfod cofrestru fel darparwr gofal dydd?
- mai 4 oed neu'n iau yw'r ystod oedran briodol pan ddylid trin plant yn wahanol mewn perthynas â'r eithriad o ran coetsio a dysgu?
Ar hyn o bryd, gall darparwyr gynnig dau fath o weithgareddau heb fod angen cofrestru. Fodd bynnag, mae gwaith ymgysylltu Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod cynnig mwy nag un math yn gwanhau'r ffocws ar goetsio a dysgu, gan ei wneud yn fwy tebyg i ofal dydd. Rydym yn cynnig y dylid cyfyngu'r mathau o weithgareddau y caiff darparwyr coetsio a dysgu eu cynnig i un yn unig - er enghraifft, chwaraeon neu astudiaethau crefyddol, ond nid y ddau. Byddai darparwyr yn dal i allu cynnig amrywiaeth o weithgareddau o fewn yr un math hwnnw (e.e. nifer o wahanol chwaraeon) heb orfod cofrestru fel darparwyr gofal dydd. Fodd bynnag, byddai angen cofrestru pe byddent yn cynnig mwy nag un math - fel chwaraeon ac astudiaethau crefyddol. Nod hyn yw sicrhau eglurder o ran y ffin rhwng gofal plant a gwaith chwarae, a choetsio neu ddysgu.
Credwn y dylid diwygio'r categorïau o fathau o weithgareddau o chwaraeon, celfyddydau perfformio, celf a chrefft, astudiaethau ysgol neu gymorth gwaith cartref, ac astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol i:
(a) chwaraeon;
(b) celfyddydau mynegiannol a chreadigol;
(c) cymorth addysgol – gan gynnwys ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a rhifedd; iechyd a lles;
(d) astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'n ymarferol rhestru pob math posibl o weithgareddau coetsio neu ddysgu o fewn yr eithriadau. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyhoeddi canllawiau ymarfer, felly, i fod yn help i ddeall pryd mae darpariaeth yn gymwys i gael ei heithrio neu a fyddai angen i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Cwestiwn 6:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'n cynnig i ddiwygio'r categorïau coetsio a dysgu o fewn y gorchymyn eithriadau i'r canlynol:
(a) chwaraeon;
(b) celfyddydau mynegiannol a chreadigol;
(c) cymorth addysgol – gan gynnwys ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a rhifedd; iechyd a lles;
(d) astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol?
Cwestiwn 7:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai darparwyr gofrestru fel darparwr gofal dydd os ydynt yn cynnig darpariaeth coetsio a dysgu mewn mwy nag un math o weithgaredd?
Ysgolion lle mae'r gofal yn gysylltiedig ag addysg
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 14 yn dweud nad yw unigolyn yn darparu gofal dydd os darperir y gofal mewn ysgol ac os yw'n gysylltiedig â darparu addysg (lle mae 'ysgol' yn golygu ysgol a gynhelir o fewn ystyr adran 39 o Ddeddf Addysg 2002; ysgol annibynnol; neu ysgol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996 (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir)).
Diben yr erthygl hon yw eithrio ysgolion rhag gorfod cofrestru fel darparwyr gofal dydd. Nid ydym o'r farn y dylai'r erthygl hon fod yn berthnasol i blant 2 oed neu'n iau gan fod eu hanghenion gofal nhw yn debygol o fod yn sylweddol, ac mae'n annhebygol bod unrhyw ofal y maen nhw'n ei dderbyn yn gysylltiedig ag addysg. Rydym o'r farn bod angen darpariaeth gofal dydd bwrpasol ar blant 2 oed neu'n iau yn hytrach nag addysg ffurfiol mewn ysgol. Y rheswm am hyn yw y byddai angen trefniadau gofal penodol ar blant 2 oed neu'n iau megis newid cewyn neu help i fynd i'r tŷ bach, cysgu neu help i fwyta, ac na ddylid yn rhesymol eu hystyried na'u darparu fel gofal sy'n gysylltiedig ag addysg. Rydym yn cynnig ychwanegu cafeat oedran at yr eithriad hwn a fydd yn golygu mai dim ond i blant 3 oed neu'n hŷn y bydd yn berthnasol, ac felly, os oes gan ysgol blentyn 2 oed neu'n iau, bydd angen i'r ddarpariaeth honno o fewn yr ysgol gofrestru fel darparwr gofal dydd.
Cwestiwn 8:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno, os yw plant 2 oed neu'n iau yn mynychu ysgol fel disgyblion, y dylid ei gwneud yn ofynnol i'r rhan o'r ysgol sydd â phlant 2 oed neu'n iau gofrestru fel darparwr gofal dydd?
Gwasanaethau cofrestredig sy'n cael eu hatal dros dro
- Ar hyn o bryd, mae Erthyglau 4 a 10 yn dweud nad yw unigolyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd os nad yw'r cyfnod gofal o fewn unrhyw ddiwrnod yn dod i gyfanswm o fwy na dwy awr.
Ar hyn o bryd, os yw gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd sydd wedi'i gofrestru gydag AGC yn cael ei atal dros dro gan AGC fel rhan o'i weithgarwch gorfodi gweithdrefnau, gallant barhau â'u darpariaeth am 2 awr neu lai y diwrnod drwy weithredu o dan yr eithriadau hyn.
Gall yr angen i atal dros dro godi am sawl rheswm, megis peidio â chydymffurfio â gofynion rheoleiddiol neu weithredu mewn safle anaddas. Gall AGC atal darparwyr dros dro lle mae pryderon o ran diogelwch y plant, a lle bydd ganddynt achos rhesymol i gredu bod parhau â'r ddarpariaeth gofal yn golygu bod plant yn agored i niwed, neu y gallai olygu eu bod yn agored i niwed, a lle mae angen eu hatal dros dro er mwyn caniatáu amser i ymchwiliadau gael eu cynnal neu i gamau gael eu cymryd i leihau neu ddileu'r risg o niwed.
Rydym yn cynnig, os bydd darparwr cofrestredig yn cael ei atal dros dro yn sgil gorfodi gweithdrefnau, na ddylai'r eithriadau sy'n cyfeirio at 2 awr neu lai fod yn berthnasol, ac felly ni fyddai'r darparwr yn gallu gweithredu o dan yr eithriadau hyn am gyfnod yr ataliad.
Cwestiwn 9:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno, os yw gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd cofrestredig yn cael ei atal dros dro yn sgil gorfodi gweithdrefnau, na ddylent allu manteisio ar yr eithriadau i weithredu eu darpariaeth am 2 awr neu lai y diwrnod am gyfnod yr ataliad?
Plant 2 oed neu'n iau
- Ar hyn o bryd, mae Erthyglau 4 a 10 yn dweud nad yw unigolyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd os nad yw'r cyfnod gofal o fewn unrhyw ddiwrnod yn dod i gyfanswm o fwy na dwy awr.
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 9 yn dweud, lle darperir gofal am lai na chwe diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr a lle mae'r unigolyn wedi hysbysu AGC yn ysgrifenedig cyn defnyddio'r safle perthnasol am y tro cyntaf y flwyddyn honno, nad gofal dydd mohono.
- Ar hyn o bryd, mae Erthygl 15 yn dweud nad yw unigolyn yn darparu gofal dydd lle mae'r unigolyn yn cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu yn unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol: Chwaraeon; Celfyddydau perfformio; Celf a chrefft; Astudiaethau ysgol neu gymorth gwaith cartref; neu Astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol. Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol lle mae'r plant o dan 5 oed ac yno am fwy na phedair awr y diwrnod, neu lle mae'r unigolyn yn cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu mewn mwy na dau o'r mathau gweithgareddau uchod.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gosod cyfyngiadau pellach ar yr eithriadau hyn - i fod yn berthnasol i blant 3 oed neu'n hŷn yn unig. Mae hyn yn cael ei ystyried oherwydd yr anghenion gofal mwy sydd gan blant iau. Byddai hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i ddarparwyr gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau i blant 2 oed neu'n iau, lle nad yw'r rhiant yn bresennol, gofrestru gydag AGC. Fodd bynnag, gellid cynnwys darpariaeth o fewn yr eithriadau perthnasol fel na fyddai'n ofynnol cofrestru os yw'r rhieni yn aros ar y safle [10], sydd weithiau'n digwydd mewn gwasanaethau sy'n cynnig sesiynau lles neu ddysgu i rieni.
Trafodir newidiadau i'r eithriadau o dan erthygl 15, coetsio a dysgu, yn gynharach yn yr ymgynghoriad hwn. Os oes cefnogaeth i'r cynnig y dylid ei gwneud yn ofynnol cofrestru pob darpariaeth gwarchod plant a gofal dydd i blant 2 oed neu'n iau (gan gynnwys coetsio a dysgu), hyd yn oed am lai na 2 awr, caiff hyn ei ystyried ochr yn ochr â'r ymatebion ynghylch y newid arfaethedig o ran eithriadau coetsio a dysgu i blant 4 oed neu'n iau. Os yw'r ddau gynnig yn cael eu mabwysiadu, byddai angen i ddarparwyr coetsio a dysgu gofrestru, felly, os ydynt yn gofalu am blant 2 oed neu'n iau heb riant yn bresennol, tra gallai plant 3 a 4 oed fod mewn darpariaeth o'r fath am hyd at 2 awr heb riant. Caiff yr ymatebion eu dadansoddi'n ofalus.
Er nad yw'r cynigion hyn yn cael eu cynnwys yng Ngorchymyn Eithriadau Drafft 2026, hoffai Llywodraeth Cymru ofyn am farn y cyhoedd mewn perthynas â'r newidiadau posibl hyn. Er y gallai'r newid hwn wella'r trefniadau o ran goruchwylio a sicrhau ansawdd, gallai hefyd greu heriau newydd i rai darparwyr. Byddai'r newidiadau ychwanegol hyn yn creu risgiau a manteision penodol.
Risgiau posibl
- Gallai ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr sy'n gofalu am blant 2 oed neu'n iau gofrestru leihau'r gwasanaethau o'r fath sydd ar gael. Gallai rhai darparwyr addasu a dechrau gwasanaethu plant hŷn yn unig i osgoi cofrestru, tra gallai eraill gau os nad ydynt yn gallu bodloni'r gofynion rheoleiddiol. Gallai hyn gyfyngu ar yr opsiynau i blant 2 oed neu'n iau, gan gyfyngu ar gyfleoedd cymdeithasol a datblygiadol a allai effeithio ar les plant a theuluoedd.
- Gallai ei gwneud yn ofynnol cofrestru gynyddu costau gweithredu darparwyr, a allai gael eu trosglwyddo i deuluoedd. O ganlyniad, gallai gofal plant a gweithgareddau i blant 2 oed neu'n iau fynd yn llai fforddiadwy ac yn anoddach cael gafael arnynt.
- Gallai llai o ddarparwyr newydd fynd i mewn i'r sector ar gyfer plant 2 oed neu'n iau, gan y byddent yn colli'r hyblygrwydd i brofi'r farchnad cyn cofrestru, gan gyfyngu o bosibl ar yr arloesi a'r twf mewn perthynas â'r ystod oedran hon.
- Gallai'r newidiadau arfaethedig gymhlethu'r eithriadau dan sylw yn anfwriadol drwy ychwanegu sawl is-baragraff sy'n gysylltiedig ag oedran a lleoliad, gan ei gwneud yn anoddach gorfodi'r gofynion ac o bosibl weithio yn erbyn y nod o symleiddio'r system.
Manteision posibl
- Er nad oes unrhyw ymchwil na sylfaen dystiolaeth gryf i ddangos bod lleoliadau cofrestredig yn fwy diogel na rhai anghofrestredig, mae llawer o randdeiliaid yn gweld cofrestru fel ffordd o wella ansawdd a diogelwch.
- Oherwydd anghenion gofal mwy plant 2 oed neu'n iau, gallai ei gwneud yn ofynnol cofrestru darparwyr sy'n cynnig gwasanaethau i'r ystod oedran hon - ynghyd â rheoleiddio ac arolygiadau - arwain at fwy o oruchwylio i sicrhau'r lles a'r diogelwch y gellid eu hystyried yn gymesur â'u hanghenion.
- O bosibl, gallai ei gwneud yn ofynnol i leoliadau gofal plant 2 oed neu'n iau gofrestru arwain at eu gweld yn gweithredu am gyfnodau hirach gan na fyddent bellach yn gyfyngedig i 2 awr y diwrnod neu 5 diwrnod y flwyddyn galendr.
- Gallai darparwyr cofrestredig gael mynediad at raglenni a ariennir fel Cynnig Gofal Plant Cymru a/neu Dechrau'n Deg, os ydynt yn gymwys.
- Gallai cofrestru alluogi teuluoedd cymwys i fanteisio ar gynlluniau Gofal Plant Di-dreth, a Gofal Plant Credyd Cynhwysol, yn dibynnu ar yr oriau gweithredol.
Cwestiwn 10:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai fod yn ofynnol i bob darparwr sy'n cynnig gwarchod plant, gofal dydd neu weithgareddau coetsio a dysgu i blant 2 oed neu'n iau, lle nad yw'r rhiant yn bresennol, gofrestru gydag AGC, hyd yn oed os yw'r gofal am 2 awr neu lai y diwrnod neu 5 diwrnod neu lai y flwyddyn?
Cwestiwn 11:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno na ddylai fod yn ofynnol i ddarparwyr sy'n cynnig gwarchod plant, gofal dydd neu weithgareddau coetsio a dysgu i blant 2 oed neu'n iau, lle bydd rhiant yn aros ar y safle (ond heb fod yn bresennol yn y sesiwn) gofrestru, hyd yn oed os yw'r gofal am 2 awr neu lai y diwrnod neu 5 diwrnod neu lai y flwyddyn?
Arall
Mae newidiadau canlyniadol wedi'u cynnwys yng Ngorchymyn Eithriadau Drafft 2026, gan gynnwys diweddariadau i adlewyrchu arferion, polisi a chanllawiau cyfredol, yn ogystal â newidiadau o ran fformadu ac ailddrafftio. Fodd bynnag, ystyrir bod y rhain yn llai pwysig na'r newidiadau allweddol a amlinellir uchod.
Mae Gorchymyn Eithriadau Drafft 2026 hefyd yn manylu ar drefniadau trosiannol ar gyfer newidiadau i'r eithridau. Bwriad y trefniadau trosiannol hyn yw darparu terfynau clir i ddarparwyr a allai fod am wneud cais i gofrestru, ac ar gyfer trefniadau gorfodi gweithdrefnau yn ystod y cyfnod hwnnw. Cynigir y byddai darparwyr sy'n eu cael eu hunain yn gorfod cofrestru o ganlyniad i Orchymyn Eithriadau Drafft 2026 yn cael blwyddyn lawn i gofrestru o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn newydd i rym.
Cwestiwn 12:
Hoffech chi wneud unrhyw sylw pellach ar gynnwys Gorchymyn Drafft Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2026?
Rhan B: Datblygu'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig
Mae Rhan B yn amlinellu'r rhesymau pam mae'r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yn cael ei ystyried a sut y gallai weithio. Mae wedyn yn nodi nodweddion ac egwyddorion craidd y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol, ac yna gwestiynau ymgynghori.
Y rheswm dros ddatblygu'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig
Wrth adolygu'r eithriadau, archwiliwyd yr angen am gofrestr neu gynllun cymeradwyo gwirfoddol neu lai ffurfiol ar gyfer gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd anghofrestredig. Nododd y rhan fwyaf o'r rhanddeiliaid mai'r manteision delfrydol fyddai:
- lefel sylfaenol o wiriadau diogelwch;
- mwy o fynediad at Ofal Plant Di-dreth i deuluoedd;
- caniatáu i ddarparwyr sydd wedi'u heithrio gofrestru/ceisio cymeradwyaeth o'u gwirfodd; a
- dull mwy cymesur o gofrestru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu'r cysyniad o Gynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau a allai ddiwallu'r anghenion hyn yn y ffordd orau. Cynigir datblygu'r cynllun o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gofal Plant Di-dreth a Gofal Plant Credyd Cynhwysol
Yn Lloegr, nid oes rhaid i rai darparwyr gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau gofrestru yn ôl y gyfraith, ond gallant ddewis cofrestru ar y rhan wirfoddol o'r gofrestr gofal plant. Efallai y bydd cymorth ar gael i rieni cymwys gan y llywodraeth fel Gofal Plant Di-dreth neu Ofal Plant Credyd Cynhwysol i dalu darparwyr a gofrestrodd yn wirfoddol [11].
Yng Nghymru, yn debyg i Loegr, nid oes rhaid i rai darparwyr gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau gofrestru. Ond yn wahanol i Loegr, nid oes cofrestr neu gynllun cymeradwyo gwirfoddol y gall yr un ystod o ddarparwyr ymuno â hi/ef yng Nghymru. Mae hyn yn golygu na all teuluoedd cymwys sy'n byw yng Nghymru ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth neu Ofal Plant Credyd Cynhwysol ar gyfer cymaint o ddarparwyr â theuluoedd sy'n byw yn Lloegr, a allai gyfyngu ar eu hopsiynau a'u cyfleoedd, a'u rhoi dan anfantais ariannol.
Mae Cymru eisoes wedi cyflwyno Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021, sef cynllun gwirfoddol ar gyfer cymeradwyo nanis ac au pairs sy'n bodloni meini prawf sylfaenol penodol. Os yw'r darparwr gofal plant yn y cartref yn cael ei gymeradwyo, gall teuluoedd cymwys ddefnyddio Gofal Plant Credyd Cynhwysol neu Ofal Plant Di-dreth i helpu i dalu'r gost. Gallai creu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer mwy o fathau o ddarparwyr anghofrestredig yng Nghymru ganiatáu i deuluoedd cymwys ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth a Gofal Plant Credyd Cynhwysol i helpu i dalu am amrywiaeth ehangach o ddarparwyr.
Gwiriadau diogelwch sylfaenol
Gallai ymuno â Chynllun Cymeradwyo Gwirfoddol helpu darparwyr gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau i ennyn ymddiriedaeth yn y ddarpariaeth a rhoi mwy o statws iddynt. Byddai'r cynllun yn cynnwys gofynion diogelwch sylfaenol nad ydynt yn rhy gostus nac yn cymryd gormod o amser. Gallai ddarparu ffordd i ddarparwyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion sylfaenol a allai roi lefel o sicrwydd i rieni am eu dewis ddarparwr.
Gwell dealltwriaeth a chymorth i'r sector anghofrestredig
Gallai creu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol helpu awdurdodau lleol i ddeall darparwyr gofal plant a gwaith chwarae anghofrestredig yn eu hardal yn well a chael mwy o wybodaeth amdanynt. Byddai hyn o fudd o ran eu dyletswyddau i adrodd ar ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant a chwarae ac yn helpu i sicrhau bod anghenion amrywiol teuluoedd yn cael eu diwallu. Gallai bod yn hysbys i'r awdurdod lleol ei gwneud yn bosibl i'r awdurdod roi cefnogaeth, gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac arweiniad i ddarparwyr cymeradwy, os dymunant.
Sut y gallai'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig weithio
Byddai'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig yn opsiwn gwirfoddol i ddarparwyr nad yw'n ofynnol iddynt, yn ôl y gyfraith, gofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd, ond sydd am wneud cais am gymeradwyaeth o dan gynllun ar sail meini prawf penodol. Byddai'r meini prawf yn rhai syml, a byddai'r Cynllun yn cael ei oruchwylio gan AGC. Ar ôl eu cymeradwyo, byddai darparwyr yn cael statws 'cymeradwy', gan ganiatáu i deuluoedd cymwys ddefnyddio Gofal Plant Credyd Cynhwysol neu Ofal Plant Di-dreth i helpu gyda chostau, os yw'r darparwr yn gymwys. Byddai awdurdodau lleol yn cael eu hysbysu unwaith y câi darparwr ei gymeradwyo. Mae meini prawf sy'n amlinellu pwy fyddai'n gymwys i ymuno â'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig wedi'u datblygu, i sicrhau mai dim ond y rhai sydd wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol a'r gwiriadau diogelwch sylfaenol all gael eu cymeradwyo. Byddai'r gymeradwyaeth yn cael ei hadnewyddu'n flynyddol. Gellir tynnu darparwyr o'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig am beidio â chydymffurfio â'r telerau cymeradwyo neu os oes pryderon diogelwch. Byddai'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig yn seiliedig ar Gynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) cyfredol 2021.
Mae'r adran hon yn amlinellu egwyddorion a nodweddion craidd arfaethedig Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol a'r cwestiynau yr hoffem ichi eu hystyried.
Nodau a chanlyniadau a ddymunir
Isod mae tri nod y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig:
- Caniatáu i deuluoedd gael mynediad at Ofal Plant Di-dreth a Gofal Plant Credyd Cynhwysol i dalu am ystod ehangach o wasanaethau, lle mae'r teulu a'r darparwr yn gymwys,
- Gwirio bod y darparwr wedi bodloni meini prawf cymeradwyo penodol, gan gynnwys gwiriadau diogelwch sylfaenol, a allai gynnig rhywfaint o sicrwydd i rieni am eu dewis ddarparwr, a
- Helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o'r sector anghofrestredig sy'n cofrestru o dan y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol, a darparu cymorth a gwybodaeth iddynt.
Cwestiwn 13:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â nodau'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig?
Meini prawf cymeradwyo
Ni fyddai darparwyr a gymeradwywyd o dan y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig yn gorfod cael eu rheoleiddio'n statudol, ond byddent yn bodloni meini prawf penodol i ymuno â'r cynllun. Os oes mwy nag un ymgeisydd, h.y. ymgeiswyr ar y cyd, dylai pob unigolyn fodloni'r meini prawf.
Cynigir bod yn rhaid i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o'r canlynol:
- Bod yn 18 oed neu'n hŷn
- Bod wedi cwblhau hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig brys
- Bod wedi cwblhau cwrs diogelwch canolradd o fanyleb Grŵp B/ lefel 2 o leiaf
- Bod wedi cwblhau cwrs Hanfodion Gofal Plant ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau [12]
- Bod wedi cael gwiriad DBS manylach sy'n gyfredol
- Peidio â bod wedi'i wahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig gyda phlant na bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu i ddod i gysylltiad â nhw heb oruchwyliaeth
- Bod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n cwmpasu marwolaeth, anaf, difrod neu golled arall.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd wneud hunan-ddatganiad, (na ymchwilir iddo na'i wirio gan Arolygiaeth Gofal Cymru), ei fod yn deall ac yn defnyddio arfer gorau ar ran y ddarpariaeth mewn perthynas â:
- 'Gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu pobl: cod ymarfer diogelu', gan gynnwys arferion recriwtio diogel, gweithdrefnau cwynion ac asesu risg
- Os yw'n gweini neu'n trin bwyd, hylendid bwyd
- Staffio, safleoedd, cadw cofnodion, diogelwch plant, iechyd a lles.
Cwestiwn 14:
Yn eich barn chi, pa rai o’r meini prawf cymeradwyo a amlinellir uchod ddylai fod yn ofynnol ar gyfer y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig?
Cwestiwn 15:
A oes meini prawf eraill y dylid eu cynnwys, yn eich barn chi?
Rheoli a goruchwylio
Cynigir y lefel ganlynol o oruchwyliaeth:
- Byddai'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig yn cael ei reoli gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Cynllun gweinyddol fyddai hwn, sy'n golygu na fyddai unrhyw ddyfarniadau ansawdd gan AGC ac na fyddai'n ofynnol i AGC ei arolygu.
- Byddai'n ofynnol i'r darparwr cymeradwy adnewyddu ei gofrestriad bob blwyddyn, a byddai ffi flynyddol.
- Byddai manylion y darparwr cymeradwy yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdod lleol. Gallai darparwyr cymeradwy wedyn gael cefnogaeth, gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac cymorth gan yr awdurdod lleol, os dymunant.
- Byddai'n ofynnol i'r darparwr cymeradwy roi gwybod i AGC ynghylch euogfarn, rhybudd, neu newid enw, cyfeiriad neu fanylion cyswllt.
- Ni fyddai AGC yn delio ag unrhyw gwynion dydd i ddydd ynglŷn â'r darparwr cymeradwy.
- Yn achos pryder diogelwch, ni fyddai AGC yn cynnal ymchwiliad/arolygiad, a byddai'n cydgysylltu â'r awdurdod lleol sy'n ymgymryd â'r broses ddiogelu i gadarnhau'r canlyniad. Yna bydd AGC yn penderfynu p'un a yw'n briodol cynnal statws cymeradwy y darparwr.
- Byddai AGC yn atal y gymeradwyaeth dros dro neu'n tynnu darparwr cymeradwy o'r cynllun pe bai unrhyw ymchwiliadau diogelwch gan awdurdod lleol yn dod i'r casgliad bod un neu fwy o'r plant sydd yng ngofal y darparwr yn agored i niwed o'i achos, neu y gallai/gallent fod yn agored i niwed.
- Byddai AGC yn gwrthod cais i'r Cynllun ac yn tynnu cymeradwyaeth yn ôl os nad yw'r meini prawf cymeradwyo yn cael eu bodloni (mwyach).
- Bydd darparwr neu ymgeisydd cymeradwy yn cael eu hysbysu ynghylch unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â'u hatal dros dro, tynnu eu cymeradwyaeth yn ôl neu wrthod cais, a bydd ganddynt 28 diwrnod i apelio drwy gyflwyno sylwadau.
- Byddai AGC yn atal cymeradwyaeth dros dro ar unwaith pan ystyrir bod hynny'n angenrheidiol ac yn briodol.
Cwestiwn 16:
Yn eich barn chi, pa rai o’r nodweddion uchod y byddai’n gymesur eu cynnwys fel rhan o’r broses o reoli a goruchwylio’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig?
Pwy ddylai allu ymuno
Mae'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig ar gyfer darparwyr a fyddai'n cael eu heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd gydag AGC. Mater i'r darparwyr fyddai dewis p'un a ydynt am ymuno ai peidio.
Dyma'r rhestr arfaethedig o fathau o ddarparwyr a fyddai o bosibl yn gymwys i ymuno â'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig:
- Darpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd sy'n cael ei rhedeg gan awdurdod lleol neu ysgol am 2 awr neu lai ac ar unrhyw adeg o'r diwrnod
- Pob gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd sy'n gweithredu yn union cyn neu ar ddiwedd y diwrnod ysgol am 2 awr neu lai
- Pob gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd sy'n rhedeg am gyfnod o 2 awr neu lai ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod
- Gofal plant yn y cartref, h.y. gwarchodwyr babanod, nanis ac au pairs
- Darpariaeth coetsio a dysgu wyneb yn wyneb sy'n rhedeg o dan yr eithriad i goetsio a dysgu am fwy na 2 awr yn y rhestr arfaethedig o weithgareddau:
(a) chwaraeon;
(b) celfyddydau mynegiannol a chreadigol;
(c) cymorth addysgol – gan gynnwys ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a rhifedd; iechyd a lles;
(d) astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol.
Gall hyn gynnwys gofal plant preswyl (e.e. gwersylloedd gweithgareddau) sy'n rhedeg am lai na 28 diwrnod mewn cyfnod o 365 diwrnod ac nad yw'n cael ei hwyluso/ei drefnu gan ysgolion yn ystod amser ysgol a lle nad yw rhieni neu ofalwyr yn bresennol.
- Gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd (gan gynnwys gweithgareddau coetsio a dysgu) sy'n gweithredu am 5 diwrnod neu lai y flwyddyn
- Darparwyr sy'n cynnig gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blant 12-16 oed.
Cwestiwn 17:
Yn eich barn chi, pa rai o'r darparwyr hyn ddylai fod yn gymwys i wneud cais am gymeradwyaeth o dan y cynllun cymeradwyo gwirfoddol arfaethedig?
Ffi ymuno
Ar hyn o bryd, cynigir y byddai ffi i ymuno â'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig ynghyd â ffi flynyddol wedi hynny. Y ffi ymuno ar gyfer y rhan wirfoddol o'r Gofrestr Gofal Plant yn Lloegr yw £114.
Cwestiwn 18:
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r egwyddor y dylai fod i'r cynllun ffi ymuno i ddarparwyr sy'n gwneud cais am gymeradwyaeth o dan y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol arfaethedig?
Cwestiwn 19:
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig creu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau. Byddai'r cynllun hwn ar gael i ddarparwyr sydd wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd. Ar ôl ystyried manylion a hynt y gwaith hyd yma, ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylid datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Cymru?
Rhan C: Asesiadau effaith a chwestiynau gorfodol
Cwestiwn 20:
Yn eich barn chi, pa risgiau, os o gwbl, y dylid eu cydnabod ymhellach yn yr asesiad effaith rheoleiddiol drafft?
Cwestiwn 21:
Yn eich barn chi, pa fanteision, os o gwbl, y dylid eu cydnabod ymhellach yn yr asesiad effaith rheoleiddiol drafft?
Cwestiwn 22:
Yn eich barn chi, pa gostau, os o gwbl, y dylid eu cydnabod ymhellach yn yr asesiad effaith rheoleiddiol drafft?
Cwestiwn 23:
Pa sylwadau sydd gennych, os o gwbl, ar yr asesiadau effaith drafft, yn benodol effaith y gorchymyn drafft ar blant, teuluoedd, y rheini sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol a phobl â nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys tystiolaeth y dylid ei hystyried yn eich barn chi)?
Cwestiwn 24:
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynnig ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 25:
Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynnig er mwyn:
- sicrhau ei fod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar y defnydd o'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar y defnydd o'r Gymraeg?
Y camau nesaf
Bydd yr ymatebion a gawn i'r ymgynghoriad yn helpu i lywio'r camau nesaf mewn perthynas â'r Gorchymyn Eithriadau. Ni fyddai unrhyw newidiadau i'r Gorchymyn yn cael eu gwneud tan 2026/2027 ar y cynharaf.
Bydd yr ymatebion a gawn i'r ymgynghoriad yn helpu i benderfynu a ddylid datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ac, os felly, sut gynllun fyddai hwnnw.
Troednodiadau
[1] Yn y cyd-destun hwn, mae bod wedi'ch eithrio yn golygu nad yw'n ofynnol cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.
[2] Mae unigolyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'n gofalu am un neu fwy o blant o dan ddeuddeg oed mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr (gweler adran 19(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010).
[3] Mae unigolyn yn darparu gofal dydd i blant os yw'n darparu gofal ar unrhyw adeg i blant o dan ddeuddeg oed mewn mangre heblaw mangre ddomestig (gweler adran 19(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010). Mae hyn yn cynnwys y darpariaethau canlynol: gofal dydd llawn; gofal dydd sesiynol; gofal plant y tu allan i'r ysgol; crèches; a chwarae mynediad agored.
[4] Mae aelodaeth y Grŵp Cynghori Gorchymyn Eithriadau yn cynnwys: Plant yng Nghymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn, Chwaraeon Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cytûn, CWVYS, Ysgolion Bro, Cwlwm, Awdurdodau Lleol, CLlLC, Chwarae Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, CGGC a Swyddfa'r Comisiynydd Plant.
[5] Ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â phlentyn, yw llys-riant, tad-cu/taid neu fam-gu/nain, brawd, chwaer, ewythr, modryb, neu gefnder cyntaf (gan gynnwys unrhyw unigolyn sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).
[6] Caiff gwarchodwyr babanod eu cyflogi'n uniongyrchol gan y rhieni ac maent yn darparu gofal dros dro, byrdymor, yn aml am ychydig oriau ar y tro.
[7] Caiff nanis eu cyflogi i ddarparu gofal cyson a hirdymor i blentyn. Caiff nanis eu cyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu i ofalu am eu plant, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref y naill deulu neu'r llall.
[8] Mae au pairs yn gweithio i deulu sy'n eu lletya, ac maent yn byw fel rhan o'r teulu hwnnw. Caiff au pairs eu cyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu i ofalu am eu plant, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref y naill deulu neu'r llall.
[9] Fel rheol, mae gwasanaethau ieuenctid wrth bontio yn darparu cymorth i blant o 10 oed ymlaen i bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd, ac i fynd i'r afael â'u hanghenion personol, cymdeithasol ac addysgol, gan feithrin eu datblygiad cyffredinol a'u hannog i gymryd rhan weithredol yn eu cymunedau a datblygu eu llais.
[10] Mae safle yn cynnwys unrhyw ardal ac unrhyw gerbyd.
[11] Pennir y gofynion cymhwysedd ar gyfer Gofal Plant Di-dreth a Gofal Plant Credyd Cynhwysol gan CThEF a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd cyfyngiadau ar waith o ran cymhwysedd darparwyr i gynnig Gofal Plant Di-dreth neu Ofal Plant Credyd Cynhwysol, er enghraifft:
- Darparwyr, ac eithrio ysgolion neu awdurdodau lleol, sy'n gweithredu am lai na 2 awr nad yw'n union cyn neu ar ddiwedd y diwrnod ysgol
- Darpariaeth sy'n rhad ac am ddim i'w mynychu
- Darparwyr sy'n cynnal gweithgareddau yn ystod y diwrnod ysgol ar gyfer gofal plant oedran ysgol
- Ar gyfer Gofal Plant Di-dreth, dim ond os yw'n anabl y bydd plentyn 12-16 oed yn gymwys
- Darpariaeth nad yw'n canolbwyntio ar ddarparu gofal plant i rieni er mwyn iddynt allu gweithio
[12] Bwriad y cwrs hwn yw arfogi darparwyr â gwybodaeth hanfodol mewn perthynas â gofalu am blant. Cynigir y bydd yn cynnwys 5-6 awr o e-ddysgu a sesiwn wyneb yn wyneb ar-lein 2-3 awr. Caiff ei ddatblygu gan ddefnyddio Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gweithwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant a'r cwrs Cyflwyniad i Ofal Plant. Bydd y sesiwn wyneb yn wyneb ar-lein yn cael ei hwyluso gan Gofal Cymdeithasol Cymru a bydd yn rhad ac am ddim.
