Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Chwefror eleni, roeddwn yn falch o groesawu adroddiad Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. Roedd yr adroddiad yn benllanw cydweithio gan ystod eang o randdeiliaid i nodi materion, opsiynau a goblygiadau i mi eu hystyried. Rwy'n ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Grŵp Llywio i gynghori ar y cynnydd hyd yma a sut rydym yn bwriadu symud ymlaen.

Rwy'n falch iawn o hyd mai Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu i gefnogi chwarae plant, gan warantu hawl plant i chwarae drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn sicrhau cyfleoedd digonol, drwy'r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae. Fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, deddfodd Llywodraeth Cymru i gefnogi chwarae plant. 'Cymru - Gwlad lle mae cyfle i chwarae' yw'r canllawiau statudol sy'n cefnogi awdurdodau lleol i asesu a, chyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, sicrhau digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu hardaloedd.

Mae argymhellion yr adolygiad yn eang a bydd angen ystyried polisi ar draws y llywodraeth a pharhau i gydweithio gyda'r sector. Rwyf wedi nodi yn fy ymateb i bob argymhelliad y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd. Gellir gweithredu rhai o'r argymhellion hyn yn gyflym, ond bydd eraill yn cymryd amser. Lle rwyf wedi derbyn argymhelliad mewn egwyddor, byddwn yn dechrau bwrw ati â gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r argymhellion hyn cyn gynted â phosibl er mwyn archwilio a ellir eu gweithredu'n llawn.

Un o'n camau cynnar fydd gweithio gyda'r sector i adolygu'r canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol, ynghyd â'r Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r canllawiau ategol. Byddwn yn parhau i ddiogelu a hyrwyddo cyfleoedd chwarae ac yn parhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yng Nghymru i fod yn wlad sy'n rhoi cyfle a rhyddid i blant a phobl ifanc i chwarae.

Mae'r cyfnod diweddar wedi dangos i ni pa mor hanfodol yw cyfleoedd chwarae i les plant a phobl ifanc, eu datblygiad yn y dyfodol a'u potensial mewn bywyd. Edrychaf ymlaen at barhau â'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector gwaith chwarae a sectorau cysylltiedig eraill, wrth i ni fwrw ymlaen gyda'n gilydd i sicrhau bod ein polisi chwarae yn diwallu anghenion ein plant a'n pobl ifanc nawr ac yn y dyfodol.