Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddir ffigurau swyddogol sy'n dangos yr oedd 340,000 o aelwydydd yng Nghymru (25%) yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2024. Amcangyfrifir bod 215,000 o aelwydydd eraill (16%) wedi bod mewn perygl o dlodi tanwydd.

Mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu'r her barhaus y mae llawer o aelwydydd ledled Cymru yn parhau i'w hwynebu o ganlyniad i'r cynnydd byd-eang mewn prisiau ynni a achoswyd gan ailagor economïau ar ôl Covid-19 ac a waethygwyd yn sylweddol gan ryfel Rwsia yn erbyn Wcráin. 

Mae costau ynni cynyddol, ynghyd â phris cynyddol nwyddau a gwasanaethau hanfodol, wedi rhoi pwysau enfawr ar aelwydydd ledled y wlad. Er bod prisiau ynni wedi gostwng o'u hanterth, maent yn parhau i fod yn sylweddol uwch na chyn y cynnydd prisiau byd-eang ac nid yw incwm wedi cynyddu ar yr un raddfa. Bydd y rhan fwyaf ohonom wedi cael ein heffeithio, fodd bynnag, mae effaith anghymesur wedi bod ar bobl sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. 

Er bod y ffactorau byd-eang hyn y tu allan i'n rheolaeth, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gefnogi aelwydydd mewn angen. Rydym wedi cyllidebu £35 miliwn y flwyddyn ariannol hon i'r cynllun Cartrefi Clyd Nyth, ein rhaglen i gynorthwyo pobl ar incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith gyda mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim ac atebion gwresogi fforddiadwy, carbon isel. Mae hyn yn cynnwys llwybr argyfwng sy'n darparu cymorth brys i aelwydydd heb wres na dŵr poeth. Mae Nyth hefyd yn cynnwys gwasanaeth cyngor diduedd am ddim i gefnogi aelwydydd i gael mynediad i'r cynllun mwyaf priodol ar gyfer eu hamgylchiadau unigol, gan gynnwys Nyth, cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni, Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr yn ogystal ag unrhyw gynlluniau sy'n cael eu rhedeg gan Awdurdodau Lleol.

Mae ein Cronfa Cymorth Dewisol yn darparu cymorth ariannol a chymorth arall i'r rhai mewn argyfwng ariannol.  Yn ogystal, rydym wedi ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i ddarparu cymorth i aelwydydd yng Nghymru sy'n talu ymlaen llaw am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae hyn yn cynnwys talebau i'r rhai sydd â mesuryddion rhagdalu a help gyda chost tanwydd ar gyfer cartrefi oddi ar y grid. 

Mae ein hymgyrch hawlio budd-daliadau Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi hefyd yn helpu pobl i gael mynediad at y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. 

Mae penderfyniadau gan Lywodraeth y DU i ehangu'r Gostyngiad Cartrefi Cynnes ac adfer Taliad Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr sy'n ennill hyd at £35,000 yn golygu y bydd cymorth hanfodol ar gael i aelwydydd agored i niwed yng Nghymru y gaeaf hwn. Mae gan gyflenwyr ynni hefyd rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi eu cwsmeriaid gyda chynlluniau talu teg a fforddiadwy a chymorth brys sy'n hawdd cael gafael arno pan fo angen. 

Mae'r ystadegau hyn yn ein hatgoffa ei bod yn gyfnod anodd i lawer ohonom yng Nghymru, ond rydym wedi sicrhau bod cymorth ar gael. Rwy'n annog unrhyw un ar incwm isel sy'n cael trafferth cadw eu cartref ar dymheredd cyfforddus i gysylltu â Nyth nawr, fel y gallwn helpu cyn i nosweithiau oer yr hydref ddechrau. Rwyf am wneud yn siŵr bod pawb ledled Cymru yn cael yr help ariannol y mae ganddynt hawl iddo a bydd cysylltu â llinell gymorth ‘Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi’ Advice Link Cymru yn sicrhau hyn. Yn olaf, rwy'n annog unrhyw un sy'n cael trafferth talu eu biliau ynni i gysylltu â'u cyflenwr oherwydd gallant weithio gyda chwsmeriaid i wella eu sefyllfa.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.