Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen i bysgotwyr ac allforwyr wybod am y newidiadau sy'n dod i rym o 8 Ionawr 2026 a bod yn barod ar eu cyfer.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Newidiadau i dystysgrifau dalfeydd

Bydd angen ichi gofnodi gwybodaeth newydd ar dystysgrifau dalfeydd y Gwasanaeth Allforio Pysgod (FES). Hynny oherwydd rheoliadau'r UE ar bysgota anghyfreithlon, heb ei reoleiddio a heb ei gofnodi (IUU).

Rydym yn cynghori pawb i ddod yn gyfarwydd â'r newidiadau nawr a dechau rhoi'r wybodaeth berthnasol i brynwyr eu bwyd môr Cymreig.

Mae'r newid yn orfodol. Hyd yn oed os nad ydych chi'n allforio, bydd y newidiadau yn effeithio ar bysgotwyr. Fel arall, efallai na fyddwch yn gallu gwerthu'ch cynnyrch.

Rhaid i allforwyr roi’r wybodaeth ganlynol ar eu tystysgrif dalfeydd er mwyn i'w bwyd môr allu mynd i'r UE:

  • dyddiad cychwyn y daith bysgota
  • y math o gêr a ddefnyddiwyd
  • ardal y ddalfa:
    • ym mha barth economaidd neilltuedig (EEZ) y daliwyd y cynnyrch
    • a oes gan sefydliad rheoli pysgodfeydd rhanbarthol (RFMO)) fudd ynddo

Diweddariadau diweddaraf

Tachwedd 2025

Ar 20 Tachwedd fe wnaethom:

  • diweddaru System Gwasanaeth Allforio Pysgod (FES) i gynnwys y newidiadau mewn prosesu datganiadau, ac
  • cyflwyno templed dogfen newydd 'dim triniaeth' i'r rheini sy'n cymryd rhan yn y broses allforio

Hydref 2025

Byddwn yn cyflwyno'r ddogfen 'dim triniaeth' yn fuan. Bydd hyn yn disodli'r ddogfen storio o fis Ionawr. Bydd gan y ddogfen 'dim triniaeth' dempled newydd. Efallai y gofynnwn i chi ddarparu data mewn ffordd wahanol.

Mae defnyddio’r ddogfen 'dim triniaeth' newydd yn wirfoddol ar hyn o bryd. Ond bydd yn orfodol ar gyfer allforion o'r DU o 10 Ionawr 2026. Ar y pwynt hwnnw, byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio dogfennau storio. Rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth berthnasol i’ch prynwr, fel y gellir ei throsglwyddo i’r allforiwr. Os na wnewch, efallai na fyddwch yn gallu gwerthu eich cynnyrch.

Byddwn yn eich hysbysu pan fydd y ddogfen 'dim triniaeth' ar gael yn y system FES.

Medi 2025: math o gêr ac ardal y ddalfa 

Ym mis Medi, bydd y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) yn cyflwyno newidiadau i’r meysydd sy'n ymwneud â math o gêr ac ardal y ddalfa. Mae'r MMO yn gweithio i helpu pysgotwyr, masnachwyr ac allforwyr gyda’r newidiadau hyn. Y nod yw tarfu cyn lleied â phosib ar weithgareddau masnachol.

Gorffennaf 2025: dyddiad cychwyn y trip pysgota

Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd yr MMO y cyntaf o'r newidiadau hyn. Rhaid ichi roi dyddiad cychwyn y daith bysgota yn ogystal â’r data glanio. Rhaid ichi hefyd nodi y dull cludo cyntaf ar ôl dal cynnyrch.