Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ffurflen gweithdy Gwelidigaeth 2030.
Cynnwys
Cefndir
Mae'r tîm Gwella Canlyniadau i Blant yn Llywodraeth Cymru yn hwyluso gweithdy aml-asiantaeth ar 11 Medi 2025. Fel rhan o'r paratoi ar gyfer y digwyddiad hwn, mae'r tîm yn cyhoeddi ffurflen we i ystyried anghenion dietegol a hygyrchedd unigolion yn ogystal â dewis iaith ar gyfer y diwrnod.
Wrth lenwi'r ffurflen, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth bersonol (enw a chyfeiriad e-bost) sy'n gysylltiedig â'r ymatebion.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y wybodaeth bersonol hon (enw, cyfeiriadau e-bost ac ymatebion) am fynychwyr pan fyddant yn cyflwyno eu hymatebion.
Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Bydd y wybodaeth bersonol a ddarperwch yn cael ei chadw er budd sicrhau bod yr addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud ar gyfer gofynion hygyrchedd, er mwyn sicrhau bod opsiynau bwyd priodol yn cael eu darparu ar gyfer unrhyw ofynion dietegol ac i ystyried a oes gofynion cyfieithu pe bai 10% neu fwy o'r mynychwyr yn nodi'r Gymraeg fel eu dewis iaith.
Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio i anfon rhagor o wybodaeth atoch cyn y gweithdy. Ni fydd yn bosibl i Lywodraeth Cymru na chynrychiolwyr eraill weld unrhyw wybodaeth bersonol fel rhan o'r gweithdy gan y bydd gohebiaeth yn cael ei hanfon gan ddefnyddio mesurau i gadw cyfeiriadau e-bost a gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Llywodraeth Cymru ('ni') fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol rydych chi'n ei ddarparu i sicrhau bod yr holl fesurau yn cael eu cymryd i sicrhau bod anghenion hygyrchedd yn cael eu diwallu, bod gofynion dietegol yn cael eu bodloni a bod dewis iaith yn cael ei ystyried. Byddwn yn defnyddio'r data hwn yn ein paratoadau ar gyfer y diwrnod ac i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu.
Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt cyfranogwyr, ac unrhyw wybodaeth sydd wedi'i hanfon atynt gan gyfranogwyr nes bod y gweithdy wedi'i gwblhau.
Ni fydd y wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gafael ar y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi;
- ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu neu gyfyngu ar brosesu
- er mwyn (mewn amgylchiadau penodol) i'ch data gael ei 'ddileu'
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i ddefnydd, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Gwella Canlyniadau i Blant
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: plantsynderbyngofal@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
