Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl Grŵp Rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Diben y Grŵp

Bydd grŵp rhanddeiliaid BSL yn grŵp 'gorchwyl a gorffen' i ddatblygu set o argymhellion i lywio gwaith Llywodraeth Cymru wrth iddi gynhyrchu 'map llwybr' ar gyfer ei pholisi BSL. Bydd hwn yn pennu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'w cymryd er mwyn hyrwyddo a hwyluso BSL a gwella canlyniadau ar gyfer cymuned arwyddo BSL byddar Cymru.

Bydd y grŵp yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i gynghori ar flaenoriaethau BSL clir, gan ystyried y canlyniadau a chamau gweithredu trawslywodraethol sy'n ofynnol i greu newid uniongyrchol ac effeithiol a chydraddoldeb i arwyddwyr BSL byddar.

Y themâu craidd sy'n sail i'r grŵp hwn yw 

  • mynediad a chanlyniadau cyfartal
  • cydnabod a hyrwyddo BSL
  • galluogi arweinyddiaeth Byddar Cymru

Bydd yr argymhellion a'r camau gweithredu a nodwyd gan y grŵp yn llywio datblygiad 'map llwybr'

Bydd 'map llwybr' BSL yn cyfrannu tuag at nod hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer cydraddoldeb ac Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. 

Yr amcanion

Bydd grŵp rhanddeiliaid BSL yn rhoi dealltwriaeth o'r rhwystrau iaith sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar, ar draws pob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

Bydd y grŵp yn trafod mentrau a chamau gweithredu polisi trawsbynciol presennol Llywodraeth Cymru, gan ystyried lle mae rhwystrau iaith a lle mae angen cryfhau hyrwyddo a hwyluso BSL.

Bydd y grŵp yn argymell camau gweithredu tymor byr, canolig a hir sydd eu hangen i sicrhau mynediad cyfartal at iaith, gwybodaeth a gwasanaethau i arwyddwyr BSL byddar ar draws amrywiaeth o feysydd polisi. Bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i, iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd y grŵp yn darparu swyddogaeth gynghorol. Ni fydd yn gorff sy'n gwneud penderfyniadau.

Bydd y grŵp yn cynghori ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru yn unig.

Amserlen

Bydd y grŵp yn rhedeg am tua 6 mis i greu set o argymhellion a chamau gweithredu â blaenoriaeth. Efallai y bydd angen cyfarfodydd pellach, bydd hyn yn cael ei benderfynu gan y Grŵp.

Bydd cyfarfod cyntaf grŵp rhanddeiliaid BSL yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2025.

Bydd grŵp rhanddeiliaid BSL yn cyfarfod unwaith bob mis.

Aelodaeth

Mae aelodaeth drwy wahoddiad  gan Swyddogion Polisi BSL Llywodraeth Cymru yn unig.

Iaith fwyafrifol y grŵp rhanddeiliaid BSL fydd BSL, gydag o leiaf 51% o'r aelodaeth gyffredinol yn arwyddwyr BSL.

Mae'r grŵp yn cynnwys sefydliadau/elusennau cynrychioladol, gan gynnwys arwyddwyr BSL byddar a chynghreiriaid BSL.

Os nodir bylchau yn arbenigedd y grŵp yn ystod oes y grŵp, gall Llywodraeth Cymru wahodd aelodau ychwanegol. 

Bydd y grŵp yn cynrychioli barn eu sefydliadau, a/neu arwyddwyr BSL byddar i lywio polisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Lle bo hynny'n bosibl, bydd aelodaeth yn cwmpasu amrywiad rhanbarthol.

Gofynnir i'r Aelodau ymwneud yn rheolaidd â'r cyfarfodydd; fodd bynnag, gellir enwebu dirprwy i fynychu ar ran aelod pan fo angen.

Mae'r aelodau'n gyfrifol am rannu safbwyntiau aelodau eu cymunedau, yn ogystal ag ymchwil/adnoddau/gwybodaeth berthnasol a fydd yn helpu'r Grŵp i gyflawni ei ddeilliannau. 

Disgwylir bod aelodau sy'n cynrychioli sefydliad, yn ymgynghori â'u sefydliadau rhwng cyfarfodydd ac yn adrodd adborth i'r grŵp rhanddeiliaid BSL.

Bydd swyddogion polisi o Lywodraeth Cymru a/neu siaradwyr gwadd ychwanegol yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd sy'n berthnasol i'w maes polisi yn ôl y gofyn.

Trefniadau

Bydd grŵp rhanddeiliaid BSL yn cael ei gyd-gadeirio, gan swyddog Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd BSL o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, fel y prif sefydliad dan arweiniad pobl fyddar sy'n gweithio gydag arwyddwyr BSL Byddar.

4Darperir yr ysgrifenyddiaeth gan Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Gall y grŵp olygu sefydlu is-weithgorau. Bydd hyn yn cael ei drafod a'i gytuno gyda'r grŵp yn ystod cyfarfodydd. 

Rôl y cyd-gadeiryddion

Rôl y cyd-gadeiryddion yw hwyluso ac annog trafodaeth ynghylch atebion arloesol ac arfer gorau. 

Bydd y cyd-gadeiryddion yn sicrhau bod y grŵp yn gweithredu'n dryloyw ac yn cyfathrebu mewn ffordd sy'n meithrin ymddiriedaeth ac yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu a chael eu hysbysu.

Bydd y cyd-gadeiryddion yn cytuno ar agendâu y grŵp cyn pob cyfarfod.

Rôl Llywodraeth Cymru yn y grŵp fel cyd-gadeirydd yw:

  • hwyluso trafodaeth a darparu'r ysgrifenyddiaeth
  • gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i gefnogi gwybodaeth am dimau polisi traws-lywodraethol, gan sicrhau bod y swyddogion polisi cywir yn cael eu gwahodd i'r grŵp pan fo angen
  • nodi gwaith presennol o fewn Llywodraeth Cymru sy'n cysylltu â gwaith a thrywydd y grŵp rhanddeiliaid
  • cefnogi dealltwriaeth o ysgogiadau polisi traws-lywodraethol a rôl swyddogion polisi

gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, gan ddarparu arbenigedd y gwasanaeth sifil i sicrhau ei bod yn ymarferol i gyflawni'r argymhellion a gynhyrchir gan y grŵp i gael effaith gadarnhaol ac ystyrlon ar arwyddwyr BSL byddar.

Amgylchedd gwaith

Disgwylir i bob aelod ymwneud â'i gilydd â pharch a chynhwysiant, ynghyd â Swyddogion Llywodraeth Cymru ac unrhyw rai eraill sy'n darparu mewnbwn neu dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod arwyddwyr BSL byddar a chynghreiriaid BSL yn cael eu parchu a'u cynnwys gan yr holl aelodau.

Disgwylir i aelodau ymgysylltu'n adeiladol ac ar y cyd i gefnogi datblygu camau gweithredu, gan sicrhau nad yw eu cyfraniadau yn effeithio'n negyddol ar gyfranogiad aelodau eraill.

Ni fydd ymddygiad sy'n tarfu ar eraill, gan gynnwys bygylu, torri ar draws, sylwadau personoli neu unrhyw weithredoedd sy'n rhwystro cyfranogiad cynhyrchiol eraill, yn cael ei oddef. Dylid cyfeirio unrhyw gŵyn nad yw aelod yn bodloni'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan yr holl aelodau at unrhyw un o'r cyd-gadeiryddion neu swyddogion polisi BSL Llywodraeth Cymru, a fydd yn trafod y mater gyda'r cadeirydd i ddechrau. Gellir cyflwyno cwynion yn ddienw. Os nad yw'r gofynion ymddygiad yn cael eu bodloni, efallai y gofynnir i'r aelod adael y grŵp.

Mae creu 'mannau diogel' yn hanfodol ar gyfer meithrin deialog agored, onest a chynhyrchiol. Bydd rhanddeiliaid yn cael cynnig cyfleoedd i gyfarfod mewn 'lle diogel' i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal a'u harwain gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain (BDA). 

Trefniadau cyfarfodydd

Bydd cyfarfodydd grŵp rhanddeiliaid BSL yn cael eu cynnal ar-lein trwy Zoom i sicrhau'r hygyrchedd mwyaf i'r aelodau. Bydd unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cynnwys opsiwn i ymuno ar-lein trwy Zoom.

Ar gyfer pob cyfarfod, bydd yr ysgrifenyddiaeth yn sicrhau bod dehonglwyr BSL / Saesneg yn bresennol.

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn sicrhau bod gofynion mynediad yn cael eu bodloni'n llwyr. Gall hyn gynnwys palanteipyddion, deunyddiau mewn fformat arall neu unrhyw ddarpariaeth arall y gofynnir amdano mewn perthynas â mynediad. Fodd bynnag, nodwch fod angen cymaint â phosibl o rybudd ar rai gwasanaethau mynediad, felly gofynnir ichi wneud ceisiadau mewn da bryd i helpu i sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu.

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn darparu agendâu cyfarfodydd i aelodau, o leiaf bedwar diwrnod gwaith cyn cyfarfodydd.

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cadw cofnod ffurfiol o'r cyfarfodydd gan gynnwys dim ond y prif bwyntiau a'r camau gweithredu.

Bydd cyfarfodydd a gynhelir ar Zoom yn cael eu recordio at ddibenion cadw trawsgrifiad ysgrifenedig o'r capsiynau caeedig a sgwrs y cyfarfod yn unig. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan yr Ysgrifenyddiaeth i greu cofnodion ffurfiol ar gyfer y cyfarfod. 

Cyfrinachedd

Bydd yr holl ddogfennau a gyflwynir i'r gweithgor yn cael eu marcio naill ai yn "swyddogol" neu â’r marc diogelwch priodol.

Gall aelodau rannu deunydd a ddarperir yn gyfrinachol â'u sefydliadau at ddibenion trafod; fodd bynnag, ni ddylid ei rannu y  tu allan i'w sefydliadau heb ganiatâd penodol Llywodraeth Cymru.

Caiff Llywodraeth Cymru hefyd rannu gwybodaeth yn gyfrinachol o fewn Llywodraeth Cymru.

Gall torri rheolau cyfrinachedd fel y nodir uchod arwain at hepgor unigolion o'r grŵp.